Gall bwlio beri gofid mawr i blentyn a phryder i'r oedolion sy'n gofalu amdano. Boed bwlio’n digwydd yn yr ysgol, yn y gymuned, neu ar-lein, gall gwybod sut i adnabod yr arwyddion a chefnogi’r plentyn sy’n cael ei fwlio wneud byd o wahaniaeth. Mae'r dudalen hon yn cynnig cyngor ymarferol i'ch helpu i ymateb yn ofalus, meithrin ymddiriedaeth, a helpu eich plentyn i deimlo'n ddiogel eto.
Pa mor gyffredin yw bwlio?
Gall unrhyw blentyn gael ei fwlio ac mae'n aml yn fwy cyffredin nag yr ydym yn sylweddoli.
Yn 2023 yng Nghymru a Lloegr, roedd tua 34.9% o bobl ifanc rhwng 10 a 15 oed wedi profi bwlio wyneb-yn-wyneb, ac roedd 19.1% wedi profi bwlio ar-lein, a elwir hefyd yn seiberfwlio (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2024). Yn yr Alban, dywedodd 31% o blant rhwng 8 a 15 oed eu bod wedi cael eu bwlio, dywedodd 80% ohonyn nhw ei fod wedi digwydd yn yr ysgol (Llywodraeth yr Alban, 2023). Yng Ngogledd Iwerddon, dywedodd 42% o bobl ifanc eu bod wedi cael eu bwlio yn yr ysgol ar ryw bwynt yn y gorffennol (Llyfrgell Tŷ’r Cyffredin, 2020).
Ond mae arwyddion o fwlio y gallwch gadw llygad amdanyn nhw ac offer y gallwch eu defnyddio i helpu'ch plentyn.
Beth yw bwlio?
Bwlio yw pan fydd rhywun yn ymddwyn dro ar ôl tro mewn ffordd sydd i fod i frifo, dychryn neu ypsetio person arall.
Gall fod yn gorfforol, yn emosiynol neu'n seicolegol, a gall gynnwys unrhyw ymddygiad sy'n teimlo'n fychanol (gwneud i rywun deimlo'n ddibwys neu'n llai pwysig mewn rhyw ffordd), yn fygythiol neu'n frawychus.
Tybir yn aml bod bwlio'n cynnwys rhywun sy'n fwy, yn gryfach, neu'n fwy poblogaidd yn pigo ar eraill sydd â llai o bŵer na nhw. Ond nid dyna sut mae'n gweithio bob amser. Weithiau, gall plentyn sy'n llai, yn iau, neu'n cael ei ystyried â llai o statws cymdeithasol fwlio eraill hefyd drwy bryfocio, embaras neu eithrio.
Gall ddigwydd wyneb-yn-wyneb neu ar-lein, a gelwir hyn weithiau'n seiberfwlio.
Gall bwlio fod ar sawl ffurf, gan gynnwys:
- Bwlio corfforol fel dyrnu, pinsio, taro neu gicio.
- Bwlio geiriol fel galw enwau, pryfocio, neu sylwadau rhywiol amhriodol.
- Bwlio cymdeithasol neu emosiynol fel codi cywilydd ar rywun yn fwriadol, lledaenu sïon, gadael rhywun allan yn fwriadol, neu ddweud wrth bobl eraill am beidio â bod yn ffrindiau gyda rhywun.
Gall yr ymddygiad hwn ddigwydd wyneb-yn-wyneb, ond gall ddigwydd ar-lein hefyd, a elwir yn seiberfwlio.
Beth yw seiberfwlio?
Mae seiberfwlio yn golygu defnyddio technoleg ddigidol i fwlio rhywun. Gall ddigwydd drwy gyfryngau cymdeithasol, apiau negeseuon, fforymau neu gemau ar-lein. Gallai gynnwys postio neu rannu sylwadau cas, lledaenu sïon, neu anfon delweddau neu fideos cas.
Yn 2024, adroddodd Sefydliad Iechyd y Byd fod un plentyn oedran ysgol o bob chwech yng Nghymru, Lloegr a’r Alban wedi profi seiberfwlio (Sefydliad Iechyd y Byd, 2024).
Gall seiber-fwlio ddigwydd mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys pan fydd person yn gwneud y canlynol:
- Anfon negeseuon cas neu fygythiol.
- Defnyddio sgwrs mewn gêm i sbamio neu aflonyddu.
- Dynwared rhywun drwy'r cyfryngau cymdeithasol.
- Dosbarthu lluniau ffug neu luniau sy'n codi cywilydd ar rywun.
- Rhannu gwybodaeth bersonol rhywun. Gelwir hyn hefyd yn docsio (doxxing yn Saesneg).
- Trefnu ymosodiad neu ffrae sy’n cynnwys llawer o bobl. Mae hyn yn digwydd pan fydd unigolion yn dod at ei gilydd i aflonyddu, cythruddo neu fygwth person neu gymuned ar-lein.
- Nid yw'n cynnwys pobl o fannau neu grwpiau ar-lein.
- Defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i greu cynnwys bwlio.
Mae seiberfwlio yn un math o niwed ar-lein y gall plant ei wynebu, a gall orgyffwrdd â risgiau eraill. I gael rhagor o wybodaeth am am gadw eich plentyn yn ddiogel pan fyddan nhw ar-lein mae gennym gyngor ac arweiniad i'ch helpu chi.
Er bod bwlio'n gallu digwydd ar-lein yn unig, dydy bwlio ddim yn aros yn y byd digidol i lawer o blant. Mae bwlio ar-lein ac wyneb-yn-wyneb yn aml yn gysylltiedig (Ofcom, 2024) felly nid yw bob amser yn hawdd gwahanu’r ddau.
Arwyddion bod eich plentyn yn cael ei fwlio
Ble bynnag mae'r bwlio'n digwydd, gall plant sy'n ei brofi deimlo'n ddiymadferth ac efallai na fyddan nhw’n teimlo'n gyfforddus yn siarad amdano gyda chi. Efallai y byddan nhw hefyd yn ceisio cuddio beth sy'n digwydd oherwydd eu bod yn ofni y gallai eich cyfranogiad wneud pethau'n waeth neu nad ydyn nhw eisiau eich poeni chi. Gall hyn ei gwneud yn anodd iawn gwybod yn union beth sy'n digwydd neu beth allwch chi ei wneud i helpu. Felly, os na fyddwch chi'n sylwi ar rywbeth ar unwaith, peidiwch â bod yn rhy galed arnoch chi eich hun.
- Mae pob sefyllfa'n wahanol, ond dyma rai arwyddion bod plentyn yn cael ei fwlio:
- Amharodrwydd sydyn neu annisgwyl i fynd i'r ysgol, gan gynnwys cymryd arno ei fod yn sâl neu'n colli'r ysgol.
- Dod adref dro ar ôl tro gydag eiddo wedi torri neu wedi mynd ar goll.
- Anafiadau sy'n anodd eu hegluro.
- Newidiadau yn y defnydd o gyfrifiaduron neu ffonau.
- Newidiadau mewn hwyliau neu ymddygiad, fel colli hunanhyder, bod yn fwy cryg nag arfer, neu dreulio mwy o amser ar ei ben ei hun yn ei ystafell.
- Newidiadau mewn arferion cysgu neu fwyta arferol.
- Gofyn am arian heb unrhyw dystiolaeth ei fod yn ei wario’n bersonol.
Newidiadau mewn perfformiad academaidd neu agwedd yn yr ysgol. Gallai hyn gynnwys amharodrwydd i gymryd rhan mewn pethau neu arddangos ymddygiad heriol, a all gynnwys bwlio pobl eraill.
Sut mae cefnogi eich plentyn os yw'n cael ei fwlio
Gall fod yn anodd iawn dysgu bod eich plentyn yn cael ei fwlio, ac weithiau'n anoddach fyth os nad yw eisiau siarad amdano. Mae plant yn aml yn poeni y gallai dweud wrth oedolyn wneud pethau'n waeth, felly mae'n bwysig mynd i’r afael â’r sgwrs yn ofalus a cheisio deall sut mae pethau'n teimlo o'u safbwynt nhw.
Dylai eich plentyn deimlo bod ei gartref yn lle diogel lle gall siarad yn onest â chi am ei brofiadau a'i bryderon. Atgoffwch eich plentyn y gallai ddod atoch chi i siarad am unrhyw beth ac y byddwch chi bob amser yno i wrando arno nhw a'i helpu.
Os bydd eich plentyn yn dweud wrthych ei fod yn cael ei fwlio:
- Ceisiwch beidio â chynhyrfu ac ysgrifennu’r hyn mae wedi'i ddweud wrthych chi, gan gynnwys enwau a dyddiadau os yw'n eu cofio. Gallwch ei annog i gadw dyddiadur o'r hyn sy'n digwydd er mwyn i chi gael cofnod.
- Siaradwch â'ch plentyn am sut mae'n teimlo a'i helpu i ddeall ac enwi ei emosiynau. Os yw'n teimlo'n bryderus, mae gennym ganllawiau ar sut gallwch chi ei gefnogi.
- Dywedwch wrth eich plentyn fod ganddo hawl i fod yn ddiogel. Dywedwch wrtho nad yw ar fai am yr hyn sy'n digwydd.
- Peidiwch â herio rhieni neu ofalwyr bwli eich plentyn eich hun. Yn hytrach, siaradwch ag athrawon eich plentyn neu dîm bugeiliol neu ddiogelu'r ysgol (os nad ydych chi'n siŵr pwy ydyn nhw, gofynnwch i athro dosbarth eich plentyn neu yn nerbynfa'r ysgol) er mwyn iddyn nhw allu rhoi'r cymorth cywir i chi. Mae timau bugeiliol a diogelu yn cefnogi llesiant plant ac yn eu hamddiffyn rhag niwed, felly dylen nhw fod mewn sefyllfa dda i'ch helpu chi a'ch plentyn.
Casglwch wybodaeth gan athrawon eich plentyn am y camau nesaf, pwy fydd eich prif gyswllt a phwy y gallwch chi gysylltu â nhw os bydd y bwlio'n parhau neu os bydd angen mwy o gymorth ar eich plentyn.
Beth allwch chi ei wneud os yw'r bwlio'n digwydd ar-lein
Os yw eich plentyn yn profi seiberfwlio:
- Casglwch dystiolaeth fel sgrinluniau o negeseuon. Gallwch ddangos y rhain i'r ysgol, neu o bosibl i'r heddlu, os yw'r bwlio'n digwydd all-lein ac ar-lein.
- Mae gan y rhan fwyaf o lwyfannau bolisïau yn erbyn ymddygiadau fel sbamio, sylwadau sarhaus, neu iaith casineb. Gallwch helpu eich plentyn i wneud y canlynol:
- Riportio negeseuon neu gyfrifon sarhaus yn uniongyrchol i'r llwyfan neu'r wefan.
- Defnyddio nodweddion rhwystro i atal bwlis rhag cysylltu â nhw.
- Adolygu ei osodiadau preifatrwydd i gyfyngu ar bwy sy'n gallu gweld neu wneud sylwadau ar y pethau mae’n eu postio.
- Trafodwch nad yw ymateb yn bersonol i seiberfwlio bob amser yn ddefnyddiol. Efallai y byddwch eisiau siarad am yr ymadrodd calla dawo neu’n Saesneg ‘don't feed the trolls’. Helpwch eich plentyn i ganolbwyntio ar gamau sy'n gwneud iddo deimlo'n ddiogel a'i fod yn cael ei gefnogi all-lein, fel siarad â chi, athro, neu oedolyn dibynadwy arall.
Nid yw bwlio yn drosedd penodol yn y DU. Fodd bynnag, gallai rhai mathau o ymddygiad ar-lein fod yn drosedd. Dyma enghreifftiau o ymddygiad sy'n anghyfreithlon:
- Bygythiadau i ladd neu achosi niwed i rywun.
- Iaith casineb, fel hiliaeth neu homoffobia.
- Rhannu lluniau neu fideos preifat neu rywiol heb ganiatâd, a elwir weithiau'n 'bornograffi dial'. Fodd bynnag, os oes unrhyw un yn y lluniau neu'r fideos o dan 18 oed, mae hwn yn ddeunydd sy’n cam-drin plant yn rhywiol (CSAM). Mae'n anghyfreithlon gwneud, meddu, dosbarthu neu ddangos hwn i unrhyw un. Mae hyn yn berthnasol i sefyllfaoedd lle mae'r anfonwr a'r derbynnydd o dan 18 oed ac wedi creu a rhannu delweddau drwy gonsensws.
Os ydych chi'n credu bod eich plentyn mewn perygl neu os yw'r bwlio'n cynnwys unrhyw un o'r ymddygiadau hyn, dylech gysylltu â'r heddlu.
Os yw lluniau neu fideos rhywiol o’ch plentyn wedi mynd ar-lein, a’u bod dan 18 oed, gall Report Remove, sy’n cael ei redeg gan Childline, a'r Internet Watch Foundation (IWF) helpu i’w tynnu i lawr a’ch cefnogi.
Mae gennym fwy o gyngor ar ganllawiau ar sut i helpu i gadw eich plentyn yn ddiogel ar-lein.
Sut mae cael y cymorth iawn gan ysgol eich plentyn
Os yw eich plentyn wedi treulio rhywfaint o amser y tu allan i'r ysgol oherwydd bwlio, bydd staff ysgol eich plentyn eisiau gweithio gyda chi a'ch teulu fel ei fod yn dychwelyd mor ddidrafferth â phosibl.
Gallai hyn gynnwys creu cynllun cymorth, cytuno ar gamau nesaf clir, a phenderfynu ar fesurau eraill a allai helpu eich plentyn i setlo'n ôl yn yr ysgol yn y tymor hir.
Pan fyddwch yn siarad ag athrawon eich plentyn am eich pryderon:
- Ceisiwch beidio â chynhyrfu a chofiwch efallai na fyddan nhw’n gwybod bod eich plentyn yn cael ei fwlio neu efallai eu bod wedi clywed fersiwn wahanol o ddigwyddiadau.
- Byddwch mor benodol â phosibl am yr hyn y mae eich plentyn wedi'i ddweud wrthych chi. Dylech gynnwys dyddiadau, enwau, lleoedd, ac unrhyw wybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol yn eich barn chi.
- Gwnewch nodyn o'r camau y mae'r ysgol yn bwriadu eu cymryd.
- Gofynnwch a oes unrhyw beth ychwanegol y gallwch ei wneud i gefnogi eich plentyn a meithrin ei hyder.
- Cadwch mewn cysylltiad rheolaidd â'r ysgol, rhoi gwybod sut mae pethau'n mynd a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf os bydd pethau'n gwella, yn ogystal ag os oes angen gwneud mwy.
Mae gan y Gynghrair Gwrth-fwlio fwy o wybodaeth a chyngor defnyddiol ar gefnogi eich plentyn os yw’n cael ei fwlio.
Beth ddylwn i ei wneud os yw fy mhlentyn wedi cael ei gyhuddo o fwlio?
Gall fod yn anodd darganfod bod eich plentyn wedi'i gyhuddo o fwlio. Efallai y byddwch chi'n teimlo sioc, yn ypset, neu'n ansicr sut i ymateb, ond gall unrhyw un fwlio. Mae'n bwysig cofio bod plant sy'n bwlio yn aml angen dealltwriaeth a chefnogaeth i'w helpu i wneud newidiadau cadarnhaol.
Mae llawer o resymau pam y gallai plentyn ymddwyn fel hyn. Weithiau, efallai ei fod yn copïo'r hyn maen wedi gweld ei ffrindiau'n ei wneud, neu'n teimlo pwysau i ffitio i mewn. Gall plant hefyd adlewyrchu'r ymddygiad maen nhw'n ei weld gan eraill, gan gynnwys brodyr a chwiorydd hŷn, cyfoedion, neu hyd yn oed oedolion yn eu bywydau. Mewn rhai achosion, gall bwlio fod yn arwydd bod plentyn yn cael trafferth gydag emosiynau neu sefyllfaoedd anodd, fel straen gartref neu gael ei effeithio gan gam-drin domestig.
Os yw eich plentyn yn bwlio, ceisiwch ei helpu i ganolbwyntio ar sut y gall newid ei ymddygiad yn hytrach na'i labelu'n 'ddrwg' neu'n 'gas'. Er enghraifft, gallech ddweud rhywbeth fel 'Pan fyddi di’n parhau i eithrio dy chwaer o’r gêm mae’n brifo ei theimladau ac yn gwneud iddi deimlo’n ddrwg.’
Os ydych chi'n meddwl bod eich plentyn yn dangos ymddygiad bwlio:
- Siaradwch â’ch plentyn yn dawel ac yn ysgafn am yr ymddygiad rydych chi wedi sylwi arno, neu'r hyn mae pobl eraill wedi'i ddweud wrthych chi. Cymerwch amser i glywed ochr eich plentyn o'r stori a chadw meddwl agored. Ceisiwch wrando heb farnu fel ei fod yn teimlo'n ddiogel yn bod yn onest.
- Helpwch eich plentyn i archwilio'r rhesymau pam ei fod yn ymddwyn felly. Gofynnwch gwestiynau i helpu eich plentyn i feddwl beth allai fod y tu ôl i'w weithredoedd. Efallai ei fod yn teimlo dan bwysau i weithredu mewn ffordd benodol, yn teimlo ei fod yn cael ei adael allan, bod ganddo hunan-barch isel neu ei fod yn ansicr sut i reoli ei emosiynau. Gwnewch yn siŵr nad yw eich plentyn yn ymateb i’r bwlio mae'n ei brofi, neu wedi'i brofi, drwy fwlio pobl eraill. Archwiliwch a yw bwlio yn rhan o broblem ehangach yn ei ysgol neu ei grŵp cyfoedion. Er enghraifft, gallech ofyn iddo, “Wyt ti wedi sylwi bod pobl eraill yn dy grŵp yn ymddwyn fel hyn hefyd?” Neu “oes pobl sy’n cael eu gadael allan neu eu targedu’n rheolaidd?” Gall hyn helpu eich plentyn i fod yn agored am ddeinameg grŵp neu bwysau y gallai fod yn eu profi. Weithiau mae ymddygiad niweidiol yn deillio o fod eisiau creu argraff ar gyfoedion, osgoi dod yn darged ei hun, neu ymdopi â heriau nad yw'n gwybod sut i'w mynegi. Gall annog sgwrs onest a thawel roi cipolwg i chi ar yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd a helpu eich plentyn i gydnabod effaith ei weithredoedd.
- Efallai fod ffrindiau presennol eich plentyn yn cael effaith negyddol ar sut mae'n ymddwyn. Ceisiwch siarad am beth mae bod yn ffrind da wir yn ei olygu, a'i annog i feithrin perthnasoedd mwy cadarnhaol.
- Canolbwyntiwch ar labelu’r ymddygiad yn hytrach na’r plentyn. Cofiwch enwi a labelu'r ymddygiad ac nid y person fel y peth sy'n achosi'r broblem. Eglurwch nad yw'r ymddygiad yn rhan o bwy ydyw, mae'n ymddygiad mae'n gallu ei newid. Gall hyn helpu plant i sylweddoli eu bod yn gallu gwneud dewisiadau gwahanol a newid y ffordd maen nhw'n ymgysylltu ag eraill.
- Os yw’n digwydd ar-lein, efallai nad ydyn nhw'n gwybod pa mor niweidiol y gall ymddygiad seiberfwlio fod, neu efallai eu bod yn meddwl ei fod yn llai difrifol na bwlio all-lein. Siaradwch â nhw am sut gall geiriau a gweithredoedd ar-lein gael effaith emosiynol wirioneddol, ac y gall hyd yn oed negeseuon, postiadau neu jôcs sy'n ymddangos yn fach wneud i rywun deimlo'n ynysig, yn ofnus neu'n ypset.
- Anogwch empathi drwy siarad am sut gallai eu hymddygiad wneud i bobl eraill deimlo. Helpwch nhw i feddwl am sut gallan nhw gywiro pethau a gwneud dewisiadau mwy caredig yn y dyfodol.
- Os yw'r ymddygiad yn digwydd yn yr ysgol, gweithiwch gydag athrawon a staff yr ysgol i ddeall beth sy'n digwydd a dod o hyd i ffyrdd o gefnogi ymddygiad cadarnhaol.
Dydy hi byth yn rhy hwyr i blentyn ddysgu o'i gamgymeriadau. Anogwch eich plentyn i gymryd cyfrifoldeb dros ei weithredoedd a meddwl am yr hyn y gall ei wneud i wella pethau, boed hynny'n ymddiheuro o waelod calon, cynnwys rhywun sydd wedi cael ei adael allan, neu ddod o hyd i ffyrdd bach o ddangos caredigrwydd. Dathlwch unrhyw ymdrech mae'n ei wneud i newid, ni waeth pa mor fach.
Mae gan y Gynghrair Gwrth-fwlio fwy o wybodaeth os yw eich plentyn wedi cael ei gyhuddo o fwlio pobl eraill.
Angen rhagor o gymorth a chefnogaeth os yw'ch plentyn yn profi bwlio neu seiberfwlio?
- Mae gan yr NSPCC wybodaeth a chyngor i rieni a gofalwyr ar fwlio a seiberfwlio.
- Mae gan Childline gyngor i blant a phobl ifanc a allai fod yn profi bwlio neu seiberfwlio.
- Mae gan Kidscape wybodaeth am seiberfwlio a diogelwch digidol.
- Os yw'r sefyllfa’n effeithio ar lesiant eich plentyn, mae gennym adnoddau ysgrifenedig ar gyfer pobl ifanc ar ofalu am eu hiechyd meddwl.

Plant y mae cam-drin domestig wedi effeithio arnynt
Mae cam-drin domestig yn gallu cael effaith ddinistriol ar deuluoedd. Os ydych chi’n meddwl bod cam-drin domestig yn effeithio ar blentyn, mae camau y gallwch eu cymryd i’w helpu i deimlo’n ddiogel a’i fod yn cael ei gefnogi, ac mae gwasanaethau a all eich arwain drwy’r camau nesaf.

Cadw plant yn ddiogel ar-lein
Fel rhiant neu ofalwr, mae’n hawdd teimlo eich bod yn cael eich llethu gan yr holl apiau, deallusrwydd artiffisial, gemau a chyfryngau cymdeithasol sy’n newid o hyd. Os yw eich plentyn chi’n chwarae gemau, yn sgwrsio, yn postio neu’n ffrydio, rydyn ni yma i'ch cefnogi chi gyda chyngor ymarferol a chanllawiau gan arbenigwyr i helpu i gadw plant yn ddiogel ac yn hapus ar-lein.

Annog eich plentyn i fod yn agored am ei deimladau, ei ddiogelwch a’i lesiant
Os ydych chi eisiau gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn, neu os oes gennych bryder mwy difrifol, mae gennym ni bum awgrym sy’n cael eu cefnogi gan arbenigwyr i’ch helpu i feithrin ymddiriedaeth, hyder a chysylltiad drwy sgyrsiau bob dydd.
Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028.