Rheoli gwrthdaro rhwng rhieni: arweiniad i berthnasoedd teuluol iachach

Mae gan bobl safbwyntiau, emosiynau a ffyrdd gwahanol o ddelio â straen, felly mae'n naturiol i wrthdaro ddigwydd o bryd i'w gilydd. Sut mae’r gwrthdaro yma’n cael ei reoli sy’n bwysig.

Pan fydd anghydfod yn cael ei drin mewn ffordd barchus a phwyllog, gall helpu teuluoedd i dyfu'n gryfach drwy wella cyfathrebu a dealltwriaeth. Dydy gwrthdaro ddim yn golygu nad yw rhieni'n poeni neu nad ydyn nhw’n gwneud gwaith da - mae'n golygu eu bod nhw'n bobl ddynol. Fodd bynnag, pan fydd gwrthdaro'n digwydd yn aml, yn ddwys neu'n cael ei reoli'n wael, gall gael effaith negyddol ar lesiant plant. Mae'r dudalen hon yma i'ch helpu i ddeall beth yw gwrthdaro rhwng rhieni, beth sy'n ei achosi, a sut i'w leihau yn eich teulu. 

Dydy gwrthdaro rhwng rhieni ddim yr un fath â cham-drin domestig. Ddylai neb byth wneud i chi deimlo'n ofnus nac yn anniogel. Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.

Dydy gwrthdaro rhwng rhieni ddim yr un fath â cham-drin domestig. Ddylai neb byth wneud i chi deimlo'n ofnus nac yn anniogel. Os ydych chi mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.

Mae gan y Llywodraeth gyngor ar sut i gael help os ydych chi, neu rywun rydych chi'n ei adnabod, yn dioddef cam-drin domestig. 

Mae’r Llinell Gymorth Genedlaethol Cam-drin Domestig yn gyfrinachol, am ddim ac ar gael 24 awr y dydd, drwy ffonio 0808 2000 247.

Beth yw gwrthdaro rhwng rhieni? 

Gwrthdaro rhwng rhieni yw pan fydd rhieni neu ofalwyr yn anghytuno neu'n dadlau â'i gilydd. Gall hyn ddigwydd am bethau bob dydd fel gwaith tŷ, arian, penderfyniadau magu plant, neu sut i dreulio amser gyda'i gilydd. Mae'n rhan arferol o berthynas - mae gan bawb safbwyntiau a theimladau gwahanol, ac weithiau mae'r rhain yn gwrthdaro.  

Ond mae gwrthdaro niweidiol rhwng rhieni yn golygu anghytuno ailadroddus, nad yw’n cael ei ddatrys neu sy’n ymosodol, rhwng rhieni neu ofalwyr.  

Gallai gwrthdaro niweidiol gynnwys:  

  • Gweiddi neu ddadleuon ymosodol. 

  • Ddim yn siarad â'i gilydd yn rheolaidd neu am gyfnodau hir. 

  • Iaith amharchus neu feirniadol. 

  • Gadael i broblemau barhau yn hytrach na’u datrys. 

Yr hyn sy’n bwysig yw sut mae gwrthdaro'n cael ei fynegi, pa mor aml mae'n digwydd, a sut mae'n cael ei reoli. Mae plant yn dysgu gan yr oedolion o'u cwmpas, felly os gallwn ni beidio â chynhyrfu a bod yn barchus wrth fynd i'r afael ag anghydfod, gall ddangos iddyn nhw sut mae rheoli gwrthdaro wrth iddyn nhw dyfu. 

Achosion posibl o wrthdaro rhwng rhieni 

Mae llawer o resymau pam mae gwrthdaro'n gallu digwydd mewn perthnasoedd, yn enwedig yn ystod cyfnodau o newid, straen neu ansicrwydd. Os ydych chi'n mynd drwy gyfnod anodd oherwydd problemau iechyd, pryderon ariannol neu broblemau yn ymwneud â thai, mae'n anodd peidio â gadael i'r straen hwn effeithio ar eich perthynas. Gall gwahaniaethau mewn dulliau magu plant, gwrthdaro rhwng brodyr a chwiorydd neu fabi newydd yn cael ei eni hefyd arwain at heriau. 

Mae'n eithriadol o anodd pan fyddwch chi'n cael pethau'n anodd ond yn ceisio gweithio gyda'ch gilydd fel tîm. Mae plant yn dysgu sut i reoli gwrthdaro drwy wylio sut mae oedolion yn gwneud hynny. Meddyliwch am yr hyn y gallech chi ei wneud i ddangos i'ch plant sut i reoli anghydfod yn gadarnhaol.

Samantha Murray 

Arweinydd Strategol Barnardo's ar gyfer Ymwelwyr Iechyd RN, RM, SCPHN HV

Effaith gwrthdaro rhwng rhieni ar blant 

Mae plant yn ffynnu pan fydd eu cartref yn teimlo'n dawel, yn ddiogel ac yn emosiynol ddiogel. Ond pan fydd gwrthdaro rhwng oedolion yn digwydd yn aml neu'n elyniaethus, gall effeithio arnyn nhw mewn sawl ffordd. Yn ôl ymchwil gan Early Intervention Foundation (EIF) ar wrthdaro rhwng rheini, gall gael effaith negyddol ar: 

  • Hunan-barch a hunanhyder. 

  • Iechyd meddwl a chorfforol. 

  • Ymddygiad. 

  • Cyflawniadau academaidd. 

  • Perthynas â brodyr a chwiorydd, cyfoedion a pherthnasoedd rhamantus yn y dyfodol. 

Mae ymchwil hefyd yn awgrymu y gall gwrthdaro tymor hir rhwng rhieni effeithio ar sut rydyn ni’n magu ein plant hefyd. Gall emosiynau fod yn ddwys gyda rhieni neu ofalwyr mewn perthnasoedd gofidus weithiau’n fwy gelyniaethus ac ymosodol tuag at eu plant, ac yn llai sensitif ac ymatebol yn emosiynol i anghenion eu plant wrth iddyn nhw geisio ymdopi â’u sefyllfa (EIF, 2020).

Os ydych chi'n poeni y gallai gwrthdaro yn eich perthynas fod yn cael effaith negyddol ar eich teulu, mae pethau y gallwch chi eu gwneud. Dydy hi byth yn rhy hwyr i wneud newidiadau cadarnhaol. 

Sut i leihau gwrthdaro rhwng rhieni  

Does dim un berthynas yn berffaith. Bydd gwrthdaro bob amser, ond mae yna bethau ymarferol y gallwch eu gwneud i'w lleihau. 

  • Treulio amser gwerthfawr gyda'ch gilydd: Mae'n anodd cydbwyso popeth sydd angen i chi ei wneud pan fydd gennych chi deulu ond ceisiwch wneud amser i'ch gilydd. Mae gwylio raglen, rhannu pryd o fwyd, neu fynd am dro hyd yn oed yn rhywfaint o help. 

  • Dewis yr adeg iawn: Peidiwch â chael sgyrsiau anodd wrth fynd â'r plant i'r ysgol neu pan fydd emosiynau'n mynd yn drech na chi. Mae'n well aros am foment dawel pan fydd gan bawb gyfle i wrando ac ymateb yn feddylgar. Mae dewis yr amser iawn yn helpu i gadw'r sgwrs yn barchus ac mae mwy o siawns o ddod o hyd i ateb sy'n gweithio i bawb. 

  • Osgoi beio neu feirniadu: Canolbwyntiwch ar sut rydych chi'n teimlo a beth sydd ei angen arnoch, nid dim ond beth aeth o'i le. 

  • Rhannu a gwrando: Gadewch i'r person arall siarad heb dorri ar draws a chlywed yr hyn mae'n ei ddweud go iawn. Rhowch amser i’r unigolyn ymateb i'r hyn sydd wedi cael ei ddweud a chymerwch chithau amser i ymateb. 

  • Bod yn barod i gyfaddawdu: Ceisiwch ddod o hyd i’r tir canol pan allwch chi. 

  • Dathlu llwyddiannau ar y cyd: Atgoffwch eich gilydd o'r pethau rydych chi'n cytuno arnyn nhw a'r hyn sy'n mynd yn dda. 

Mae anghytuno'n rhan o bob perthynas. Y ffordd rydyn ni'n delio â nhw sy'n bwysig. Drwy fod yn agored, yn barchus ac yn barod i newid, gallwch helpu i greu cartref lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu clywed, eu bod yn ddiogel ac yn cael eu gwerthfawrogi. 

Cofiwch, does dim rhaid i chi wynebu pethau ar eich pen eich hun. Mae help a chefnogaeth ar gael.  

  • Mewn rhai lleoliadau, rydyn ni’n cynnal cyrsiau magu plant a allai fod o ddiddordeb i chi. I ddod o hyn i’r un agosaf atoch chi, rhowch eich cod post yn ein hadnodd chwilio am wasanaethau a hidlo yn ôl ‘rhaglenni magu plant’. 

  • Mae gan Relate gyngor am ddatblygu a chynnal perthnasoedd cadarnhaol ac mae’n cynnig gwasanaeth cwnsela ar gyfer perthnasoedd.  

  • Mae gan See it Differently glipiau sy’n dangos gwahanol sefyllfaoedd o wrthdaro teuluol a sut gellir delio â nhw'n fwy effeithiol. 

Llun o’r tu ôl o ddwy ferch yn cerdded i lawr palmant gyda'u mam, mae un ohonyn nhw'n gafael yn llaw eu mam. Mae'r fam hefyd yn gafael mewn bag siopa plastig heb frand arno. 

Plant y mae cam-drin domestig wedi effeithio arnynt 

Mae cam-drin domestig yn gallu cael effaith ddinistriol ar deuluoedd. Os ydych chi’n meddwl bod cam-drin domestig yn effeithio ar blentyn, mae camau y gallwch eu cymryd i’w helpu i deimlo’n ddiogel a’i fod yn cael ei gefnogi, ac mae gwasanaethau a all eich arwain drwy’r camau nesaf.

Mae dau dad yn gorwedd yn eu gwely gyda'u merch. Mae un tad sydd â gwallt melyn yn darllen llyfr Dr Seuss iddi tra bo'r tad arall sydd â gwallt tywyll yn gwenu ac yn edrych ar y llyfr. Mae eu merch yn gwenu, yn edrych i fyny ar ei thad sy'n darllen iddi. 

O blant bach i bobl ifanc yn eu harddegau: sut gallwch chi annog noson dda o gwsg

Mae cael digon o gwsg yn hanfodol i iechyd, hwyliau a datblygiad eich plentyn, p’un a yw’n blentyn bach neu’n berson ifanc yn ei arddegau. Mae pob plentyn yn wahanol, ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich plentyn (a chithau!) i gysgu’n well.

Mae dwy chwaer yn chwarae'r gêm gardiau Uno ar lawr eu hystafell wely. Mae un chwaer gydag un blethen hir yn eistedd ac yn chwerthin wedi iddi roi cerdyn i lawr, ac mae'r llall wedi taflu ei hun i'r llawr mewn sioc.  

Atal brodyr a chwiorydd rhag ffraeo

Hyd yn oed pan fydd plant yn caru eu brodyr a’u chwiorydd ac yn cyd-dynnu â nhw, gallwch ddisgwyl rhywfaint o wrthdaro. Darllenwch gyngor i’ch helpu i arwain eich plant drwy gyfnodau da a drwg yn eu perthynas â’u brodyr a’u chwiorydd.

Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028. 

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.