Os ydych chi wedi bod yn meddwl sut mae maethu a mabwysiadu yn gweithio, byddem wrth ein bodd yn eich helpu i ddeall beth yw’r posibiliadau, heb roi pwysau arnoch chi.
Ers dros 150 o flynyddoedd, rydyn ni wedi bod yn helpu plant i ddod o hyd i gartrefi cariadus ac rydyn ni’n dal i wneud hynny heddiw. Rydyn ni’n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i ddod o hyd i gartrefi diogel a gofalgar i blant sydd eu hangen, drwy faethu a mabwysiadu. Mae ein timau ymroddedig yn tywys teuluoedd drwy bob cam o'r broses, gan gynnig cyngor arbenigol, cymorth ymarferol, a hyfforddiant parhaus i helpu gofalwyr maeth a rhieni sy’n mabwysiadu i deimlo'n hyderus a'u bod yn cael eu cefnogi ar eu taith.
Mae pob teulu'n wahanol, ac mae sawl ffordd o agor eich calon, a'ch cartref, i blentyn. Gall maethu a mabwysiadu fod yn werth chweil, gan gynnig amgylchedd diogel a chariadus i blant pan fydd ei angen arnyn nhw fwyaf. Mae penderfynu gwneud y naill neu'r llall yn benderfyniad mawr, ond gall newid cynifer o fywydau, gan gynnwys eich bywyd chi, er gwell.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng maethu a mabwysiadu?
Mae maethu'n darparu cartref dros dro i blentyn nad yw ei deulu biolegol yn gallu gofalu amdano ar hyn o bryd. Gallai fod yn y tymor byr neu yn y tymor hir. Mae gofalwyr maeth yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o helpu plant i deimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu cefnogi a'u gwerthfawrogi.
Mae mabwysiadu yn drefniant cyfreithiol mwy parhaol. Pan fyddwch yn mabwysiadu plentyn, byddwch yn dod yn rhiant cyfreithiol iddo gyda'r holl hawliau a chyfrifoldebau a ddaw yn ei sgil. Rydych yn cynnig teulu am oes iddo, yn ogystal â chartref.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwahaniaethau rhwng maethu a mabwysiadu ar gael yma.
Ai maethu neu fabwysiadu sy’n iawn i mi?
Does dim rhaid i chi fod yn berffaith. Dim ond yn amyneddgar, yn garedig, ac yn barod i wrando. Mae gofalwyr maeth a rhieni sy’n mabwysiadu yn dod o bob math o gefndiroedd - pobl sengl, pobl sy’n briod, pobl â ffydd, pobl sy’n rhan o'r gymuned LHDT+, pobl sydd â phlant yn barod neu bobl heb blant.
Os oes gennych chi le yn eich cartref a lle yn eich calon, efallai y bydd yn rhywbeth gwerth ei ystyried. Mae'n iawn cymryd eich amser, gofyn cwestiynau, a phenderfynu beth sy'n iawn i chi a'ch teulu.

O blant bach i bobl ifanc yn eu harddegau: sut gallwch chi annog noson dda o gwsg
Mae cael digon o gwsg yn hanfodol i iechyd, hwyliau a datblygiad eich plentyn, p’un a yw’n blentyn bach neu’n berson ifanc yn ei arddegau. Mae pob plentyn yn wahanol, ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich plentyn (a chithau!) i gysgu’n well.

Atal brodyr a chwiorydd rhag ffraeo
Hyd yn oed pan fydd plant yn caru eu brodyr a’u chwiorydd ac yn cyd-dynnu â nhw, gallwch ddisgwyl rhywfaint o wrthdaro. Darllenwch gyngor i’ch helpu i arwain eich plant drwy gyfnodau da a drwg yn eu perthynas â’u brodyr a’u chwiorydd.

Annog eich plentyn i fod yn agored am ei deimladau, ei ddiogelwch a’i lesiant
Os ydych chi eisiau gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn, neu os oes gennych bryder mwy difrifol, mae gennym ni bum awgrym sy’n cael eu cefnogi gan arbenigwyr i’ch helpu i feithrin ymddiriedaeth, hyder a chysylltiad drwy sgyrsiau bob dydd.