Brodyr a chwiorydd: yn aml, mae gan blant sydd â’r un rhiant/rhieni neu ofalwyr, gysylltiad unigryw a gydol oes. I lawer, gall cael brawd neu chwaer fod yn un o'r rhoddion gorau yn ystod plentyndod. Maen nhw'n rhannu profiadau, atgofion a chysylltiad dwfn sy'n gallu para am oes. Ond gall hyd yn oed brodyr a chwiorydd agos wynebu heriau.
Gall cenfigen, gwrthdaro, neu newidiadau yn y teulu, fel babi newydd, effeithio ar sut mae plant yn ymwneud â'i gilydd. Mae'r dudalen hon yn cynnwys cyngor gan ein Gweithwyr Cymorth i Deuluoedd i'ch helpu i arwain eich plant drwy’r adegau da a drwg yn y berthynas gyda’u brodyr a’u chwiorydd.
Paratoi plentyn ar gyfer babi newydd
Awgrymiadau ar gyfer paratoi eich plant ar gyfer brawd neu chwaer newydd:
- Arhoswch am yr amser iawn i rannu'r newyddion: Efallai y bydd plant ifanc iawn yn cael trafferth deall amser. Gallai rhannu'r newyddion yn rhy gynnar arwain at gwestiynau diddiwedd fel “Ydy'r babi yma eto?”
- Siaradwch yn gadarnhaol ac yn bwyllog: Pan fyddwch chi'n rhannu'r newyddion, dangoswch eich bod chi'n hapus ac yn gyffrous. Byddan nhw’n dilyn eich esiampl chi ac yn teimlo'n dawelach eu meddwl.
- Paratowch ar gyfer y cwestiynau fel, "sut mae’r babi wedi cyrraedd y bol?" Does dim angen yr holl fanylion biolegol ar blant, dim ond esboniad syml sy'n gwneud synnwyr i'w hoedran.
- Defnyddiwch lyfrau stori a chwarae: Gall llyfrau am fod yn frawd neu'n chwaer fawr helpu plant i ddychmygu beth sydd ar y gweill. Siaradwch am y rhan y byddan nhw’n ei chwarae.
- Rhowch dawelwch meddwl iddyn nhw: Efallai y byddan nhw'n poeni am rannu teganau, gofod neu eich sylw. Rhowch wybod iddyn nhw fod digon o gariad i bawb.
Ar ôl i'r babi newydd gyrraedd
Mae'n gyffredin i blant gymryd cam yn ôl ar ôl i frawd neu chwaer newydd gael ei geni, felly efallai y byddan nhw'n gofyn am help gyda phethau roedden nhw'n arfer eu gwneud ar eu pen eu hunain. Dim ond am gyfnod byr y dylai hyn bara.
Dyma ffyrdd da o'u helpu i ymdopi â phryderon neu deimladau o genfigen y gallan nhw fod yn eu profi:
- Eu cynnwys: Gofynnwch iddyn nhw am help gyda thasgau bach sy'n ymwneud â’r babi fel dewis gwisg neu roi clytiau i chi. Gallech hefyd ofyn iddyn nhw enwi unrhyw deganau newydd mae'r babi'n eu cael. Cofiwch eu canmol pan fyddan nhw'n helpu.
- Rheolwch ymwelwyr mewn ffordd ystyriol: Gofynnwch i ffrindiau a theulu gyfarch y plant hŷn yn gyntaf fel nad ydyn nhw'n teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu.
- Daliwch ati i dawelu eu meddwl: Rhowch wybod iddyn nhw eich bod chi yno iddyn nhw os oes ganddyn nhw unrhyw bryderon.
Rhannu sylw rhieni
Mae plant yn teimlo’n llawn cariad ac yn ddiogel pan fyddan nhw’n cael amser arbennig unigol gyda rhieni neu ofalwyr. Gall hyd yn oed ychydig funudau o amser un-i-un bob dydd leihau problemau ymddygiad a gwella eu llesiant emosiynol.
Bob dydd, ceisiwch ddod o hyd i 15 munud i fwynhau amser chwarae dan arweiniad y plentyn gyda phob un o'ch plant. Gadewch i'ch plentyn ddewis gyda beth mae eisiau chwarae a dilyn ei arweiniad. Mae helpu pob plentyn i deimlo fel unig blentyn bob dydd yn ei helpu i deimlo bod rhywun yn gwrando arno ac yn ei garu.
Hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol rhwng brodyr a chwiorydd
Mae dysgu rhannu, cymryd eu tro, a datrys ffrae yn sgiliau bywyd pwysig. Mae perthnasoedd rhwng brodyr a chwiorydd yn allweddol i blant ddatblygu'r rhain.
Pethau i geisio helpu'ch plant i gyd-dynnu:
- Arddangos iaith gadarnhaol: Pan fyddwch chi'n siarad â'ch plant, ceisiwch ddefnyddio'r iaith rydych chi am iddyn nhw ei defnyddio. Er enghraifft, “Ga i chwarae gyda'r car glas plîs?”, “Diolch am adael i mi gael tro”.
- Sylwi a rhoi canmoliaeth benodol: Pan fydd eich plentyn yn ymddwyn yn dda, rhowch wybod iddo beth mae'n ei wneud yn iawn. Er enghraifft, “Roeddet ti’n garedig iawn am rannu'r creons gyda dy chwaer.” Os ydy eich plant yn chwarae'n glên, efallai y byddwch chi am osgoi torri ar draws, ond bydd dweud wrthyn nhw eich bod chi'n hapus drwy roi bawd i fyny, gwenu neu drwy eu canmol a dweud “rydych chi'n chwarae mor dda gyda'ch gilydd” yn eu hannog i wneud hynny eto.
Mae defnyddio digon o ganmoliaeth a disgrifio beth sy'n digwydd pan fyddwch chi'n gweld ymddygiad cadarnhaol yn helpu eich plant i deimlo'n dda amdanyn nhw eu hunain. Mae hefyd yn dysgu eich plant sut i gyfathrebu ac yn rhoi’r sgiliau iddyn nhw chwarae gydag eraill.
Samantha Murray
Barnardo’s Strategic Lead for Health Visiting RN, RM, SCPHN HV
Rheoli gwrthdaro rhwng brodyr a chwiorydd
Gall gwrando ar eu plant yn ffraeo achosi gofid i lawer o rieni. Er y gall hyn fod yn anodd, ceisiwch gofio bod gwrthdaro rhwng brodyr a chwiorydd yn normal, nid eich teulu chi yw'r unig un. Mae'r adegau hyn yn helpu plant i ddysgu am ffiniau, datrys gwahaniaethau a rheoli emosiynau, sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw drwy gydol eu bywydau.
Sut i ddelio â gwrthdaro:
- Peidio â chynhyrfu a bod yn deg: Gosodwch ddisgwyliadau clir a rheoli dadleuon mewn ffordd gyson.
- Creu rheolau'r teulu gyda'ch gilydd: Mae plant yn fwy tebygol o ddilyn rheolau maen nhw'n helpu i'w creu. Dyma enghreifftiau: “Rydyn ni’n siarad yn garedig â'n gilydd.” neu “Rydyn ni’n aros ein tro.”
- Gadael iddyn nhw geisio eu datrys: Rhowch gyfle i blant ddatrys anghydfodau eu hunain. Atgoffwch eich plant o’r rheolau maen nhw wedi'u creu a rhoi amser iddyn nhw ddatrys problemau rhwng ei gilydd. Weithiau, efallai y bydd angen rhywfaint o help arnyn nhw i ddatrys problemau a negodi er mwyn sicrhau nad yw dadleuon yn troi'n frwydr gorfforol.
- Pennu canlyniadau clir: Os bydd y gwrthdaro'n gwaethygu, defnyddiwch ganlyniadau y cytunwyd arnyn nhw, er enghraifft diffodd y teledu os nad ydyn nhw'n gallu cytuno ar beth i'w wylio.
- Peidiwch â chynhyrfu a cheisiwch osgoi gweiddi neu wneud bygythiadau na fyddech efallai eisiau gweithredu arnyn nhw, fel canslo digwyddiad arbennig.
Dydy brodyr a chwiorydd ddim bob amser yn cyd-dynnu - ac mae hynny'n iawn. Yr hyn sydd bwysicaf yw sut rydych chi'n eu cefnogi i gyfathrebu, datrys problemau, a theimlo'n ddiogel yn eu perthynas â chi a gyda’i gilydd.
Angen rhywfaint o gefnogaeth i helpu brodyr a chwiorydd i gyd-dynnu?

Datblygu ymennydd iach
P’un a yw eich plentyn yn fabi neu yn ei arddegau, gallwch helpu ei ymennydd i ddatblygu a gweithredu ar ei orau. Rydyn ni wedi ymuno â KCA, arbenigwyr niwrowyddoniaeth, i rannu dull syml ac effeithiol y gallwch ddechrau ei ddefnyddio heddiw.

Meithrin perthnasoedd teuluol iachach
Mae gan bobl ffyrdd, safbwyntiau ac emosiynau gwahanol o ran delio â straen, felly mae’n naturiol bod anghytuno’n digwydd. Yr hyn sydd bwysicaf yw sut mae’r gwrthdrawiadau hyn yn cael eu rheoli. Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw gwrthdaro rhwng rhieni, beth sy’n ei achosi, a sut i’w leihau yn eich teulu.

Ehangu eich teulu drwy fabwysiadu neu faethu
Mae pob teulu’n wahanol, ac mae sawl ffordd o agor eich cartref a’ch calon i blentyn. Os ydych chi’n chwilfrydig am yr hyn sy’n gysylltiedig â maethu a mabwysiadu, byddem wrth ein bodd yn eich helpu i ddeall y posibiliadau heb bwysau.
Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028.