Babi'n ymestyn am ddrôr cegin agored sy'n llawn eitemau'r cartref, gan gynnwys brwsh potel ac offer cegin. 

Cadw eich plentyn yn ddiogel gartref

Diogelwch yn y cartref i blant

Rydyn ni’n gwybod nad yw’n beth braf i feddwl amdano, ond mae damweiniau’n digwydd yn y cartref, ac maen nhw’n gallu bod yn dorcalonnus pan maen nhw’n digwydd – yn enwedig os ydyn nhw’n cynnwys eich plentyn. Drwy gymryd camau syml, gallwch leihau risgiau’n sylweddol a chreu amgylchedd mwy diogel i’ch plentyn. 

Awgrym: Rhowch gynnig ar wyro i lefel llygaid eich plentyn ac edrych o’ch cwmpas. Gall y newid hwn mewn persbectif eich helpu i weld risgiau posibl y gallech chi eu methu fel arall.

Awgrym: Rhowch gynnig ar wyro i lefel llygaid eich plentyn ac edrych o’ch cwmpas. Gall y newid hwn mewn persbectif eich helpu i weld risgiau posibl y gallech chi eu methu fel arall. 

Jump to:

Awgrymiadau cyffredinol ar gyfer diogelwch yn y cartref

  • Cadwch becyn cymorth cyntaf yn eich cartref. Os nad ydych chi’n siŵr beth i’w gynnwys, darllenwch ganllawiau Ambiwlans Sant Ioan
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych synwyryddion mwg sy’n gweithio yn eich cartref a’ch bod yn eu profi nhw’n rheolaidd.   
  • Os oes gennych gyflenwad nwy yn eich cartref, dylech gael gosod monitor carbon monocsid. Dylai offer nwy gael ei archwilio a’i gynnal yn rheolaidd. 
  • Storiwch eitemau bach a allai fod yn beryglus – fel matsis, tanwyr, darnau arian, a gwrthrychau bach gan gynnwys batris botwm – y tu hwnt i gyrraedd plant. 
  • Lle gallwch chi, gosodwch gloeon neu gyfyngwyr ar ffenestri. Cadwch eich allweddi mewn lle diogel ond hygyrch, rhag ofn y bydd argyfwng.   
  • Gwnewch yn siŵr nad oes llanast na rhwystrau ar y llawr. Symudwch unrhyw wifrau neu lidiau sy’n llusgo.   
  • Gwnewch yn siŵr nad yw socedi trydan wedi’u gorlwytho nac wedi’u difrodi. Dylech osgoi defnyddio gorchuddion soced sy’n gallu peryglu mecanweithiau diogelwch plygiau. 
  • Dylech oruchwylio gweithgareddau chwarae yn yr awyr agored, yn enwedig o gwmpas pyllau dŵr, pyllau padlo, planhigion, ac ategolion a chynnyrch gardd. Mae rhagor o wybodaeth yn ein hadran diogelwch awyr agored.
  • Dylech greu cynllun dianc rhag tân fel eich bod yn gwybod sut i adael yn ddiogel gyda’ch plentyn mewn argyfwng, a phan fydd eich plentyn yn ddigon hen, dylech rannu hwn gydag ef a’i ymarfer.  

Awgrymiadau diogelwch yn y gegin

Awgrymiadau ar gyfer cadw eich cegin yn ddiogel

Mae plant bach wrth eu bodd yn archwilio ac yn dynwared, ac yn aml dydyn nhw ddim yn ymwybodol bod eitemau bob dydd yn gallu achosi niwed iddyn nhw. Ond gallwch helpu drwy sicrhau bod eich cegin yn ddiogel i blant a chadw pethau peryglus allan o’u cyrraedd.  

  • Gwnewch yn siŵr fod gwifrau offer cegin fel tegelli, tostwyr a haearnau smwddio yn cael eu cadw i ffwrdd o ble mae modd eu cyrraedd a’u tynnu.  
  • Peidiwch â gadael diodydd poeth ger ymyl cownteri neu fyrddau. 
  • Storiwch bethau miniog fel cyllyll a sisyrnau’n ofalus.   
  • Wrth goginio ar hob, trowch handlenni sosbenni am i mewn fel na all plant eu cyrraedd. 
  • Dylai cemegion fel capsiwlau golchi dillad neu gynnyrch glanhau arall gael eu cadw mewn lle diogel – yn ddelfrydol mewn cwpwrdd uchel. Gallwch ddefnyddio cloeon diogelwch os oes rhaid i chi eu cadw nhw yn rhywle y gall plentyn ei gyrraedd.    
  • Os byddwch yn gollwng rhywbeth ar lawr y gegin, dylech ei lanhau ar unwaith fel nad yw’r llawr yn llithrig.  

Edrychwch ar gegin rithwir ryngweithiol y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA) i weld risgiau a’r atebion posibl.

Osgoi tagu 

Gall tagu ddigwydd i bobl o bob oedran, ond mae’n bwysig bod yn ymwybodol iawn o fabis a phlant ifanc sy’n dal i ddod i arfer â bwyd solet. Mae’r GIG yn cynghori y dylai babis gael bwyd solet am y tro cyntaf pan maen nhw’n tua chwe mis oed fel eu bod nhw’n gallu symud bwyd o amgylch eu ceg, cnoi a llyncu (GIG, 2022). Mae gennym ragor o gyngor ar ddiddyfnu os oes ei angen arnoch. 

  • Pan fyddwch yn bwydo babi neu blentyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu gwylio’n ofalus. Mae babis yn aml yn cyfogi ar fwyd; mae hyn yn atgyrch normal sy’n eu helpu nhw rhag tagu ar y bwyd. Pan fydd hyn yn digwydd, byddant fel arfer yn gwneud sŵn. Ond os yw plentyn yn tagu ac yn cael trafferth anadlu, mae’n digwydd yn dawel.
  • Dylech dorri bwyd bach crwn, fel grawnwin, tomatos bach ac aeron, yn chwarteri.  
  • Dylech dorri llysiau fel moron, afal, pupur neu giwcymbr yn stribedi tenau neu’n siâp baton. Gallwch dorri caws yn stribedi neu ei gratio.
  • Peidiwch â rhoi popgorn i blant dan bump oed. Os ydych yn rhoi cnau iddynt, gwnewch yn siŵr eich bod yn eu torri’n fân. Dylech osgoi malws melys a losin caled crwn fel ‘Mini Eggs’ neu felysion wedi’u berwi. 

Mae llawer o lefydd yn cynnal cyrsiau cymorth cyntaf i fabis a phlant, felly ystyriwch fynd i un os gallwch chi.  

Mae gan y Groes Goch Brydeinig wybodaeth a fideos am beth i’w wneud os yw eich babi’n tagu, neu os oes angen help arnoch chi gyda phlentyn sy’n tagu

Mewn rhai rhannau o’r wlad, rydym yn cynnal cyrsiau cymorth cyntaf babis a phlant am ddim. Defnyddiwch ein hadnodd dod o hyd i wasanaeth i weld a oes un yn cael ei gynnal yn eich ardal chi. Mae Ambiwlans Sant Ioan yn rhoi mwy o gyngor cymorth cyntaf ar dagu

Diogelwch yn yr ystafell fyw a’r ystafell fwyta

Mae’n debyg y byddwch chi a’ch plentyn yn treulio llawer o amser yn yr ystafelloedd hyn. Dyma rai pethau i’w hystyried i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel:

  • Os oes gennych le tân, defnyddiwch gard tân sefydlog.  
  • Dylech osod setiau teledu neu ddodrefn rhydd yn sownd yn i’r wal lle bo hynny’n bosibl i sicrhau na fyddant yn disgyn.
  • Dylech storio alcohol allan o gyrraedd plant.  
  • Peidiwch â gorlwytho ceblau estyniad a socedi trydan.   
  • Cadwch gortynnau bleinds a llenni yn sownd yn uchel neu mewn clip neu fraced, ac allan o gyrraedd eich plentyn. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch am fleinds a llenni.  
  • Gorchuddiwch ymylon miniog ar fyrddau a dodrefn.  

Cadw plant yn ddiogel ar risiau

Mae plant wrth eu bodd yn dringo grisiau. Mae’n ffordd dda o ddatblygu eu cydsymudiad a’u cydbwysedd, a gallan nhw eu helpu i gryfhau cyhyrau mawr, felly dyma rai awgrymiadau er mwyn i’ch plentyn allu eu defnyddio nhw’n ddiogel.   

  • Gosodwch giatiau diogelwch er mwyn i chi allu eu goruchwylio pan fyddan nhw’n mynd i fyny ac i lawr y grisiau. Mae’r rhan fwyaf o wneuthurwyr yn argymell defnyddio gatiau gyda phlant o dan ddwy oed yn unig oherwydd gall rhai plant sy’n hŷn ddringo drostynt. Os oes gennych chi gatiau grisiau hyblyg yn hytrach na rhai sydd wedi’u gosod, peidiwch â rhoi’r rhain ar ben y grisiau oherwydd gallan nhw ddod yn rhydd a llithro’n gyflym i lawr y grisiau.    

  • Dysgwch eich plentyn bach sut i ddefnyddio’r grisiau a’i helpu i ymarfer. 

  • Dylech osod carpedi yn ddiogel ar risiau.   

  • Byddwch yn ofalus gyda chanllawiau grisiau. Gall canllaw llorweddol edrych fel ysgol i blentyn. Os oes gennych ganllawiau fertigol, mae angen iddynt fod yn ddigon agos at ei gilydd fel na allai sffêr 100mm ffitio trwodd er mwyn atal plentyn rhag syrthio.  

  • Gwnewch yn siŵr nad oes blerwch ar y grisiau a bod digon o olau.  

Ystafell Ymolchi

Bydd eich plentyn yn treulio llawer o amser yn yr ystafell ymolchi – yn cael bath, brwsio dannedd a dysgu i ddefnyddio’r toiled. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer cadw eich plentyn yn ddiogel pan fydd yn yr ystafell ymolchi. 

  • Peidiwch byth â gadael babis a phlant ar eu pen eu hunain yn agos at ddŵr. Gallant foddi mewn cyn lleied â 5cm o ddŵr.    
  • Defnyddiwch fat gwrthlithro yn y bath, a llenwi’r bath â dŵr oer cyn dŵr poeth bob amser er mwyn osgoi llosgi.   
  • Cadwch gaead y toiled ar gau. Gall plant bach syrthio i mewn a chael trafferth dod allan.   
  • Cadwch gynnyrch glanhau’r ystafell ymolchi dan glo neu allan o gyrraedd eich plentyn.

Dysgwch fwy am ddiogelwch dŵr.

Sachau cewynnau (clytiau)

Gall sachau cewynnau tafladwy fod yn beryglus iawn i fabis. Maen nhw’n ysgafn ac mae’n hawdd gafael ynddyn nhw, a gall babis chwilfrydig eu rhoi ger eu ceg/trwyn. Gall hyn arwain yn gyflym at dagu neu fygu. I gadw eich babi’n ddiogel, dylech gadw sachau cewynnau ymhell o’u cyrraedd a pheidio byth â’u gadael nhw wrth ymyl cot, pram neu fan newid. 

Diogelwch cysgu a’r ystafell wely

Mae ychydig o bethau i’w hystyried fel bod eich ystafelloedd gwely yn ddiogel ac yn gallu parhau i fod yn lle i ymlacio.   

  • Cadwch golur a phersawr allan o gyrraedd plant – gallan nhw fod yn wenwynig.
  • Gallwch osod rhwystrau ar ffenestri i gyfyngu ar faint maen nhw’n agor, a dylech osgoi rhoi dodrefn wrth ymyl ffenestri oherwydd gallai plant ddringo atynt. 
  •  Cadwch eich plentyn draw oddi wrth unrhyw offer gwallt poeth fel sythwyr. Defnyddiwch bad sy’n gwrthsefyll gwres i’w storio nhw’n ddiogel oddi wrth blant.
  • Gwnewch yn siŵr bod bariau diogelwch ac ysgol ddiogel ar welyau bync.
  • Peidiwch byth â gadael babis ar eu pennau eu hunain ar wely. Gall babis rowlio i ffwrdd yn gyflym neu gael eu lapio yn y gorchuddion

Diogelwch wrth gysgu

Dylai eich babi newydd gysgu yn yr un ystafell â chi am y chwe mis cyntaf, ddydd a nos. Mae gan y Lullaby Trust lawer o wybodaeth wych am gwsg diogel

Diogelwch llenni a bleinds

Rhwng 16 a 36 mis, mae plant yn arbennig o agored i gael eu dal mewn cordiau bleinds, ac efallai na fyddan nhw’n gallu dod yn rhydd, sy’n cynyddu’r risg o fygu.   

  • Gosodwch fleinds heb gordiau os gallwch chi. Dylai bleinds newydd gyda chord gynnwys nodweddion diogelwch plant.   

  • Os oes cordiau, cadwch nhw’n fyr ac allan o gyrraedd plant gan ddefnyddio clipiau neu glymau.  

  • Peidiwch byth â hongian teganau neu wrthrychau a allai fod yn beryglus ar got neu wely.  

Sefydlogrwydd dodrefn

Gall damweiniau difrifol ddigwydd os bydd dodrefn yn disgyn. I geisio osgoi damweiniau fel hyn, gallwch wneud y canlynol: 

  • Angori dodrefn i gadw gwrthrychau trwm yn sownd wrth y waliau. 
  • Peidio â gadael i blant ddringo ar ddroriau, drysau na silffoedd. 
  • Storio pethau trwm yn y droriau gwaelod.  
  • Sicrhau nad yw setiau teledu na gwrthrychau trwm eraill yn cael eu rhoi ar ddroriau nac ar silffoedd llyfrau.  

Os ydych chi’n byw mewn tŷ rhent, darllenwch eich cytundeb tenantiaeth i weld a oes gennych chi ganiatâd i angori eich dodrefn i’r waliau. Os nad ydych chi’n siŵr, holwch eich landlord neu’ch asiant gosod eiddo. Bydd y rhan fwyaf o landlordiaid yn gadael i chi angori dodrefn trwm os byddwch yn gofyn am ganiatâd. Mae’n bwysig eu bod yn cadw eu tenantiaid yn ddiogel, yn enwedig os oes gennych chi blant.  

Os bydd eich landlord yn gwrthod, mae gennych opsiynau eraill.  

  • Mae’r rhan fwyaf o gytundebau tenantiaeth yn nodi bod yn rhaid i denantiaid ddychwelyd yr eiddo yn ei gyflwr gwreiddiol. Mae hynny’n golygu efallai y bydd angen i chi lenwi unrhyw dyllau ac ailbeintio cyn symud allan er mwyn osgoi colli rhywfaint o’ch blaendal. 
  • Defnyddiwch ddewisiadau eraill nad ydynt yn achosi difrod, fel stribedi gludiog neu fracedi pwrpasol ar gyfer pobl sy’n rhentu tai.

Diogelwch teganau

Mae teganau’n helpu eich plentyn i ddysgu a datblygu ac maen nhw’n hwyl, ond mae angen goruchwylio eich plentyn wrth iddo chwarae â theganau. I helpu i gadw eich plentyn yn ddiogel, gallwch:   

  • Chwilio am y symbol CE neu nod UKCA wrth brynu teganau, a gwneud yn siŵr bod ystod oedran y tegan yn addas ar gyfer eich plentyn. 
  • Archwilio teganau’n rheolaidd am unrhyw ddifrod a chael gwared arnyn nhw os oes angen. Chwiliwch am eitemau rhydd, ymylon miniog, pwyntiau a darnau bach ar deganau.   
  • Archwilio siglenni a llithrennau yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn ddiogel.   
  • Cadw ardaloedd chwarae yn daclus.  
  • Mae angen bod yn ofalus wrth ddefnyddio bagiau gwenith, teganau sydd wedi’u llenwi â gwenith a theganau meddal microdon, a dylid gwneud hynny dan oruchwyliaeth oedolyn. Dylech ddarllen cyfarwyddiadau’r gwneuthurwr bob amser. 

Peryglon llyncu: gwenwyn, batris a magnetau

Batris botwm

Batris crwn bach fflat yw batris botwm sy’n cael eu defnyddio mewn llawer o wrthrychau yn y cartref, gan gynnwys: 

  • Teganau. 
  • Rheolyddion teledu.  
  • Allweddi car.   
  • Cardiau cyfarch sy’n chwarae cerddoriaeth. 
  • Dyfeisiau electronig bach fel cyfrifianellau a chloriannau pwyso.    

Mae’r gyfraith yn nodi bod yn rhaid i deganau sy’n cynnwys batris botwm gael cydran batris y mae modd ei gloi. Dylech wirio teganau’n rheolaidd i sicrhau bod y cydrannau hyn yn ddiogel ac nad ydynt wedi’u difrodi nac yn rhydd. Byddwch yn ymwybodol efallai na fydd teganau hŷn yn dilyn y rheoliadau hyn.   

Dylech gael gwared ar hen fatris yn ofalus drwy ddefnyddio blychau casglu mewn siopau. Gall batris fflat achosi anaf o hyd.  

Peryglon batris botwm 

Maen nhw’n beryglus iawn i blant os byddan nhw’n eu llyncu oherwydd gallan nhw achosi niwed mewnol difrifol.   

Dyma rai symptomau i gadw llygad amdanynt os ydych chi’n meddwl bod eich plentyn wedi llyncu batri botwm:   

  • Anawsterau anadlu. 
  • Teimlo’n sâl. 
  • Pesychu, cyfogi neu lafoerio llawer.  
  • Ymddangos fel bod ganddo feirws neu boen stumog.   
  • Bod yn sâl.   
  • Pwyntio at ei wddf neu ei stumog.   
  • Cwyno am boen yn ei wddf, ei frest neu ei fol.    
  • Blinder.    
  • Tawelach neu’n glynu atoch fwy na’r arfer.  
  • Colli ei chwant bwyd neu lai o archwaeth.   
  • Ddim eisiau bwyd solet neu ddim yn gallu ei fwyta.  

  Os ydych chi’n amau bod eich plentyn wedi llyncu batri botwm, dylech fynd ag ef i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys agosaf cyn gynted â phosibl.   

Magnetau

Mae magnetau cryf i’w cael mewn teganau a gwrthrychau eraill, fel gemwaith a chlustdlysau ffug.     

Cadwch blant bach oddi wrth fagnetau, a goruchwyliwch blant hŷn pan fyddan nhw’n eu defnyddio. Gall magnetau achosi i blant dagu ac achosi anafiadau mewnol difrifol os cânt eu llyncu. Os ydych chi’n amau bod plentyn wedi llyncu magnet, ewch â nhw i gael cyngor meddygol ar unwaith.   

Gwenwynau 

Wrth i’ch plentyn dyfu, bydd yn dechrau rhoi pethau yn ei geg i archwilio gwead a blas. Pan fydd yn symud o gwmpas, bydd risg uwch y bydd yn bwyta pethau na ddylai eu bwyta.  

  • Cadwch gapsiwlau golchi dillad a chapsiwlau golchi llestri allan o gyrraedd eich plentyn, oherwydd maen nhw’n gallu bod yn lliwgar ac edrych fel melysion.
  • Dylech gadw meddyginiaethau mewn mannau diogel dan glo. Ceisiwch osgoi cadw meddyginiaethau yn eich bag. Os gallwch chi, prynwch feddyginiaethau mewn cynwysyddion na all plant eu hagor.  
  • Dylech gadw alcohol allan o gyrraedd plant. Gallai alcohol clir gael ei gamgymryd am ddŵr.  
  • Mae e-sigarennau/fêps ac ail-lenwadau yn lliwgar ac yn ddeniadol iawn felly storiwch nhw allan o gyrraedd plant. 
  • Gall cynnyrch garddio fod yn wenwynig ac yn niweidiol iawn. Dylech oruchwylio eich plentyn o amgylch y cynhyrchion hyn bob amser a’u cadw nhw dan glo. I gael rhagor o gyngor, ewch i’n hadran ar ddiogelwch yn yr ardd
  • Mae rhai planhigion yn wenwynig, ac os bydd darnau bach yn torri i ffwrdd, gall plant dagu arnyn nhw.  

Mae gan y Groes Goch Brydeinig wybodaeth ddefnyddiol am wenwyn a chymorth cyntaf a allai eich helpu. 

Bocsys baw anifeiliaid anwes

Gall bocsys baw anifeiliaid beri risgiau i iechyd gan eu bod yn gallu cynnwys bacteria a pharasitiaid niweidiol a all gael eu trosglwyddo wrth ddod i gysylltiad â baw anifeiliaid neu arwynebau sydd wedi’u halogi. Mae babis a phlant bach yn arbennig o agored i niwed o’r rhain am nad yw eu systemau imiwnedd wedi datblygu’n llawn, ac am eu bod nhw’n aml yn rhoi eu dwylo yn eu cegau.   

Dyma rywfaint o gyngor diogelwch y gallwch ei ddilyn i osgoi peryglon posibl bocsys baw anifeiliaid:  

  • Cadwch focsys baw anifeiliaid mewn ystafell na all plant ei chyrraedd neu y tu ôl i giât er mwyn atal cyswllt damweiniol.  

    Glanhewch focsys baw anifeiliaid yn rheolaidd (bob dydd os yw’n bosibl). Golchwch eich dwylo’n drylwyr ar ôl cyffwrdd â bocs baw anifail.  

  • Dysgwch eich plant i osgoi cyffwrdd â’r bocs baw anifail a’r ardal o’i gwmpas. Ni ddylid byth gadael plant ifanc yn agos at anifeiliaid anwes neu eu mannau gwastraff heb oruchwyliaeth. Mae hyn yn lleihau’r siawns y byddan nhw’n llyncu neu’n dod i gyswllt uniongyrchol â rhywbeth na ddylen nhw.  

  • Os ydych chi’n feichiog, peidiwch â newid gwasarn cathod. Gall baw cath gynnwys parasit sy’n gallu niweidio eich babi yn y groth. Os oes rhaid i chi newid y gwasarn eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwisgo menig ac yn golchi eich dwylo’n drylwyr. 

  • Cadwch deganau babi ac ardaloedd paratoi bwyd yn bell oddi wrth faw anifeiliaid anwes neu fannau gwastraff. Ystyriwch ddefnyddio bocs baw wedi’i orchuddio fel ei bod yn anoddach cael mynediad ato, ac i gadw unrhyw ollyngiadau neu arogleuon i mewn. 

  • Gall dadlyngyru cathod yn rheolaidd a mynd â nhw i gael archwiliadau yn rheolaidd gan filfeddyg leihau’r risg o drosglwyddo parasitiaid i bobl.  

Plentyn yn reidio beic pinc bach ar lwybr palmantog ac yn gwisgo helmed wyrddlas a chrys-T melyn llachar gyda graffeg liwgar. Mae oedolyn wrth ymyl y plentyn yn darparu cymorth, wedi gwisgo mewn dillad athletig. Mae coed a glaswellt gwyrdd i'w gweld yn y cefndir. 

Cadw eich plentyn yn ddiogel pan fyddwch chi allan

Gall bod allan yn yr awyr agored gynnig cyfle i deuluoedd i gael hwyl - o ddiwrnodau yn y parc i fynd ar daith feics ac anturiaethau ar y traeth yn yr haul. Ystyriwch awgrymiadau syml ac ymarferol i helpu i gadw eich plant yn ddiogel wrth iddyn nhw ddarganfod y byd y tu hwnt i’ch drws ffrynt.

Mae dau berson yn gwisgo sgarffiau pen wrth ddesg yn defnyddio cyfrifiadur mawr. Mae merch yn ei harddegau cynnar yn eistedd ac yn teipio tra bo'r llall yn pwyntio ar y sgrin yn dangos canlyniadau chwilio. Mae'r olygfa'n awgrymu arweiniad ar ddefnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel a helpu plentyn i gadw'n ddiogel ar-lein.  

Cadw plant yn ddiogel ar-lein

Fel rhiant neu ofalwr, mae’n hawdd teimlo eich bod yn cael eich llethu gan yr holl apiau, deallusrwydd artiffisial, gemau a chyfryngau cymdeithasol sy’n newid o hyd. Os yw eich plentyn chi’n chwarae gemau, yn sgwrsio, yn postio neu’n ffrydio, rydyn ni yma i'ch cefnogi chi gyda chyngor ymarferol a chanllawiau gan arbenigwyr i helpu i gadw plant yn ddiogel ac yn hapus ar-lein.

Llun o’r tu ôl o ddwy ferch yn cerdded i lawr palmant gyda'u mam, mae un ohonyn nhw'n gafael yn llaw eu mam. Mae'r fam hefyd yn gafael mewn bag siopa plastig heb frand arno. 

Plant y mae cam-drin domestig wedi effeithio arnynt 

Mae cam-drin domestig yn gallu cael effaith ddinistriol ar deuluoedd. Os ydych chi’n meddwl bod cam-drin domestig yn effeithio ar blentyn, mae camau y gallwch eu cymryd i’w helpu i deimlo’n ddiogel a’i fod yn cael ei gefnogi, ac mae gwasanaethau a all eich arwain drwy’r camau nesaf.

Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028.

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.