Os yw eich plentyn yn hunan-niweidio, neu os ydych chi’n poeni y gallai fod yn hunan-niweidio, mae’n gwbl naturiol teimlo’n ofnus, yn ypset, neu’n ansicr beth i’w wneud. Efallai y byddwch chi’n teimlo’n flin, yn ddiymadferth neu’n ofnus, neu hyd yn oed wedi eich llethu. Mae hynny’n iawn. Y peth pwysicaf yw eich bod eisiau helpu eich plentyn, ac mae cefnogaeth ar gael.
Os oes angen help ar eich plentyn nawr
Os yw eich plentyn wedi brifo’n ddifrifol neu mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.
Os oes angen help arnoch ar frys ar gyfer ei iechyd meddwl, ond nad yw’n argyfwng, ffoniwch 111.
Os ydych chi’n poeni am anaf corfforol, ewch i gael gofal meddygol i’ch plentyn yn brydlon. Efallai y bydd angen glanhau toriadau, llosgiadau neu glwyfau, neu bwythau neu driniaeth i atal haint.
Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n gallu bod yn anodd darllen gwybodaeth am hunan-niweidio, felly os ydych chi’n teimlo’n agored i niwed, mae’n bosib na fyddwch chi eisiau darllen yr wybodaeth isod ar hyn o bryd.
Rydyn ni’n gwybod ei fod yn anodd, ond ceisiwch beidio â mynd i banig os yw eich plentyn yn hunan-niweidio. Gall y ffordd rydych chi’n ymateb nawr wneud gwahaniaeth mawr o ran a yw eich plentyn yn teimlo y gall fod yn agored yn y dyfodol.
Yn aml, mae’n helpu i gofio bod hunan-niweidio fel arfer yn ffordd i bobl ifanc ymdopi â theimladau, atgofion neu sefyllfaoedd anodd. Gyda dealltwriaeth, tosturi a’r gefnogaeth iawn, mae’n bosib i blentyn ddod dros hyn.
Isod, mae ein harbenigwyr yn egluro beth yw hunan-niweidio, yr arwyddion y dylai rhieni a gofalwyr gadw llygad amdanyn nhw, sut gallwch chi gefnogi person ifanc, a ble i ddod o hyd i gymorth proffesiynol.
Beth yw hunan-niweidio?
Hunan-niweidio yw pan fydd rhywun yn brifo ei hun yn fwriadol fel ffordd o fynegi neu leddfu trallod, emosiynau llethol, neu ofn. Nid yw bob amser yn ymwneud â bod eisiau rhoi diwedd ar fywyd, ond gall pobl sy’n hunan-niweidio hefyd feddwl am ladd eu hunain hefyd – dylid cymryd y ddau beth o ddifrif.
Dyma rai mathau cyffredin o hunan-niweidio:
-
Torri eu hunain.
-
Llosgi’r croen.
-
Crafu neu frathu eu hunain.
-
Taro eu hunain neu daro waliau.
Ond nid yw hunan-niweidio bob amser yn weladwy. Gall hefyd gynnwys cymryd rhan mewn ymddygiadau peryglus neu niweidiol, fel:
-
Defnyddio cyffuriau neu alcohol i ymdopi â phroblemau.
-
Ymddygiad rhywiol anniogel.
-
Anhwylderau bwyta, fel peidio â bwyta digon neu fwyta gormod.
-
Gormod o ymarfer corff.
Arwyddion o hunan-niweidio ymysg plant a phobl ifanc
Gall fod yn anodd gweld hunan-niweidio, yn enwedig gan fod llawer o bobl yn ceisio ei guddio. Os ydych chi’n poeni, dyma arwyddion cyffredin i gadw llygad amdanyn nhw:
-
Toriadau, brathiadau, llosgiadau, cleisiau a phatsys moel heb esboniad.
-
Gwneud yn siŵr eu bod wedi’u gorchuddio drwy’r amser, er enghraifft, gwisgo trowsus neu lewys hir hyd yn oed yn ystod tywydd poeth neu osgoi gweithgareddau fel nofio.
-
Arwyddion o iselder, gorbryder neu newid mewn hwyliau.
-
Tynnu’n ôl oddi wrth ffrindiau neu deulu.
-
Mynegi hunan-barch isel, er enghraifft, dweud nad ydyn nhw’n ddigon da.
Pam mae plant a phobl ifanc yn hunan-niweidio?
Mae pawb yn wahanol, ond mae llawer yn hunan-niweidio oherwydd bod angen ffordd arnyn nhw o ddelio ag emosiynau sy’n eu llethu. Mae rhai rhesymau’n cynnwys ceisio:
-
Rheoli, lleihau neu fynegi emosiynau cryf neu ofidus.
-
Lleddfu tensiwn neu banig.
-
Profi poen corfforol i dynnu sylw oddi wrth boen emosiynol.
-
Gwneud meddyliau a theimladau anweledig yn weladwy.
-
Cael ymdeimlad o reolaeth pan fyddan nhw’n teimlo bod pethau allan o’u rheolaeth.
-
Tynnu sylw oddi wrth deimladau o ddiffyg teimlad neu straen.
-
Cosbi eu hunain am eu teimladau neu eu profiadau, neu mewn ymateb i deimlo euogrwydd neu gywilydd.
Ar ôl hunan-niweidio, efallai y bydd rhai pobl ifanc yn teimlo rhyddhad ar y pryd. Ond teimlad dros dro yn unig yw hwn. Ar ôl hynny, gallan nhw deimlo euogrwydd, cywilydd, neu boen emosiynol newydd, felly gall hunan-niweidio ddod yn gylch sy’n anodd ei dorri heb gymorth.
Gall hunan-niweidio fod yn ffordd o fynegi neu ymdopi pan fydd rhywbeth sy’n achosi straen neu ofid yn digwydd ym mywyd person ifanc.
Gall sbardunau posibl neu ffactorau sy’n cyfrannu gynnwys:
-
Cael eu bwlio.
-
Cael trafferth gyda gorbryder, iselder neu straen.
-
Dryswch ynghylch eu rhywioldeb neu eu rhywedd.
-
Hunan-barch isel neu broblemau o ran delwedd y corff.
-
Unigrwydd.
-
Galar ar ôl profedigaeth neu golled.
-
Pwysau yn yr ysgol neu yn y gwaith.
-
Problemau teuluol neu broblemau mewn perthynas.
-
Cam-drin corfforol, emosiynol neu rywiol.
Dydy profi unrhyw un o’r rhain ddim yn golygu y bydd eich plentyn yn hunan-niweidio, a gall rhywun hunan-niweidio heb brofi’r rhain. Mae’n amrywio o un person i’r llall.
Sut i gefnogi plentyn neu berson ifanc sy’n hunan-niweidio
Mae camau y gallwch eu cymryd i gefnogi plentyn sy’n hunan-niweidio. Er enghraifft, gallwch:
-
Agor y sgwrs a chynnig lle diogel i wrando. Rhowch wybod iddyn nhw y gallan nhw siarad â chi unrhyw bryd, heb unrhyw bwysau na beirniadaeth, am gyhyd ag y bydd angen. Weithiau gall dweud “Dwi yma, pryd bynnag fyddi di’n barod” helpu.
-
Peidio â chynhyrfu, a dangos empathi. Canolbwyntiwch ar eu teimladau, nid dim ond ar yr hunan-niweidio ei hun. Mae’n ddealladwy bod gennych chi lawer o gwestiynau ond cofiwch fod eich plentyn yn mynd drwy gyfnod anodd, felly canolbwyntiwch ar ei gefnogi’n emosiynol. Ceisiwch beidio ag ymateb gyda dicter neu banig. Hyd yn oed pan mae’n anodd, bydd peidio â chynhyrfu yn eu helpu i deimlo’n fwy diogel i rannu mwy.
-
Gofyn sut bydden nhw’n hoffi cael eu cefnogi. Mae pawb yn wahanol. Efallai y byddan nhw eisiau i chi wrando, eu helpu i ddod o hyd i gymorth proffesiynol, neu archwilio strategaethau ymdopi gyda’ch gilydd. Efallai y bydd yn demtasiwn ceisio ‘datrys’ y broblem ar unwaith, ond gall gymryd amser.
-
Helpu i adnabod sbardunau ac ysfa. Siaradwch gyda’ch gilydd am yr hyn sy’n dod cyn yr ysfa. Am beth maen nhw’n meddwl a sut maen nhw’n teimlo yn eu corff? Ydyn nhw’n teimlo dan straen ac mewn panig, neu ydyn nhw’n teimlo’n ddideimlad ac yn bell? Anogwch nhw i sylwi ar batrymau. Mae’r ymwybyddiaeth hon yn eu helpu i ddeall pa deimladau maen nhw’n ceisio ymdopi â nhw.
-
Edrych ar ddulliau ymdopi iach. Gydag amser a chefnogaeth, bydd eich plentyn yn dechrau deall sut mae’n teimlo pan fydd yn hunan-niweidio a pham mae’r ysfa’n codi. Yna gall ddysgu ffyrdd iachach o ymdopi. Ond weithiau, pan fydd yr ysfa i hunan-niweidio yn codi yn y foment, mae’n gallu bod yn gryf ac yn ddarbwyllol. Felly, mae’n ddefnyddiol cael rhestr o bethau y gall eich plentyn eu gwneud ar unwaith i dynnu ei sylw oddi wrth ei deimladau dwys. Ni fydd pob un o’r rhain yn gweithio i’ch plentyn chi ac mae hynny’n iawn. Felly, siaradwch â’ch plentyn am strategaethau gwahanol y gallai roi cynnig arnyn nhw, ond rhowch le iddo ddod o hyd i’r hyn sy’n gweithio iddo.
Gall rhai o’r strategaethau gynnwys:
-
Ymarferion anadlu’n ddwfn neu ymarferion daearu.
-
Lapio ei hun mewn blanced neu ddefnyddio gwrthrych trwm.
-
Mynd am dro neu fod ym myd natur.
-
Gwrando ar gerddoriaeth neu synau cysurlon.
-
Dawnsio neu symudiad corfforol arall.
-
Taro clustog.
-
Clensio ac ymlacio ei holl gyhyrau.
-
Gafael mewn ciwbiau o rew/iâ.
-
Ysgrifennu meddyliau neu deimladau sy’n peri gofid iddo ar ddarn o bapur a’i rwygo.
-
Gwneud rhywbeth creadigol fel ysgrifennu neu dynnu lluniau i fynegi sut mae’n teimlo.
-
Gwneud ei hoff hobi neu wylio rhywbeth sy’n rhoi cysur iddo.
Edrych ar ôl eich hun
Gall fod yn anodd cefnogi rhywun sy’n hunan-niweidio. Gwnewch yn siŵr bod gennych chi rywun i siarad ag ef –ffrind, aelod o’r teulu, neu weithiwr proffesiynol. Mae cadw eich hun yn iach yn golygu y byddwch mewn lle gwell i’w gefnogi.
Pryd i ofyn am gymorth meddygol neu broffesiynol
-
Os yw eich plentyn wedi brifo’n ddifrifol neu mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.
-
Os oes angen help arnoch ar frys ar gyfer ei iechyd meddwl, ond nad yw’n argyfwng, ffoniwch 111.
Os ydych chi’n poeni am anaf corfforol, ewch i gael gofal meddygol i’ch plentyn yn brydlon. Efallai y bydd angen glanhau toriadau, llosgiadau neu glwyfau, neu bwythau neu driniaeth i atal haint.
Fel rhagofal diogelwch, mae’n werth gwneud yn siŵr bod eich plentyn yn deall cymorth cyntaf a beth i’w wneud mewn argyfwng os bydd yn hunan-niweidio.
Rhowch sicrwydd i’ch plentyn nad yw’n faich, ac na ddylai deimlo cywilydd na bod arno ofn mynd at feddyg neu ysbyty. Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yno i’w helpu, ac fe ddylen nhw ei drin â thosturi, urddas a pharch.
Mae hunan-niweidio yn aml yn ffordd o ymdopi i helpu rhywun i reoli emosiynau anodd. Nid yw bob amser yn ffordd o fynegi teimladau hunanladdol nac yn ymgais i ladd eu hunain. Fodd bynnag, mae pobl sy’n meddwl am ladd eu hunain yn fwy tebygol o fod wedi hunan-niweidio yn y gorffennol. Am y rheswm hwn, dylid cymryd hunan-niweidio o ddifrif bob amser. Os ydych chi’n poeni bod eich plentyn yn cael trafferth gyda hunan-niweidio, mae’n bwysig cael triniaeth cyn gynted â phosibl i’w helpu i ymdopi’n well â’r teimladau gofidus neu lethol hyn.
Does dim rhaid i chi na’ch plentyn wynebu hyn ar eich pen eich hun.
-
Siaradwch â’ch meddyg: Gall gynnig lle tosturiol i siarad, asesu unrhyw anafiadau corfforol, a chyfeirio at wasanaethau arbenigol.
-
Os hoffech chi roi adnoddau i blentyn neu berson ifanc rydych chi’n poeni amdano mae gennym ni gyngor a chymorth am hunan-niweidio wedi’i ysgrifennu ar gyfer pobl ifanc.
-
Mae gwefan ‘Health for Teens’ y GIG hefyd yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi’i hanelu at bobl ifanc.
-
Mae gan Childline wybodaeth am hunan-niweidio sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
-
Mae gan Charity Shout wasanaeth cymorth cyfrinachol am ddim drwy negeseuon testun i bobl sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi. Gallwch decstio SHOUT i 85258 i ddechrau sgwrs ddienw gyda gwirfoddolwr hyfforddedig am ddim.
-
Mae gan y GIG wybodaeth am ble i gael help ar gyfer hunan-niweidio.
-
Dyma wasanaethau’r GIG sy’n rhoi cymorth i blant a phobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl: CAMHS (Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed), Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CYPMHS), neu yng Nghymru maen nhw weithiau’n cael eu galw’n Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Arbenigol (SCAMHS).
-
Mae elusen PAPYRUS Prevention of Young Suicide wedi creu canllawiau i helpu rhieni i ymdopi â pherson ifanc sy’n cael trafferth â meddyliau am hunanladdiad.
-
Mae Young Minds yn elusen sy’n helpu pobl ifanc gyda’u hiechyd meddwl. Mae ganddynt linell gymorth i rieni. Mae adnoddau defnyddiol eraill ar gael i chi a’r plentyn neu’r person ifanc rydych chi’n gofalu amdano, ar wefan Young Minds.

Ydych chi’n meddwl bod eich plentyn yn teimlo’n bryderus?
Mae’n anodd gweld eich plentyn yn cael trafferth. Os ydych chi'n meddwl tybed beth yw'r ffordd orau o helpu eich plentyn, mae gennym gyngor ar sut beth yw pryder ymysg plant a phobl ifanc, sut i'w cefnogi, a ble a phryd i droi am gymorth proffesiynol.

Cadw plant yn ddiogel ar-lein
Fel rhiant neu ofalwr, mae’n hawdd teimlo eich bod yn cael eich llethu gan yr holl apiau, deallusrwydd artiffisial, gemau a chyfryngau cymdeithasol sy’n newid o hyd. Os yw eich plentyn chi’n chwarae gemau, yn sgwrsio, yn postio neu’n ffrydio, rydyn ni yma i'ch cefnogi chi gyda chyngor ymarferol a chanllawiau gan arbenigwyr i helpu i gadw plant yn ddiogel ac yn hapus ar-lein.

Cefnogaeth i blant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau (AAAA)
Rydyn ni’n cynnig gwahanol wasanaethau i gefnogi plant a phobl ifanc ag AAAA a’u teuluoedd mewn gwahanol rannau o’r wlad. Darllenwch ragor am sut y gallwn eich cefnogi.
Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028.