Mae dau dad yn gorwedd yn eu gwely gyda'u merch. Mae un tad sydd â gwallt melyn yn darllen llyfr Dr Seuss iddi tra bo'r tad arall sydd â gwallt tywyll yn gwenu ac yn edrych ar y llyfr. Mae eu merch yn gwenu, yn edrych i fyny ar ei thad sy'n darllen iddi. 

O blant bach i bobl ifanc yn eu harddegau

Sut gallwch chi annog noson dda o gwsg

Mae cael digon o gwsg yn hanfodol i iechyd, hwyliau a datblygiad eich plentyn ac ydy, mae hyn yn wir o blentyndod hyd at y glasoed. Er bod pob plentyn yn wahanol, mae pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich plentyn (a chi!) i gysgu'n fwy heddychlon. 

Os ydych chi’n poeni am gwsg eich plentyn, siaradwch â'ch ymwelydd iechyd neu'ch meddyg teulu. Maen nhw yno i'ch helpu chi. 

Mae’r cynnwys yn yr adran hon wedi cael ei gynhyrchu ar y cyd â The Sleep Charity.  

Mae’n bwysig cofio bod datblygiad pob plentyn yn wahanol. Er bod oedran yn rhoi syniad cyffredinol i ni o beth i'w ddisgwyl, mae'n bwysicach rhoi sylw i anghenion penodol eich plentyn. Meddyliwch am yr adran hon fel canllaw i'ch cefnogi ar eich taith magu plant, nid rhestr wirio y mae’n rhaid i chi lynu wrthi.

Plant bach rhwng 1 a 3 oed.

Mae angen 11-14 awr o gwsg ar gyfartaledd mewn 24 awr ar blant bach rhwng un a thair oed. Mae hyn wedi'i rannu rhwng cysgu yn ystod y nos ac am gyfnod o tua 90 munud yn ystod y dydd, ond cofiwch fod pob plentyn yn wahanol felly peidiwch â phoeni os ydy hyn ychydig yn fwy, neu ychydig yn llai. Mae cwsg yn helpu eich plentyn bach i ddatblygu, a bod yn barod am y dydd.

Mae'n syniad da ceisio cael trefn amser gwely i helpu eich plant bach i ymlacio a gwybod beth i'w ddisgwyl bob nos. 

Gallai trefn amser gwely eich plant bach gynnwys: 

  • Cael bath cynnes. 
  • Glanhau eu dannedd. 
  • Eu newid i'w dillad nos. 
  • Darllen stori amser gwely iddyn nhw. 
  • Canu hwiangerdd neu chwarae cerddoriaeth ymlaciol. 
  • Cael cwtsh. 
  • Dweud nos da wrth aelodau'r teulu neu deganau hyd yn oed! 
  • Troi'r golau i lawr. 

Mae'n syniad da cyfyngu amser o flaen sgrin tua awr cyn amser gwely a chadw sgriniau allan o ystafelloedd gwely. Bydd y golau'n bywiogi eich plentyn ac yn ei gwneud yn fwy anodd iddo dawelu.

Cyn ysgol a chynradd cynnar, 4 i 8 oed. 

O tua phedair oed ymlaen, bydd angen tua 11-12 awr o gwsg ar eich plentyn bob nos. Pan fydd eich plentyn yn 8 oed, bydd hyn yn gostwng i tua 10 awr.

Fel arfer, bydd y cyfnodau cysgu yn ystod y dydd yn dod i ben erbyn iddyn nhw droi’n 5 oed ond mae rhai plant yn rhoi'r gorau i gysgu yn ystod y dydd yn llawer cynharach.   

Plant hŷn, rhwng 9 a 12 oed.

Yn ystod y cyfnod yma, bydd angen tua 9-10 awr o gwsg ar eich plentyn. 

I gefnogi cwsg gwell: 

  • Cadwch at drefn amser gwely drwy ddilyn yr un drefn o weithgareddau tawel ond newidiwch bethau i'w gwneud yn briodol i oedran y plant. Er enghraifft, yn lle darllen iddyn nhw, efallai y byddan nhw eisiau darllen ar eu pen eu hunain.  
  • Lleihau'r defnydd o sgrin cyn mynd i'r gwely. Gall y golau o ddyfeisiau eu hatal rhag mynd i gysgu. 
  • Anogwch weithgaredd corfforol rheolaidd i helpu i wneud yn siŵr eu bod wedi blino'n gorfforol ond ceisiwch osgoi ymarfer corff egnïol cyn mynd i'r gwel.
  • Cadwch yr ystafell wely yn dywyll, yn oer ac yn gyfforddus. 

Sut i wella cwsg person ifanc yn ei arddegau.

Fel arfer, mae angen rhwng 8 a 10 awr o gwsg ar bobl ifanc yn eu harddegau bob nos. Wrth i'w hamserlenni, eu bywydau cymdeithasol a'u corff newid, nid yw cwsg yn aml yn flaenoriaeth, ond mae cwsg da yn hanfodol ar gyfer iechyd meddwl, dysgu a llesiant cyffredinol. 

Dyma awgrymiadau i helpu pobl ifanc yn eu harddegau i gysgu: 

  • Cyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau digidol mewn ystafelloedd gwely. Eu hannog i beidio â defnyddio sgrin am 30-60 munud cyn mynd i gysgu oherwydd gall golau sgrin ei gwneud hi'n anoddach mynd i gysgu. Mae cael dyfeisiau yn yr ystafell wely hefyd yn ei gwneud yn fwy tebygol y bydd eich plentyn yn aros ar ei draed yn hwyr. 

  • Eu hannog i gadw'n gorfforol egnïol. Mae ymarfer corff rheolaidd yn arwain at gwsg gwell yn ogystal â'r holl fanteision eraill. 

  • Awgrymu eu bod yn cyfyngu ar faint o gaffein maen nhw’n ei yfed. Mae caffein mewn diodydd fel cola, te a choffi ac mae llawer iawn ohono mewn rhai diodydd egni sy'n boblogaidd ymysg pobl ifanc yn eu harddegau. Gofyn iddyn nhw gyfyngu ar faint o'r rhain maen nhw'n eu hyfed a dweud wrthyn nhw am eu hosgoi'n llwyr o'r prynhawn ymlaen.     

  • Eu helpu i gadw at drefn reolaidd amser gwely. Gall gwneud yr un pethau yn yr un drefn tua awr cyn mynd i'r gwely eu helpu i fynd i gysgu. Ceisiwch gadw at drefn debyg ar benwythnosau. Er y gall fod yn anodd, anogwch eich plant i beidio â chysgu’n hwyr ar benwythnosau. Gall aros i fyny’n hwyr a chodi’n hwyr amharu ar gloc y corff gan eu gadael gyda theimlad tebyg i "jet lag" fore Llun. 

  • Creu ystafell wely sy'n addas i gysgu. Mae angen amgylchedd cysgu da ar blant yn eu harddegau, hyd yn oed os ydyn nhw’n rhannu ystafell gyda brodyr a chwiorydd. Ystafell sy'n dywyll, yn oer, yn dawel ac mor gyfforddus â phosib.  

  • Neilltuwch amser i drafod problemau neu bryderon. Os nad ydyn nhw eisiau trafod pethau gyda chi, dylech eu hannog i ysgrifennu eu pryderon neu wneud rhestr o bethau i'w gwneud cyn iddyn nhw fynd i'r gwely. Byddan nhw’n llai tebygol o orwedd yn effro’n poeni yn ystod y nos. Os oes pethau’n eu poeni, mae gennym gyngor i bobl ifanc sy’n cael trafferth rheoli eu meddyliau a’u teimladau.  

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth, mae gan Teen Sleep Hub y Sleep Charity lawer o wybodaeth.

Mae gan Young Minds gyngor i bobl ifanc yn eu harddegau a allai fod yn cael problemau cysgu

Oes angen mwy o help arnoch i gael noson dda o gwsg?

Os ydych chi'n cael trafferth cysgu ar hyn o bryd, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Mae llawer o blant yn cymryd amser i setlo i batrymau cysgu cyson, ac mae pob plentyn yn wahanol. Os oes gan eich plentyn AAAA (anghenion addysgol arbennig neu anableddau) efallai y bydd angen cyngor arbenigol arnoch i helpu eich plentyn i gael y cwsg sydd ei angen arno.  

Os byddwch chi’n teimlo eich bod chi’n cael eich llethu, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd, eich meddyg teulu neu chwilio am adnoddau cysgu arbenigol ac elusennau fel The Sleep Charity neu’r rhai ar wefan y GIG. Mae cymorth ar gael, ac mae'n bosibl cysgu'n well. 

Mam yn gwisgo sbectol gyda gwallt tywyll a chrys streipiog yn eistedd ar lawr ystafell wely plentyn yn edrych ar ei merch sydd â gwallt tywyll, sbectol a chrys llwyd amdani. Maen nhw'n gwenu ar ei gilydd. Mae bachgen ifanc gyda sbectol a gwallt tywyll i'w weld ychydig yn yr ymyl dde isaf.  

Datblygu ymennydd iach

P’un a yw eich plentyn yn fabi neu yn ei arddegau, gallwch helpu ei ymennydd i ddatblygu a gweithredu ar ei orau. Rydyn ni wedi ymuno â KCA, arbenigwyr niwrowyddoniaeth, i rannu dull syml ac effeithiol y gallwch ddechrau ei ddefnyddio heddiw.

Babi'n cysgu ar ei ochr mewn crud, yn wynebu i'r chwith, gydag un llaw yn agos at ei geg ac yn gorffwys ar gynfas wen. 

Helpu eich plentyn i setlo yn ei flwyddyn gyntaf

Yn ystod y misoedd cynnar, ac weithiau ar ôl hynny, gall faint mae eich babi'n cysgu deimlo fel y peth pwysicaf yn y byd. Mae ein harbenigwyr wedi rhannu adnodd, a gynhyrchwyd ar y cyd â The Lullaby Trust, sy’n rhoi rhywfaint o gyngor ar gwsg eich babi a'ch llesiant chi yn ystod y cyfnod hwn.

Mae bachgen yn ei arddegau sydd yn gwisgo sythwyr dannedd yn gwenu'n eang wrth iddo sefyll o flaen drych ystafell ymolchi. Mae'n gwisgo crys T gwyn plaen ac yn dal brwsh dannedd trydan yn ei law dde. 

Helpu eich plant i ddysgu gofalu am eu dannedd

Rhwng plentyndod a’u harddegau, mae plant yn mynd drwy newidiadau mawr ac mae hynny’n cynnwys sut maen nhw’n bwyta, yn yfed ac yn gofalu am eu dannedd. Mae gennym gyngor ar sut i roi’r dechrau gorau iddyn nhw er mwyn iddyn nhw gael dannedd iach am oes.

Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028. 

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.