Mae dau berson yn gwisgo sgarffiau pen wrth ddesg yn defnyddio cyfrifiadur mawr. Mae merch yn ei harddegau cynnar yn eistedd ac yn teipio tra bo'r llall yn pwyntio ar y sgrin yn dangos canlyniadau chwilio. Mae'r olygfa'n awgrymu arweiniad ar ddefnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel a helpu plentyn i gadw'n ddiogel ar-lein.  

Cadw plant yn ddiogel ar-lein: cyngor i rieni a gofalwyr

Mae pob plentyn yn haeddu teimlo’n ddiogel a chael eu helpu ar-lein, ac rydym am eich helpu i sicrhau hyn i bob plentyn rydych yn gofalu amdanynt. 

Rydym yn sylweddoli pa mor anodd yw deall byd appiau, AI, gemau, a chyfryngau cymdeithasol, am eu bod yn newid mor sydyn. Nid ydych ar eich pen eich hun. Rydym wedi gofyn i arbenigwyr o’r Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant i rannu cyngor ar ddelio â’r heriau. 

Erbyn hyn, mae bron pob plentyn, tua 99%, yn treulio amser ar-lein, ac erbyn eu bod yn 11 oed, mae gan naw o bob deg plentyn eu ffôn symudol eu hunain (Ofcom, 2024). Mae plant 8 i 14 oed yn treulio bron i dair awr y dydd ar-lein ar wahanol ddyfeisiau fel ffonau clyfar, llechi a chyfrifiaduron (Ofcom, 2025). 

Mi all y byd ar-lein fod yn lle gwych i wneud ffrindiau, i ddysgu pethau newydd, chwarae gemau, a chael hwyl â chyfoedion. Ond mi wyddom hefyd am yr heriau sy’n dod yn sgil hynny ac mae hyn yn achos pryder.  

Fel rhiant neu ofalwr, mae’n gwbl naturiol eich bod yn cael trafferth cadw i fyny neu ddechrau sgwrs am ddiogelwch ar-lein. Os yw eich plentyn yn chwarae gemau, yn sgwrsio, postio, neu ffrydio, rydym yma i’ch helpu gyda chyngor ac arweiniad ymarferol gan arbenigwyr i helpu i’w cadw’n ddiogel a hapus ar-lein.

Pum awgrym i gadw eich plentyn yn ddiogel ar-lein 

1. Cymerwch ddiddordeb ym myd digidol eich plentyn 

Mae cymryd diddordeb o ddifrif ym myd ar-lein eich plentyn, fel yr ydych yn ei wneud mewn agweddau eraill ar eu bywydau, yn helpu i ennyn ymddiriedaeth a chysylltiad. Pan fyddwch yn dangos chwilfrydedd am yr appiau maent yn eu defnyddio, y gemau maent yn eu chwarae, neu’r platfformau maent yn eu mwynhau, mi fydd hynny’n agor y drws i sgyrsiau o ddydd i ddydd a fydd yn golygu rhywbeth iddynt. 

Drwy wneud y sgyrsiau hyn yn rhan o’ch trefn arferol ac nid yn rhywbeth sydd ond yn digwydd pan fydd problem, rydych yn helpu i wneud eich plentyn deimlo’n gyfforddus a’ch bod yno i’w helpu. Mae’n dangos iddynt fod siarad am fywyd ar-lein yn arferol, ac y gallant ddod atoch i siarad am unrhyw beth, yn enwedig os oes rhywbeth yn eu poeni neu’n eu gwneud yn ddryslyd. 

Darllenwch ein hawgrymiadau ar siarad â phlant am eu bywydau ar-lein. Os yw eich plant yn chwarae gemau, yn sgwrsio, postio, neu'n ffrydio ar-lein, mae’n werth bod yn rhan o’u bywydau ar-lein.

Mae dangos diddordeb ym myd digidol eich plentyn, eu holi am y gemau a’r appiau maent yn eu hoffi, a hyd yn oed ymuno â hwy o bryd i’w gilydd os yw hynny’n teimlo’n iawn, yn gallu bod yn ffordd dda o gysylltu. Mae hefyd yn rhoi teimlad gwell i chi o’r hyn maent yn rhan ohono ac a yw’n teimlo’n addas ar eu cyfer.

2. Siaradwch am sut mae ymddygiad ar-lein priodol ac amhriodol yn edrych

Nid yw risgiau’n dod o gyfeiriad dieithriaid yn unig. Mi all aelodau’r teulu ac oedolion eraill ym mywyd y teulu, ffrindiau, cymheiriaid hefyd achosi niwed weithiau. Helpwch eich plentyn i ddeall pa ymddygiadau sy’n ddiogel, parchus, ac iach, a’r hyn sydd ddim. 

Yn ddibynnol ar eu hoedran, gallai hyn gynnwys sgyrsiau am: 

  • Secstio neu anfon lluniau noeth neu rannol noeth. 

  • Trolio (aflonyddu a bwlio). 

  • Rhannu gwybodaeth bersonol 

  • Ychwanegu pobl nad ydynt yn eu hadnabod at grwpiau sgwrsio, gemau a rhestrau ffrindiau. 

  • Mynediad at bornograffi a’r effaith y gall hyn ei gael drwy ystumio syniadau o berthnasoedd iach. 

  • Adnabod technegau meithrin perthynas amhriodol ar-lein, gan gynnwys ceisiadau neu ofyn i eraill fynd i ofodau digidol preifat neu heb eu rheoleiddio.

3. Anogwch ddefnydd o blatfformau, safleoedd a gosodiadau oedran briodol. 

Mi all plant iau gael eu temtio i edrych ar appiau sydd wedi’u bwriadu ar gyfer rhai yn eu harddegau hŷn. Dylech adolygu nodweddion diogelwch, oedrannau, rheolaethau rhieni, ac opsiynau preifatrwydd pob platfform. Trafodwch â’ch plentyn pam mae’r rheolau hyn yn bod a sut maent yn eu hamddiffyn. Bydd hyn yn eu helpu hwy, a chwithau, i adnabod safleoedd ar-lein sy’n fwy diogel a phriodol.  

Cofiwch, nid yw’r ffaith fod gan app, gêm neu ddarn o dechnoleg sgôr oedran yn golygu eu bod yn dechnegol yn briodol i’ch plentyn, nid yw bob amser yn golygu ei fod yn iawn ar eu cyfer. Mae’n bwysig ystyried eu haeddfedrwydd unigol a’u datblygiad emosiynol, ac nid y rhif ar y label yn unig. 

4. Dylech oruchwylio plant yn ofalus a’u hannog i ddefnyddio dyfeisiau digidol mewn mannau a rennir. 

Os yw plant iau’n defnyddio dyfeisiau dylent gael help oedolyn a all eu goruchwylio. Yn ogystal ag ystyried eu hoedran, mae’n bwysig meddwl am gam eu datblygiad hefyd wrth benderfynu faint o oruchwyliaeth sydd ei angen arnynt. 

Bydd bod yn yr un ystafell â’ch plentyn pan fyddant ar-lein nid yn unig yn eich helpu i wybod beth maent yn edrych arno, ond bydd yn golygu hefyd eich bod yn gallu gweld yn well beth maent yn ei wneud, sylwi ar y ciwiau di-eiriau am sut maent yn teimlo, ac ymateb yn gyflymach os oes rhywbeth ar-lein yn eu poeni. Wrth i blant fynd yn hŷn, maent yn dechrau defnyddio technoleg yn fwy annibynnol, o fewn a thu allan i’r cartref. Bydd cael sgyrsiau agored â’ch plentyn am ddiogelwch digidol yn y cartref a thu hwnt ac mewn gwahanol sefyllfaoedd yn eu helpu i ddatblygu i fod yn ddinasyddion digidol hyderus a chyfrifol. 

5. Trafodwch rannu gwybodaeth a phreifatrwydd, a gwiriwch y gosodiadau’n rheolaidd 

Helpwch eich plentyn i ddeall beth i’w rannu, ac â phwy. Defnyddiwch enghreifftiau fel sgrinluniau, sgyrsiau grŵp, postiadau cyhoeddus i ddangos sut y gall rhywbeth preifat droi’n gyhoeddus iawn, yn sydyn iawn. Gwnewch yn siŵr bod gosodiadau preifatrwydd wedi’u galluogi a gwiriwch hwy’n rheolaidd gan fod appiau’n eu newid neu’n eu troi’n ôl i’r diofyn weithiau ar ôl diweddariadau.  

Sut mae siarad â phlant am gadw’n ddiogel ar-lein

Un o’r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud yw dechrau siarad â’ch plentyn am gadw’n ddiogel ar-lein. Dyma rai ffyrdd o ennyn ymddiriedaeth a gwneud sgyrsiau’n haws. 

Creu gofod diogel

Ni fydd plant yn aml yn disgrifio sut maent yn teimlo neu nid oes ganddynt y geiriau i ddisgrifio eu teimladau. Gadewch i’ch plentyn wybod y gallant ddod ar draws pethau ar y rhyngrwyd a all wneud iddynt deimlo’n rhyfedd. Mi all wneud iddynt deimlo’n od, yn ddryslyd, drwg, cywilydd, neu’n euog. Gallech rannu enghreifftiau, mewn ffordd oed briodol, o bethau rydych chi wedi’u gweld ar-lein sydd wedi gwneud i chi deimlo felly. 

Beth bynnag maent yn ei deimlo, cofiwch ddweud wrthynt y gallant siarad â chi amdano bob amser. 

Ceisiwch eu hannog i rannu, hyd yn oed os ydynt yn teimlo eu bod wedi gwneud rhywbeth sy’n “anghywir”. Beth bynnag maent yn ei deimlo, atgoffwch hwy y gallant siarad amdano â chi ar unrhyw adeg. Gadewch iddynt wybod hyd yn oed os oeddent yn gwneud rhywbeth na ddylent fod yn ei wneud, y gallant ddweud wrthych, ac na fyddwch yn flin â hwy.  

Siaradwch yn rheolaidd: holwch beth maent wedi bod yn ei wneud ar-lein, yr hyn maent yn ei fwynhau, neu rywbeth sydd wedi gwneud iddynt deimlo’n anghyfforddus. Bydd hyn yn wahoddiad cynnil i’ch plentyn i ddatgelu rhywbeth yn awr, neu’n nes ymlaen. 

Peidiwch ag anghofio am ochr bositif y rhyngrwyd

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn defnyddio’r rhyngrwyd drwy gydol ein bywydau bob dydd i gael cysylltiad, i ddysgu ac am hwyl felly mae’n bwysig bod yn onest â’ch plant ac osgoi rhoi’r argraff ei fod yn rhywle bygythiol y dylid ei osgoi. Pan fyddwch yn holi am yr hyn maent yn ei wneud ar-lein byddwch yn feddwl agored a chwilfrydig. Mae dangos diddordeb yn eu byd yn meithrin ymddiriedaeth, ac yn rhoi syniad i chi o’u harferion digidol a dangos ym mha ffordd y gall fod angen help arnynt yn y dyfodol. 

Fwy na thebyg mi fydd eich plentyn yn defnyddio’r rhyngrwyd yn wahanol i chi. Felly, ceisiwch beidio â diystyru unrhyw appiau, gemau neu dueddiadau maent yn eu mwynhau. Mi all wneud i’ch plentyn yn swil i siarad am eu bywyd digidol yn y dyfodol neu mi all eu gwneud yn amharod i ofyn am help os ydynt yn poeni am rywbeth maent wedi’i weld neu ei brofi

Peidiwch â beio na chodi cywilydd

Os bydd eich plentyn yn dweud eu bod wedi gweld cynnwys na ddylent ei weld, peidiwch â gwylltio a byddwch yn chwilfrydig. Gofynnwch gwestiynau agored fel “Beth wyt ti wedi’i weld?” “Sut wnaeth hynny iti deimlo?” Peidiwch â’u beio na’u beirniadu oherwydd mi all hynny eu gwneud yn amharod i drafod.  

Efallai mai eich ymateb greddfol fyddai eu hatal rhag defnyddio’r safle, yr app neu’r ddyfais, ond nid dyma’r peth gorau i’w wneud bob tro. Os, er enghraifft, y gwnewch gymryd eu ffôn oddi arnynt, neu eu rhwystro rhag defnyddio app penodol i’w cadw’n ddiogel, mi allant weld hynny fel cosb ac osgoi dweud wrthych os bydd rhywbeth tebyg yn digwydd eto yn y dyfodol. Yn hytrach, rhowch bwyslais ar ddeall a gweithio â hwy i benderfynu sut y gellid osgoi’r un peth rhag digwydd yn y dyfodol. Er enghraifft, gallech ofyn iddynt a oes angen help arnynt i flocio neu roi gwybod am y peth. Bydd datrys problem gyda'ch gilydd yn hybu ymddiriedaeth.  

Os yw’r cynnwys maent wedi’i weld yn achosi trallod iddynt, helpwch eich plentyn i ddeall eu teimladau ac i ailfeddwl am unrhyw effeithiau negyddol y gallai hyn fod wedi’i gael arnynt. Ceisiwch eu hannog i siarad yn agored am yr hyn sydd wedi eu poeni, dilyswch ei hemosiynau, a rhowch sicrwydd fod popeth yn iawn os ydynt wedi cynhyrfu. Rhowch esboniadau oed briodol i egluro unrhyw gamddealltwriaeth, a’u helpu i ddatblygu strategaethau ymdopi positif fel cymryd seibiant oddi wrth y sgrin, cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n eu llonyddu, neu ganolbwyntio ar gynnwys positif. 

A oes angen mwy o help arnoch i gadw eich plentyn yn ddiogel ar-lein?

  • Os ydych chi’n credu bod eich plentyn yn cael ei niweidio neu mewn perygl yn awr o gael ei niweidio, ffoniwch yr heddlu ar 999. Os ydych chi’n meddwl bod trosedd wedi’i chyflawni a’ch bod am roi gwybod amdani, mi allwch eu ffonio ar 101. 

  • Os oes delweddau neu fideos rhywiol o’ch plentyn wedi diweddu ar-lein, a’u bod o dan 18 oed, cysylltwch â Report Remove, sy’n cael ei redeg gan Childline a’r Internet Watch Foundation (IWF), ac mi allant helpu i’w dileu a chynnig help i chi. 

  • Mae gennym adnoddau ar fwlio a seibrfwlio: adnabod yr arwyddion a helpu eich plentyn,  a all fod o help i chi. 

  • Mae gan y sefydliad nid-er-elw Internet Matters gyngor ac adnoddau ar sut i gadw plant yn ddiogel ar-lein. 

  • Mae gan yr elusen NSPCC hefyd wybodaeth ac adnoddau i’ch helpu i ddeall diogelwch ar-lein a sut i siarad amdano â phlant a phobl ifanc.

Mae bachgen yn ei arddegau sydd â mwstas tenau yn gwisgo hwdi ac mae'n cario bag dyffl du mawr a bag cefn. Mae’n cerdded i lawr grisiau gorsaf drenau, gan edrych yn bryderus.   

Ydych chi’n meddwl bod eich plentyn yn teimlo’n bryderus?

Mae’n anodd gweld eich plentyn yn cael trafferth. Os ydych chi'n meddwl tybed beth yw'r ffordd orau o helpu eich plentyn, mae gennym gyngor ar sut beth yw pryder ymysg plant a phobl ifanc, sut i'w cefnogi, a ble a phryd i droi am gymorth proffesiynol.

Babi'n ymestyn am ddrôr cegin agored sy'n llawn eitemau'r cartref, gan gynnwys brwsh potel ac offer cegin. 

Gwarchod eich plentyn rhag damweiniau

Rydyn ni’n gwybod nad yw’n beth braf i feddwl amdano, ond mae damweiniau’n digwydd yn y cartref, ac maen nhw’n gallu bod yn dorcalonnus pan maen nhw’n digwydd. Drwy gymryd camau syml, gallwch leihau’r risgiau a chreu amgylchedd mwy diogel i’ch plentyn.

Menyw feichiog wrth sinc ystafell ymolchi yn brwsio’i dannedd. Mae hi’n gwisgo mantell flodeuog werdd dros dop gwyn. Mae pethau ymolchi a thywel i’w gweld yn y cefndir. 

Hunan-niweidio: yr hyn y mae angen i rieni a gofalwyr ei wybod 

Os yw eich plentyn yn hunan-niweidio, neu os ydych chi’n poeni y gallai fod yn hunan-niweidio, mae’n gwbl naturiol teimlo’n ofnus, yn ypset neu’n ansicr ynghylch beth i'w wneud. Mae gennym gyngor ar arwyddion rhybudd y dylech gadw llygad amdanynt, sut gallwch chi gefnogi rhywun, a ble i ddod o hyd i gymorth proffesiynol.

Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028.

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.