Cefnogaeth i rieni a gofalwyr

Croeso i’n Gofod Teulu

Mi all bywyd teuluol fod yn llawn adegau sy’n gwneud i chi wenu, yn ogystal ag adegau sy’n dreth ar eich amynedd neu sy’n eich gadael yn chwilio am atebion. 

Dyna pam rydym wedi creu ein Gofod Teulu, rhywle lle gall rhieni a gofalwyr fel chi gael cyngor ac arweiniad gan ein harbenigwyr. 

Mi gewch ddigonedd o wybodaeth ymarferol i’ch helpu chi a’ch teulu i ffynnu. Os bydd angen mwy o help arnoch mi allwn eich cyfeirio at bobl a sefydliadau a all wneud eich bywyd teuluol ychydig yn haws.

Yn poeni am ddiogelwch plentyn?

Rydyn ni yma i helpu plant i dyfu i fyny'n fwy gobeithiol, hapusach, iachach, a mwy diogel.

Gall gofalu am blentyn ddod â phryderon go iawn, boed gartref, yn yr ysgol, allan am y diwrnod, neu ar-lein.  Os oes angen canllawiau clir a dibynadwy arnoch chi, fe welwch chi nhw yma.

Mae'r adran hon yn cynnwys cyngor ymarferol ar atal damweiniau gartref, aros yn ddiogel ar ddiwrnodau allan, ac annog eich plentyn i siarad am ei deimladau a'i lesiant. Gallwch hefyd ddarllen am gefnogi plentyn sy'n bryderus, helpu plant yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig, deall hunan-niweidio, a beth i'w wneud os ydych chi'n poeni am fwlio neu seiberfwlio.

Beth bynnag yw eich pryder, rydyn ni yma i'ch helpu chi i gadw'r plant yn eich gofal yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi.
Here is alt text you can use:  **Alt text:** *A woman wearing a bright pink sweater and a Barnardo's lanyard sits outdoors on a concrete step, talking with a teenage boy in a blue hoodie. They face each other and having a friendly, supportive conversation, with greenery and sunlight in the background.

Cymorth gyda bywyd teuluol

Mae tad sy'n gwisgo cap pig tu nôl ymlaen a chrys gwyn yn dal ei ferch fach sy'n gwisgo wynsi pinc. Mae'r ddau ohonyn nhw'n gwenu. Mae coed i’w gweld yn y cefndir.

Meithrin perthnasoedd teuluol iachach

Mae gan bobl ffyrdd, safbwyntiau ac emosiynau gwahanol o ran delio â straen, felly mae’n naturiol bod anghytuno’n digwydd. Yr hyn sydd bwysicaf yw sut mae’r gwrthdrawiadau hyn yn cael eu rheoli. Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw gwrthdaro rhwng rhieni, beth sy’n ei achosi, a sut i’w leihau yn eich teulu.

Mae gweithiwr Barnardo's yn eistedd wrth fwrdd gyda pherson ifanc, yn siarad. Mae papurau, gwydraid o ddŵr a chwpan coffi ar y bwrdd. Mae'r lleoliad yn awgrymu darparu arweiniad a chefnogaeth i blant a phobl ifanc ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau (AAAA) mewn cyd-destun addysgol neu ofal. 

Cefnogaeth i blant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau (AAAA)

Rydyn ni’n cynnig gwahanol wasanaethau i gefnogi plant a phobl ifanc ag AAAA a’u teuluoedd mewn gwahanol rannau o’r wlad.  Darllenwch ragor am sut y gallwn eich cefnogi.

Babi'n eistedd mewn cadair uchel gyda darnau o frocoli a bwyd arall ar yr hambwrdd, tra bod plentyn hŷn yn sefyll gerllaw yn diddanu’r babi. Mae'r olygfa'n dangos cyflwyno bwydydd solid mewn lleoliad chwareus a rhyngweithiol.

Cefnogaeth a chyngor defnyddiol i fod y Tad gorau posibl

P’un a yw eich plentyn yn eich galw chi’n Dad neu’n Dadi, dim beth mae’n eich galw chi sy’n bwysig, ond y berthynas rydych chi'n ei meithrin â’ch plentyn. Mae gennym gyngor i’ch arwain a’ch cefnogi i fod y tad gorau y gallwch fod. 

Merch ifanc mewn top glas gyda gwallt tywyll a menyw hŷn â gwallt golau yn gafael yn addfwyn ym mreichiau ferch o’r tu ôl. Mae'r ddwy yn gwenu fel giât. Coed i’w gweld yn y cefndir.

Ehangu eich teulu drwy fabwysiadu neu faethu

Mae pob teulu’n wahanol, ac mae sawl ffordd o agor eich cartref a’ch calon i blentyn. Os ydych chi’n chwilfrydig am yr hyn sy’n gysylltiedig â maethu a mabwysiadu, byddem wrth ein bodd yn eich helpu i ddeall y posibiliadau heb bwysau.  

Two sisters are playing the card game Uno on the floor of their bed room. One sister with one long braid is sitting up and is laughing, having just put down a card, and the other has thrown herself to the ground in shock.

Atal brodyr a chwiorydd rhag ffraeo 

Hyd yn oed pan fydd plant yn caru eu brodyr a’u chwiorydd ac yn cyd-dynnu â nhw, gallwch ddisgwyl rhywfaint o wrthdaro. Darllenwch gyngor i’ch helpu i arwain eich plant drwy gyfnodau da a drwg yn eu perthynas â’u brodyr a’u chwiorydd. 

An adult sitting on a bed holding a piece of paper, with a child sitting on their lap. The paper appears to be a bill or document. The room has a window with vertical blinds and soft furnishings like cushions and a blanket.

Poeni am arian?  

Os ydych chi neu rywun sy’n annwyl i chi yn ei chael hi’n anodd fforddio’r hanfodion, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Boed hynny’n filiau bwyd ac ynni cynyddol neu’n newid sydyn mewn incwm, gall pwysau ariannol effeithio ar unrhyw un. Ar y dudalen hon fe welwch wybodaeth am sefydliadau ac offer a all eich helpu. 

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.