Gall bod allan yn yr awyr agored gynnig cyfle i deuluoedd i gael hwyl - o ddiwrnodau yn y parc i fynd ar daith feics ac anturiaethau ar y traeth yn yr haul. Ond mae cadw eich plentyn yn ddiogel y tu allan i'r cartref yn hanfodol. Drwy gynllunio rhywfaint, gallwch fwynhau pob trip a bod yn dawel eich meddwl.
Ystyriwch yr awgrymiadau syml ac ymarferol hyn i helpu i gadw eich plant yn ddiogel wrth iddyn nhw ddarganfod y byd y tu hwnt i'ch drws ffrynt.
Teithio o gwmpas yn ddiogel gyda phlant
P'un a ydych chi'n cerdded i'r ysgol, yn mynd i'r parc, neu’n mynd am ddiwrnod allan gyda’r teulu, mae gwybod sut i deithio'n ddiogel fel teulu yn hollbwysig.
Cyngor diogelwch ar y ffyrdd i blant
Dydy deall peryglon ar y ffyrdd ddim yn dod yn naturiol i blant - maen nhw’n dysgu drwy eich gwylio chi. Gall dysgu diogelwch ar y ffyrdd o oedran ifanc helpu i feithrin arferion da a all bara am oes.
Cyngor diogelwch ar y ffyrdd i rieni:
-
Daliwch ddwylo phlant ifanc ger traffig.
-
Defnyddiwch fannau croesi diogel fel ynysoedd traffig, croesfannau sebra neu belican neu groesi lle mae hebryngwyr croesfannau ysgol neu berson lolipop.
-
Dylech osgoi pethau sy'n tynnu sylw fel defnyddio ffonau neu glustffonau wrth groesi'r ffordd ac atgoffa plant hŷn i wneud yr un fath.
-
Dangoswch i'r plant beth i'w wneud wrth groesi'r ffordd drwy stopio, edrych a gwrando cyn camu ar y ffordd. Siaradwch am beth rydych chi’n ei wneud wrth i chi wneud hynny.
-
Defnyddiwch rêns cerdded ar gyfer plant bach i helpu i'w cadw'n agos.
-
Gwnewch yn siŵr mai’r plant sydd ar ochr i mewn y palmant, oddi wrth y ffordd.
Diogelwch beiciau, sgwteri ac e-sgwteri
Mae beicio neu sgwtera yn ffordd wych o gadw'n heini a chreu atgofion i'r teulu. Dyma rai awgrymiadau ar gyfer gwneud hynny'n ddiogel:
-
Mae offer diogelwch yn hanfodol. Argymhellir helmedau'n gryf ar gyfer pob oed. Ychwanegwch badiau pen-glin a phenelin a gwisgwch esgidiau â blaenau arnyn nhw er mwyn eich amddiffyn eich hun. Bydd dillad llachar a dillad adlewyrchol yn helpu eich plentyn i gael ei weld.
-
Ceisiwch osgoi ffyrdd prysur a chadwch at ardaloedd diogel fel parciau, lonydd beiciau, neu ffyrdd tawel wrth feicio a mynd ar sgwteri gyda phlant.
-
Cymerwch ran mewn hyfforddiant beicio Bikeability, sef rhaglen am ddim gan y llywodraeth sy'n addysgu sgiliau beicio a diogelwch ar y ffyrdd.
-
Gwiriwch fod brêcs, teiars a fframiau beiciau neu sgwteri yn iawn yn rheolaidd.
Rheolau e-sgwteri
-
Dim ond ar dir preifat (gyda chaniatâd) y gellir defnyddio e-sgwteri personol. Maen nhw’n anghyfreithlon ar ffyrdd cyhoeddus, llwybrau beiciau neu balmentydd.
-
Argymhellir helmedau a dillad sy'n eich gwneud yn weladwy i ddefnyddwyr eraill y ffordd.
-
Mewn rhai ardaloedd, gallwch rentu sgwter trydan drwy gynlluniau rhentu swyddogol. Rhaid i chi gael trwydded yrru dros dro neu lawn i wneud hyn.
Cadwch olwg ar y rheolau e-sgwter diweddaraf.
Diogelwch i fabanod a phlant gyda seddi car
Yn ôl y gyfraith, bydd angen sedd car ar eich plentyn i deithio mewn car nes bydd yn 12 oed neu’n 135 centimetr o daldra, pa un bynnag sy'n dod gyntaf.
Ar ôl i’ch babi gael ei eni, bydd angen iddo ddefnyddio sedd car sy'n wynebu'r cefn, sy'n amddiffyn pen, gwddf ac asgwrn cefn eich babi yn well. Wrth iddo dyfu, gallwch ei symud i sedd sy'n wynebu'r blaen. Gall dewis y sedd car briodol i blentyn deimlo'n ddryslyd, ond mae'n rhan hollbwysig o gadw eich plentyn bach yn ddiogel ar y ffordd.
-
Mae gan yr Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau ymhlith Plant wybodaeth ddefnyddiol am ddiogelwch seddi car plant hefyd
-
Mae gan RoSPA (y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau) ganllawiau a rhestrau gwirio i'w defnyddio wrth ddewis sedd car
Diogelwch i blant a theuluoedd mewn tywydd cynnes
Mae diwrnod yn yr awyr agored yn gwneud lles i bawb ond gall gormod o haul neu wres fod yn niweidiol. Mae diogelwch yn yr haul yn arbennig o bwysig rhwng mis Mawrth a mis Hydref, yn enwedig rhwng 11am a 3pm pan fydd yr haul ar ei gryfaf.
Sut i gadw'ch plentyn yn ddiogel yn yr haul
-
Defnyddiwch eli haul SPF 30+ ar eich plentyn a rhowch fwy o eli bob 2 awr, yn enwedig ar ôl nofio neu chwysu. Darllenwch ganllawiau’r GIG ar eli haul i gael rhagor o gyngor.
-
Rhowch ddillad ysgafn â llewys hir a hetiau llydan am blant.
-
Prynwch sbectol haul sy'n cynnig 100% o amddiffyniad rhag pelydrau UV i amddiffyn llygaid ifanc. Os yw'n bosibl, gadewch i'ch plentyn ei dewis er mwyn iddo fod eisiau ei gwisgo.
-
Yn ystod yr oriau pan fydd yr haul ar ei gryfaf (11am i 3pm), ceisiwch aros yn y cysgod gymaint â phosibl. Defnyddiwch gysgod haul neu barasol ar gadair wthio eich babi. Dylech osgoi defnyddio blanced i orchuddio'r pram, gan y gallai ddal y gwres y tu mewn ac arwain at orboethi.
Rhowch ddigon o ddŵr i blant mewn tywydd poeth
-
Cynigiwch ddŵr yn aml a chynnig byrbrydau sy’n cynnwys dŵr fel melon dŵr a chiwcymbr.
-
Dylai babanod barhau i gael llaeth y fron neu fformiwla. Os yw eich babi yn cael fformiwla neu fwydydd solid, gallwch gynnig sipiau bach o ddŵr ychwanegol iddo.
Gall diffyg hylif ddigwydd pan fydd eich corff yn colli mwy o hylif na’r hyn rydych yn ei gael. Os na chaiff ei drin, gall waethygu a dod yn broblem ddifrifol. Mae gan y GIG ganllawiau ar adnabod arwyddion diffyg hylif.
Diogelwch dŵr yn yr awyr agored
Mae plant wrth eu bodd yn chwarae mewn dŵr, ond gall hyd yn oed dyfnderoedd bas fod yn beryglus. Mae’n hollbwysig eu goruchwylio, y tu mewn a’r tu allan.
- Os ydych chi wrth ymyl dŵr agored, fel traethau neu lynnoedd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyfarwydd ag amodau'r dŵr, gan gynnwys cerrynt, llanw a pheryglon posibl, cyn mynd i mewn. Cadwch at ardaloedd nofio dynodedig gan ufuddhau i arwyddion rhybudd.
- Edrychwch ar ragolygon y tywydd a bod yn ymwybodol o amodau sy'n newid.
- Sefydlwch reolau teuluol ar gyfer diogelwch dŵr, gan gynnwys peidio â rhedeg wrth ymyl pyllau, dim plymio mewn dŵr bas, a gofyn am ganiatâd bob amser cyn mynd i mewn i ddŵr.
- Golchwch eich dwylo ar ôl chwarae yn y dŵr a chyn bwyta er mwyn atal salwch fel dolur rhydd a chwydu.
- Gwiriwch ansawdd y dŵr cyn mynd i mewn
Diogelwch i deuluoedd gyda thân gwyllt
Gall tân gwyllt fod yn hudolus i blant, ond maen nhw hefyd yn achosi peryglon difrifol. Yn aml, mae'n fwy diogel mynd i arddangosfeydd proffesiynol. Ond os ydych chi'n cynnal eich arddangosfa tân gwyllt eich hun, cymerwch ofal arbennig.
Awgrymiadau ar gyfer cadw eich hun a'ch plant yn ddiogel o gwmpas tân gwyllt a ffyn gwreichion:
- Ddylai plant dan bump oed ddim defnyddio ffyn gwreichion. Os yw eich plentyn dros bump oed yn defnyddio ffyn gwreichion, gwnewch yn siŵr ei fod yn gwisgo menig a’ch bod yn ei oruchwylio bob amser. Gwnewch yn siŵr ei fod yn eu cadw ar bellter diogel oddi wrth ei wyneb a'i gorff, ac oddi wrth eraill.
- Defnyddiwch un ffon wreichion ar y tro a rhowch ffyn gwreichion wedi'u defnyddio mewn bwced o ddŵr oer neu dywod.
- Gwnewch yn siŵr bod plant yn cadw pellter da oddi wrth goelcerthi a lle mae tân gwyllt yn cael ei danio er mwyn osgoi cael eu llosgi gan golsion.
- Gwisgwch ddillad anfflamadwy heb fod yn llac a chlymwch wallt hir yn ôl.
- Os bydd dillad yn mynd ar dân, cofiwch stopio, disgyn a rowlio a gwnewch yn siŵr bod rhywun wedi ffonio 999 i gael cymorth meddygol.
Os bydd rhywun yn llosgi â thân gwyllt:
- Oerwch y llosg o dan ddŵr lled-oer, ond ddim yn oer iawn, sy’n llifo am o leiaf deg munud.
- Gofynnwch i rywun ffonio 999 i ofyn am gymorth meddygol.
- Tynnwch unrhyw emwaith neu ddillad sy’n agos at y llosg, oni bai eu bod yn sownd wrth y llosg.
- Codwch goesau’r claf, os yw'n bosibl, i atal sioc

Plant y mae cam-drin domestig wedi effeithio arnynt
Mae cam-drin domestig yn gallu cael effaith ddinistriol ar deuluoedd. Os ydych chi’n meddwl bod cam-drin domestig yn effeithio ar blentyn, mae camau y gallwch eu cymryd i’w helpu i deimlo’n ddiogel a’i fod yn cael ei gefnogi, ac mae gwasanaethau a all eich arwain drwy’r camau nesaf.

Gwarchod eich plentyn rhag damweiniau
Rydyn ni’n gwybod nad yw’n beth braf i feddwl amdano, ond mae damweiniau’n digwydd yn y cartref, ac maen nhw’n gallu bod yn dorcalonnus pan maen nhw’n digwydd. Drwy gymryd camau syml, gallwch leihau’r risgiau a chreu amgylchedd mwy diogel i’ch plentyn.

Hunan-niweidio: yr hyn y mae angen i rieni a gofalwyr ei wybod
Os yw eich plentyn yn hunan-niweidio, neu os ydych chi’n poeni y gallai fod yn hunan-niweidio, mae’n gwbl naturiol teimlo’n ofnus, yn ypset neu’n ansicr ynghylch beth i'w wneud. Mae gennym gyngor ar arwyddion rhybudd y dylech gadw llygad amdanynt, sut gallwch chi gefnogi rhywun, a ble i ddod o hyd i gymorth proffesiynol.
Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028.