Meddwl am gyflwyno bwydydd solid i’ch babi? P’un ai ydych chi’n dechrau arni neu’n cynllunio ymlaen llaw, mae’n garreg filltir fawr a gyda chymaint o gyngor ar gael, mae’n gallu teimlo ychydig yn llethol. Mae ein harbenigwyr yma i’ch cefnogi chi a’ch plentyn.
Dylech gyflwyno bwyd solid i’ch babi ochr yn ochr â’i laeth arferol o’r fron neu fformiwla babanod.
Ar y dechrau, mae cael eich babi i arfer â’r syniad o fwyta yn bwysicach na faint mae’n ei fwyta. Bydd yn dal i gael y rhan fwyaf o’i egni a’i faeth o laeth y fron neu fformiwla babanod.
O tua chwe mis oed ymlaen, gallwch ddechrau cynnig ychydig bach o fwyd solid i’ch babi ochr yn ochr â’i laeth arferol. Mae rhoi amrywiaeth o fwydydd yn gynnar yn helpu i feithrin arferion iach am oes.
Sut fydda i’n gwybod pan fydd fy mabi’n barod i gael bwyd solid?
Mae’r rhan fwyaf o fabis yn barod i ddechrau cael bwyd solid pan maen nhw’n tua chwe mis oed. Chwiliwch am y tri arwydd allweddol hyn a ddylai ddigwydd gyda’i gilydd:
-
Mae eich babi yn gallu eistedd i fyny a dal ei ben yn llonydd.
-
Mae ganddo gydsymudiad rhwng ei law a’i geg – mae’n edrych ar rywbeth, yn ei godi ac yn ceisio ei fwyta.
-
Mae’n llyncu bwyd, yn hytrach na’i wthio allan â’i dafod.
Nid yw rhai ymddygiadau cyffredin fel cnoi dwrn, deffro’n amlach yn ystod y nos, neu fod eisiau mwy o laeth, o reidrwydd yn golygu bod eich babi’n barod i gael bwyd solid.
Os cafodd eich babi ei eni’n gynnar, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu’ch meddyg ynghylch pryd i ddechrau rhoi bwyd solid iddo. Byddan nhw’n eich helpu i benderfynu beth sydd orau i’ch babi.
Dechreuwch yn araf deg, a pheidiwch â phoeni os bydd pethau’n mynd yn flêr. Mae pob tamaid yn gam ymlaen.
Awgrymiadau diddyfnu i’w cadw mewn cof
-
Does dim brys – gwnewch un peth ar y tro.
-
Mae rhai bwydydd yn fwy tebygol o achosi adwaith alergaidd. Cyflwynwch y bwydydd hyn un ar y tro ac mewn symiau bach iawn er mwyn i chi allu gweld unrhyw arwyddion o adwaith. Mae rhagor o wybodaeth am ba fathau o fwydydd all achosi adwaith, yn ogystal â sut i adnabod arwyddion alergedd bwyd, ar wefan y GIG.
-
Mae llanast yn normal! Gadewch i’ch babi archwilio a mwynhau’r profiad.
-
Wrth i’ch babi dyfu, gallwch gynyddu amrywiaeth a gwead bwydydd yn raddol.
-
Yn y pen draw, bydd eich babi’n gallu mwynhau’r un prydau iach â gweddill y teulu.
Eisiau mwy o gymorth i ddiddyfnu?
-
Mae gan y GIG gyngor, fideos defnyddiol, awgrymiadau gan rieni eraill, a llawer o ryseitiau a syniadau prydau syml ac iach.
-
Mae gennym gyngor ar fwydo eich babi’n ddiogel er mwyn helpu i osgoi tagu.
-
Mae ein tudalennau gwe bwyta’n iach i deuluoedd yn cynnwys syniadau ar gyfer prydau y gallwch eu mwynhau gyda’ch gilydd wrth i’ch plentyn dyfu.
Cymorth i brynu bwyd a llaeth os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych chi blant ifanc
Gall magu plentyn ifanc fod yn ddrud, ac os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych chi blant bach gartref, mae gwneud yn siŵr eu bod yn cael y maeth cywir yn hanfodol ond nid yw bob amser yn hawdd os yw arian yn brin. Mae cynlluniau ar gael ledled y DU sy’n gallu eich helpu i fforddio bwyd iach, llaeth a fitaminau i’ch teulu.
Os ydych chi yng Nghymru, Gogledd Iwerddon neu Loegr, ac yn fwy na 10 wythnos yn feichiog neu os oes gennych chi blentyn o dan bedair oed, efallai eich bod yn gymwys i gael cymorth i brynu bwyd iach a llaeth drwy Gynllun Cychwyn Iach y GIG. Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun Cychwyn Iach yma.
Os ydych chi yn yr Alban, efallai y gallwch hawlio’r Best Start Grant a Best Start Foods, sef taliadau sy’n helpu gyda chostau bod yn feichiog neu ofalu am blentyn. Mae Best Start Foods yn daliad i’ch helpu i brynu bwydydd iach yn ystod beichiogrwydd a phan fydd eich plentyn o dan dair oed. Mae rhagor o wybodaeth am y Best Start Grant a Best Start Foods yma.

O blant bach i bobl ifanc yn eu harddegau: sut gallwch chi annog noson dda o gwsg
Mae cael digon o gwsg yn hanfodol i iechyd, hwyliau a datblygiad eich plentyn, p’un a yw’n blentyn bach neu’n berson ifanc yn ei arddegau. Mae pob plentyn yn wahanol, ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich plentyn (a chithau!) i gysgu’n well.

Datblygu ymennydd iach
P’un a yw eich plentyn yn fabi neu yn ei arddegau, gallwch helpu ei ymennydd i ddatblygu a gweithredu ar ei orau. Rydyn ni wedi ymuno â KCA, arbenigwyr niwrowyddoniaeth, i rannu dull syml ac effeithiol y gallwch ddechrau ei ddefnyddio heddiw.

Gofalu am ddannedd cyntaf eich babi
Bydd gofalu am ddannedd eich babi o’r cychwyn cyntaf yn ei helpu i gael dannedd iach am byth. Mae gennym awgrymiadau ar sut i ofalu am ddannedd eich plentyn wrth iddo dyfu.
Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028.