An adult sitting on a bed holding a piece of paper, with a child sitting on their lap. The paper appears to be a bill. The room has a window with vertical blinds and soft furnishings like cushions and a blanket.

Ydych chi’n poeni am arian?

Cael cymorth a chyngor y gallwch ddibynnu arno

Os ydych chi neu rywun sy'n agos atoch chi’n cael trafferth fforddio'r hanfodion, fel gwres, bwyd neu rent, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Boed hynny'n costau uwch biliau bwyd ac ynni neu newid sydyn mewn incwm, gall pwysau ariannol effeithio ar unrhyw un.

Gall fod yn anodd gwybod ble i droi, ond mae cymorth ar gael.

Ar y dudalen hon, mae sefydliadau ac adnoddau dibynadwy sy’n gallu eich helpu i wneud y canlynol:

  • Gwirio pa fudd-daliadau neu grantiau y gallech fod â hawl iddyn nhw.
  • Dod o hyd i gymorth lleol gyda bwyd, biliau a hanfodion.
  • Cael gafael ar gyngor am ddim ar reoli dyled, ynni a mwy.

Mae gofyn am help yn gofyn am ddewrder. Ble bynnag rydych chi'n dechrau, boed hynny gyda chanolfan cyngor leol, banc bwyd, neu wasanaeth y cyngor, dylech gael eich croesawu â charedigrwydd, parch a chefnogaeth sy'n gwneud gwahaniaeth.

Jump to:

Gwirio eich hawliau a'ch grantiau

Rydyn ni'n gweithio gyda Turn2us, elusen genedlaethol sy'n cynnig cymorth ymarferol i unrhyw un sy'n cael trafferth gydag arian. Mae eu hadnoddau wedi'u llunio i wneud yn siŵr nad ydych chi'n colli allan ar arian a’ch bod yn cael y cymorth rydych chi'n gymwys i'w gael.

AnchorAnchorGwneud yn siŵr eich bod chi’n cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddyn nhw

P'un a ydych eisoes yn cael budd-daliadau neu erioed wedi gallu hawlio o'r blaen, efallai eich bod chi’n colli allan ar gymorth ariannol i chi a'ch aelwyd.

Mae'r adnodd am ddim, yn gyfrinachol ac yn ddienw. Treuliwch 10 munud yn rhoi cynnig ar Gyfrifiannell Budd-daliadau Turn2us i weld beth allwch chi ei hawlio.

Rhowch gynnig ar gyfrifiannell budd-daliadau Turn2us

Chwilio am grantiau nad oes rhaid i chi eu talu’n ôl 

Mae grantiau yn arian, cynnyrch neu wasanaethau sy’n cael eu rhoi gan fudiadau elusennol. Does dim angen eu talu'n ôl ac fel arfer, dydyn nhw ddim yn effeithio ar eich budd-daliadau.

Mae gwahanol grantiau ar gael i wahanol bobl yn dibynnu ar eu hamgylchiadau. Bydd adnodd chwilio am grantiau Turn2us yn dangos i chi pa grantiau y gallech fod yn gymwys i'w cael a sut i wneud cais amdanyn nhw.

Defnyddio adnodd chwilio am grantiau Turn2us

AnchorAnchorArchwilio cymorth Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP)

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch oherwydd salwch, anabledd neu gyflwr iechyd meddwl, efallai y byddwch chi’n gymwys i gael Taliad Annibyniaeth Personol (PIP). Gallwch gael PIP hyd yn oed os ydych chi'n gweithio, os oes gennych gynilion neu os ydych chi'n cael y rhan fwyaf o'r budd-daliadau eraill.

Mae'r adnodd hwn wedi'i greu ar y cyd â chyn hawlwyr, ac mae wedi'i gynllunio i roi profiad llai straenus i'r rhai sy'n gwneud cais am PIP. Bydd yr adnodd yn eich helpu drwy wneud y canlynol:

  • Eich cefnogi drwy broses ymgeisio PIP.
  • Rhoi awgrymiadau personol i chi.
  • Rhoi cyngor i chi ar sut i flaenoriaethu eich llesiant drwy gydol y broses.

Rhowch gynnig ar adnodd Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) Turn2Us

Mae'r adnoddau hyn yn cael eu cynnal a'u cadw a'u darparu gan Turn2us. Darllenwch bolisi preifatrwydd Turn2us.

Ydych chi’n cael trafferth prynu bwyd neu hanfodion?

Banciau bwyd

Mae banciau bwyd yn darparu parseli bwyd mewn argyfwng, sydd fel arfer yn cynnwys bwyd tun neu sych, a phethau ymolchi weithiau, i'ch helpu i ymdopi am ychydig ddyddiau. Mae dros 2,500 o fanciau bwyd ledled y DU, ac mae tua hanner y rhain yn cael eu rhedeg gan elusen o’r enw Trussell (Ymddiriedolaeth Trussel gynt) (Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin, 2025). Chwiliwch am fanciau bwyd Trussel yn eich ardal chi.

Mae'r Rhwydwaith Cymorth Bwyd Annibynnol yn rhwydwaith o sefydliadau sy'n gweithredu ledled y DU, gan gynnwys banciau bwyd. Efallai y byddan nhw'n gallu eich cyfeirio at sefydliadau yn eich ardal chi sy'n gallu helpu gyda bwyd, yn ogystal â chymorth arall.

I gael help gan fanc bwyd, fel arfer bydd angen i chi gael eich cyfeirio gan sefydliad neu weithiwr proffesiynol lleol. Efallai y gallai eich meddyg, eich ymwelydd iechyd, eich gweithiwr cymdeithasol, eich cyngor lleol neu'ch gwasanaeth cyngor eich helpu gyda hyn. Siaradwch â nhw am eich sefyllfa ac efallai y byddan nhw'n rhoi taleb bwyd i chi, y gallwch ei chyfnewid am barsel bwyd mewn banc bwyd.

Mae rhai banciau bwyd hefyd yn cymryd rhan mewn cynlluniau talebau tanwydd i helpu i ychwanegu at eich mesurydd ynni.

Oergelloedd cymunedol

Mae oergelloedd cymunedol yn llefydd lle mae bwyd dros ben yn cael ei roi gan fusnesau lleol, archfarchnadoedd neu unigolion ac mae'r bwyd hwn ar gael yn rhad ac am ddim i unrhyw un ei gymryd. Maen nhw'n helpu i leihau gwastraff bwyd ac yn cefnogi pobl a allai fod yn cael trafferth fforddio bwyd. Maen nhw'n aml yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr neu elusennau lleol ac maen nhw ar gael mewn canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd neu fannau cyhoeddus eraill.

Does dim angen i chi gael atgyfeiriad na chofrestru. Y cyfan maen nhw'n ei ofyn yw mai dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi rydych chi'n ei gymryd, fel bod digon i bawb. Efallai y byddwch chi’n dod o hyd i eitemau fel ffrwythau a llysiau ffres, sudd ffrwythau heb ei agor neu becynnau o fwyd wedi'u selio.

Chwiliwch am oergell gymunedol yn eich ardal chi.

Prydau cymunedol

Mae pryd cymunedol yn bryd o fwyd am ddim neu am gost isel sy'n cael ei rannu ac sydd ar gael i bawb. Mae fel arfer yn cael ei gynnal gan grwpiau lleol, elusennau neu eglwysi ac mae’n cynnig lle cynnes a chroesawgar i fwynhau bwyd da a chwrdd ag eraill. Does dim angen atgyfeiriad arnoch chi, dim ond galw heibio. Mae'n ffordd wych o gysylltu â'ch cymuned, yn enwedig os ydych chi'n teimlo'n ynysig neu'n cael trafferth fforddio prydau bwyd.

Yng Nghymru a Lloegr, mae FoodCycle yn elusen sy'n cynnig prydau cymunedol gan ddefnyddio bwyd dros ben. Chwiliwch am bryd o fwyd gan FoodCycle yn eich ardal chi.

Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, gall grwpiau cymunedol neu wasanaethau cyngor lleol ddweud wrthych am brydau bwyd cymunedol yn eich ardal chi neu gallwch chwilio ar-lein.

Cymorth gyda bwyd a llaeth os ydych chi'n feichiog neu os oes gennych chi blant ifanc

Gall magu plentyn ifanc fod yn ddrud, ac os ydych chi'n feichiog neu os oes gennych chi blant bach gartref, mae gwneud yn siŵr eu bod yn cael y maeth cywir yn hanfodol ond nid yw bob amser yn hawdd pan fydd arian yn brin. Mae cynlluniau ar gael ledled y DU sy'n gallu eich helpu i fforddio bwyd iach, llaeth a fitaminau i'ch teulu.

  • Os ydych chi yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, a'ch bod dros 10 wythnos yn feichiog neu fod gennych blentyn dan bedair oed, efallai y bydd gennych hawl i gael cymorth i brynu bwyd iach a llaeth drwy Gynllun Cychwyn Iach y GIG. Rhagor o wybodaeth am y cynllun Dechrau Iach.

  • Os ydych chi yn yr Alban, efallai y gallwch hawlio'r Grant Best Start a Best Start Foods sef taliadau sy'n helpu at gostau bod yn feichiog neu ofalu am blentyn. Mae Best Start Foods yn daliad i'ch helpu i brynu bwydydd iach yn ystod beichiogrwydd a phan fydd eich plentyn o dan dair oed. Rhagor o wybodaeth am y grant Best Start a Best Start Foods.

Cyngor a chefnogaeth gydag arian, dyled a biliau

Eich gwasanaeth lleol i gael cyngor am ddim

Ydych chi’n cael trafferth gyda’ch biliau ynni?

Mae biliau ynni uchel yn bryder mawr i lawer o gartrefi. Os ydych chi'n cael trafferth, mae camau y gallwch eu cymryd a sefydliadau a allai helpu.

Mae'n ddealladwy os ydych chi'n teimlo'n bryderus am siarad â'ch cyflenwr ynni, ond gall rhoi gwybod iddyn nhw am eich sefyllfa arwain at opsiynau fel cynlluniau ad-dalu, biliau cyllideb, neu gymorth ychwanegol yn ystod cyfnodau anodd.

Os nad ydych chi eisiau dechrau drwy siarad â nhw, mae dewisiadau eraill ar gael:

Mae hefyd yn werth gofyn i'ch cyflenwr ynni a ydyn nhw'n cynnig unrhyw grantiau i helpu i dalu unrhyw ddyled ynni sydd gennych. Os ydych chi yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban, efallai y gallwch gael cymorth gan Ymddiriedolaeth Ynni British Gas. Does dim rhaid i chi fod yn gwsmer British Gas, ond bydd angen i chi gael cyngor ariannol/dyled yn gyntaf felly cysylltwch â'ch elusen leol i gael cyngor.

Gallech hefyd roi cynnig ar adnodd chwilio am grant Turn2us a gweld a oes unrhyw grantiau a allai eich helpu chi.

Efallai y gall eich cyngor lleol gynnig cymorth ariannol i chi

Os oes angen help arnoch ar frys, efallai y gall eich cyngor lleol eich cefnogi gyda chostau hanfodol fel biliau ynni neu ddŵr, bwyd, dillad, neu eitemau i'r cartref fel popty.

Mae'r math hwn o gymorth yn cael ei alw’n bethau gwahanol yn dibynnu ar ble rydych chi'n byw, fel Cymorth Lles, Cymorth i Aelwydydd, y Gronfa Cymorth Dewisol, neu Grant Argyfwng y Gronfa Les. Mae'r hyn sydd ar gael, a sut i wneud cais, yn amrywio o gyngor i gyngor.

I gael gwybod pa gymorth y gallech fod yn gymwys i'w gael, mae'n well cysylltu â'ch cyngor lleol yn uniongyrchol.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y bydd eich cyngor yn gallu lleihau eich bil treth gyngor hefyd.  

Oes angen cymorth arnoch chi gyda gwelyau, dillad gwely a dodrefn hanfodol?

Os oes angen help arnoch gyda gwelyau a dillad gwely, efallai y bydd elusennau sy'n lleol i chi yn gallu eich helpu i gael yr hyn sydd ei angen arnoch.

  • Mae Zarach yn elusen sy'n helpu teuluoedd yn benodol gyda gwelyau a dillad gwely. Os ydych chi yn Lerpwl, Romford, Stockport, Stoke, Tees Valley neu Orllewin Swydd Efrog, efallai y byddan nhw'n gallu eich helpu. Ewch i wefan Zarach i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth maen nhw’n ei gynnig.
  • Mae rhai elusennau neu fudiadau lles lleol hefyd yn cynnig cymorth gyda dodrefn. Holwch eich gwasanaeth cyngor lleol fel Cyngor ar Bopeth neu Advice NI.
  • Efallai y gallwch hefyd gael help gan eich awdurdod lleol. Mae gan End Furniture Poverty adnodd chwilio i'ch helpu i ddod o hyd i gymorth lles gan eich awdurdod lleol.

Ydych chi’n cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl?

Gall pryderon ariannol effeithio ar eich iechyd meddwl a'ch llesiant. Felly, os ydych chi'n teimlo dan straen, yn bryderus neu wedi'ch llethu, peidiwch â dioddef yn dawel. Os ydych chi'n teimlo eich bod yn cael eich llethu, mae eich meddyg teulu yn gam cyntaf da. Gallan nhw drafod yr hyn rydych chi'n ei brofi a'ch cysylltu â'r cymorth cywir, gan gynnwys gwasanaethau cwnsela neu iechyd meddwl.

Os oes angen i chi siarad â rhywun y funud hon, cysylltwch â C.A.L.L., y llinell gymorth iechyd meddwl ar gyfer Cymru sydd ar gael 24/7 ar 0800 132 737 neu drwy e-bostio [email protected]. Maen nhw'n cynnig cefnogaeth emosiynol ddwyieithog i bobl sy'n profi problemau iechyd meddwl yn ogystal â'u teulu, eu ffrindiau a'u gofalwyr.

Mae'r Samariaid hefyd yn cynnig cymorth bob awr o'r dydd ar 116 123 yn Saesneg ond os ydych chi eisiau cymorth emosiynol yn Gymraeg, gallwch ffonio eu llinell Gymraeg ar 0808 164 0123, sydd ar agor 7pm-11pm.

Cymorth ariannol yn yr ysgol

Os ydych chi'n cael trafferth talu costau sy'n gysylltiedig â'r ysgol, fel prydau bwyd, gwisg ysgol, cyflenwadau neu dripiau ysgol, efallai y bydd help ar gael. Efallai eich bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim neu'n gallu cael gafael ar arian ar gyfer teuluoedd y mae angen cymorth ychwanegol arnyn nhw.

Mae'n gwbl ddealladwy teimlo'n betrus neu gywilydd wrth ofyn, ond mae ysgolion wedi arfer cael y sgyrsiau hyn ac maen nhw eisiau helpu. Dydych chi ddim ar eich pen eich hun, a ddylen nhw ddim eich barnu chi.

Os oes gan ysgol eich plentyn reolwr busnes, mae'n berson da i gysylltu ag ef. Ond gallwch hefyd siarad â swyddfa'r ysgol neu staff y dderbynfa. Gallan nhw eich cyfeirio i'r lle iawn a'ch helpu i gael gafael ar gymorth yn synhwyrol ac yn barchus.

Mwy am wneud cais am brydau ysgol am ddim

Hyd yn oed os ydych chi'n byw mewn ardal lle mae pob plentyn yn cael prydau ysgol am ddim, mae'n dal yn werth gwneud cais os ydych chi'n gymwys. Gallai ddatgloi manteision ychwanegol i chi neu olygu bod ysgol eich plentyn yn gallu cael gafael ar gyllid ychwanegol i gefnogi dysgu a llesiant.

Beth i’w wneud nesaf

  • Defnyddiwch gyfrifiannell Turn2us i weld pa fudd-daliadau neu grantiau y gallech fod yn gymwys i’w cael.
  • Archwiliwch y gefnogaeth sydd ar gael yn eich ardal leol: banciau bwyd, oergelloedd cymunedol, prydau bwyd neu gymorth gan y cyngor.
  • Cysylltwch â gwasanaeth cyngor am ddim, gofynnwch iddyn nhw eich helpu i gynllunio'r camau nesaf.
  • Cadwch drefn ar bethau: ysgrifennwch pwy rydych chi wedi cysylltu â nhw a beth ddywedon nhw.
  • Byddwch yn garedig â chi eich hun, gall camau bach arwain at newid.
  • Does dim rhaid i chi wneud hyn ar eich pen eich hun. Dechreuwch yn rhywle, y cam cyntaf yw estyn allan

Angen help llaw? Mae gennym ni’r ateb i chi.

P'un a oes angen cymorth ymarferol neu gyngor arnoch chi, mae gennym wybodaeth ddefnyddiol ar ein gwefan i'ch helpu chi, neu rywun rydych chi'n gofalu amdano. Gallwch hefyd gael gwybodaeth am ein gwasanaethau yn eich ardal chi.  

Cael cymorth a chyngor

ae tad sy'n gwisgo cap pig tu nôl ymlaen a chrys gwyn yn dal ei ferch fach sy'n gwisgo wynsi pinc. Mae'r ddau ohonyn nhw'n gwenu. Mae coed i’w gweld yn y cefndir.

Meithrin perthnasoedd teuluol iachach

Mae gan bobl ffyrdd, safbwyntiau ac emosiynau gwahanol o ran delio â straen, felly mae’n naturiol bod anghytuno’n digwydd. Yr hyn sydd bwysicaf yw sut mae’r gwrthdrawiadau hyn yn cael eu rheoli. Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw gwrthdaro rhwng rhieni, beth sy’n ei achosi, a sut i’w leihau yn eich teulu. 

Annog eich plentyn i fod yn agored am ei deimladau, ei ddiogelwch a’i lesiant

Os ydych chi eisiau gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn, neu os oes gennych bryder mwy difrifol, mae gennym ni bum awgrym sy’n cael eu cefnogi gan arbenigwyr i’ch helpu i feithrin ymddiriedaeth, hyder a chysylltiad drwy sgyrsiau bob dydd. 

A mum wearing glasses with dark hair and a striped shirt sitting on the floor of a child’s bedroom looking at her daughter who has dark hair and glasses and a grey shirt on. They are smiling at each other. A young boy with glasses and dark hair is slightly visible in the lower right edge.

Datblygu ymennydd iach

P’un a yw eich plentyn yn fabi neu yn ei arddegau, gallwch helpu ei ymennydd i ddatblygu a gweithredu ar ei orau. Rydyn ni wedi ymuno â KCA, arbenigwyr niwrowyddoniaeth, i rannu dull syml ac effeithiol y gallwch ddechrau ei ddefnyddio heddiw. 

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.