Os oes angen help arnoch nawr
- Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod mewn perygl nawr, ffoniwch 999.
- Os oes angen help arnoch ar frys ond nad yw’n argyfwng, ffoniwch 111.
- Os oes angen cymorth arnoch, ond nid yw’n fater brys, rydym wedi rhoi manylion isod am sefydliadau all eich helpu.
Mae’r dudalen hon yn trafod cam-drin domestig a’i effaith ar blant. Efallai y bydd rhywfaint o’r wybodaeth ar y dudalen hon yn teimlo’n anodd ei darllen neu’n achosi teimladau cryf neu ofidus. Dim ond os ydych chi’n teimlo’n ddiogel y dylech chi barhau i ddarllen. Efallai y byddwch chi’n dymuno dod yn ôl i’r dudalen hon yn nes ymlaen.
Mae cam-drin domestig yn gallu cael effaith ddinistriol ar deuluoedd. Hyd yn oed os nad yw plentyn neu berson ifanc yn cael ei niweidio’n gorfforol ei hun, mae bod mewn cartref lle mae cam-drin domestig yn digwydd yn cael ei ystyried yn gam-drin plant hefyd.
Mae camau ymarferol y gallwch eu cymryd i helpu eich plentyn i deimlo’n ddiogel a’i fod yn cael ei gefnogi, ac mae gwasanaethau a all eich arwain drwy’r camau nesaf.
Beth yw cam-drin domestig?
Mae cam-drin domestig yn golygu unrhyw gam-drin, trais, neu ymddygiad sy’n rheoli, yn gorfodi neu’n bygwth, rhwng pobl mewn sefyllfa ddomestig (fel pobl briod neu bobl sy’n byw gyda’i gilydd).
Gall cam-drin domestig fod ar sawl ffurf, ac ni fydd pob profiad yn edrych yr un fath. Gall ddigwydd:
- Mewn unrhyw fath o berthynas, waeth beth fo’u rhywedd na’u rhywioldeb, a gall barhau hyd yn oed os yw’r berthynas honno wedi dod i ben.
- Y tu mewn a thu allan i’r cartref.
- Ar y rhyngrwyd, dros y ffôn, ac ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r rhan fwyaf o achosion o gam-drin domestig yn digwydd rhwng partneriaid neu gyn-bartneriaid; fodd bynnag, gall ddigwydd hefyd rhwng aelodau o’r teulu nad ydynt o reidrwydd mewn perthynas.
Mae cam-drin domestig yn drosedd, ac nid yw byth yn fai ar y rheini sy’n ei ddioddef.
Sut beth yw cam-drin domestig?
Gall cam-drin domestig fod yn gorfforol, yn llafar, yn emosiynol, yn rhywiol, yn ariannol neu’n seicolegol, gan gynnwys:
- Ymddygiad sy’n rheoli neu’n gorfodi, fel rhwystro rhywun rhag mynd allan ar ei ben ei hun neu reoli mynediad at ffôn rhywun.
- Dylanwadu a cham-drin emosiynol.
- Trais corfforol, fel taro, cicio neu ddyrnu.
- Camdriniaeth ar-lein neu ddigidol.
- Rheoli arian rhywun, fel dal arian rhywun yn ôl.
- Aflonyddu a stelcio.
- Treisio a thrais rhywiol.
- Bygwth niweidio neu ladd rhywun.
Sut mae cam-drin domestig yn effeithio ar blant?
Mae plant sy’n dyst i gam-drin domestig mewn perygl o gael problemau iechyd corfforol a phroblemau iechyd meddwl tymor byr a thymor hir. Bydd profiadau’n effeithio ar bob plentyn yn wahanol, ond mae patrymau ymddygiad y dylech gadw llygad amdanynt os ydych chi’n poeni am blentyn a allai fod yn delio â thrais domestig.
Effeithiau tymor byr cam-drin domestig
I blant ifanc, gall effeithiau tymor byr cam-drin domestig gynnwys:
- Gwlychu’r gwely.
- Ymddangos yn fwy sensitif a chrïo mwy.
- Cael anhawster cysgu neu syrthio i gysgu.
- Pryder ynghylch gwahanu.
Ar gyfer plant oed ysgol, efallai y byddan nhw’n:
- Colli cymhelliant i gymryd rhan mewn gweithgareddau ac yn yr ysgol.
- Cael graddau is yn yr ysgol.
- Teimlo’n euog ac ar fai am y cam-drin sy’n digwydd iddyn nhw.
- Mynd i drwbl yn amlach.
- Cael arwyddion corfforol fel cur pen a phoen bol.
Ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, efallai y byddan nhw’n:
- Gweithredu mewn ffyrdd negyddol fel colli’r ysgol neu ffraeo ag aelodau o’r teulu.
- Profi diffyg hunan-barch.
- Cael trafferth gwneud ffrindiau.
- Cymryd rhan mewn ymddygiadau peryglus fel defnyddio alcohol a chyffuriau eraill.
Effeithiau tymor hir cam-drin domestig
Ar gyfer plant iau a hŷn, gall effeithiau tymor hir cam-drin domestig gynnwys:
- Problemau iechyd meddwl, gan gynnwys gorbryder ac iselder. Gall iechyd meddwl isel hefyd arwain at effeithiau mawr ar iechyd corfforol, gan gynnwys hunan-niweidio neu ddatblygu anhwylder bwyta.
- Teimlo llai o hunan-werth.
- Defnyddio alcohol a chyffuriau eraill fel dulliau ymdopi negyddol.
- Efelychu ymddygiad maen nhw’n ei weld gartref.

Arwyddion y gallai plentyn fod yn dioddef cam-drin domestig gartref
Gall fod yn anodd gwybod a yw cam-drin domestig yn digwydd oherwydd yn aml mae’n cael ei guddio oddi wrth bobl eraill. Mae pob plentyn yn ymateb yn wahanol. Gall adnabod arwyddion yn gynnar eich helpu i gael y cymorth cywir i’r plentyn a’i deulu.
Mae’n bwysig cofio, hyd yn oed os nad yw plentyn yn cael ei niweidio’n uniongyrchol, mae gweld camdriniaeth yn dal yn gallu cael effaith ddifrifol ar ei iechyd meddwl a’i iechyd emosiynol.
Yng Nghymru a Lloegr, ers Deddf Cam-drin Domestig 2021, mae plant sydd wedi dod i gysylltiad â cham-drin domestig bellach yn cael eu cydnabod fel dioddefwyr cam-drin domestig ynddynt eu hunain, yn hytrach na dim ond tystion. Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae cam-drin domestig yn cael ei ystyried yn fwy difrifol os oes plant yn bresennol, a’u bod yn gweld neu’n clywed y cam-drin.
Arwyddion bod plentyn wedi bod yn dyst i gam-drin domestig
- Ymddygiad tawedog neu’n ymddangos yn bell.
- Trafferth datblygu perthynas gadarnhaol â chyfoedion.
- Mae’n cael anhawster adnabod ei deimladau neu gyfleu ei anghenion.
- Mae wedi mynd i’w gragen neu’n cael trafferth gwahanu.
- Mae’n methu cysgu neu’n cael hunllefau.
- Gwlychu’r gwely neu faeddu mwy.
- Mae ofn gadael y cartref.
- Mae’n hawdd ei ddychryn neu mae’n ymddangos ar bigau’r drain.
- Defnyddio cyffuriau neu alcohol.
- Gorbryder, iselder, neu feddwl am ladd ei hun.
- Problemau yn yr ysgol neu gyda dysgu.
- Mae’n bwlio cyfoedion.
- Rhwystredigaeth neu ymddygiad ymosodol.
- Salwch cyson neu aml.
- Teimladau ansicr tuag at y camdriniwr a’r rhiant nad yw’n cam-drin.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n sylwi ar arwyddion o gam-drin domestig neu os ydw i’n poeni am blentyn?
Os ydych chi’n poeni y gallai plentyn fod mewn perygl uniongyrchol o ddioddef cam-drin domestig, ffoniwch 999 cyn gynted ag y gallwch bob amser.
Os ydych chi’n poeni y gallai person ifanc fod mewn perygl ond nad yw mewn perygl uniongyrchol, mae gwasanaethau y gallwch chi gysylltu â nhw i gael cyngor a chymorth.
Mae’n normal teimlo’n ansicr am godi eich llais, yn enwedig os nad oes gennych chi’r holl fanylion, ond os ydych chi’n poeni, mae bob amser yn well rhannu’r hyn rydych chi’n ei wybod. Gallai’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu helpu gweithwyr proffesiynol i ddeall beth allai fod yn digwydd ac i wneud yn siŵr bod y cymorth a’r warchodaeth gywir ar waith.

Beth i’w wneud os bydd plentyn yn dweud ei fod yn cael ei gam-drin
Os bydd plentyn yn siarad â chi am gam-drin domestig a allai fod yn digwydd iddo, dylech wneud eich gorau i wneud y canlynol:
- Rhoi lle diogel i’r person ifanc rannu cymaint ag y mae’n gyfforddus ag ef. Mae eisoes yn gam enfawr iddo fod yn siarad â chi am yr hyn sy’n digwydd, felly gwrandewch arno a pheidiwch â rhoi pwysau arno i roi manylion.
- Peidio ag addo cadw pethau’n gyfrinach, neu mae’n bosibl y byddwch yn torri ei ymddiriedaeth yn y pen draw. Rhowch wybod iddo fod yn rhaid i chi siarad ag oedolion eraill er mwyn iddo gael yr help sydd ei angen arno.
- Rhoi gwybod i’r plentyn ei fod wedi gwneud y peth iawn yn dweud wrthych chi.
- Pwysleisio mai nid y plentyn sydd ar fai.
- Gwrando ar y plentyn a deall ei anghenion.
- Peidio â herio’r camdriniwr honedig.
- Esbonio beth fyddwch chi’n ei wneud nesaf.
- Rhoi gwybod ar unwaith am yr hyn a ddywedwyd wrthych.

Rhoi gwybod am gamdriniaeth
- Os ydych chi’n meddwl bod rhywun yn cael ei niweidio neu mewn perygl uniongyrchol o gael ei niweidio, ffoniwch yr heddlu ar 999. Gallwch hefyd roi gwybod am gam-drin domestig drwy ffonio 101, neu roi gwybod i’r heddlu ar-lein.
- Os ydych chi’n meddwl bod plentyn yn cael ei gam-drin, neu’n gweld camdriniaeth, cysylltwch â’r tîm gofal cymdeithasol yn eu cyngor lleol.
- Sut mae rhoi gwybod am amheuaeth o gam-drin, esgeulustod neu niwed yng Nghymru.
- Cael gwybodaeth am sut mae rhoi gwybod i gyngor lleol am gam-drin plant yn Lloegr.
- Cael gwybodaeth am roi gwybod am eich pryderon yn yr Alban.
- Gweld rhestr o gynghorau lleol yng Ngogledd Iwerddon.
- Mae gan elusen yr NSPCC arbenigwyr amddiffyn plant a all roi arweiniad a chefnogaeth a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol. Gallwch gysylltu â nhw drwy ffonio 0808 800 5000 (10:00 – 4:00 o ddydd Llun i ddydd Gwener) neu anfon e-bost i [email protected]. Mae cymorth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ble gallwch chi gael cymorth
- Mae Refuge yn cefnogi menywod a phlant, a dyma’r sefydliad cam-drin domestig mwyaf yn y DU. Gallwch anfon neges at eu llinell gymorth Cam-drin Domestig ar-lein neu eu ffonio am ddim ar 0808 2000 247. Mae gwybodaeth ar gael ar eu gwefan am sut i gefnogi rhywun sy’n cael ei gam-drin.
- Mae Byw Heb Ofn yn darparu cymorth a chyngor am drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i bobl sy’n byw yng Nghymru. Mae cymorth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cysylltwch â Byw Heb Ofn ar-lein, ffoniwch eu rhadffôn 0808 8010 800, neu anfonwch neges destun i 07860 077 333.
- Mae gan ChildLine wybodaeth am gam-drin domestig ar gyfer plant a phobl ifanc.
- Mae Respect yn elusen cam-drin domestig sy’n darparu cymorth i ddioddefwyr sy’n ddynion. Maen nhw’n rhedeg Llinell Gymorth i Ddynion sef llinell gymorth, blwch e-bost a gwasanaeth sgwrsio ar y we cyfrinachol ar gyfer dynion sy’n dioddef cam-drin domestig neu sydd wedi profi cam-drin domestig, ac ar gyfer y rheini sy’n eu cefnogi.

Sut mae Barnardo’s yn cefnogi plant y mae cam-drin domestig yn effeithio arnynt?
Rydyn ni’n credu mai’r ffordd orau o gefnogi plant yw eu helpu ar y cyd â’u teuluoedd. Dyna pam ein bod yn darparu cwnsela i blant a phobl ifanc i helpu i fynd i’r afael ag effeithiau tymor hir cam-drin domestig.
Mae ein gwasanaethau cefnogi teuluoedd hefyd yn helpu rhieni i ofalu am eu plant gyda mwy o hyder, sy’n eu helpu i amddiffyn eu hunain a’u plant rhag cael eu cam-drin.
Fe wnaethoch chi fy helpu i ddeall beth yw cam-drin domestig, nad fy mai i yw hyn, a beth alla i ei wneud pan fydda i’n teimlo’n drist neu’n bryderus.
Person ifanc, 13 oed

Meithrin perthnasoedd teuluol iachach
Mae gan bobl ffyrdd, safbwyntiau ac emosiynau gwahanol o ran delio â straen, felly mae’n naturiol bod anghytuno’n digwydd. Yr hyn sydd bwysicaf yw sut mae’r gwrthdrawiadau hyn yn cael eu rheoli. Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw gwrthdaro rhwng rhieni, beth sy’n ei achosi, a sut i’w leihau yn eich teulu

Anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM)
Rydyn ni wedi ymrwymo i amddiffyn merched a menywod ifanc rhag anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) ac arferion niweidiol eraill. Dyna pam y gwnaethom sefydlu’r Ganolfan FGM Genedlaethol, i atal hyn, i godi ymwybyddiaeth ohono ac i gefnogi’r rhai y mae’n effeithio arnyn nhw.

Cadw plant yn ddiogel ar-lein
Fel rhiant neu ofalwr, mae’n hawdd teimlo eich bod yn cael eich llethu gan yr holl apiau, deallusrwydd artiffisial, gemau a chyfryngau cymdeithasol sy’n newid o hyd. Os yw eich plentyn chi’n chwarae gemau, yn sgwrsio, yn postio neu’n ffrydio, rydyn ni yma i'ch cefnogi chi gyda chyngor ymarferol a chanllawiau gan arbenigwyr i helpu i gadw plant yn ddiogel ac yn hapus ar-lein.
Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028.