P’un a yw eich plentyn yn eich galw chi’n Dad neu’n Dadi, dim beth mae’n eich galw chi sy’n bwysig, ond y berthynas rydych chi'n ei meithrin â’ch plentyn. Mae bod yn dad yn rôl gydol oes, a does dim un dull sy'n addas i bawb. Ond mae gennym gyngor i'ch arwain a'ch cefnogi i fod y tad gorau posibl.
Bondio gyda'ch plentyn
Bondio yw'r enw ar yr ymlyniad pwerus sy'n datblygu rhwng rhieni a'u plant. Dyma sylfaen perthynas gref. Mae rhai tadau'n teimlo'r cysylltiad dwfn hwnnw ar unwaith, ond i eraill, gall gymryd amser ac mae hynny'n gwbl normal.
Dyma ffyrdd o feithrin perthynas gref gyda'ch babi neu'ch plentyn:
-
Cofleidio’n aml: Mae cofleidio o fudd i bawb a bydd yn eich helpu i gynnal eich bond (Fforwm Economaidd y Byd, 2021). Pan fydd eich babi yn cael cyswllt croen â chroen ar ôl cael ei eni, mae'n arbennig o fuddiol i’w helpu i deimlo'n dawel ac yn ddiogel. Mae tystiolaeth hefyd y gallech chi elwa o hyn, gydag un astudiaeth yn canfod ei fod yn lleihau symptomau iselder a gorbryder ymysg tadau (Prifysgol Anglia Ruskin, 2025).
-
Siarad, darllen a chanu gyda'ch babi: Peidiwch â phoeni na fydd yn deall beth rydych chi’n ei ddweud. Siaradwch am eich diwrnod a dweud wrtho am yr hyn rydych chi'n ei wneud wrth i chi wneud hynny. Darllenwch iddo a chanu caneuon. Mae hwiangerddi yn adnodd dysgu da ond os nad ydych chi'n gwybod unrhyw rai, peidiwch â phoeni, canwch ganeuon rydych chi'n eu hoffi. Mae clywed eich llais yn ei helpu i ddysgu a theimlo'n agos atoch chi.
-
Cario eich babi mewn sling: Weithiau, gelwir hyn yn 'babywearing’ yn Saesneg. Mae’n helpu babanod i deimlo’n dawel a gall eu helpu i ddysgu (Williams a Turner, 2020). Mae gan RoSPA gyngor ar ddefnyddio sling yn ddiogel.
-
Chwarae: Mwynhewch dreulio amser gyda'ch gilydd. Ceisiwch neilltuo amser bob dydd i roi eich sylw llawn i'ch plentyn, ac anwybyddu unrhyw beth sy’n tynnu eich sylw. Efallai y gallech fynd am dro, chwarae gêm gyda'ch gilydd neu goginio. Gall hyd yn oed chwarter awr o amser un-i-un y dydd gael effaith fawr ar blentyn a'ch perthynas.
Bod yn llystad
Mae pob math o deuluoedd. Mae teuluoedd cyfunol yn cael eu ffurfio pan fyddwch chi a'ch partner yn penderfynu byw gyda phlant o berthnasoedd blaenorol. Fel llystad neu bartner i rywun sydd â phlant, mae eich rôl yr un mor bwysig ac weithiau, yn fwy cymhleth.
Cyngor i deuluoedd cyfunol:
-
Ceisiwch greu rheolau teuluol syml y gall pawb eu dilyn. Cofiwch y gall plant fod wedi arfer â gwahanol arferion neu ddisgwyliadau, yn enwedig mewn teuluoedd cyfunol. Gall fod yn ddefnyddiol eistedd i lawr gyda'ch partner yn gyntaf i gytuno ar y rheolau, y ffiniau a'r canlyniadau y mae'r ddau ohonoch yn teimlo sy'n deg ac yn realistig. Pan fyddwch chi wedi penderfynu ar y rhain, cynhaliwch gyfarfod teulu i’w trafod â’ch gilydd. Mae hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod pob plentyn yn cael ei drin yn gyfartal ac yn deall beth sy'n ddisgwyliedig, gan greu amgylchedd mwy cadarnhaol.
-
Byddwch yn amyneddgar. Mae meithrin ymddiriedaeth gyda llys-blant yn cymryd amser. Fydd hyn ddim yn digwydd dros nos.
-
Byddwch yn barchus os oes gan eich plentyn riant arall mewn cartref arall. Peidiwch â siarad yn negyddol am y rhiant arall â’ch plentyn na thanseilio ei benderfyniadau.
Helpu eich plant i addasu i frodyr a chwiorydd newydd
Gall cael brawd neu chwaer fiolegol newydd, neu lysfrawd neu lyschwaer weithiau fod yn amser anodd i blant, wrth iddyn nhw addasu i rannu eu rhiant â phlentyn arall. Efallai y bydd gan rai teuluoedd lai o amser i’w dreulio â phob plentyn a llai o arian i'w wario ar bethau fel teganau, gemau a gweithgareddau. Gall rhannu eu gofod a'u heiddo â rhywun newydd fod yn brofiad anodd i rai plant. Dylech gydnabod gwahaniaethau mewn oedrannau a bod yn ymwybodol y bydd angen i rai plant gael amser iddyn nhw eu hunain ar adegau.
Byddwch yn teimlo fel uned deuluol ymhen amser. Byddwch yn agored ac yn onest â'ch partner am bethau rydych chi'n sylwi eu bod yn heriol er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn gallu gweithio gyda'ch gilydd i fynd i'r afael â phethau wrth iddyn nhw godi. Bydd gwneud pethau gyda'ch gilydd rydych chi’n eu mwynhau fel teulu cyfan yn cryfhau perthnasoedd a gall fod yn llawer o hwyl. Mae llawer o enghreifftiau ar-lein o gemau i'w chwarae lle nad oes angen i chi wario arian.
Mae'n bwysig rhoi'r un faint o sylw cadarnhaol i bob plentyn er mwyn creu cartref sy'n hyrwyddo tegwch a hwyl. Ceisiwch dreulio amser gwerthfawr gyda phob plentyn - bydd hyd yn oed chwarter awr y dydd yn gwneud gwahaniaeth mawr.
Rheoli eich llesiant eich hun
Mae bod yn dad yn gallu bod yn werth chweil ac yn flinedig iawn hefyd. Mae'n normal teimlo eich bod yn cael eich llethu, yn enwedig yn ystod y camau cynnar neu yn ystod newidiadau mawr mewn bywyd.
Os yw eich partner yn feichiog neu wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar, mae'n naturiol canolbwyntio ar ei llesiant, ond mae eich iechyd meddwl chi’n bwysig hefyd. Mae llawer o bartneriaid yn wynebu heriau emosiynol ac iechyd meddwl yn ystod y cyfnod hwn. (Mind, 2024)
Mae'n bwysig cofio bod angen i chi a'ch partner ofalu am eich gilydd, yn ogystal â gofalu am eich babi newydd. Byddwch yn garedig â'ch gilydd, rhannwch gyfrifoldebau a cheisiwch gofio eich bod yn dîm. Siaradwch am sut rydych chi'n teimlo â ffrind, partner neu weithiwr proffesiynol. Ceisiwch neilltuo rhywfaint o amser ar gyfer hunanofal fel ymarfer corff neu hobi rydych chi'n ei fwynhau, a chefnogwch eich partner i wneud yr un peth.
Hoffech chi gael mwy o gefnogaeth i setlo i’ch rôl o fod yn dad?
-
Mae Dad Matters yn wasanaeth lleol sy’n cael ei redeg gan yr elusen Home-Start, sy’n helpu tadau i feithrin perthnasoedd cryf â’u babanod.
-
Mae Dope Black Dads yn fan digidol diogel sy’n cefnogi tadau Du, ar Instagram neu gallwch wrando ar eu podlediad.
-
Mae gan Cbeebies arweiniad da ar iechyd meddwl ar gyfer Tadau newydd yn ogystal ag erthyglau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
-
Os ydych chi yn yr Alban, mae’r elusen Dads Rock yn rhoi’r adnoddau sydd eu hangen ar dadau a theuluoedd i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i'w plentyn.
-
Mae gan yr elusen, Fatherhood Institute daflenni ffeithiau am eich hawliau cyfreithiol fel tad, syniadau am bethau pwysig i ganolbwyntio arnyn nhw, a rhai ffynonellau defnyddiol o gyngor a chefnogaeth.

Meithrin perthnasoedd teuluol iachach
Mae gan bobl ffyrdd, safbwyntiau ac emosiynau gwahanol o ran delio â straen, felly mae’n naturiol bod anghytuno’n digwydd. Yr hyn sydd bwysicaf yw sut mae’r gwrthdrawiadau hyn yn cael eu rheoli. Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw gwrthdaro rhwng rhieni, beth sy’n ei achosi, a sut i’w leihau yn eich teulu

Datblygu ymennydd iach
P’un a yw eich plentyn yn fabi neu yn ei arddegau, gallwch helpu ei ymennydd i ddatblygu a gweithredu ar ei orau. Rydyn ni wedi ymuno â KCA, arbenigwyr niwrowyddoniaeth, i rannu dull syml ac effeithiol y gallwch ddechrau ei ddefnyddio heddiw.

Atal brodyr a chwiorydd rhag ffraeo
Hyd yn oed pan fydd plant yn caru eu brodyr a’u chwiorydd ac yn cyd-dynnu â nhw, gallwch ddisgwyl rhywfaint o wrthdaro. Darllenwch gyngor i’ch helpu i arwain eich plant drwy gyfnodau da a drwg yn eu perthynas â’u brodyr a’u chwiorydd.
Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028.