Gwybodaeth am Gwsg Babanod: helpu eich babi i setlo yn eu blwyddyn gyntaf

Yn y misoedd cynnar, ac weithiau am fwy na hynny, gall popeth deimlo ei fod yn dibynnu ar faint mae eich babi’n cysgu. Mae pob babi’n wahanol, a bydd eu harferion cysgu’n amrywio. Mae rhai’n cysgu am gyfnodau hirach, a bydd eraill yn deffro’n aml. Er y bydd rhai babanod yn dechrau cysgu drwy’r nos yn gynnar, mae llawer a fydd yn deffro’n amlach.

Os ydych yn teimlo wedi ymlâdd, nid ydych ar eich pen eich hun. Mi all nosweithiau di-gwsg fod yn anodd, yn emosiynol ac yn gorfforol. Mae’n hollol normal i deimlo wedi’ch llethu, yn enwedig os ydych yn mynd heb gwsg. Cofiwch, mae’n arferol i fabanod ddeffro yn ystod y nos, yn enwedig yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf, ond i lawer mi all bara’n hirach. 

Ceisiwch orffwys pan gewch y cyfle, manteisiwch ar help pan gewch ei gynnig, a byddwch yn garedig â’ch hun, weithiau wnawn nhw ddim cysgu er gwaethaf eich holl ymdrechion! Ni fydd y cyfnod hwn yn para am byth, a bydd pethau’n gwella’n raddol.

Mae ein harbenigwyr wedi rhannu’r cyngor isod sydd wedi’i gynhyrchu ar y cyd mewn partneriaeth â The Lullaby Trust.   

Os ydych yn poeni am gwsg eich babi neu eich lles eich hun, peidiwch â bod ofn siarad â’ch ymwelydd iechyd neu’ch meddyg. Mae help ar gael, ac nid oes yn rhaid yn i chi ddelio â phopeth ar eich pen eich hun.

Faint o gwsg sydd ei angen ar fy mabi?

Gall babanod gysgu am unrhyw hyd rhwng 8 a 18 awr y dydd. Mae’n gwbl arferol i fabanod newydd-anedig iach ddeffro sawl gwaith yn ystod y nos, yn enwedig yn ystod eu misoedd cyntaf. Gan mai stumogau bach sydd gan fabanod, byddant angen bwyd bob rhyw ddwy awr. Wrth iddynt dyfu efallai y byddant yn gallu cysgu am gyfnodau hirach. Mae gan y GIG wybodaeth am batrymau cwsg a all fod yn ddefnyddiol i chi.

Sut alla i helpu i gael fy mabi i gysgu? 

Bydd dod i adnabod yr arwyddion bod eich babi wedi blino’n eich helpu i ddeall pa bryd fydd yr adeg iawn i geisio eucael i gysgu. 

Efallai bydd eich babi’n bigog neu’n crio pan fydd wedi blino. Efallai y byddant yn rhwbio’u llygaid, yn tynnu ar eu clustiau, neu’n syllu i’r gwagle. Ceisiwch setlo eich babi ar gyfer amser gwely neu gwsg bach pan fydd eich babi’n dangos yr arwyddion hyn. 

Creu Trefn amser gwely

Bydd dilyn yr un camau ar yr un amser bob nos yn helpu eich babi i sylweddoli ei bod bron yn amser mynd i gysgu.

Gall dilyn yr un drefn eu helpu i setlo. Gall y drefn hon gynnwys:

  • Rhoi bath cynnes i’ch babi.
  • Glanhau eu dannedd.
  • Eu newid i’w dillad nos.
  • Darllen stori amser gwely.
  • Canu hwiangerdd neu chwarae cerddoriaeth dawel.
  • Rhoi maldod i’ch babi neu eu tylino'n dyner.
  • Dweud nos da wrth weddill y teulu.
  • Troi’r golau i lawr.

Mae’n syniad da i gyfyngu ar amser sgrin cyn amser gwely. Bydd y golau’n gwneud eich plentyn yn fwy effro a bydd yn fwy anodd iddynt ymlacio.

Cofiwch y dylai babanod gysgu yn yr un ystafell â’u rhiant neu ofalwr am o leiaf y chwe mis cyntaf, yn ystod cwsg yn y dydd a’r nos.

Beth i’w wneud pan fydd babanod yn deffro yn y nos

Rydym eisiau i’n babanod ddysgu bod y nos yn amser cysgu, felly pan fyddant yn deffro yn y nos ceisiwch gadw pethau’n dawel, tywyll ac ymlaciol. Y gobaith yw y bydd hyn yn ei gwneud yn haws iddynt fynd yn ôl i gysgu.

  • Cadwch y golau’n isel neu defnyddiwch olau nos.
  • Peidiwch â newid eich babi oni bai bod angen.
  • Ceisiwch ddefnyddio llais tawel a chyfyngu ar faint rydych yn siarad â hwy.
  • Rhowch eich babi i lawr cyn gynted ag y byddwch wedi eu bwydo/newid.
  • Dylech osgoi chwarae â hwy.

Helpu ag amser cwsg byr 

Peidiwch â phoeni am gadw’r tŷ’n gwbl dawel yn ystod cyfnodau byr o gwsg yn y dydd gan y bydd babanod yn elwa drwy ddysgu cysgu gyda rhywfaint o sŵn cefndir. Mae’n well gan rai babanod hynny!

Yn enwedig yn y dyddiau cynnar, os gallwch, ceisiwch gysgu, neu o leiaf orffwys, pan fydd eich babi’n cysgu. Nid yw hynny’n hawdd bob amser pan fyddwch yn teimlo bod gennych bethau i’w gwneud neu blant eraill i ofalu amdanynt ond mi all hyd yn oed ychydig funudau’n unig helpu.

Helpu eich babi i gysgu’n ddiogel

Fel rhiant newydd, mi fyddwch eisiau gwneud popeth posibl i gadw eich babi’n ddiogel ac iach. Un ffordd bwysig o helpu i gadw eich babi’n ddiogel yw drwy ddilyn canllawiau cysgu diogel. Gall hyn leihau’n sylweddol y risg o Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (SIDS), sydd weithiau’n cael ei alw’n “farwolaeth yn y crud”.

Mae SIDS yn brin, ac i’r rhan fwyaf o fabanod mae’r risg yn isel iawn, yn enwedig os dilynir arferion cysgu diogel. Fodd bynnag, mi all dilyn camau syml roi tawelwch meddwl a helpu i gadw eich babi mor ddiogel â phosibl pan fyddant yn cysgu.

Samantha Murray  

Arweinydd Strategol Ymwelwyr Iechyd Barnardo’s RN, RM, SCPHN HV

Awgrymiadau i greu amgylchedd cysgu mwy diogel

Mae’r awgrymiadau canlynol yn seiliedig ar gyngor arbenigol gan sefydliadau fel The Lullaby Trust a’r GIG ac mi allant leihau’r risg o SIDS.

Dylech:

  • Rhoi’ch babi ar eu cefn i gysgu bob amser, mewn gofod cysgu ar wahân fel crud neu fasged Moses.
  • Cadwch ben eich babi heb ei orchuddio a pheidiwch â rhoi cap am eu pen i gysgu yn y tŷ
  • Os ydych yn defnyddio blancedi dylid eu tycio i mewn ond yn ddim uwch na’r ysgwyddau. Defnyddiwch y dull ‘traed i droed’. Rhowch eich babi gyda’u traed ar waelod y crud, basged Moses neu grud cludo i helpu i atal troi a throsi o dan y dillad gwely.
  • Os ydych yn defnyddio sach gysgu babanod, gwnewch yn siŵr ei bod yn ffitio’n dda a dilynwch gyfarwyddiadau’r gwneuthurwyr.
  • Rhowch eich babi i gysgu yn yr un ystafell â chi (dydd a nos) am y chwe mis cyntaf.
  • Defnyddiwch fatres gadarn, fflat, sy’n dal dŵr ac mewn cyflwr da.
  • Pan fyddwch yn rhoi’ch babi i gysgu gyda chi, argymhellir eich bod yn gwneud eich gwely mor ddiogel â phosibl i’ch babi. Mae gan The Lullaby Trust ragor o wybodaeth ar gyfer gwneud eich gwely’n fwy diogel i gysgu gyda’ch gilydd. 
  • Os gallwch, bwydwch eich babi ar y fron. Mi wyddom fod hyn yn lleihau’r risg o SIDS.
  • Gwnewch yn siŵr bod gan eich babi amgylchedd heb fêps na mwg, ddydd a nos.
  • Dilynwch y cyngor diogelwch os byddwch yn defnyddio sling neu gludwr – mae gan The Lullaby Trust gyngor defnyddiol ar gyfer offer o’r fath. 

Peidiwch:

  • Byth â chysgu gyda’ch babi ar soffa neu gadair freichiau, mae hyn yn cynyddu’r risg o SIDS.
  • Â rhannu gwely os ydych chi neu unrhyw un yn y gwely’n ysmygu, os cafodd y babi ei amlygu i ysmygu yn ystod beichiogrwydd, unrhyw un sydd wedi yfed alcohol, wedi cymryd cyffuriau neu feddyginiaethau sy’n eu gwneud yn gysglyd.
  • Â rhannu gweld os cafodd eich babi ei eni’n gynamserol (cyn 37 wythnos o feichiogrwydd) neu’n pwyso llai na 2.5kg (5.5lb) ar eu genedigaeth. 
  • Â gadael i’ch babi orboethi. Dylech geisio cadw'r ystafell rhwng 16°C ac 20°C gyda dillad gwely ysgafn neu sach gysgu babanod.

Yr hyn sydd ei angen a ddim ei angen, ar gyfer cwsg diogel

Pan ddaw’n fater o gwsg, nid oes angen fawr ddim ar fabanod. A dweud y gwir, cadwch bethau’n syml er mwyn diogelwch.

Dylech osgoi defnyddio:

  • Clustogau neu ddwfes
  • Bumperi crud
  • Teganau meddal yn y crud.
  • Dillad gwely llac.
  • Podiau neu nythod cysgu.
  • Cynorthwywyr lleoli (fel lletemau neu strapiau).

Dylai gofod cysgu eich babi fod yn wastad, heb fod yn rhy feddal, ac yn glir.

Rydych yn gwneud eich gorau, ac mae hynny’n ddigon

Os nad ydych yn cael digon o orffwys, neu os ydych yn cael anhawster cael eich babi i gysgu, mae hawdd teimlo eich bod ar eich pen eich hun, ond mae llawer o bobl yn yr un sefyllfa. Os oes angen mwy o help arnoch:

  • Gallwch drafod y peth â’ch ymwelydd iechyd neu feddyg
  • Mae llawer o wybodaeth am gwsg diogel ar wefan. 
  • Mae gan wefan y GIG gyngor ar fabanod newydd-anedig a chael babanod i gysgu. 
  • Mae gan yr elusen ICON wybodaeth ar sut i ymdopi â babanod sy’n crio.
  • Mae gan Cry-sis gyngor i rieni babanod sy’n crio neu’n gwrthod cysgu. 

Gyda’n gilydd, mi allwn helpu eich babi i gysgu’n ddiogel a’ch helpu chi i orffwys yn dawelach hefyd.

Cyd-gynhyrchwyd cynnwys y dudalen hon mewn partneriaeth â The Lullaby Trust.

Mae dau dad yn gorwedd yn eu gwely gyda'u merch. Mae un tad sydd â gwallt melyn yn darllen llyfr Dr Seuss iddi tra bo'r tad arall sydd â gwallt tywyll yn gwenu ac yn edrych ar y llyfr. Mae eu merch yn gwenu, yn edrych i fyny ar ei thad sy'n darllen iddi. 

O blant bach i bobl ifanc yn eu harddegau: sut gallwch chi annog noson dda o gwsg

Mae cael digon o gwsg yn hanfodol i iechyd, hwyliau a datblygiad eich plentyn, p’un a yw’n blentyn bach neu’n berson ifanc yn ei arddegau. Mae pob plentyn yn wahanol, ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich plentyn (a chithau!) i gysgu’n well.

Mae merch ifanc yn ei harddegau â’i gwallt mewn cynffon yn gwisgo siaced ddu drwchus. Mae hi tu allan, yn sefyll mewn proffil yn erbyn wal wen, ac mae hi’n edrych ymlaen yn bryderus. 

Bwydo ar y Fron 

Mae bwydo ar y fron yn cefnogi iechyd, datblygiad a llesiant emosiynol eich babi, ac yn eich helpu i feithrin perthynas gref. Ond rydyn ni’n gwybod nad yw wastad yn hawdd. Mae gennym ni gyngor i’ch helpu ar eich taith.

Mae tad yn penlinio wrth ymyl sinc ystafell ymolchi, gan helpu plentyn bach sy'n dal brwsh dannedd glas ac yn estyn tuag at y tap. Mae'r plentyn yn chwarae gyda'r brws dannedd ac mae Dad yn gwneud gofalu am ddannedd cyntaf yn brofiad di-straen a hwyliog. 

Bwydo eich babi â photel

Cariad, dysgu a bondio sy’n bwysig yn y dyddiau cynnar gyda'ch babi. P’un a ydych chi’n defnyddio fformiwla, llaeth wedi’i dynnu o’r fron, neu gymysgedd o’r ddau, mae gennym gyngor ar sut i fwydo eich babi â photel.

Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028.

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.