Mae bachgen yn ei arddegau sydd â mwstas tenau yn gwisgo hwdi ac mae'n cario bag dyffl du mawr a bag cefn. Mae’n cerdded i lawr grisiau gorsaf drenau, gan edrych yn bryderus.   

Arwyddion o orbryder mewn plant a phobl ifanc: eu deall a'u cefnogi

Mae'n anodd gwylio eich plentyn yn dioddef â gorbryder. Efallai ei fod yn nerfus am yr ysgol, ffrindiau, neu rywbeth nad yw’n gallu ei enwi’n iawn, a’ch bod chithau’n pendroni beth yw'r ffordd orau o'i helpu a phryd y dylech chi ofyn am ragor o help. 

Mae'r dudalen hon yn rhannu cyngor i'ch helpu i ddeall sut beth yw gorbryder ymysg plant a phobl ifanc, beth all gyfrannu ato, sut i gefnogi eich plentyn, ble i droi am gymorth proffesiynol a pha bryd i wneud hynny. 

Ar y dudalen hon mae ein harbenigwyr yn rhannu gwybodaeth am  

  • Beth yw gorbryder a beth sy'n ei achosi. 
  • Arwyddion a symptomau cyffredin gorbryder ymysg plant a phobl ifanc yn eu harddegau. 
  • Ffyrdd ymarferol o'u helpu a'u cefnogi. 

Jump to:

AnchorBeth yw gorbryder?

Mae gorbryder yn ymateb emosiynol naturiol pan fyddwch chi'n teimlo dan fygythiad, yn bryderus neu dan bwysau. Mae pawb yn ei brofi o bryd i'w gilydd. Weithiau gall deimlo fel ei fod yn dod allan o unman, heb unrhyw beth amlwg yn ei sbarduno.  

Mae gorbryder yn ymateb normal i straen neu rywbeth sy’n ymddangos yn beryglus, ac mae’n rhywbeth mae ein cyrff wedi’i ddatblygu i helpu i'n cadw'n ddiogel. Pan fyddwn ni'n orbryderus, mae'n ysgogi system ymladd neu ffoi'r corff - gan ryddhau adrenalin, gwneud i’n calon guro’n gyflymach, ac ailgyfeirio gwaed i gyhyrau. Gall hyn achosi symptomau corfforol fel cyfog (pan fyddwch chi'n teimlo eich bod yn mynd i chwydu) neu galon sy'n curo'n gyflym. Roedd hyn yn helpu ein hynafiaid i ymateb yn gyflym i beryglon, fel dod wyneb yn wyneb ag anifail gwyllt. Ond all yr ymennydd ddim bob amser ddweud y gwahaniaeth rhwng bygythiadau corfforol a'r heriau bob dydd y gallem fod yn eu hwynebu heddiw, fel straen yn yr ysgol neu bryderon cymdeithasol. Dyna pam mae gorbryder yn gallu teimlo mor ddwys, hyd yn oed pan fyddwn ni ddim mewn perygl go iawn.

Dyna pam mae gorbryder yn gallu teimlo mor llethol. Dim rhywbeth 'yn y meddwl' yn unig yw gorbryder, mae eich corff cyfan yn ei brofi.

I blant a phobl ifanc, mae gorbryder yn dod yn bryder pan fydd yn dechrau ymyrryd â bywyd bob dydd - fel osgoi’r ysgol, ffrindiau neu weithgareddau maen nhw’n eu mwynhau. Ar yr adeg yma, mae'n bwysig gofyn am gymorth. 

Y newyddion da yw, gyda dealltwriaeth ac ymarfer, gallwch chi a'ch plant ddysgu adnabod yr arwyddion corfforol hyn ac ymateb mewn ffyrdd mwy defnyddiol. Dros amser, mae hyn yn helpu i ailhyfforddi eu hymennydd a'u corff i reoli straen yn fwy pwyllog a hyderus. 

Beth sy'n achosi gorbryder?

Mae gorbryder yn fwy tebygol o ddigwydd ar adegau o drawsnewid, a gall hefyd fod yn gysylltiedig â phethau fel: 

  • Perthynas â ffrindiau, teulu, cyd-ddisgyblion neu gyfoedion. 
  • Pwysau yn yr ysgol, arholiadau neu ddisgwyliadau academaidd. 
  • Newidiadau i'r corff, ymddangosiad, iechyd corfforol neu eu rhywedd neu hunaniaeth rywiol.
  • Bwlio neu gam-drin. 
  • Newidiadau mawr, galar, colled neu brofiadau trawmatig. 
  • Cymharu ar y cyfryngau cymdeithasol ac ofni cael eu barnu.  

Ond mae'n gallu bod yn fwy cyffredinol, ac weithiau mae'n anodd nodi rhywbeth penodol sy'n ei achosi.  

Pan fydd gorbryder yn dilyn digwyddiad anodd neu drawmatig  

Weithiau, gall symptomau gorbryder ddechrau ar ôl i blentyn brofi neu fod yn dyst i rywbeth trallodus fel damwain, bwlio, anaf difrifol, profedigaeth, neu ddigwyddiad arall lle'r oedd yn teimlo'n ofnus neu'n anniogel. Yn y sefyllfaoedd hyn, mae'n ddefnyddiol deall bod yr ymennydd a'r corff yn ymateb i drawma, a bod hyn yn rhan normal o brosesu profiad brawychus. 

I lawer o blant a phobl ifanc, bydd y symptomau hyn yn setlo'n raddol dros amser wrth iddyn nhw wella. Fodd bynnag, os yw'r effeithiau'n parhau ar ôl ychydig fisoedd, neu os ydyn nhw’n cael effaith sylweddol ar fywyd bob dydd, efallai y byddai'n ddefnyddiol siarad â gweithiwr proffesiynol i gael rhagor o gymorth.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi, mae gan yr elusen Young Minds wybodaeth a chyngor os yw eich plentyn yn cael pethau’n anodd ar ôl dioddef trawma.

Mae gan UK Trauma Council wybodaeth am drawma yn ystod plentyndod ac anhwylder straen wedi trawma (PTSD). 

Arwyddion a symptomau gorbryder ymysg plant a phobl ifanc yn eu harddegau

Mae gorbryder yn edrych yn wahanol yn dibynnu ar oedran a phersonoliaeth. Dydy gorbryder ddim bob amser yn edrych fel pryder. Mae’r arwyddion ymysg plant a phobl ifanc yn eu harddegau yn aml yn cynnwys newidiadau mewn ymddygiad, hwyliau neu gwsg. 

Arwyddion o orbryder yn ôl oedran 

Mae pob plentyn yn wahanol. Er bod oedran yn gallu rhoi syniad bras o sut beth yw gorbryder yn eich plentyn, cofiwch mai canllawiau i’ch helpu sydd yma, dim llinell amser gaeth. I blant a phobl ifanc o bob oed, gall osgoi fod yn arwydd allweddol eu bod yn teimlo'n orbryderus, os ydyn nhw'n dechrau osgoi sefyllfaoedd, pobl neu leoedd penodol oherwydd eu bod yn achosi pryder neu anesmwythder.  

Er bod osgoi yn gallu bod yn arwydd bod plentyn neu berson ifanc yn teimlo'n orbryderus, gall hefyd fod yn rhan o ddatblygiad arferol, fel swildod mewn plant iau neu sensitifrwydd cymdeithasol ymysg pobl ifanc yn eu harddegau. Mewn rhai achosion, gall normau a disgwyliadau diwylliannol ynghylch cyfathrebu, annibyniaeth neu ymddygiad cymdeithasol hefyd effeithio ar sut mae plentyn yn ymateb i sefyllfaoedd penodol, a gellir camddehongli hyn fel gorbryder. 

Pan fydd plentyn ifanc yn teimlo'n orbryderus, efallai na fydd yn gallu deall na defnyddio geiriau i esbonio sut mae'n teimlo. Yn hytrach, efallai y bydd yn gwneud y canlynol:  

  • Bod yn ddagreuol, yn anfodlon, yn bigog neu'n ofnus. 
  • Cael trafferth cysgu neu ddeffro yn y nos.   
  • Dechrau gwlychu'r gwely neu gael breuddwydion drwg yn aml. 
  • Gwrthod mynd i lefydd sy'n ei wneud yn orbryderus fel yr ysgol neu bartïon. 

Gall plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau hefyd:   

  • Ymddangos yn nerfus, yn aflonydd neu ar bigau'r drain drwy'r amser.   
  • Cael llawer o feddyliau negyddol neu bryderon “beth os...”, gan gredu bod pethau ofnadwy'n mynd i ddigwydd.  
  • Cysgu’n wael neu gael trafferth ymlacio a theimlo'n flinedig. 
  • Ei chael hi’n anodd canolbwyntio.   
  • Bod yn flin ac yn bigog.   
  • Cael cur pen, poen bol, pendro neu symptomau corfforol eraill. 
  • Osgoi ffrindiau, teulu neu sefyllfaoedd cymdeithasol.   
  • Bod yn feirniadol ohonyn nhw eu hunain, dod yn berffeithwyr neu ofni gwneud camgymeriadau. 
  • Colli chwant bwyd neu orfwyta. 
  • Gweld dirywiad mewn perfformiad academaidd neu wrthod mynd i'r ysgol. 
  • Defnyddio gormod o amser o flaen sgrin fel strategaeth ymdopi. 

Weithiau gall gorbryder ddod i’r amlwg drwy ymddygiad, er enghraifft, dicter, newid mewn hwyliau, neu ymddangos fel pe bai’n ddatgysylltiedig. Chi, fel rhiant neu ofalwr, fydd yn aml yn gwybod a yw eich plentyn yn ymddangos yn wahanol. Dilynwch eich greddf. 

Ond os nad ydych chi'n sylwi ar arwyddion o orbryder ar unwaith a bod rhywun arall, fel ffrind neu athro, yn codi pryderon - efallai oherwydd pethau fel osgoi mynd i'r ysgol neu newidiadau mewn ymddygiad - peidiwch â bod yn galed arnoch chi eich hun. Mae plant a phobl ifanc yn aml yn gwneud ymdrech fawr i guddio sut maen nhw’n teimlo, hyd yn oed oddi wrth y rhai sydd agosaf atyn nhw. Os nad yw eich plentyn wedi rhannu ei bryderon â chi'n uniongyrchol, dydy hynny ddim o reidrwydd yn adlewyrchiad o'ch perthynas. Yn wir, weithiau gall fod yn arwydd ei fod yn datblygu annibyniaeth ac yn ceisio rheoli pethau ar ei ben ei hun, hyd yn oed os daw'n amlwg y gallai wneud â rhywfaint o gymorth. 

Os bydd hyn yn digwydd, efallai mai eich greddf gyntaf fydd gofyn pam na ddaeth atoch chi, ond ceisiwch ymateb gyda chwilfrydedd, dim beirniadaeth. Yn hytrach na chanolbwyntio ar pam na wnaeth ddweud wrthych chi'n gynt, canolbwyntiwch ar sut gallwch chi ei gefnogi nawr. 

Beth yw pyliau o banig ac a ydyn nhw’n gysylltiedig â gorbryder?   

Mae pwl o banig yn rhuthr dwys o ofn neu orbryder.  

Mae cysylltiad agos rhwng gorbryder a phyliau o banig. Gall gorbryder parhaus weithiau ddatblygu ac arwain at bwl o banig. Fodd bynnag, fydd pawb sydd â gorbryder ddim yn cael pyliau o banig, a does gan bawb sy'n cael pwl o banig ddim anhwylder gorbryder. Mae rhai pobl yn profi pwl o banig annisgwyl, er enghraifft ar adegau o straen eithafol, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n teimlo'n orbryderus fel arfer. 

Mae pwl o banig yn rhuthr dwys o ofn neu orbryder. Dydyn nhw ddim yn para'n hir - rhwng pum munud a hanner awr fel arfer. Maen nhw’n gallu bod yn frawychus iawn i'w profi, ond dydyn nhw ddim yn beryglus ac ni ddylen nhw eich niweidio chi.  

Maen nhw’n gallu cynnwys un neu fwy o’r symptomau canlynol: 

  • Y galon yn curo’n gyflym neu grychguriadau (palpitations). 
  • Chwysu, crynu neu ysgwyd. 
  • Diffyg anadl neu deimladau o dagu. 
  • Pendro neu deimlo'n benysgafn. 
  • Diffyg teimlad yn y dwylo neu’r traed neu eu bod yn cosi. 
  • Pyliau o deimlo’n boeth ac yn oer. 
  • Ofn marw neu golli rheolaeth. 
  • Teimlo'n afreal, yn ddatgysylltiedig o'r hyn sydd o gwmpas. 

Gall pwl o banig fod yn brofiad trallodus iawn, yn enwedig os nad yw'r person yn sylweddoli bod ei symptomau o ganlyniad i orbryder. Rhowch wybod i'ch plentyn ei fod yn ddiogel a bod help ar gael. 

Mae gwybodaeth am orbryder, ofn a phanig ar gael ar wefan y GIG.

AnchorSut mae helpu plentyn neu berson ifanc yn ei arddegau â gorbryder?

Gall cefnogaeth gan rieni, gofalwyr ac oedolion eraill y gellir ymddiried ynddyn nhw, yn ogystal â chyfoedion, wneud gwahaniaeth enfawr. Mae pawb yn wahanol, a does dim un dull sy'n addas i bawb o reoli gorbryder. Rhowch gynnig ar wahanol strategaethau gyda'ch gilydd ac anogwch eich plentyn i ystyried beth sy'n teimlo fwyaf defnyddiol a beth sy'n gweithio orau iddo. 

Dyma rai ffyrdd ymarferol y gallwch chi helpu: 

  1. Creu amgylchedd cefnogol: Rhowch wybod iddo ei bod hi'n iawn teimlo'n orbryderus, a'ch bod chi yno i wrando heb farnu. Mae dweud pethau fel, “Rydw i yma i dy helpu di i weithio drwy hyn, pryd bynnag rwyt ti'n barod” yn gallu mynd yn bell. Ceisiwch adael iddo wneud y penderfyniad ynghylch ble a phryd i gael y sgyrsiau hyn. Mae'n fwy tebygol o fynd yn dda os mai’r plentyn sy’n ysgogi pethau. 

  1. Siarad am ei bryderon: Ceisiwch drafod beth sy'n ei boeni mewn iaith bob dydd. Gofynnwch beth mae'n meddwl amdano, beth sy'n ei boeni fwyaf, beth mae'n ei deimlo'n gorfforol. Helpwch eich plentyn i enwi ei deimladau. Os yw siarad yn anodd, gall dynnu llun neu ysgrifennu fel ffordd arall o fynegi ei deimladau. 

  2. Peidio â diystyru ei bryderon: Gall dweud wrth blentyn sy'n orbryderus “does dim byd i boeni amdano” deimlo'n ddiystyriol a gallai wneud iddo deimlo ei fod yn cael ei gamddeall neu ei wneud yn fwy gorbryderus. Ceisiwch ddangos iddo eich bod chi eisiau deall sut mae'n teimlo a'ch bod chi eisiau ei gefnogi i ddod o hyd i ffyrdd iach o reoli ei feddyliau a'i deimladau, yn hytrach na'u hanwybyddu neu geisio eu datrys ar unwaith. 

  3. Mynd ati’n raddol i’w annog i beidio ag osgoi pethau:  Os bydd eich plentyn yn osgoi pethau sy'n ei wneud yn orbryderus, fel yr ysgol neu siop brysur, bydd ei feddyliau negyddol am y sefyllfa honno'n cynyddu a gall ei orbryder dyfu. Yn hytrach na gadael iddo ei osgoi, helpwch ef i wynebu ei ofnau'n ddiogel gam wrth gam. Mae hyn yn ei helpu i fagu dewrder a gwytnwch a bydd yn lleihau lefelau gorbryder. 

  4. Cefnogi arferion iach: Mae amserlenni rhagweladwy, cwsg rheolaidd, prydau cytbwys, gweithgarwch corfforol, mynd allan a seibiant oddi wrth sgriniau i gyd yn helpu i leihau gorbryder. Mae hyd yn oed arferion bach yn rhoi ymdeimlad o reolaeth.

"Anogwch eich plentyn i ganolbwyntio ar bethau cadarnhaol. Gallai hyn fod drwy gadw dyddiadur neu ddyddlyfr yn rhestru'r pethau cadarnhaol yn ei ddiwrnod, gan ei atgoffa bod pethau da yn digwydd yn ei fywyd. Gosodwch nodau bach a realistig bob dydd a dathlwch unrhyw lwyddiannau ar hyd y ffordd."

  1. Siarad am strategaethau ymdopi: Fel anadlu dwfn neu “anadlu i’r bol”, technegau daearu, cadw dyddiadur neu dynnu llun o deimladau, defnyddio ap ymwybyddiaeth ofalgar, mynd am dro neu gamu allan am awyr iach. Mae rhagor o wybodaeth am y technegau hyn ar gael isod.  

  2. Annog sgiliau, nid perffeithrwydd:  Mae camgymeriadau a heriau yn rhan o dyfu i fyny. Helpwch eich plentyn i weld beth mae wedi'i gyflawni, dim ots pa mor fach yw hynny. Cofiwch ganmol ymdrech, nid dim ond canlyniadau. Dywedwch wrth eich plentyn eich bod chi yno i'w gefnogi yn ddiamod.  

  3. Ei helpu i greu rhwydwaith cymorth: Weithiau, efallai y byddai'n well ganddo siarad â rhywun arall, er enghraifft ffrind i'r teulu, athro, cwnselydd, nyrs ysgol, neu ffrind. Anogwch eich plentyn i feddwl am bwy allai fod yn bobl dda i siarad â nhw, felly pan fydd yn teimlo ei fod yn barod i estyn allan, mae rhywun yno iddo. 

AnchorBeth i beidio â'i ddweud wrth blentyn sy'n profi gorbryder 

“Does yna ddim byd i boeni amdano.” 

  • Efallai ei fod yn swnio’n galonogol, ond gall deimlo fel eich bod yn anwybyddu ei deimladau. Dydy gorbryder ddim bob amser yn rhesymegol, ond mae'n teimlo'n real i’ch plentyn. 

  • Yn lle hynny, rhowch gynnig ar: “Rwy'n gallu gweld bod hyn yn dy boeni di’n ofnadwy. Gad i ni siarad amdano gyda’n gilydd.” 

“Rho’r gorau i boeni.” 

  • Byddai eich plentyn yn rhoi’r gorau i boeni pe bai’n gallu gwneud hynny. Gall dweud wrtho am roi'r gorau i boeni wneud iddo deimlo mwy o gywilydd neu rwystredigaeth. 

  • Yn lle hynny, rhowch gynnig ar: “Mae’n iawn i boeni weithiau. Gad i ni feddwl am beth allai dy helpu di i deimlo'n well” 

“Rwyt ti’n bod yn wirion.” 

  • Gall diystyru ei ofn fel rhywbeth gwirion niweidio ei hyder a'i ymddiriedaeth ynoch chi. 

  • Yn lle hynny, rhowch gynnig ar: “Rwy’n deall bod hyn yn teimlo'n enfawr i ti ar hyn o bryd.” 

“Pwylla nawr.” 

  • Gall hyn swnio fel gorchymyn yn hytrach na chefnogaeth a gall ychwanegu pwysau. 

  • Yn lle hynny, rhowch gynnig ar: “Beth am i ni anadlu'n araf gyda'n gilydd a gweld a yw hynny'n dy helpu i deimlo ychydig yn dawelach.” 

AnchorMwy am strategaethau i ymdopi â gorbryder

Un o'r ffyrdd mwyaf pwerus o gefnogi plentyn sydd â gorbryder yw ei helpu i ddeall bod gorbryder yn ymateb normal i straen neu rywbeth y mae’n ei weld fel perygl. Mae pawb yn teimlo'n orbryderus ar adegau, ac er ei fod yn gallu teimlo'n llethol, dydy hynny ddim yn golygu bod rhywbeth o'i le â’ch plentyn. 

Pan fydd yn dysgu beth yw gorbryder a pham mae'n dod i'r amlwg, mae'n mynd yn llai brawychus. Gall ddechrau ei weld fel rhywbeth y gall ddysgu byw gydag ef a'i reoli, yn hytrach na rhywbeth y mae'n rhaid iddo ei osgoi neu "gael gwared arno". 

Mae'r strategaethau hyn wedi'u grwpio'n ddulliau corfforol, meddyliol ac ymddygiadol i helpu eich plentyn i greu pecyn o ffyrdd o ymdopi. Rhowch gynnig ar syniadau gwahanol i weld beth sy'n gweithio i'ch plentyn. Gall ymarfer y technegau hyn pan fydd eich plentyn wedi ymlacio ei helpu i ymgyfarwyddo â nhw a’u gwneud yn haws eu defnyddio pan fydd gorbryder yn taro. 

Strategaethau teimladau corfforol 

Mae'r technegau hyn yn helpu eich plentyn i reoli symptomau corfforol gorbryder, fel calon yn curo'n gyflym, cyhyrau'n dynn, neu anadlu'n fas. 

Rhowch gynnig ar: 

  • Anadlu'n ddwfn i'r bol: Mae anadlu'n araf ac yn ddwfn yn helpu'r corff i dawelu. Anogwch eich plentyn i anadlu i mewn drwy ei drwyn, teimlo ei fol yn codi, dal am ychydig eiliadau, ac yna anadlu allan yn araf. 
  • Dŵr oer ar ddwylo: Gall rhedeg dŵr oer dros ei ddwylo fod yn deimlad braf sy’n gwneud iddo ddod yn ôl i'r eiliad bresennol. 
  • Cyffwrdd gwahanol weadau: Gofynnwch iddo sylwi sut mae pethau'n teimlo, pa mor llyfn yw'r pin ysgrifennu, pa mor feddal yw'r dillad, neu pa mor galed yw cadair. 
  • Symud: Anogwch symudiadau bach fel ymestyn, cau ac ymlacio ei ddyrnau, neu siglo bysedd ei draed. 
  • Gwrthrychau daearu: Gall cario eitem fach gysurlon fel carreg lyfn, tegan i gadw’r dwylo’n brysur, neu ddarn o ffabrig helpu i dawelu'r meddwl yn ystod cyfnodau o orbryder. 

Strategaethau sy'n seiliedig ar feddyliau 

Mae'r rhain yn helpu eich plentyn i reoli ochr feddyliol gorbryder - meddwl yn rasio, pryder neu deimlo'n sownd yn ei ben. 

Rhowch gynnig ar y canlynol: 

  • Enwi’r teimlad: Helpwch eich plentyn i labelu beth mae'n ei brofi: “Mae'n swnio fel dy fod yn teimlo'n orbryderus. Mae hynny'n iawn, mae llawer o bobl yn teimlo fel hyn weithiau.” 
  • Siarad am arwyddion corfforol gorbryder: Er enghraifft, “Pan fyddwn ni'n orbryderus, gall ein calon guro'n gyflymach, neu efallai y byddwn ni'n teimlo'n sigledig. Dyna'n union yw ffordd ein corff o baratoi i ddelio â rhywbeth mae'n meddwl sy'n frawychus, hyd yn oed os nad yw'n beryglus iawn mewn gwirionedd.” 
  • Gemau tynnu sylw: Gofynnwch i’ch plentyn ddisgrifio'r hyn sydd o'i gwmpas yn fanwl, er enghraifft “Beth wyt ti’n gallu ei weld drwy'r ffenestr?”, “Wyt ti’n gallu gweld pum peth glas yn yr ystafell?”, neu “Beth yma sy'n dechrau gyda phob llythyren yn yr wyddor?” 
  • Dychmygu neu gynllunio cadarnhaol: Siaradwch am rywbeth mae'n edrych ymlaen ato. Er enghraifft, gofynnwch: “Beth yw'r peth gorau am y trip/ffilm/parti yna rwyt ti’n edrych ymlaen ato?” Mae hyn yn newid ei ffocws ac yn creu ymdeimlad o obaith. 

Strategaethau sy'n seiliedig ar ymddygiad 

Mae'r rhain yn annog eich plentyn i gymryd camau bach, posibl i wynebu ei ofnau yn hytrach na'u hosgoi, oherwydd gall osgoi wneud gorbryder yn waeth dros amser. 

Rhowch gynnig ar y canlynol: 

  • Technegau daearu: Mae'r rhain yn helpu eich plentyn i aros yn y presennol. Er enghraifft: 
    • Techneg pum synnwyr: Enwch bum peth y gallwch eu gweld, pedwar y gallwch eu cyffwrdd, tri y gallwch eu clywed, dau y gallwch eu harogli, ac un y gallwch ei flasu. 
    • Techneg “Gwreiddiau”: Gofynnwch iddo ddychmygu ei fod yn goeden, yn gwthio ei draed i'r llawr ac yn teimlo'n gryf ac yn sefydlog. 
  • Mynegiant creadigol: Gadewch iddo dynnu llun, ysgrifennu neu gadw dyddiadur am sut mae'n teimlo. Gall hyn helpu i ryddhau emosiynau heb orfod siarad yn uniongyrchol. 
  • Creu pecyn cysuro eich hun: Bocs bach gydag eitemau sy’n rhoi cysur (lluniau, hoff fyrbryd, arogleuon sy’n tawelu, teganau i gadw’r dwylo’n brysur, dyfyniadau cadarnhaol, neu gerddoriaeth). Gadewch i'ch plentyn helpu i'w greu fel ei fod yn teimlo'n bersonol ac yn ddiogel.

AnchorGweithio gyda’n Gilydd

Chi sy'n adnabod eich plentyn orau. Os yw'n ddigon hen, siaradwch â’ch plentyn am yr hyn sy'n ei helpu a'i gynnwys wrth ddewis pa strategaethau i roi cynnig arnyn nhw. Cadwch gofnod o'r hyn sy'n gweithio'n dda a chofiwch nad oes un strategaeth benodol yn gweithio i bawb, bob tro. 

Dydy gorbryder ddim yn diflannu dros nos, ond dros amser, gyda chefnogaeth a thrwy ymarfer, gall eich plentyn ddysgu i'w leihau, ei reoli a theimlo bod ganddo fwy o reolaeth. 

Ymdopi â'ch teimladau eich hun

Pan fyddwch chi'n helpu rhywun gyda'i orbryder, mae'n hawdd anghofio gofalu am eich llesiant eich hun. Os ydych chi dan straen neu wedi blino'n lân, mae'n anoddach cefnogi eich plentyn. Felly cofiwch fod yn garedig â chi eich hun. Person ydych chithau hefyd, ac, fel eich plentyn, pan fyddwch yn orbryderus ac yn poeni, efallai na fyddwch bob amser yn ymateb i ymddygiad pobl eraill yn y ffordd orau.  

Mae hefyd yn gyffredin iawn i rieni a gofalwyr plant â gorbryder fod wedi'i brofi eu hunain ar ryw adeg. Os yw gorbryder eich plentyn yn gysylltiedig â digwyddiad trawmatig, mae hefyd yn bosibl bod yr un profiad wedi effeithio arnoch chi, neu ar bobl eraill sy'n agos ato. Gall cydnabod hyn fod yn gam pwysig i ddeall beth allai fod ei angen arnoch chi a'ch plentyn i deimlo eich bod yn cael eich cefnogi. 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd seibiant, yn siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo, neu hyd yn oed yn cael help proffesiynol os oes angen. Drwy ofalu am eich iechyd meddwl eich hun, rydych hefyd yn dangos i'ch plentyn sut mae ymdopi â straen mewn ffordd iach. 

Os ydych chi'n teimlo eich bod chi a'ch plentyn yn cael pethau’n anodd, ceisiwch wneud y canlynol: 

  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi’ch dau yn cael amser i chi’ch hun, ond cofiwch wneud yn siŵr ei fod yn gwybod y gall siarad â chi bob amser. 
  • Rhowch wybod i'ch plentyn ei bod yn iawn teimlo'n orbryderus. 
  • Dangoswch sut rydych chi’n defnyddio strategaethau ymdopi iach a'i annog i gymryd rhan. 
  • Anogwch eich plentyn i ddefnyddio ei rwydwaith cymorth ehangach. 

Gall cefnogi plentyn â gorbryder deimlo'n anodd, ond mae pethau'n gwella. Gyda'ch gofal a'ch cefnogaeth chi, gall ddysgu sut i reoli ei deimladau. Bydd creu amgylchedd o ddealltwriaeth a chael cymorth ychwanegol yn eich helpu i ymdopi â'r cyfnod heriol hwn. Byddwch yn obeithiol.  Gall pethau wella, a dros amser gall eich plentyn feithrin yr hyder a'r sgiliau i reoli ei orbryder ac wynebu heriau bywyd. Dim cael gwared ar orbryder yn llwyr yw'r nod bob amser, ond dysgu sut i fyw gyda gorbryder mewn ffordd nad yw'n ei ddal yn ôl. 

Pryd i chwilio am help

Does dim angen i chi aros am argyfwng i gael cymorth. Os yw gorbryder eich plentyn yn effeithio ar ei fywyd bob dydd fel yn yr ysgol, ei ffrindiau neu ei fywyd gartref, mae'n iawn gofyn am help. Gallech ystyried siarad â gweithiwr proffesiynol os yw’r canlynol yn berthnasol: 

  • Mae’r gorbryder wedi para sawl wythnos neu fwy. 
  • Mae’n osgoi gweithgareddau yn yr ysgol neu weithgareddau bob dydd. 
  • Mae ei batrwm cysgu’n cael ei ddrysu’n rheolaidd. 
  • Mae'n cael pyliau o banig neu symptomau corfforol heb reswm meddygol clir. 
  • Mae'n sôn am hunan-niweidio neu deimlo'n anobeithiol. 
  • Mae’n gofyn am gael siarad â gweithiwr proffesiynol. 

Gallwch chwilio am gymorth drwy: 

  • Eich meddyg: Gall roi gwybodaeth, cyngor, a thrafod opsiynau cwnsela neu therapi os oes angen. Gall hefyd ei gyfeirio at arbenigwr iechyd meddwl. 
  • Ysgol: Gall fod yn ddefnyddiol siarad ag ysgol eich plentyn i rannu beth sy'n digwydd a chael gwybod sut mae'n gwneud yn yr amgylchedd hwnnw. Ond cyn i chi wneud hynny, gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn teimlo'n iawn am hyn. Dim cyfle i drafod gorbryder yn unig yw'r sgyrsiau hyn; maen nhw hefyd yn gyfle i archwilio beth allai fod yn cyfrannu ato. Er enghraifft, efallai fod eich plentyn yn cael trafferth deall y cwricwlwm, yn cael ei fwlio neu'n teimlo ei fod yn cael ei lethu. Efallai y bydd ei ysgol yn gallu darparu cymorth iechyd meddwl fel sesiynau galw heibio therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) neu gyfaill cymheiriaid. Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd hefyd yn gallu cefnogi atgyfeiriad at wasanaeth iechyd meddwl lleol i blant a phobl ifanc. 
  • Cwnselydd neu therapydd: Os mai dyma'r llwybr iawn iddo, efallai y bydd meddyg neu ysgol eich plentyn yn gallu ei gyfeirio at gwnselydd neu therapydd. Bydd cwnselydd neu therapydd yn gallu helpu eich plentyn i ddeall unrhyw feddyliau a theimladau anodd yn well.  
  • Mewn gwahanol rannau o'r wlad, rydyn ni’n darparu gwahanol fathau o gymorth iechyd meddwl. Efallai fod gwasanaeth yn eich ardal chi y gallech chi a'ch plentyn ei ddefnyddio. Defnyddiwch ein hadnodd dod o hyd i wasanaeth i weld beth rydyn ni’n ei gynnig yn eich ardal chi.
  • Hefyd, mae gennym adnoddau iechyd meddwl wedi’u paratoi ar gyfer pobl ifanc y gallech eu rhannu â nhw.  
  • Mae gwybodaeth am orbryder ymysg plant ar wefan y GIG
  • Mae gan Young Minds adnoddau i rieni ar gefnogi plentyn â gorbryder yn ogystal ag arweiniad i bobl ifanc ar orbryder
Menyw feichiog wrth sinc ystafell ymolchi yn brwsio’i dannedd. Mae hi’n gwisgo mantell flodeuog werdd dros dop gwyn. Mae pethau ymolchi a thywel i’w gweld yn y cefndir. 

Hunan-niweidio: yr hyn y mae angen i rieni a gofalwyr ei wybod 

Os yw eich plentyn yn hunan-niweidio, neu os ydych chi’n poeni y gallai fod yn hunan-niweidio, mae’n gwbl naturiol teimlo’n ofnus, yn ypset neu’n ansicr ynghylch beth i'w wneud. Mae gennym gyngor ar arwyddion rhybudd y dylech gadw llygad amdanynt, sut gallwch chi gefnogi rhywun, a ble i ddod o hyd i gymorth proffesiynol.

Mae tad sy'n gwisgo cap pig tu nôl ymlaen a chrys gwyn yn dal ei ferch fach sy'n gwisgo wynsi pinc. Mae'r ddau ohonyn nhw'n gwenu. Mae coed i’w gweld yn y cefndir.  

Meithrin perthnasoedd teuluol iachach

Mae gan bobl ffyrdd, safbwyntiau ac emosiynau gwahanol o ran delio â straen, felly mae’n naturiol bod anghytuno’n digwydd. Yr hyn sydd bwysicaf yw sut mae’r gwrthdrawiadau hyn yn cael eu rheoli. Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw gwrthdaro rhwng rhieni, beth sy’n ei achosi, a sut i’w leihau yn eich teulu.

Mae dau berson yn gwisgo sgarffiau pen wrth ddesg yn defnyddio cyfrifiadur mawr. Mae merch yn ei harddegau cynnar yn eistedd ac yn teipio tra bo'r llall yn pwyntio ar y sgrin yn dangos canlyniadau chwilio. Mae'r olygfa'n awgrymu arweiniad ar ddefnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel a helpu plentyn i gadw'n ddiogel ar-lein.  

Cadw plant yn ddiogel ar-lein

Fel rhiant neu ofalwr, mae’n hawdd teimlo eich bod yn cael eich llethu gan yr holl apiau, deallusrwydd artiffisial, gemau a chyfryngau cymdeithasol sy’n newid o hyd. Os yw eich plentyn chi’n chwarae gemau, yn sgwrsio, yn postio neu’n ffrydio, rydyn ni yma i'ch cefnogi chi gyda chyngor ymarferol a chanllawiau gan arbenigwyr i helpu i gadw plant yn ddiogel ac yn hapus ar-lein. 

Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028. / All of the information on this page was created with practising health professionals. This page was reviewed in December 2025. We will next review the page in 2028. 

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.