Mae mam sy'n gwisgo top blodeuog pinc yn swatio gyda'i merch sydd wedi'i lapio mewn hwdi du clyd sydd â phatrwm sêr arno. Mae'r fam yn ystafell wely'r ferch, yn darllen llyfr iddi, ac mae'r ddwy wedi ymgolli'n llwyr yn y stori.

Pum Ffordd i Ffynnu: Ymlacio

Mae rhan Ymlacio Pum Ffordd i Ffynnu yn ymwneud â helpu plant i ddysgu ymateb i straen mewn ffyrdd iach sy'n briodol i'w hoedran.

Gall teimlo dan straen am amser hir effeithio ar ein hiechyd corfforol a meddyliol, a newid sut mae'r ymennydd yn gweithio, hyd yn oed i oedolion. Gan fod ymennydd plant yn datblygu, mae'n bwysicach fyth eu dysgu sut i ymateb i sefyllfaoedd sy’n eu rhoi dan straen er mwyn i'w hymennydd allu datblygu'n iach.

Mae gallu delio â straen yn helpu ymennydd plant i dyfu mewn ffordd gref a chytbwys. Bydd datblygu'r gallu i beidio â chynhyrfu mewn sefyllfaoedd heriol hefyd yn eu helpu i feithrin eu gwytnwch wrth iddyn nhw dyfu.

Dysgwch sut gallwch chi helpu eich babi, eich plentyn neu'ch plentyn yn ei arddegau i ddysgu sut mae ymlacio pan fydd yn wynebu sefyllfaoedd sy'n achosi straen.

Jump to:

Beth sy’n digwydd i’r ymennydd pan fyddwn ni dan straen?

Pan fyddwn ni'n teimlo dan fygythiad neu dan bwysau, mae ein corff yn rhyddhau hormonau straen fel adrenalin a chortisol. Mae hyn yn rhan o ymateb naturiol y corff i ymladd neu ffoi, sy'n ein helpu i ymateb yn gyflym mewn sefyllfaoedd peryglus. I wneud hyn, mae'r corff yn rhoi’r gorau i resymu a meddwl er mwyn i ni allu ymateb yn gyflym. 

Fel arfer, ar ôl i'r sefyllfa basio a phan fyddwn ni wedi tawelu, bydd y corff yn rhoi'r gorau i gynhyrchu'r hormonau hyn. Ond pan fydd straen yn parhau dros gyfnod hir, mae'r ymennydd yn aros yn effro. Gall hyn effeithio ar ein hiechyd corfforol a meddyliol a hyd yn oed newid sut mae'r ymennydd yn gweithio. Mae straen hefyd yn gallu effeithio ar rannau o’r ymennydd sy’n ymwneud â hwyliau, hunanreolaeth a gwneud penderfyniadau. Ac er bod yr effeithiau hyn yn ddifrifol i oedolion, gall fod hyd yn oed yn fwy niweidiol i fabanod a phlant y mae eu hymennydd yn dal i ffurfio.

Y newyddion da yw, er nad yw babanod yn cael eu geni'n gwybod sut i reoli straen, maen nhw'n dysgu sut i wneud hynny drwy fod â chysylltiad agos ag o leiaf un oedolyn tawel a gofalgar. Felly, gallwch helpu eu hymennydd i feithrin y cysylltiadau sydd eu hangen arnyn nhw i ymdopi ag emosiynau a theimladau cryf. 

Drwy beidio â chynhyrfu, dangos empathi, a defnyddio technegau syml i reoli eich straen eich hun, rydych chi'n addysgu sgiliau gwerthfawr y bydd eich plant yn eu defnyddio am oes.

Rhagor o wybodaeth am ymlacio ar gyfer gwahanol oedrannau  

Helpu eich babi i ymlacio

Mae angen i'ch babi gael cyfnodau tawel drwy gydol y dydd a bydd angen eich help chi arno i ymlacio. Er ei bod yn cymryd amser, pan fyddwch chi'n ymlacio, mae eich babi'n dechrau dysgu sut i ymlacio hefyd. Cam fesul cam, mae’r ymennydd yn meithrin cysylltiadau cryf a fydd yn eu helpu i ymdopi ag emosiynau mawr wrth iddyn nhw dyfu.

Mae ymlacio’n golygu mwy na thawelu’n unig; mae'n helpu eich babi i wneud synnwyr o bopeth sydd wedi digwydd yn ystod y dydd. Mae tawelu fel hyn yn cefnogi datblygiad ymennydd iach a gall hyd yn oed eu helpu i gysgu'n well.

Ar ôl sesiwn chwarae gyffrous neu daith i rywle prysur, yn enwedig gyda llawer o sŵn, goleuadau ac wynebau newydd, ceisiwch wneud yn siŵr bod ganddyn nhw rywfaint o amser i ymlacio. Ceisiwch greu lle tawel a chlyd lle gall eich babi ymlacio. Cadwch y golau'n feddal, y synau'n ysgafn, a pheidio â mynd yn bell. Mae bod yn llonydd a pheidio â chynhyrfu gyda'ch gilydd yn helpu eich babi i ymlacio.

Helpu eich plentyn bach i ymlacio

Mae plant bach yn profi'r byd mewn ffyrdd mawr a chyffrous, ac mae hynny'n cynnwys emosiynau mawr. Mae dysgu sut i ymlacio a thawelu yn sgil maen nhw'n ei datblygu dros amser, gyda'ch help a'ch arweiniad chi.

Dyma ffyrdd syml o helpu eich plentyn bach i ymlacio:

  • Ymlacio ar ôl chwarae - ar ôl gweithgareddau egnïol neu gyffrous, ewch ati i gael amser tawel, fel darllen llyfr neu wrando ar gerddoriaeth ysgafn.
  • Defnyddio llais tawel a chysurus - mae eich tôn yn helpu i osod y dôn emosiynol ar gyfer eich plant.
  • Creu eiliadau tawel arbennig gyda'ch gilydd - gall mwythau, mynd am dro, neu eistedd yn dawel eich helpu i ymlacio gyda'ch gilydd.
  • Gwneud lle i orffwys - mae cyfnodau tawel a chyfnodau cysgu rheolaidd yn ystod y dydd yn helpu plant bach i adfywio a rheoli eu hunain.

Bydd plant bach yn dysgu sut i ymlacio drwy eich gwylio chi. Pan fyddwch chi'n aros yn dawel, yn enwedig yn ystod adegau heriol, rydych chi'n dangos iddyn nhw sut mae delio â'u teimladau eu hunain. Mae eich presenoldeb tawel yn eu helpu i deimlo'n ddiogel ac yn eu dysgu bod modd rheoli emosiynau.

Pan fydd eich plentyn bach yn profi ffiniau neu'n cael ei lethu, ceisiwch oedi cyn ymateb. Ewch i lawr i'w lefel, gwneud cyswllt llygad, a gwrando gydag amynedd. Ceisiwch gofio mai ymateb yw sylfaen y dull Pum Ffordd i Ffynnu, felly mae angen i chi ymateb i'w hanghenion cyn ceisio eu hymlacio. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi roi cynnig ar y dull cysylltu cyn cywiro.

Helpu plant cyn oed ysgol a phlant hŷn i ymlacio

Wrth i blant dyfu, mae eu byd a'u teimladau’n tyfu hefyd. Mae eu helpu i ddysgu ymlacio yn rhan bwysig o feithrin gwytnwch emosiynol a chefnogi datblygiad iach. Os yw eich plant yn bryderus neu'n poeni am ddechrau yn yr ysgol neu am brofiadau newydd eraill, rhowch sicrwydd iddyn nhw fod eu teimladau'n gwbl normal. Enwi a derbyn emosiynau yw'r cam cyntaf at reoli teimladau. 

Gallech roi rhywbeth bach a chysurus iddyn nhw ei gadw yn eu poced neu yn eu bag, cylch allweddi meddal, neges fach gennych chi, neu rywbeth bach cyfarwydd. Anogwch nhw i'w wasgu a gwneud rhywfaint o ymarferion anadlu tawel i'w helpu i ymlacio. 

Mae gwefan CBeebies yn cynnwys mwy o enghreifftiau o dechnegau i helpu plant i beidio â chynhyrfu.

Ymarfer anadlu'n araf gyda'ch gilydd 

Un ffordd syml o helpu eich plant i ymlacio yw ymarfer anadlu'n araf gyda nhw. Rhowch gynnig ar hyn gyda'ch gilydd: 

Anadlwch i mewn yn araf wrth gyfrif i bedwar (1...2...3...4). 

Anadlwch allan yn ysgafn wrth gyfrif i chwech (1...2...3...4...5...6). 

Mae gwneud hyn yn rheolaidd, yn enwedig yn ystod cyfnodau tawel, yn helpu eu corff i ddysgu setlo a theimlo'n ddiogel. 

Os yw eich plentyn yn ei arddegau, gallech ei annog i edrych ar dechnegau ymwybyddiaeth ofalgar i weld a ydyn nhw’n gallu eu helpu i ddysgu ymlacio.

Mae gennym ni adnoddau ar fyfyrio ac ymwybyddiaeth ofalgar ar gyfer pobl ifanc.

Helpu plant i ddeall eu corff a'u hemosiynau 

Mae plant yn aml yn dangos i ni sut maen nhw'n teimlo drwy eu hymddygiad, yn enwedig pan nad oes ganddyn nhw'r geiriau na'r gallu i'w esbonio eto. Gall strancio, dagrau, glynu wrth rywun, neu dawelwch sydyn i gyd fod yn arwyddion bod plentyn yn profi emosiynau mawr nad yw'n gwybod eto sut i'w henwi na'u rheoli.

Gall helpu plant i ddysgu adnabod beth sy'n digwydd yn eu corff, ei gysylltu ag emosiwn, ac yna dod o hyd i ffordd o'i fynegi a'i reoli eu helpu i deimlo bod ganddyn nhw fwy o reolaeth. Hefyd, mae'n golygu eu bod wedi'u paratoi'n well i ddelio â sefyllfaoedd sy'n achosi straen

Helpu nhw i enwi teimladau

Pan fyddan nhw'n iau, gallwch addysgu’r geiriau ar gyfer emosiynau iddyn nhw, yn union fel rydych chi'n addysgu'r geiriau ar gyfer gwrthrychau, drwy eu labelu. 

  • “Rwyt ti'n edrych yn rhwystredig iawn bod y dŵr wedi disgyn drosodd.”
  • “Dwi’n meddwl dy fod di’n teimlo ychydig yn nerfus am fynd i'r feithrinfa heddiw.”
  • “Wyt ti'n teimlo'n drist am nad oedd dy ffrind yn gallu dod i chwarae?”

Gallwch ddefnyddio llyfrau, straeon neu luniau i siarad am deimladau

  • “Sut wyt ti’n meddwl maen nhw’n teimlo?”
  • “Beth wyt ti’n ei weld ar eu hwyneb?”
  • “Wyt ti erioed wedi teimlo felly?”

Gallech hefyd chwarae gêm lle rydych chi'n gofyn i'ch plentyn gopïo'r ystumiau gyda'i wyneb - hapus, trist, blin, ofnus, cyffrous, tawel - neu ofyn iddo dynnu wynebau ar sail gwahanol sefyllfaoedd.

Siaradwch am eich teimladau eich hun i helpu i'w hannog i siarad am eu hemosiynau nhw a dangos ffyrdd iach o'u rheoli

  • “Roeddwn i'n teimlo'n falch ar ôl gorffen y dasg honno.”
  • “Rydw i'n poeni ychydig am yr apwyntiad, felly rydw i'n mynd i anadlu'n ddwfn.”

Dechreuwch gyda theimladau sylfaenol fel hapus, trist, blin, blinedig, ofnus, cyffrous, cyn cyflwyno rhai mwy penodol yn raddol fel rhwystredig, cywilyddus, nerfus, siomedig, balch wrth i'ch plentyn dyfu.

Dysgwch nhw sut mae emosiynau'n gallu teimlo

Pan fydd eich plant yn gwybod y geiriau ar gyfer gwahanol emosiynau, gallwch eu helpu i ddeall sut mae'r teimladau hynny'n ymddangos yn eu corff.

Er enghraifft:

  • Gallai "pili-pala yn y bol" olygu eu bod yn teimlo'n nerfus neu'n gyffrous.
  • Gallai curiad calon cyflym olygu eu bod yn ofnus, yn gyffrous neu'n flin.
  • Gallai ysgwyddau tynn neu wyneb blin fod yn arwyddion o rwystredigaeth.

Gofynnwch gwestiynau ysgafn fel:

  • “Beth wyt ti'n sylwi arno yn dy gorff pan fyddi di'n teimlo'n flin?”
  • “Ble'r wyt ti'n cael teimladau pan rwyt ti'n poeni?”
  • “Beth fyddai’n gallu dy helpu i deimlo’n dawelach pan fydd hynny’n digwydd?” 

Pan fydd eich plant yn dechrau deall yr arwyddion mae eu corff yn eu rhoi iddyn nhw, gallan nhw ddysgu sut mae ymateb mewn ffyrdd sy'n eu helpu i dawelu a theimlo'n ddiogel.

Peidio â chynhyrfu hyd yn oed pan fyddwch chi’n teimlo fel gwneud hynny

Pan fydd eich plentyn yn gwrthod bwyta ei fwyd, yn gwrthod rhoi ei esgidiau ymlaen neu'n gorwedd yng nghanol yr archfarchnad, gall gymryd gymaint o nerth i chi beidio â chynhyrfu, ond mae cynhyrfu fel arfer yn gwneud pethau'n anoddach. 

Pan na fyddwch chi’n cynhyrfu, mae eich plentyn yn fwy tebygol o beidio â chynhyrfu neu fynd yn ôl i gyflwr tawel yn gynt. Mae eich patrwm anadlu chi, curiad eich calon a thôn eich llais yn gosod y dôn emosiynol ar gyfer eich plentyn. Wrth gadw’r rhain yn isel ac yn gyson, mae eu rhai nhw'n debygol o ddilyn.

Er mor anodd y gall fod, ac mae’n gallu teimlo'n amhosibl ar brydiau, ceisiwch ddangos sut rydych chi eisiau iddyn nhw ymateb i sefyllfaoedd anodd. Er enghraifft, drwy beidio â chynhyrfu, osgoi gweiddi ac anadlu'n ddwfn. 

Os nad ydych chi'n ymateb fel y byddech chi wedi'i ddewis, mae'n iawn. Cymerwch funud i esbonio'n syml ac yn dawel pam fod hynny wedi digwydd i'ch plentyn: "Roeddwn i'n teimlo'n rhwystredig iawn a wnes i ddim ymateb fel roeddwn i eisiau gwneud. Mae’n ddrwg gen i.” Mae gwneud hyn yn dysgu sgil bywyd pwysig i'ch plentyn: sut i ddysgu o gamgymeriadau a symud ymlaen.

Mae helpu chi’ch hun yn eich helpu chi a'ch plentyn

Pan fyddwch chi'n deall beth sy'n digwydd yn eich corff eich hun, mae'n dod yn haws cymryd eiliad a rheoli eich straen. Mae hyn yn helpu eich plentyn i deimlo'n ddiogel ac yn dawel hefyd.

Gall dysgu gwneud y canlynol wneud gwahaniaeth mawr i chi ac i'ch plentyn:

  • Pwyllo.
  • Anadlu.
  • Myfyrio.
  • Tawelu.
  • Ymlacio.

Efallai y bydd ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar am ychydig funudau bob dydd yn eich helpu gyda hyn. Mae gan y GIG adnoddau defnyddiol ar beth yw ymwybyddiaeth ofalgar a sut gallai weithio i chi.

Does dim rhaid i ymwybyddiaeth ofalgar fod yn gymhleth; gallai fod mor syml â chymryd eiliad i ganolbwyntio'n iawn ar eich plant. Os ydyn nhw’n ifanc neu’n gyfforddus â chi’n agos atyn nhw, sylwch ar eu cynhesrwydd, y synau maen nhw’n eu gwneud, sut maen nhw’n arogli neu sut maen nhw’n edrych wrth iddyn nhw ymlacio gyda chi. Gadewch i chi'ch hun fod yn gwbl bresennol gyda nhw, heb feddwl am y rhestr o bethau sydd gennych i'w gwneud na phethau sydd wedi eich ypsetio. Byddwch yn y foment gyda'ch gilydd.

Rhestr wirio ddyddiol ymlacio

Gall hyd yn oed ychydig funudau o ymlacio wneud gwahaniaeth mawr i lesiant eich plentyn, ac i'ch llesiant chi. 

Cymerwch funud i fyfyrio, ydych chi wedi:

  • Defnyddio cyffyrddiad ysgafn neu lais meddal i dawelu?
  • Cynnig canmoliaeth neu anogaeth i fagu eu hyder?
  • Tawelu meddwl eich plentyn pan oedd yn ypset neu wedi'i lethu?
  • Bod yn garedig â chi eich hun, hyd yn oed pan oedd pethau'n teimlo'n heriol?
  • Cymryd ychydig funudau i anadlu ac ymlacio?
  • Rhannu amser tawel cyn mynd i'r gwely i helpu i ymlacio?
  • Creu cyfnodau i ymlacio drwy gydol y dydd, i'r ddau ohonoch chi?

Cofiwch, nid yw'n ymwneud â gwneud i bopeth ddigwydd yn berffaith, mae'n ymwneud â cheisio gwneud pethau bach i’ch helpu chi i gyd i deimlo'n fwy parod i ddelio â heriau bywyd yn y dyfodol.

Dysgu am bum bloc Pum Ffordd i Ffynnu 

Ymlacio  


Mae dysgu sut i ddelio â sefyllfaoedd llawn straen sy'n achosi emosiynau mawr yn sgil hanfodol mewn bywyd. 

Ymateb 

Mae ymateb yn golygu sylwi ar anghenion eich plant a'u diwallu gyda gofal a dealltwriaeth. Dyma sylfaen y dull Pum Ffordd i Ffynnu.

Cwtsio/ymgysylltu 

Mae’r bloc yma’n ymwneud â chysylltu â'ch plant, gan roi gwybod eich bod chi yno iddyn nhw. 

Chwarae

Mae bod yn chwareus yn eich helpu i gael perthynas agos gyda'ch plentyn wrth i chi gael hwyl gyda'ch gilydd, a gall eu helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol.

A group of four teenage friends walk outside talking animatedly. There are two girls and two boys all wearing casual clothes. The girls hair is being blown by the wind.

Mental health support for young people


Everyone has mental health and it’s something we should all take the time to look after. Sometimes our thoughts and feelings can feel difficult to manage. If you’re struggling with how you feel, don’t worry, you’re not alone. Help and advice is available for you. 

Mae bachgen yn ei arddegau sydd â mwstas tenau yn gwisgo hwdi ac mae'n cario bag dyffl du mawr a bag cefn. Mae’n cerdded i lawr grisiau gorsaf drenau, gan edrych yn bryderus.   

Ydych chi’n meddwl bod eich plentyn yn teimlo’n bryderus?

Mae’n anodd gweld eich plentyn yn cael trafferth. Os ydych chi'n meddwl tybed beth yw'r ffordd orau o helpu eich plentyn, mae gennym gyngor ar sut beth yw pryder ymysg plant a phobl ifanc, sut i'w cefnogi, a ble a phryd i droi am gymorth proffesiynol.

Plentyn yn reidio beic pinc bach ar lwybr palmantog ac yn gwisgo helmed wyrddlas a chrys-T melyn llachar gyda graffeg liwgar. Mae oedolyn wrth ymyl y plentyn yn darparu cymorth, wedi gwisgo mewn dillad athletig. Mae coed a glaswellt gwyrdd i'w gweld yn y cefndir. 

Cadw eich plentyn yn ddiogel pan fyddwch chi allan

Gall bod allan yn yr awyr agored gynnig cyfle i deuluoedd i gael hwyl - o ddiwrnodau yn y parc i fynd ar daith feics ac anturiaethau ar y traeth yn yr haul. Ystyriwch awgrymiadau syml ac ymarferol i helpu i gadw eich plant yn ddiogel wrth iddyn nhw ddarganfod y byd y tu hwnt i’ch drws ffrynt.

Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028.  Cafodd y dudalen hon ei chynhyrchu ar y cyd â KCA.

​​​​ KCA logo

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.