Dwy fenyw yn eistedd wrth fwrdd cegin bren gyda mygiau, yn cael sgwrs. Mae un yn bwydo babi ar y fron wrth eistedd wrth ymyl oergell, ac mae'r llall yn eistedd ar draws y bwrdd gyda diod yn ei llaw. Mae'r olygfa'n awgrymu amgylchedd hamddenol a chefnogol. 

Cael dannedd a gofalu am ddannedd: gofalu am ddannedd cyntaf eich babi

Bydd gofalu am ddannedd eich babi o’r cychwyn cyntaf yn ei helpu i gael dannedd iach am byth. Mae Una Monaghan BDS MSc, Cynghorydd Iechyd y Geg Barnardo’s, yn rhannu awgrymiadau arbenigol ar sut i ofalu am ddannedd eich plentyn wrth iddo dyfu. 

Mae dannedd cyntaf eich babi yn eithriadol o bwysig, maen nhw’n ei helpu i fwyta, siarad a gwenu’n hyderus.  

Rydyn ni’n gwybod nad yw bob amser yn hawdd cael plant ifanc i frwsio eu dannedd. Mae llawer o rieni’n wynebu brwydrau dyddiol adeg brwsio. Mae’n demtasiwn meddwl nad yw dannedd babi mor bwysig â hynny gan y byddan nhw’n disgyn allan yn y pen draw. Ond gall datblygu problemau deintyddol yn ystod plentyndod cynnar arwain at boen, trafferth bwyta a siarad, hunan-barch isel ac, mewn rhai achosion, heintiau a cholli ysgol. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i blant fynd i’r ysbyty i gael tynnu eu dannedd. 

Felly mae meithrin arferion deintyddol iach o’r dechrau wir yn bwysig. Gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr. Mae gan Una gyngor defnyddiol i’ch helpu i ofalu am ddannedd eich plentyn a dechrau arferion a fydd yn para am oes. 

Cael dannedd: Beth i’w ddisgwyl a sut i helpu 

Bydd babis fel arfer yn dechrau cael dannedd pan fyddan nhw’n tua chwe mis oed, ond gall ddigwydd ychydig yn gynt neu’n hwyrach na hynny. Weithiau, gall dannedd ddod i’r golwg heb unrhyw boen na gofid ond mae’n fwy cyffredin i fabis ddangos arwyddion o anghysur, fel deintgig poenus neu lafoerio mwy.  

  • Cnoi eu bysedd neu deganau. 

  • Deitgig coch, chwyddedig neu boenus. 

  • Bochau coch neu wingo. 

Gallwch roi cynnig ar ddefnyddio’r canlynol i leddfu deintgig poenus: 

  • Modrwy dannedd o’r oergell (nid o’r rhewgell). 

  • Llysiau neu ffrwythau meddal (i fabis sydd wedi dechrau diddyfnu [link to page]), ond gwnewch yn siŵr eich bod yn gwylio eich babi yn ofalus i osgoi tagu. 

Ceisiwch osgoi rhoi ‘rusks’ neu fwydydd llawn siwgr i fabis sy’n cael dannedd, hyd yn oed os mai dim ond ychydig o ddannedd sydd ganddynt, oherwydd gall y rhain gynyddu’r risg o bydredd dannedd.  

Prin yw’r dystiolaeth bod gel dannedd, gleiniau ambr, neu bowdr homeopathig yn lleddfu anghysur. Mae rhai geliau torri dannedd yn cynnwys anesthetig lleol ysgafn, felly os ydych chi’n ystyried defnyddio un, holwch fferyllydd i wneud yn siŵr ei fod yn briodol ac yn ddiogel.  

Os yw eich babi yn edrych fel ei fod mewn poen, gallwch ddefnyddio poenladdwyr di-siwgr (fel parasetamol neu ibuprofen) o dri mis oed ymlaen. Dylech bob amser ddilyn y cyfarwyddiadau o ran faint o ffisig i’w roi. 

Brwsio dannedd babi: Canllaw cam wrth gam 

Dechreuwch frwsio cyn gynted ag y bydd dant cyntaf eich plentyn yn ymddangos. Wrth i’ch plentyn dyfu, bydd hi’n haws cynnal arferion rydych chi wedi’u dechrau’n gynnar. 

Dilynwch y camau hyn: 

  • Defnyddiwch rhwbiad (maint gronyn o reis) o bast dannedd ar gyfer plant dan dair oed.  

  • Dylai'r past dannedd rydych chi'n ei ddefnyddio gynnwys o leiaf 1,000ppm (rhannau fesul miliwn) o fflworid. Mae’r wybodaeth hon i’w gweld ar gefn y past dannedd. 

  • Brwsiwch ddwywaith y dydd, am ddau funud bob tro yn ddelfrydol. Dylech frwsio dannedd eich plentyn y peth diwethaf cyn mynd i’r gwely yn ogystal ag un tro arall yn ystod y dydd. Mae amser bath yn amser da i frwsio dannedd babis. Pan fyddwch wedi gorffen brwsio, gadewch i’ch babi afael yn y brwsh er mwyn iddo ddechrau dod i arfer â’i roi yn ei geg ei hun. Dylech ei oruchwylio bob amser wrth wneud hyn. 

  • Arhoswch o leiaf 30 munud ar ôl bwyta cyn brwsio i ddiogelu’r enamel. 

  • Defnyddiwch frwsh dannedd bach i fabis. Newidiwch ei frwsh dannedd bob tri mis, neu’n gynt os yw wedi gwisgo

Dod o hyd i ddeintydd 

Os nad oes deintydd GIG gyda chi, a’ch bod yn byw: 

  • yng Nghymru, mae gwefan 111 yn cynnwys rhestr o ddeintyddion.
  • yn Lloegr, gallwch chwilio ar wefan y GIG am ddeintydd. Fel arall, ffoniwch Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid NHS England ar 0300 311 2233. Bydd y rhif hwn yn eich arwain at ymholiadau cyffredinol, a fydd yn gallu eich helpu. 
  • yng Ngogledd Iwerddon, mae’r wefan Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys rhestr o ddeintyddion. 

  • yn yr Alban, gallwch chwilio ar dudalen NHS Inform Scotland am ddeintydd.

Bwydo babis a gofalu am ddannedd: sut i ddiogelu dannedd eich babi o'r dechrau 

Mae'r hyn y mae eich babi'n ei fwyta a'i yfed yn ystod y blynyddoedd cynnar yn cael effaith fawr ar iechyd ei geg. Gall bwydydd a diodydd llawn siwgr, hyd yn oed siwgr naturiol, achosi pydredd dannedd, yn enwedig gan fod dannedd babis yn fwy agored i niwed. 

P’un ai a ydych chi’n cynnig llaeth, yn dechrau rhoi bwydydd solid, neu'n cyflwyno cwpan, dyma sut i helpu i ddiogelu dannedd eich babi.

Diodydd iach i fabis 

  • O chwe mis ymlaen, dechreuwch gyflwyno eich babi i sipiau o ddŵr mewn cwpan agored yn hytrach na photel neu ficer oherwydd bydd hyn yn helpu i leihau'r risg o bydredd dannedd drwy gyfyngu ar ba mor hir y bydd hylifau'n aros mewn cysylltiad â'u dannedd. 

  • Ceisiwch roi'r gorau i ddefnyddio poteli pan fydd eich babi yn flwydd oed, oherwydd gall defnyddio’r rhain yn rhy hir arwain at bydredd dannedd o’r enw ‘pydredd potel babi’, sef math o bydredd dannedd cynnar. Mae hyn yn digwydd pan mae babis yn yfed diodydd oni bai am ddŵr yn gyson, er enghraifft os byddant yn mynd i’r gwely gyda photel neu’n ei defnyddio fel dwmi.  

  • Cadwch at ddŵr plaen neu laeth rhwng prydau. Dylech chi osgoi sudd ffrwythau, pop, neu unrhyw beth sydd â siwgr ychwanegol. 

  • Peidiwch byth ag ychwanegu siwgr, mêl na surop at ddiodydd eich babi na’u rhoi ar ddymis. Gall hyd yn oed melysyddion naturiol achosi niwed i’r dannedd. 

  • Peidiwch â gadael i’ch babi syrthio i gysgu gyda photel oni bai ei fod yn cynnwys dŵr yn unig. 

Diddyfnu heb bryder 

Pan fyddwch chi'n dechrau rhoi bwydydd solid i'ch babi, mae'n bwysig ceisio osgoi bwydydd sy'n cynnwys siwgr. Byddwch yn ofalus gyda ‘rusks’ i fabis, reis i fabis, a bwydydd wedi’u pecynnu. Mae llawer ohonyn nhw'n cynnwys siwgr rhydd (siwgr wedi’i ychwanegu at fwyd neu ddiod), sy'n gallu niweidio dannedd sy'n datblygu. Cofiwch nad yw label sy'n dweud ‘dim siwgr ychwanegol’ yn golygu nad oes siwgr ynddo. 

Os ydych chi'n rhoi bwyd parod (‘pouches’) i’ch babi, peidiwch â gadael i'ch plentyn sugno’n syth ohono oherwydd gall hyn gynyddu’r risg o bydredd dannedd. Yn hytrach, gwasgwch y bwyd ar lwy iddo ei fwyta.  

Peidiwch â gadael i’ch plentyn fwyta byrbrydau drwy gydol y dydd oherwydd mae dod i gysylltiad â siwgr yn aml yn cynyddu'r risg o bydredd dannedd. 

Drwy gadw prydau a diodydd yn isel mewn siwgr, rydych chi nid yn unig yn helpu datblygiad iach cyffredinol eich babi, rydych chi hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer dannedd cryf a dannedd iach am oes. 

Angen mwy o gymorth i gadw dannedd eich plentyn yn iach? 

  • Mae gan y GIG adnoddau ar sut i ofalu am ddannedd eich babi neu eich plentyn bach. 

  • Os oes angen help arnoch i annog eich plentyn i frwsio ei ddannedd, ma gan Cyw gân Brwsio Dannedd. Mae gan CBeebies fideos a chaneuon sy’n cynnwys cymeriadau fel Hey Dugee, Bing a Maddie a Triggs i helpu i annog eich plentyn i frwsio ei ddannedd. 

Mae bachgen yn ei arddegau sydd yn gwisgo sythwyr dannedd yn gwenu'n eang wrth iddo sefyll o flaen drych ystafell ymolchi. Mae'n gwisgo crys T gwyn plaen ac yn dal brwsh dannedd trydan yn ei law dde. 

Helpu eich plant i ddysgu gofalu am eu dannedd  

Rhwng plentyndod a’u harddegau, mae plant yn mynd drwy newidiadau mawr ac mae hynny’n cynnwys sut maen nhw’n bwyta, yn yfed ac yn gofalu am eu dannedd. Mae gennym gyngor ar sut i roi’r dechrau gorau iddyn nhw er mwyn iddyn nhw gael dannedd iach am oes. 

Golygfa agos, o uwchben, o fam yn cofleidio ei babi wrth iddi ei bwydo â photel.  

Cyflwyno bwydydd solid: Diddyfnu eich babi 

Meddwl am gyflwyno bwydydd solid i’ch babi? P’un ai ydych chi’n dechrau arni neu’n cynllunio ymlaen llaw, mae’n garreg filltir fawr ac mae’n gallu teimlo’n llethol. Mae gan ein harbenigwyr gyngor i’ch helpu chi a’ch plentyn.

Helpu eich plentyn i setlo yn ei flwyddyn gyntaf

Yn ystod y misoedd cynnar, ac weithiau ar ôl hynny, gall faint mae eich babi'n cysgu deimlo fel y peth pwysicaf yn y byd. Mae ein harbenigwyr wedi rhannu adnodd, a gynhyrchwyd ar y cyd â The Lullaby Trust, sy’n rhoi rhywfaint o gyngor ar gwsg eich babi a'ch llesiant chi yn ystod y cyfnod hwn.

Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028. 

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.