Os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallwch ymuno â ni yn un o’n sesiynau am ddim i gael arweiniad ac awgrymiadau ar sut i wneud y gwaith o ofalu am eich teulu ychydig yn haws.
Mae gwybodaeth ac arweiniad i’ch helpu chi ar gael yn ein Gofod Teulu. Os ydych chi’n byw yng Nghymru, ac eisiau cymorth mwy cynhwysfawr, cymerwch olwg ar y cyrsiau a’r gweithdai rydym ni’n eu cynnig isod.
Hoffem ddiolch i Sefydliad Moondance am y cyllid sydd wedi ein galluogi i ddatblygu’r gwasanaeth digidol cwbl ddwyieithog hwn.
Archebwch eich lle ar un o'n gweithdai am ddim
Gweld rhestr o weithdaiOes gennych gwestiynau am y gweithdai?
Pryd mae’r gweithdai’n cael eu cynnal?
Mae’r gweithdai’n cael eu cynnal yn ystod y dydd, gyda’r nos ac ar benwythnosau, felly gobeithiwn y gallwch ddod o hyd i un ar adeg sy’n gweithio i chi. Dewch o hyd i’r gweithdy sydd o ddiddordeb i chi, ac yna cliciwch arno i weld y dyddiau a’r amseroedd y mae’n rhedeg.
Pryd mae’r gweithdai’n cael eu cynnal?
Mae’r gweithdai i gyd yn cael eu cynnal ar-lein, felly gallwch gymryd rhan o ble bynnag yr ydych. Byddant yn cael eu cynnal drwy Microsoft Teams, a gallwch eu cyrchu ar ffôn symudol, tabled, cyfrifiadur personol neu liniadur.
Alla i gofrestru ar fwy nag un gweithdy?
Ie, gallwch! Os ydych chi eisiau cymorth mewn mwy nag un maes, fel cysgu a hyfforddiant poti, mae croeso i chi gymryd rhan yn y ddau weithdy.
Dydw i ddim yn byw yng Nghymru. Alla i dal i gymryd rhan mewn gweithdy?
Mae’n ddrwg gennym, ond dim ond i bobl sy’n byw yng Nghymru y mae’r sesiynau hyn ar gael. Os ydych yn byw rhywle arall yn y DU ac yn chwilio am gymorth, mae llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar gael yn ein Gofod Teulu. Neu gallwch ddefnyddio ein chwiliwr gwasanaethau i weld pa gymorth sydd ar gael yn eich ardal.
Sut ydw i'n ymuno â'r gweithdai ar-lein?
Pan fyddwch chi’n cofrestru, byddwn yn anfon e-bost atoch chi gyda dolen Microsoft Teams. Does dim angen cyfrif Microsoft Teams arnoch chi i ymuno â'n gweithdai dim ond clicio ar y ddolen.
Dilynwch y camau hyn i ddechrau:
Ymuno ar Ffôn Symudol neu Dabled
- Tapiwch y ddolen i’r gweithdy yn eich e-bost.
- Y tro cyntaf y byddwch yn ymuno, gofynnir i chi lawrlwytho ap Microsoft Teams am ddim o’ch App Store (Apple) neu Google Play (Android).
- Ar ôl i’r ap gael ei osod, tapiwch y ddolen yn eich e-bost eto a bydd yn agor yn ap Teams.
- Dewiswch “Ymuno fel gwestai.”
- Teipiwch eich enw, ac yna pwyswch “Ymuno â’r cyfarfod.”
Ymuno ar PC neu Liniadur
- Cliciwch ar y ddolen i’r gweithdy yn eich e-bost.
- Bydd ffenestr porwr newydd yn agor. Dewiswch “Parhau ar y porwr hwn” (nid oes angen lawrlwytho dim).
- Os yw’n well gennych, gallwch hefyd lawrlwytho ac agor yr ap Microsoft Teams am ddim.
- Caniatewch i’ch porwr ddefnyddio’ch camera a’ch meicroffon os gofynnir i chi wneud hynny.
- Teipiwch eich enw a chliciwch “Ymuno nawr”.
Awgrymiadau Defnyddiol
- Ceisiwch ymuno ychydig funudau’n gynnar y tro cyntaf, fel y gallwch wirio bod y sain a’r fideo’n gweithio.
- Os yn bosibl, sicrhewch eich bod mewn man tawel.
Os oes gennych unrhyw broblemau, cysylltwch â'n tîm Gofod Rhithiol Teulu Cymru.
Am gymorth ychwanegol, gallwch hefyd ymweld â chanllaw cam wrth gam Microsoft:
Ymuno â chyfarfod heb gyfrif Microsoft Teams. Mae’r canllaw hwn ar gael yn Saesneg yn unig.
Gyda phwy alla i gysylltu os oes gen i gwestiynau?
Os oes angen cymorth neu ragor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’n tîm cyfeillgar Gofod Rhithiol Teulu Cymru.
P'un a ydych chi'n gofalu am fabi neu'n blentyn yn ei arddegau, fe welwch chi lawer o erthyglau a gwybodaeth i'ch helpu yn ein Gofod Teuluol.

O blant bach i bobl ifanc yn eu harddegau: sut gallwch chi annog noson dda o gwsg
Mae cael digon o gwsg yn hanfodol i iechyd, hwyliau a datblygiad eich plentyn, p’un a yw’n blentyn bach neu’n berson ifanc yn ei arddegau. Mae pob plentyn yn wahanol, ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich plentyn (a chithau!) i gysgu’n well.

Annog eich plentyn i fod yn agored am ei deimladau, ei ddiogelwch a’i lesiant
Os ydych chi eisiau gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn, neu os oes gennych bryder mwy difrifol, mae gennym ni bum awgrym sy’n cael eu cefnogi gan arbenigwyr i’ch helpu i feithrin ymddiriedaeth, hyder a chysylltiad drwy sgyrsiau bob dydd.

Cefnogaeth a chyngor defnyddiol i fod y Tad gorau posibl
P’un a yw eich plentyn yn eich galw chi’n Dad neu’n Dadi, dim beth mae’n eich galw chi sy’n bwysig, ond y berthynas rydych chi'n ei meithrin â’ch plentyn. Mae gennym gyngor i’ch arwain a’ch cefnogi i fod y tad gorau y gallwch fod.