Mae ymateb yn golygu meddwl am yr hyn sydd ei angen ar eich plant ac ymateb iddo. Dyma sylfaen y dull Pum Ffordd i Ffynnu felly cyn i chi allu gwneud y pedwar gweithgaredd arall, gwnewch yn siŵr eich bod wedi cwblhau’r un yma.
Yma, mae gennym gyngor ac arweiniad ar gyfer ymateb i blant o bob oed, o fabanod newydd-anedig i bobl ifanc yn eu harddegau.
Beth mae Pum Ffordd i Ffynnu yn ei olygu wrth 'ymateb'?
Mae ymateb yn golygu eich bod yn sylwi pan fydd rhywbeth o’i le gyda phlentyn neu efallai y bydd angen ymdeimlad o gysylltiad arno gan rywun sydd ar gael yn emosiynol. Mae hynny'n swnio'n gymhleth ond mae'n golygu sylwi beth mae eich plant - drwy eiriau, gweithredoedd neu ymddygiad - yn ceisio ei ddweud wrthych chi a dangos eich bod chi'n gwrando a'ch bod chi'n poeni amdanyn nhw.
P'un a ydyn nhw’n 18 mis neu'n 18 oed, os yw eich plentyn yn ypset, wedi blino, wedi cyffroi neu'n rhwystredig, efallai na fyddan nhw bob amser yn dweud hynny’n glir. Drwy ddangos i'ch plant, ni waeth faint oed ydyn nhw, eich bod chi’n sylweddoli bod rhywbeth o’i le a'ch bod chi’n ymateb iddo, gallwch eu helpu i deimlo'n ddiogel a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
A bob tro y byddwch chi'n gwneud hyn, rydych chi'n helpu ymennydd eich plant i dyfu'n gryfach ac yn cefnogi eu datblygiad emosiynol.
Mae'n anodd gwneud rhannau eraill y dull Pum Ffordd i Ffynnu (cwtsio/ymgysylltu, ymlacio, chwarae, siarad) heb wneud y rhan hon yn gyntaf. Felly, er enghraifft, os ydych chi'n ceisio siarad â'ch plentyn a'i fod yn teimlo'n rhwystredig neu'n ypset, mae angen i chi ymateb i’r ffordd mae'n teimlo a delio â hynny yn gyntaf cyn parhau â'r sgwrs.
Sut i ymateb i fabanod
Pan fyddwch chi'n gwrando ac yn ymateb i arwyddion eich babi, fel crio, mynegiant yr wyneb, neu symudiadau'r corff, rydych chi'n ei helpu i ddechrau deall bod y byd yn lle diogel a’i bod hi’n ddiogel ymddiried ynoch chi.
Os ydy eich babi'n crio, gofynnwch i chi'ch hun:
- Ydy’r babi eisiau bwyd? (Tarwch olwg ar ein tudalennau bwydo ar y fron a bwydo o'r botel i gael rhagor o gymorth.)
- Oes angen newid ei glwt?
- Oes angen ei ddal neu ei gysuro?
- Ydy’r babi’n teimlo'n ofnus neu wedi'i lethu?
Bob tro rydych chi'n diwallu anghenion eich babi, mae eich corff chi a chorff y babi yn rhyddhau hormonau sy'n gwneud i chi deimlo'n dda, fel ocsitosin. Mae hyn yn cryfhau eich perthynas ac yn helpu eich babi i deimlo'n dawel ac yn ddiogel.
Pan fyddwch chi'n ymateb mewn ffyrdd tebyg a chyson, mae ymennydd eich babi'n dechrau ffurfio cysylltiadau cryf a dibynadwy. Mae'r llwybrau hyn yn caniatáu i wybodaeth deithio'n gyflym rhwng gwahanol rannau o'r ymennydd, gan osod y sylfaen ar gyfer dysgu, datblygiad emosiynol ac ymddiriedaeth yn y dyfodol.
Sut i ymateb i'ch plentyn bach
Mae plant bach yn aml yn mynegi emosiynau cryf drwy ymddygiad corfforol, fel taflu pethau pan fyddan nhw'n gyffrous, yn rhwystredig neu'n flin. Dyma eu ffordd nhw o gyfathrebu cyn iddyn nhw gael y geiriau i egluro sut maen nhw'n teimlo. Yn lle meddwl “Pam maen nhw'n gwneud hyn?”, ceisiwch ofyn, “Beth maen nhw'n ceisio ei ddweud?”
Mae'r ymddygiadau hyn yn aml yn cael eu labelu'n strancio, chwilio am sylw, neu'r cyfnod heriol pan fydd plentyn bach yn ddwy oed, sef y ‘terrible twos’. Ond gall fod yn ddefnyddiol eu hail-fframio yn arwyddion o drallod, arwydd bod eich plentyn yn cael ei lethu, dim camymddwyn.
Pan fyddwch chi'n meddwl am yr ymddygiad yn y ffordd yma, rydych chi'n fwy tebygol o ymateb gyda charedigrwydd, cysur a chwilfrydedd. Tarwch olwg ar ein tudalen ar gefnogi ymddygiad cadarnhaol i gael mwy o syniadau (yn dod yn fuan).
Helpu eich plentyn bach i deimlo'n ddiogel gyda ffiniau
Mae angen ffiniau clir a chyson ar blant bach. Mae gwybod beth i'w ddisgwyl yn eu helpu i deimlo'n ddiogel, ac mae'r diogelwch hwn yn rhoi'r hyder iddyn nhw archwilio a dysgu o fewn y terfynau hynny.
Sut i ymateb pan fydd plentyn bach yn strancio
Rydyn ni'n gwybod y gall fod yn anodd iawn ymateb mewn ffordd dawel a thosturiol pan fydd eich plant bach yn ypset neu'n cambihafio, ond ceisiwch wneud hynny. Cofiwch eu bod nhw'n teimlo pethau nad ydyn nhw'n gallu eu mynegi a'u bod nhw'n cael trafferth cyfathrebu.
Mae peidio â chynhyrfu yn helpu i leihau hormonau straen fel cortisol ac adrenalin y ddau ohonoch chi, gan ei gwneud hi'n haws tawelu'r sefyllfa.
Mae ein hymennydd yn gweithio orau pan fyddwn yn cael sylw cariadus a gofal ymatebol. Os bydd plant yn cael eu hanwybyddu, yn enwedig yn ystod cyfnodau o drallod, mae’n gallu amharu ar eu system nerfol, gan wneud iddyn nhw deimlo'n bryderus, yn ddig neu wedi'u datgysylltu.
Efallai y byddwch chi'n teimlo y bydd anwybyddu'r ymddygiad yn debygol o olygu eu bod yn stopio'n gynt ond pan na ddaw ymateb, efallai y bydd ymennydd plant yn diffodd i ddiogelu eu hunain. Gall hyn ymddangos fel eu bod yn tynnu’n ôl neu ddiffyg teimlad emosiynol. Ond pan fyddwch chi'n cynnig sylw cynnes a phenodol, bydd system nerfol plant yn setlo, gan eu helpu i deimlo'n ddiogel, a’u bod yn cael eu gweld a'u deall.
Os bydd plant yn ypset ac yn cambihafio, ceisiwch beidio â chynhyrfu, rhowch wybod iddyn nhw eich bod chi’n deall eu bod yn ypset a'ch bod chi yno iddyn nhw. Gallwch roi cynnig ar y dull 'cysylltu cyn cywiro' yn nes ymlaen i lawr y dudalen.
Rhoi eich sylw llawn i'ch plant
Mae'n eithriadol o anodd pan fyddwch chi'n ceisio cydbwyso gwaith, tasgau o amgylch y tŷ a phlant eraill, ond ceisiwch neilltuo rhywfaint o amser bob dydd i roi eich sylw llawn i'ch plant bach. Pan mae eich plentyn yn cael eich sylw chi i gyd, mae pob rhan o’i ymennydd yn gweithio. Ond pan fyddwch chi'n gwylio'r teledu, yn defnyddio eich ffôn neu'n gwneud tasgau tŷ, mae eich plentyn yn colli allan ar y cysylltiad hwnnw.
Bydd eich plentyn yn gwybod sut rydych chi'n ymateb iddo drwy wneud y canlynol:
- Gwylio eich mynegiant.
- Sylwi ar iaith eich corff.
- Gwrando ar dôn eich llais.
Mae'r arwyddion hyn yn dweud wrth blant a ydyn nhw'n ddiogel, yn cael eu caru ac yn cael eu clywed.
Sut mae ymateb i blant hŷn
Wrth i blant dyfu, maen nhw'n dechrau datrys pethau drostyn nhw eu hunain. Gall rhoi lle iddyn nhw roi cynnig ar bethau ac yna aros i weld a oes angen eich help arnyn nhw fod yn gam cyntaf defnyddiol. Mae bod yn ymatebol ar y cam hwn yn golygu cadw eich plentyn mewn cof, sylwi sut mae'n teimlo a deall yr hyn y gallai fod ei angen arno gennych chi.
Pan fyddwch chi'n ymateb mewn ffordd dawel, garedig a chariadus, mae eich plentyn yn parhau i ddysgu o’ch esiampl chi. Mae hyn yn cymryd:
- Amser.
- Amynedd.
- Cysylltiad.
Ailddiffinio ymddygiad fel trallod
Yn yr un modd â phlant iau, gall fod yn ddefnyddiol meddwl am ymddygiad heriol fel 'trallod', nid fel ymddygiad ‘drwg’. Mae'r newid hwn mewn persbectif yn helpu i greu cyfle i ddysgu a chysylltu, yn hytrach na gwrthdaro.
Cysylltu cyn cywiro
Pan fydd eich plant yn ypset neu'n cambihafio, ceisiwch gysylltu'n emosiynol cyn mynd i'r afael â'r ymddygiad. Mae dangos eich bod yn gallu gweld y sefyllfa o'u safbwynt nhw yn eu helpu i deimlo eich bod yn eu deall ac yn fwy parod i wrando.
Dyma sut mae gwneud hynny:
- Cydnabod eu teimladau: "Dwi'n gweld dy fod di'n teimlo'n drist/ blin/rhwystredig iawn ar hyn o bryd. Mae hynny'n anodd." Mae hyn yn helpu eich plentyn i enwi a deall ei emosiynau.
- Gosodwch derfyn clir neu esbonio pam: "Dwi'n gwybod dy fod ti wir eisiau gwneud hynny, ond dydy hynny ddim yn bosib ar hyn o bryd oherwydd..." Mae hyn yn addysgu ffiniau mewn ffordd barchus.
- Helpu i ddatrys problemau: "Beth am i ni feddwl am yr hyn y galli di ei wneud yn lle." Mae helpu eich plant i feddwl am atebion yn meithrin gwytnwch ac annibyniaeth. Dros amser, byddan nhw’n dysgu sut i reoli sefyllfaoedd tebyg ar eu pen eu hunain.
Datrys pethau pan nad ydyn nhw’n mynd yn esmwyth
Does neb yn ymateb yn berffaith bob tro, ac mae hynny'n iawn. Yr hyn sy'n bwysig yw eich bod yn ail-ddatblygu’r cysylltiad. Os ydych chi wedi ymateb mewn ffordd nad oeddech chi wedi'i bwriadu, cymerwch funud i egluro'n syml ac yn dawel pam ei fod wedi digwydd:
"Roeddwn i'n teimlo'n rhwystredig iawn a wnes i ddim ymateb fel roeddwn i eisiau gwneud. Mae’n ddrwg gen i.”
Mae cadw mewn cysylltiad ar ôl moment anodd yn dysgu sgil bywyd pwysig i'ch plant: sut i ddysgu o gamgymeriadau a symud ymlaen.
Rhestr wirio ddyddiol
Mae ymateb wrth galon eich perthynas â'ch plant. Mae'r adegau bach hyn o gysylltiad bob dydd yn helpu i adeiladu llwybrau cryf yn yr ymennydd a diogelwch emosiynol.
Defnyddiwch y rhestr wirio syml hon i bwyso a mesur sut rydych chi wedi ymateb heddiw.
Ydych chi wedi gwneud y rhain?
- Cysylltu drwy roi mwythau, chwarae neu sgwrsio?
- Cynnig canmoliaeth neu anogaeth, mawr neu fach?
- Stopio’r hyn roeddech chi'n ei wneud i roi sylw i'ch plant pan oedd ei angen arnyn nhw?
- Rhannu gwên neu foment gynnes gyda'ch gilydd? Helpu eich plant i deimlo'n ddiogel?
- Cael eiliad i ganolbwyntio'n llwyr arnyn nhw? Diwallu eu hanghenion bob dydd?
- Peidio â chynhyrfu, hyd yn oed yn ystod adegau anodd?
Mae pob eiliad fach o gysylltiad yn helpu i adeiladu ymennydd ac ymdeimlad o ddiogelwch eich plant. Mae popeth yn helpu. Ac os nad aeth heddiw yn ôl y bwriad, mae hynny'n iawn, mae pob diwrnod yn gyfle newydd i ailgysylltu ac ymateb gyda gofal.
Dysgu am bum bloc Pum Ffordd i Ffynnu
Ymlacio
Mae dysgu sut i ddelio â sefyllfaoedd llawn straen sy'n achosi emosiynau mawr yn sgil hanfodol mewn bywyd.
Siarad
Mae cyfathrebu â'ch plant yn helpu i ddatblygu eu hiaith, eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth gymdeithasol.
Cwtsio/ymgysylltu
Mae’r bloc yma’n ymwneud â chysylltu â'ch plant, gan roi gwybod eich bod chi yno iddyn nhw.
Chwarae
Mae bod yn chwareus yn eich helpu i gael perthynas agos gyda'ch plentyn wrth i chi gael hwyl gyda'ch gilydd, a gall eu helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol.

Atal brodyr a chwiorydd rhag ffraeo
Hyd yn oed pan fydd plant yn caru eu brodyr a’u chwiorydd ac yn cyd-dynnu â nhw, gallwch ddisgwyl rhywfaint o wrthdaro. Darllenwch gyngor i’ch helpu i arwain eich plant drwy gyfnodau da a drwg yn eu perthynas â’u brodyr a’u chwiorydd.

Cefnogaeth a chyngor defnyddiol i fod y Tad gorau posibl
P’un a yw eich plentyn yn eich galw chi’n Dad neu’n Dadi, dim beth mae’n eich galw chi sy’n bwysig, ond y berthynas rydych chi'n ei meithrin â’ch plentyn. Mae gennym gyngor i’ch arwain a’ch cefnogi i fod y tad gorau y gallwch fod.

O blant bach i bobl ifanc yn eu harddegau: sut gallwch chi annog noson dda o gwsg
Mae cael digon o gwsg yn hanfodol i iechyd, hwyliau a datblygiad eich plentyn, p’un a yw’n blentyn bach neu’n berson ifanc yn ei arddegau. Mae pob plentyn yn wahanol, ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich plentyn (a chithau!) i gysgu’n well.
Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028. Cafodd y dudalen hon ei chynhyrchu ar y cyd â KCA.
