Mae mam gwallt tywyll mewn siwmper marŵn yn chwerthin gyda'i merch gwallt tywyll. Mae’r ferch yn gwisgo crys sgwarog glas a siaced glas tywyll ac maen nhw’n eistedd wrth fwrdd yn mynd dros waith ysgol gyda'i gilydd.  

Pum Ffordd i Ffynnu: Siarad

Mae siarad â'ch plant yn cefnogi eu datblygiad ac yn cryfhau eich perthynas. Yn y dull Pum Ffordd i Ffynnu, mae'r sgwrs yn cynnwys esbonio, disgrifio, gofyn, sgwrsio, arwyddo a chanu.

Pan fyddwch chi'n siarad â'ch plant, rydych chi'n helpu i feithrin eu sgiliau iaith, eu dealltwriaeth o'r byd, a'u llesiant emosiynol. Drwy'r sgyrsiau hyn, mae plant yn dysgu geiriau newydd, yn mynegi eu teimladau, ac yn magu hyder i rannu'r hyn sydd ar eu meddwl.

Rhagor o wybodaeth am siarad ar gyfer gwahanol oedrannau

Sut i siarad â'ch babi

Mae eich babi wrth ei fodd yn clywed eich llais. Mae siarad â babi yn helpu i greu patrymau pwysig yn ei ymennydd sy'n cefnogi iaith a chysylltiad.

Gallwch roi cynnig ar y canlynol:

  • Siarad i gysuro a thawelu meddwl eich babi.
  • Gwrando ar synau’r babi a siarad yn ôl fel petaech chi'n cael sgwrs.
  • Canu hwiangerddi a chaneuon syml.
  • Cynnwys eich babi yn eich trefn ddyddiol drwy ddisgrifio beth rydych chi'n ei wneud, fel dweud, “Beth am i ni newid dy glwt,” wrth gyffwrdd ei freichiau a'i goesau’n ysgafn a’u henwi.
  • Dweud wrth eich babi beth sy'n dod nesaf a dangos gwrthrychau iddo, fel y clwt cyn ei roi ymlaen.

Cymerwch eich amser gydag arferion gofal, gan roi eich sylw llawn i'ch babi ac egluro pob cam. Mae hyn yn ei helpu i deimlo'n ddiogel, yn ei baratoi ar gyfer yr hyn sydd nesaf, ac yn ei addysgu sut i gyfathrebu’n garedig ac yn barchus.

Efallai y byddwch chi’n sylwi eich bod yn siarad yn naturiol â'ch babi mewn llais canu, gyda thraw uwch ac yn arafach. Mae hyn yn helpu eich babi i sylwi eich bod chi’n sgwrsio â nhw. Mae gwneud cyswllt llygad a defnyddio geiriau clir a syml yn cadw sylw babi. Mae'n normal i’ch babi'n edrych i ffwrdd weithiau, mae’n prosesu'r hyn rydych chi'n ei ddweud.

"Mae defnyddio enw go iawn eich babi yn rheolaidd yn ei helpu i'w adnabod ac ymateb iddo. Er bod termau fel cariad neu siwgr yn hyfryd, ceisiwch ddefnyddio enw go iawn eich babi, yn enwedig os bydd pobl eraill yn gofalu amdanyn nhw," medd Karen Marlton Rheolwr Tîm yn Barnardo's.

Siarad gyda phlant bach a phlant cyn oed ysgol 

Mae siarad â'ch plant yn allweddol i'w helpu i fynegi eu hunain a gwneud synnwyr o'r byd o'u cwmpas. Mae angen i chi roi geiriau i blant bach ddisgrifio profiadau newydd, esbonio beth maen nhw'n gallu ei wneud a beth nad ydyn nhw'n gallu ei wneud, a'u helpu i ddeall sut maen nhw'n teimlo.

I dynnu sylw eich plant bach, cofiwch, mae plant ifanc yn aml yn canolbwyntio ar un peth a gall unrhyw beth dynnu eu sylw'n hawdd. Ceisiwch ddefnyddio eu henw a gwneud synau doniol, fel synau anifeiliaid, neu amrywio tôn eich llais. Gall y strategaethau chwareus hyn helpu i ddal eu sylw a gwneud sgyrsiau'n fwy diddorol.

Wrth i'ch plentyn symud i'r blynyddoedd cyn ysgol, gall sgyrsiau ddod yn fwy cyfoethog fyth. Trafodwch beth maen nhw'n teimlo fwyaf cyffrous yn ei gylch, fel dechrau yn yr ysgol, a rhannwch straeon cadarnhaol o'ch profiadau eich hun. Gall siarad yn agored am eu teimladau, eu gweithredoedd, a sut i gael arwyddion emosiynol o'u corff eu helpu i ddatblygu sgiliau datrys problemau pwysig. Mae gwybodaeth am sut i'w helpu i adnabod eu hemosiynau ar gael ar ein tudalen Pum Ffordd i Ffynnu: Ymlacio.

Awgrymiadau ar gyfer siarad gyda phlant bach a phlant cyn oed ysgol

  • Gofynnwch gwestiynau penagored sy'n gofyn am fwy nag ateb ie neu na i annog eich plant i fynegi eu meddyliau a'u teimladau, er enghraifft “Sut oedd hynny'n gwneud i ti deimlo?” neu “Beth wyt ti'n meddwl fydd yn digwydd nesaf?”
  • Defnyddiwch adegau sy’n digwydd bob dydd fel amser bwyd neu amser chwarae i greu geirfa drwy siarad am yr hyn sy'n digwydd, er enghraifft “’da ni angen prynu moron heddiw. Maen nhw'n grensiog ac yn oren.”
  • Enwch eich teimladau chi i helpu eich plant i ddeall a mynegi eu teimladau eu hunain, er enghraifft “Dwi’n teimlo'n hapus oherwydd ein bod ni'n chwarae gyda'n gilydd”.
  • Byddwch yn amyneddgar a rhoi amser i'ch plant ateb heb ruthro. Arhoswch i'ch plant ateb heb dorri ar eu traws.
  • Cofiwch ganmol yr ymdrechion i gyfathrebu, hyd yn oed os nad yw'r geiriau'n berffaith.

Siarad â phlant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau

Wrth i blant dyfu, mae eu hanghenion a'u galluoedd cyfathrebu yn mynd yn fwy cymhleth. Gyda phlant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau, mae annog sgyrsiau ystyrlon yn eu helpu i feddwl yn feirniadol, datblygu ymwybyddiaeth emosiynol a hyder. 

  • Defnyddiwch gwestiynau penagored sy'n gwahodd eich plant i egluro eu meddyliau, eu teimladau a'u syniadau. Er enghraifft, os yw eich plentyn yn chwarae gyda char tegan, gallech ddweud, “Mae’r car glas yna’n hyfryd. I ble wyt ti’n meddwl mae’n mynd?” Mae hyn yn tanio dychymyg ac yn annog iaith ddisgrifiadol.

  • Ewch i lawr i'w lefel nhw’n gorfforol i ymgysylltu'n fwy effeithiol. Pan fyddwch chi'n gweld ar beth maen nhw'n canolbwyntio, gallwch ymuno â'r sgwrs yn fwy naturiol a dangos bod gennych chi ddiddordeb yn eu byd.

  • Ewch ati i ailadrodd ac ymhelaethu ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud i fodelu iaith a dyfnhau'r sgwrs. Er enghraifft, os bydd eich plentyn yn dweud, “Mae'r car yn mynd i'r sw,” efallai y byddwch chi'n ymateb, “Pwy wyt ti’n meddwl sydd yn y car yn mynd i'r sw?” Mae hyn yn helpu i ddatblygu geirfa ac yn annog eich plant i feddwl mwy am y stori maen nhw’n ei hadrodd.

I bobl ifanc yn eu harddegau, mae sgyrsiau'n aml yn dod yn gyfoethocach pan fyddwch chi'n dangos chwilfrydedd am eu teimladau, eu diddordebau a'u barn. Ceisiwch ofyn cwestiynau fel: 

  • “Dwi wedi sylwi dy fod di wedi bod yn gwrando ar y band yna'n aml yn ddiweddar. Beth wyt ti’n hoffi am ei gerddoriaeth?”
  • “Sut oeddet ti'n teimlo ar ôl y gêm neu'r dosbarth yna heddiw?”
  • “Beth ydy dy farn di am y stori newyddion neu'r digwyddiad?”
  • “Pe byddet ti mewn sefyllfa debyg i'r cymeriad yna, beth fyddai'n ffordd dda o ymateb yn dy farn di?”
  • “Beth oedd dy hoff ran o’r diwrnod? Oedd unrhyw beth yn anodd neu'n rhwystredig?”

Gall rhannu eich profiadau eich hun hefyd helpu pobl ifanc yn eu harddegau i fod yn agored, er enghraifft, “Pan oeddwn i’r un oed â thi, dwi'n cofio teimlo'n nerfus am ddechrau rhywbeth newydd. Beth ydy dy farn am hynny?”

Awgrymiadau ar gyfer siarad â’ch plant yn eu harddegau:

  • Annog rhannu teimladau a syniadau: Mae siarad am emosiynau a phrofiadau yn helpu plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau i ddatblygu deallusrwydd emosiynol a sgiliau datrys problemau.
  • Parchu eu hannibyniaeth: Efallai y bydd pobl ifanc eisiau llonydd a siarad pan fyddan nhw’n barod. Rhowch wybod iddyn nhw eich bod chi yno i wrando pryd bynnag maen nhw'n barod a chadw sgyrsiau'n agored a pheidio â beirniadu.
  • Defnyddio cyfnodau sy’n digwydd bob dydd fel amser bwyd, teithiau car, neu gerdded fel cyfleoedd naturiol i sgwrsio heb bwysau.

Rhestr wirio ar gyfer sgyrsiau bob dydd

Mae sgwrsio â’ch plant bob dydd, boed hynny’n fabi sy'n clebran neu'n berson ifanc yn ei arddegau sy’n rhannu ei farn, yn meithrin cysylltiad, hyder a llesiant emosiynol. Does dim rhaid iddi fod yn sgwrs berffaith na hir, bydd yn eich helpu i fondio a chefnogi datblygiad iach yr ymennydd.

Ydych chi wedi gwneud y rhain heddiw?

  • Canmol eich plant am rywbeth maen nhw wedi'i ddweud, ei wneud neu wedi rhoi cynnig arno?
  • Rhoi amser a lle iddyn nhw ymateb yn eu ffordd eu hunain?
  • Ailadrodd neu adeiladu ar eu geiriau neu eu synau?
  • Siarad â nhw am bethau bob dydd neu sut maen nhw’n teimlo?
  • Defnyddio llais tawel, meddal, hyd yn oed yn ystod adegau anodd?
  • Ceisio deall beth maen nhw'n ceisio ei gyfleu drwy grïo, gweithredu neu dawelwch?
  • Gwrando'n astud ar yr hyn roedden nhw'n ei ddweud, neu'n ceisio ei ddweud?

Gall hyd yn oed adegau bach o gysylltiad drwy siarad wneud gwahaniaeth mawr. Mae pob sgwrs, ni waeth pa mor syml ydyw, yn helpu eich plant i dyfu, ac yn gwneud iddyn nhw deimlo bod pobl yn eu clywed a’u caru.

Dysgu am bum bloc Pum Ffordd i Ffynnu 

Siarad 

Mae cyfathrebu â'ch plant yn helpu i ddatblygu eu hiaith, eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth gymdeithasol. 

Ymateb 

Mae ymateb yn golygu sylwi ar anghenion eich plant a'u diwallu gyda gofal a dealltwriaeth. Dyma sylfaen y dull Pum Ffordd i Ffynnu. 

Cwtsio/ymgysylltu 

Mae’r bloc yma’n ymwneud â chysylltu â'ch plant, gan roi gwybod eich bod chi yno iddyn nhw. 

Chwarae

Mae bod yn chwareus yn eich helpu i gael perthynas agos gyda'ch plentyn wrth i chi gael hwyl gyda'ch gilydd, a gall eu helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol.

Annog eich plentyn i fod yn agored am ei deimladau, ei ddiogelwch a’i lesiant 

Os ydych chi eisiau gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn, neu os oes gennych bryder mwy difrifol, mae gennym ni bum awgrym sy’n cael eu cefnogi gan arbenigwyr i’ch helpu i feithrin ymddiriedaeth, hyder a chysylltiad drwy sgyrsiau bob dydd.

Mae dau berson yn gwisgo sgarffiau pen wrth ddesg yn defnyddio cyfrifiadur mawr. Mae merch yn ei harddegau cynnar yn eistedd ac yn teipio tra bo'r llall yn pwyntio ar y sgrin yn dangos canlyniadau chwilio. Mae'r olygfa'n awgrymu arweiniad ar ddefnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel a helpu plentyn i gadw'n ddiogel ar-lein.  

Cadw plant yn ddiogel ar-lein

Fel rhiant neu ofalwr, mae’n hawdd teimlo eich bod yn cael eich llethu gan yr holl apiau, deallusrwydd artiffisial, gemau a chyfryngau cymdeithasol sy’n newid o hyd. Os yw eich plentyn chi’n chwarae gemau, yn sgwrsio, yn postio neu’n ffrydio, rydyn ni yma i'ch cefnogi chi gyda chyngor ymarferol a chanllawiau gan arbenigwyr i helpu i gadw plant yn ddiogel ac yn hapus ar-lein.

Menyw feichiog wrth sinc ystafell ymolchi yn brwsio’i dannedd. Mae hi’n gwisgo mantell flodeuog werdd dros dop gwyn. Mae pethau ymolchi a thywel i’w gweld yn y cefndir. 

Hunan-niweidio: yr hyn y mae angen i rieni a gofalwyr ei wybod

Os yw eich plentyn yn hunan-niweidio, neu os ydych chi’n poeni y gallai fod yn hunan-niweidio, mae’n gwbl naturiol teimlo’n ofnus, yn ypset neu’n ansicr ynghylch beth i'w wneud. Mae gennym gyngor ar arwyddion rhybudd y dylech gadw llygad amdanynt, sut gallwch chi gefnogi rhywun, a ble i ddod o hyd i gymorth proffesiynol.

Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028. Cafodd y dudalen hon ei chynhyrchu ar y cyd â KCA.

KCA logo

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.