Rydyn ni wedi ymrwymo i amddiffyn merched a menywod ifanc rhag anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) ac arferion niweidiol eraill. Dyna pam y gwnaethom ni sefydlu’r Ganolfan FGM Genedlaethol – i atal FGM, i godi ymwybyddiaeth ohono, ac i gefnogi’r rhai y mae’n effeithio arnyn nhw. Os ydych chi’n meddwl bod merch mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 ac egluro eich bod yn poeni am achos posibl o FGM.
Beth yw anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM)?
Mae FGM yn cyfeirio at dynnu organau cenhedlu allanol menyw neu ferch yn rhannol neu’n gyfan gwbl, neu anaf arall i organau cenhedlu benywod, am resymau anfeddygol (Sefydliad Iechyd y Byd, 2025).
Efallai eich bod wedi clywed termau eraill yn cael eu defnyddio, fel “enwaediad benywaidd” neu “dorri”, neu mae’n bosibl y cyfeirir ato’n wahanol yn eich cymuned chi. Beth bynnag mae’n cael ei alw, mae FGM yn achosi niwed corfforol ac emosiynol parhaol.
Gall FGM ddigwydd yn unrhyw le, gan gynnwys yn y DU, a gall effeithio ar ferched o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Mae’n aml yn digwydd o ganlyniad i bwysau o ran disgwyliadau diwylliannol, cymdeithasol neu gymunedol, a gall fod yn gysylltiedig â syniadau ynghylch ‘anrhydedd’, purdeb neu draddodiad teuluol.
Mae’n anghyfreithlon yn y DU ac mae’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel trosedd difrifol yn erbyn hawliau dynol ac fel math o gam-drin plant. Gall effeithio ar iechyd corfforol ac emosiynol menyw neu ferch yn y tymor byr a’r tymor hir.
Gall FGM achosi cymhlethdodau difrifol sydd weithiau’n peryglu bywyd, gan gynnwys:
-
Poen ddifrifol a pharhaus.
-
Heintiau a sepsis.
-
Anhawster pasio wrin neu gael mislif.
-
Problemau yn ystod beichiogrwydd neu wrth roi genedigaeth.
-
Trawma seicolegol, gorbryder ac iselder.
Mae’n bosibl na fydd yr effeithiau’n digwydd ar unwaith bob tro; mae llawer o fenywod a merched yn profi canlyniadau hirdymor neu gudd sy’n effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant pan fyddan nhw’n oedolion.
Mae FGM yn un enghraifft o arfer niweidiol sy’n gallu effeithio ar blant a phobl ifanc. Mae enghreifftiau eraill yn cynnwys priodi dan orfod ac yn gynnar, lleihau’r bronnau, cam-drin ar sail ‘anrhydedd’, meddu ar ysbryd, dewiniaeth, a cham-drin defodol.
I gael rhagor o wybodaeth am FGM neu arferion niweidiol eraill, ewch i wefan y Ganolfan FGM Genedlaethol lle gallwch gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys fideos, animeiddiadau, podlediadau, deunyddiau e-ddysgu, pecynnau cymorth, ymchwil ac arweiniad i gymunedau a gweithwyr proffesiynol aml-asiantaeth.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n poeni y gallai plentyn fod mewn perygl o FGM?
-
Os ydych chi’n poeni y gallai merch fod mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999 ac egluro eich bod yn poeni am achos posibl o FGM.
Os ydych yn bryderus ond nid yw’r risg yn un uniongyrchol:
-
Mae gan yr NSPCC linell gymorth FGM sy’n rhoi cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth os ydych chi’n poeni y gallai merch fod mewn perygl o ddioddef anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), neu ei bod wedi dioddef hynny. Gallwch eu ffonio ar 0800 0283 550 neu anfon neges e-bost i [email protected].
-
Gallwch hefyd gysylltu â thîm gofal cymdeithasol y plentyn yn eu cyngor lleol.
-
Cael gwybodaeth am sut mae rhoi gwybod i gyngor lleol am gam-drin plant yn Lloegr.
-
Gallwch wneud cais am orchymyn diogelu rhag FGM. Mae gwybodaeth am orchmynion amddiffyn rhag FGM ar wefan y Ganolfan FGM Genedlaethol.
Ble i fynd os oes angen cymorth arnoch
-
Os ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr, wedi cael profiad o FGM neu os oes angen cymorth arnoch ar gyfer FGM, mae gwasanaethau cymorth cwnsela ac eiriolaeth ar gael drwy glinigau cymorth FGM y GIG ledled y DU.
-
Eich meddyg: Mae’n bosibl y gall eich cyfeirio at arbenigwyr a all eich cefnogi.
-
Mae adnoddau a gwybodaeth ar gael ar wefan y Ganolfan FGM Genedlaethol.
Sut mae Barnardo’s yn helpu gyda FGM?
Fe wnaethom ni sefydlu’r Ganolfan FGM Genedlaethol yn 2015 i newid y ffordd y mae gwasanaethau’n gweithio i blant a theuluoedd y mae FGM yn effeithio arnyn nhw. Ein nod yw atal achosion newydd, amddiffyn plant a phobl ifanc, cefnogi’r rheini y mae FGM ac arferion niweidiol eraill yn effeithio arnyn nhw, gan gynnwys lleihau’r bronnau a meddu ar ysbryd, dewiniaeth a cham-drin defodol, gyda’r nod o ddod ag achosion newydd o FGM i ben erbyn 2030. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ag eraill i ddarparu gwasanaethau ac i ddysgu.
Rydyn ni wedi gweithio ar dros 900 o achosion rhwng mis Medi 2015 a mis Gorffennaf 2025 yn genedlaethol, ac rydyn ni wedi cefnogi’r gwaith o roi dros 50 o Orchmynion Amddiffyn rhag FGM ar waith yn ystod y cyfnod hwn.
Ewch i wefan y Ganolfan FGM Genedlaethol i gael rhagor o wybodaeth.

Plant y mae cam-drin domestig wedi effeithio arnynt
Mae cam-drin domestig yn gallu cael effaith ddinistriol ar deuluoedd. Os ydych chi’n meddwl bod cam-drin domestig yn effeithio ar blentyn, mae camau y gallwch eu cymryd i’w helpu i deimlo’n ddiogel a’i fod yn cael ei gefnogi, ac mae gwasanaethau a all eich arwain drwy’r camau nesaf.

Hunan-niweidio: yr hyn y mae angen i rieni a gofalwyr ei wybod
Os yw eich plentyn yn hunan-niweidio, neu os ydych chi’n poeni y gallai fod yn hunan-niweidio, mae’n gwbl naturiol teimlo’n ofnus, yn ypset neu’n ansicr ynghylch beth i'w wneud. Mae gennym gyngor ar arwyddion rhybudd y dylech gadw llygad amdanynt, sut gallwch chi gefnogi rhywun, a ble i ddod o hyd i gymorth proffesiynol.

Ydych chi’n meddwl bod eich plentyn yn teimlo’n bryderus?
Mae’n anodd gweld eich plentyn yn cael trafferth. Os ydych chi'n meddwl tybed beth yw'r ffordd orau o helpu eich plentyn, mae gennym gyngor ar sut beth yw pryder ymysg plant a phobl ifanc, sut i'w cefnogi, a ble a phryd i droi am gymorth proffesiynol.
Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028.