Mae tad yn penlinio wrth ymyl sinc ystafell ymolchi, gan helpu plentyn bach sy'n dal brwsh dannedd glas ac yn estyn tuag at y tap. Mae'r plentyn yn chwarae gyda'r brws dannedd ac mae Dad yn gwneud gofalu am ddannedd cyntaf yn brofiad di-straen a hwyliog. 

Bwydo'ch babi â photel

Cariad, dysgu a bondio sy’n bwysig yn y dyddiau cynnar gyda'ch babi. P'un a ydych chi'n defnyddio fformiwla, llaeth wedi'i dynnu o'r fron, neu gymysgedd o'r ddau, mae bwydo â photel yn gyfle i fondio â'ch babi.

Daliwch eich babi'n agos atoch chi, edrychwch i’w lygaid a mwynhewch yr adegau arbennig hyn. Bydd eich babi'n teimlo'n fwyaf diogel pan fydd dim ond un neu ddau o bobl yn cymryd yr awenau wrth fwydo. 

Beth yw bwydo ymatebol â photel?  

Mae bwydo ar-alw neu fwydo ymatebol yn golygu dysgu pa arwyddion mae eich babi’n ei roi pan fydd yn llwglyd a phan fydd wedi cael digon. Yn hytrach na bwydo eich babi yn ôl amserlen, rydych chi'n ceisio ei fwydo pan fydd yn dangos i chi ei fod yn llwglyd.  

Arwyddion bod eich babi eisiau bwyd:  

  • Clecio neu lyfu ei wefusau.  

  • Agor ei geg neu droi ei ben.  

  • Gwingo neu sugno'i ddyrnau.  

Yn aml iawn, mae crïo yn arwydd hwyr fod eisiau bwyd ar fabi. Gall bwydo'n gynharach wneud pethau'n brafiach i'r ddau ohonoch.  

Drwy ymateb i rythmau naturiol eich babi, rydych chi'n ei helpu i wneud y canlynol:  

  • Teimlo'n ddiogel a bod rhywun yn gofalu amdano.  

  • Dysgu sut i reoli ei chwant bwyd ei hun a meithrin arferion bwyta iach o'r diwrnod cyntaf. 

Sut i fwydo'ch babi â photel   

Gall bwydo â photel fod yn brofiad ymlaciol sy’n rhoi cyfle i chi a’ch babi greu bond.  

Dyma sut mae gwneud hyn mewn ffordd ymatebol sy'n cael ei harwain gan y babi: 

  • Daliwch eich babi'n rhannol ar ei eistedd er mwyn iddo allu gweld eich wyneb.  

  • Cyffyrddwch â’i wefus uchaf yn ysgafn â’r deth wrth gynnig y botel iddo.  

  • Cadwch y botel yn llorweddol fel bod y llaeth yn llifo'n araf.  

  • Gadewch iddo oedi a chymryd seibiant, fel ei fod yn gallu rheoli faint mae’n ei gael.  

  • Cadwch lygad am arwyddion ei fod yn llawn (arafu, troi i ffwrdd, neu wthio'r botel i ffwrdd).  

  • Gall teth llif araf helpu drwy wneud i'r llaeth ddod allan yn fwy araf a chyson. 

Does dim angen i chi orffen y botel, gadewch i'ch babi roi syniad i chi faint sydd ei eisiau arno. 

Mae cynhwysion tebyg iawn yn y rhan fwyaf o laeth fformiwla yn y DU felly prynwch yr un sydd ar gael yn hwylus yn eich siopau lleol ac sy'n fforddiadwy.

Gair i gall:  
  • Rhowch gynnig ar newid yr ochr rydych chi'n dal eich babi bob tro rydych chi'n bwydo. Mae'n cefnogi datblygiad llygaid iach ac yn rhoi persbectif newydd iddo bob tro.    

  • Siaradwch â'ch babi; mae'n helpu gyda bondio ac iaith.  

  • Gadewch i’ch babi fwydo yn ôl ei bwysau, er mwyn lleihau'r risg o orfwydo.  

  • Pan fydd eich babi wedi gorffen, daliwch ef i fyny a rhwbio a tharo ei gefn yn ysgafn i helpu i godi unrhyw wynt. 

Bwydo â photel yn ddiogel 

Os ydych chi'n bwydo â photel, mae'n bwysig cadw poteli ac offer yn lân. 

Cofiwch sterileiddio holl offer bwydo eich babi, gan gynnwys poteli a thethi, nes bydd yn 12 mis oed o leiaf. Mae gwybodaeth am sterileiddio poteli babis ar gael ar wefan y GIG.

Diogelwch wrth fwydo â fformiwla 

  • Dylid defnyddio dŵr ffres bob amser wrth ferwi tegell i wneud fformiwla. 

  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r gymhareb gywir o bowdr a dŵr. Peidiwch byth ag ychwanegu mwy o ddŵr neu ychwanegu mwy o bowdr fformiwla i’r botel. Gall gormod o ddŵr olygu nad oes digon o galorïau yn y llaeth i'ch babi. Gall gormod o bowdr fformiwla ei wneud yn rhwym. 

  • Paratowch fwyd ffres bob amser, peidiwch byth â storio llaeth dros ben. 

  • Cofiwch sterileiddio’r holl boteli ac offer cyn bwydo bob amser. 

  • Rhowch ddŵr yn y botel, tra mae'n dal yn boeth, cyn ychwanegu'r powdr. Dylech bob amser ddilyn y cyfarwyddiadau diogelwch ar becyn y fformiwla. 

  • Yr unig laeth fformiwla y mae angen i chi ei brynu yw’r llaeth cyntaf sy'n addas o pan fydd y babi wedi’i eni. Gallwch roi hwn i'ch babi nes bydd yn flwydd oed. 

  • Peidiwch byth ag ailgynhesu fformiwla ac osgowch ddefnyddio microdon i gynhesu dŵr neu laeth, oherwydd y gallai gynhesu'n anghyson ac achosi llosgiadau. 

Peidiwch byth â gadael eich babi ar ei ben ei hun gyda photel na defnyddio rhywbeth i ddal potel i fyny. Gall hyn gynyddu'r risg o dagu. 

Os oes angen mwy o help arnoch â bwydo â photel 

  • Siaradwch â'ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu’ch meddyg - maen nhw yno i'ch helpu chi. 

  • Mae llawer o wybodaeth am fwydo â photel ar wefan y GIG

Mae merch ifanc yn ei harddegau â’i gwallt mewn cynffon yn gwisgo siaced ddu drwchus. Mae hi tu allan, yn sefyll mewn proffil yn erbyn wal wen, ac mae hi’n edrych ymlaen yn bryderus. 

Bwydo ar y Fron 

Mae bwydo ar y fron yn cefnogi iechyd, datblygiad a llesiant emosiynol eich babi, ac yn eich helpu i feithrin perthynas gref. Ond rydyn ni’n gwybod nad yw wastad yn hawdd. Mae gennym ni gyngor i’ch helpu ar eich taith.

Golygfa agos, o uwchben, o fam yn cofleidio ei babi wrth iddi ei bwydo â photel.  

Cyflwyno bwydydd solid: Diddyfnu eich babi 

Meddwl am gyflwyno bwydydd solid i’ch babi? P’un ai ydych chi’n dechrau arni neu’n cynllunio ymlaen llaw, mae’n garreg filltir fawr ac mae’n gallu teimlo’n llethol. Mae gan ein harbenigwyr gyngor i’ch helpu chi a’ch plentyn.

Dwy fenyw yn eistedd wrth fwrdd cegin bren gyda mygiau, yn cael sgwrs. Mae un yn bwydo babi ar y fron wrth eistedd wrth ymyl oergell, ac mae'r llall yn eistedd ar draws y bwrdd gyda diod yn ei llaw. Mae'r olygfa'n awgrymu amgylchedd hamddenol a chefnogol. 

Gofalu am ddannedd cyntaf eich babi

Bydd gofalu am ddannedd eich babi o’r cychwyn cyntaf yn ei helpu i gael dannedd iach am byth. Mae gennym awgrymiadau ar sut i ofalu am ddannedd eich plentyn wrth iddo dyfu.
 

Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028. 

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.