Sut gallwch chi gefnogi datblygiad iach eich plant ar yr un pryd â meithrin perthynas gryfach a mwy cadarnhaol.
Efallai nad ydych chi'n gwybod hyn, ond rydych chi'n chwarae rhan bwysig yn y ffordd mae ymennydd eich plant yn datblygu wrth iddyn nhw dyfu i fyny. Gallai hynny wneud i chi deimlo dan bwysau ond peidiwch â phoeni. Mae pethau syml y gallwch eu gwneud gyda'ch babi, plentyn bach, plentyn cyn oed ysgol, plentyn neu berson ifanc yn ei arddegau i helpu ei ymennydd i ddatblygu a gweithio ar ei orau, ac nid yw byth yn rhy hwyr i ddechrau.
Rydyn ni’n gweithio ar y cyd ag arbenigwyr yn y maes, sef Knowledge Change Action Ltd (KCA). Mae KCA wedi creu dull syml ac effeithiol o'r enw Pum Ffordd i Ffynnu, sy'n helpu rhieni a gofalwyr i ddefnyddio gwybodaeth o niwrowyddoniaeth (astudiaeth o'r ymennydd a'r system nerfol) i gefnogi eu plant i adeiladu ymennydd iach a chynnal gweithrediad iach yr ymennydd drwy gydol eu hoes.
Mae'r dull Pum Ffordd i Ffynnu yn golygu neilltuo amser bob dydd i wneud pum gweithgaredd gwahanol gyda'ch plant:
- Ymateb: Meddwl am yr hyn sydd ei angen ar eich plant ac ymateb iddo.
- Cwtsio/ymgysylltu: I fabanod a phlant, bydd hyn yn golygu cyswllt corfforol. I bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion, gall olygu cysylltu â nhw mewn ffyrdd eraill.
- Ymlacio: Eu helpu i ddysgu ymateb i straen mewn ffordd addas.
- Chwarae: Bod yn chwareus ac ysgogi ochr dde'r ymennydd.
- Siarad: Cyfathrebu ac ysgogi ochr chwith yr ymennydd.
Os gallwch chi wneud y pum peth hyn bob dydd, gall helpu eich plant i wneud y canlynol:
- Tyfu.
- Bod yn fodlon yn eu croen eu hunain.
- Gwneud a chynnal cyfeillgarwch.
- Cael cysylltiadau cadarnhaol â chi a'u teulu.
Dysgu am bum bloc Pum Ffordd i Ffynnu
Ymateb
Mae ymateb yn golygu sylwi ar anghenion eich plant a'u diwallu gyda gofal a dealltwriaeth. Dyma sylfaen y dull Pum Ffordd i Ffynnu.
Ymlacio
Mae dysgu sut i ddelio â sefyllfaoedd llawn straen sy'n achosi emosiynau mawr yn sgil hanfodol mewn bywyd.
Siarad
Mae cyfathrebu â'ch plant yn helpu i ddatblygu eu hiaith, eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth gymdeithasol.
Chwarae
Mae bod yn chwareus yn eich helpu i gael perthynas agos gyda'ch plentyn wrth i chi gael hwyl gyda'ch gilydd, a gall eu helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol.
Cwtsio/ymgysylltu
Mae’r bloc yma’n ymwneud â chysylltu â'ch plant, gan roi gwybod eich bod chi yno iddyn nhw.
Deall datblygiad yr ymennydd
O'u genedigaeth, mae ymennydd plentyn yn brysur yn gwneud cysylltiadau rhwng celloedd yr ymennydd (a elwir yn niwronau). Mae'r cysylltiadau hyn yn cael eu siapio gan eu profiadau bob dydd, yn enwedig y berthynas sydd ganddyn nhw â'r bobl o'u cwmpas.
Pan fydd plant yn teimlo'n ddiogel, bod rhywun yn eu caru ac yn ymateb iddyn nhw, mae eu hymennydd yn adeiladu llwybrau cryf ac iach sy'n cefnogi dysgu, rheolaeth emosiynol a sgiliau cymdeithasol. Mae rhyngweithio cadarnhaol fel siarad, chwarae a bod yn bresennol yn helpu eu hymennydd i dyfu i'r cyfeiriad iawn.
Mae'r broses hon yn fwyaf gweithredol yn y blynyddoedd cynnar, ond mae'n parhau drwy blentyndod a hyd yn oed pan fyddan nhw’n oedolion ifanc. Yn wir, nid yw'r rhan o'r ymennydd sy'n gyfrifol am emosiynau a gwneud penderfyniadau yn aeddfedu'n llwyr tan tua 25 oed felly dyna pam y gall eich cefnogaeth ar hyd y ffordd wneud gwahaniaeth parhaol, hyd yn oed os byddwch chi'n dechrau pan fyddan nhw'n hŷn.
Dysgu mwy am ddatblygiad yr ymennydd ar wahanol oedrannau
Ymennydd babi newydd-anedig
Oeddech chi'n gwybod y bydd ymennydd eich babi'n dyblu o ran maint ym mlwyddyn gyntaf ei fywyd?
Erbyn iddo droi un, bydd ei ymennydd tua dwy ran o dair maint ymennydd oedolyn. Mae'r twf cyflym hwn yn digwydd oherwydd y miliynau o gysylltiadau newydd sy'n ffurfio rhwng celloedd yr ymennydd. Mae'r cysylltiadau hyn yn siapio sut mae eich plentyn yn dysgu, yn teimlo ac yn cysylltu â'r byd o'i gwmpas.
Mae angen cysylltiadau cryf yng nghelloedd yr ymennydd ar eich babi er mwyn:
- Teimlo'n hapus ac yn ddiogel.
- Magu hyder.
- Datblygu eu lleferydd a'u hiaith.
- Chwarae a chymdeithasu.
- Dysgu a bod yn barod ar gyfer yr ysgol.
- Bod yn greadigol a datrys problemau.
- Deall teimladau pobl eraill (empathi).
- Rheoli emosiynau (hunanreoli).
- Bownsio’n ôl o heriau (gwytnwch).
- Mwynhau bywyd bob dydd.
Mae eich babi'n cael ei eni'n gwbl ddibynnol arnoch chi. Un o'r prif ffyrdd mae'n cyfathrebu yw drwy grïo neu newid ymddygiad. Pan fyddwch chi'n diwallu anghenion emosiynol eich babi yn gyson drwy gysuro, ymateb a bod yn bresennol, rydych chi'n ei helpu i deimlo'n ddiogel. Mae'r diogelwch emosiynol hwn yn cefnogi datblygiad ymennydd iach yn uniongyrchol ac yn gosod y sylfaen ar gyfer llesiant gydol oes.
Allwch chi ddim difetha babi drwy roi gormod o gariad neu sylw iddo. Yn wir, mae pob cwtsh, gwên a gair o gysur yn helpu i feithrin cysylltiadau cryf yn yr ymennydd.
Ymennydd plant bach
Ar ôl 12 mis, mae ymennydd plant bach yn gwneud triliynau o gysylltiadau. Mae'n gyfnod o dwf sy'n gyffrous, ac weithiau'n anodd.
Ar y cam hwn, bydd plant bach yn:
- Symud mwy.
- Mwynhau gwneud pethau'n annibynnol.
- Awyddus i ymchwilio i'r byd o'u cwmpas.
- Cyfathrebu mwy gan ddefnyddio geiriau unigol, arwyddion neu ystumiau.
Er bod eich plentyn bach yn dod yn fwy annibynnol, mae eich angen chi arno o hyd, yn enwedig pan fydd rhywbeth yn teimlo'n anodd neu pan fydd eisiau rhannu eiliad o falchder neu bleser.
Mae ei ymennydd yn dal i ddatblygu, sy'n golygu nad yw’n gallu gwneud y canlynol eto:
- Dweud yr hyn sydd ei angen arno mewn ffordd sy’n hawdd ei deall.
- Deall yn llawn sut gallai pobl eraill deimlo.
Oherwydd hyn, efallai y bydd eich plentyn bach yn teimlo'n rhwystredig yn aml, yn enwedig pan na fydd yn gallu gwneud rhywbeth, mynegi ei hun, neu gael yr hyn mae arno ei eisiau. Mae hyn yn gwbl normal ac yn rhan o ddatblygiad emosiynol ac ymennydd iach.
Ymennydd plant cyn oed ysgol
Erbyn i'ch plentyn fod yn dair oed, mae ei ymennydd tua 90% o faint ymennydd oedolyn. Mae hwn yn gyfnod o dwf cyflym yn gorfforol, yn emosiynol, yn gymdeithasol ac yn feddyliol.
Ar y cam hwn, bydd eich plant yn gwneud y canlynol:
- Bod yn fwy anturus ac annibynnol.
- Dechrau mynegi eu meddyliau, eu teimladau a'u syniadau'n gliriach.
- Dechrau chwarae gyda phlant eraill, yn hytrach nag ochr yn ochr â nhw - cam pwysig mewn datblygiad cymdeithasol.
Er y gall eich plant ymddangos yn fwy hyderus ac efallai y bydd angen llai o fwythau arnyn nhw na phan oedden nhw’n iau, chi yw eu lle diogel o hyd. Mae eich presenoldeb, eich cefnogaeth a'ch sylw yn dal yn hanfodol i'w llesiant a’u dysgu.
Gallwch helpu eich plant i deimlo'n alluog ac yn hyderus drwy eu hannog i roi cynnig ar bethau dros eu hunain, fel:
- Helpu i baratoi bwyd - ond byddwch yn ofalus os oes gwrthrychau miniog neu bethau poeth gerllaw.
- Gwisgo.
- Chwythu eu trwyn.
Mae'r tasgau bach hyn bob dydd yn meithrin annibyniaeth a hunan-barch. A phan fydd eich plant yn teimlo'n dda ar y tu mewn, maen nhw’n gallu deall eu hemosiynau'n well a rheoli eu hymddygiad.
Ymennydd plentyn oed cynradd
Erbyn hyn, mae ymennydd eich plentyn bron yr un maint ag ymennydd oedolyn, a gyda'ch cefnogaeth emosiynol chi, mae wedi adeiladu rhwydwaith eang o gysylltiadau cryf yn yr ymennydd. Mae'r cysylltiadau hyn yn rhan allweddol o’r ffordd maen nhw'n meddwl, yn teimlo ac yn ymateb i'r byd o'u cwmpas.
Maen nhw’n helpu eich plentyn i wneud y canlynol:
- Rheoli ei emosiynau a’i ymddygiad (hunanreoli).
- Ymdopi â heriau a rhwystrau (gwytnwch).
- Deall safbwyntiau pobl eraill (empathi).
Ar y cam hwn, efallai y bydd eich plentyn hefyd yn dechrau:
- Bod yn fwy annibynnol.
- Archwilio syniadau am yr hyn sy'n dderbyniol ac yn annerbyniol.
- Dangos emosiynau mawr fel rhwystredigaeth, cyffro neu lawenydd.
- Weithiau gweithredu yn fyrbwyll heb feddwl.
Mae'r ymddygiadau hyn yn rhan naturiol o ddatblygiad, wrth i'w hymennydd barhau i dyfu a meithrin y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer bywyd emosiynol a chymdeithasol.
Ymennydd pobl ifanc
Mae'r glasoed yn un o'r cyfnodau mwyaf arwyddocaol o ran datblygiad yr ymennydd ar ôl plentyndod cynnar. Mae'r ymennydd yn parhau i dyfu a newid drwy gydol blynyddoedd y glasoed ac i ganol yr ugeiniau.
Mae pob person ifanc yn ei arddegau yn wahanol, ac mae eu hemosiynau a'u hymddygiad yn cael eu siapio gan gymysgedd o newidiadau i'r ymennydd, profiadau bywyd a dylanwadau cymdeithasol.
Beth sy’n digwydd yn ystod y glasoed?
Y glasoed yw'r cyfnod pontio rhwng plentyndod a bod yn oedolyn. Yn ystod y cyfnod hwn, efallai y byddwch yn sylwi ar y canlynol:
- Gwell sgiliau dysgu a meddwl.
- Angen mwy o annibyniaeth.
- Ffocws cryf ar gyfeillgarwch a grwpiau cymdeithasol.
- Emosiynau dwys a newid mewn hwyliau.
- Cymryd mwy o risgiau neu weithredu heb feddwl.
- Mwy o flinder a'r angen am fwy o gwsg
Pam mae plant yn eu harddegau’n teimlo’n flinedig?
Gall plant yn eu harddegau deimlo’n flinedig iawn am nifer o resymau, gan gynnwys:
- Ddim yn cael digon o gwsg.
- Gormod o amser o flaen sgrin, yn enwedig yn hwyr yn y nos.
- Straen cymdeithasol (fel pryderon am gyfeillgarwch, bwlio).
- Pwysau academaidd neu straen arholiadau.
- Newidiadau yn eu hymennydd.
Un o'r newidiadau hyn yw clirio'r ymennydd. Dyma pryd mae'r ymennydd yn clirio cysylltiadau sydd ddim yn cael eu defnyddio i wneud lle ar gyfer rhai cryfach a mwy defnyddiol. Mae hyn yn digwydd yn ystod cwsg gan amlaf, a dyna pam mae angen mwy o orffwys ar bobl ifanc nag y byddai oedolion yn ei ddisgwyl.
Pobl ifanc yn eu harddegau a gwneud penderfyniadau
Gofynnir i bobl ifanc yn eu harddegau wneud penderfyniadau mawr am bynciau ysgol, gyrfaoedd a ffrindiau ond nid yw'r rhan o'r ymennydd sy'n gyfrifol am gynllunio a gwneud penderfyniadau (y cortecs cyndalcennol) wedi datblygu'n llawn eto. Gall hyn arwain at ddewisiadau yn eu llethu neu arwain at ymddygiad byrbwyll.
Sut gallwch chi gefnogi pobl ifanc yn eu harddegau
Mae eich cefnogaeth emosiynol yn parhau i chwarae rhan bwerus yn y gwaith o lunio ymennydd plant yn eu harddegau. Os ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel ac yn gefnogol, mae eu hymennydd yn gallu meithrin cysylltiadau iach a chryf.
Mae'r cymorth hwn yn eu helpu i ddatblygu'r canlynol:
-
Hunanreolaeth - sut maen nhw'n rheoli emosiynau ac ymddygiad.
-
Gwytnwch - sut maen nhw'n ymdopi â heriau a rhwystrau.
-
Empathi - deall a gofalu am sut mae pobl eraill yn teimlo.
Mae'r ymennydd yn parhau i ddatblygu drwy gydol bywyd. Gyda'ch arweiniad a'ch dealltwriaeth chi, gall plant yn eu harddegau ddysgu llywio drwy'r cam cymhleth hwn ac adeiladu sylfaen gref ar gyfer y dyfodol.
Y camau nesaf
Ydych chi'n barod i ddysgu sut mae cefnogi ymennydd eich plant yn ystod y camau gwahanol hyn?
Dysgu am bum bloc Pum Ffordd i Ffynnu
Ymateb
Mae ymateb yn golygu sylwi ar anghenion eich plant a'u diwallu gyda gofal a dealltwriaeth. Dyma sylfaen y dull Pum Ffordd i Ffynnu.
Ymlacio
Mae dysgu sut i ddelio â sefyllfaoedd llawn straen sy'n achosi emosiynau mawr yn sgil hanfodol mewn bywyd.
Siarad
Mae cyfathrebu â'ch plant yn helpu i ddatblygu eu hiaith, eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth gymdeithasol.
Chwarae
Mae bod yn chwareus yn eich helpu i gael perthynas agos gyda'ch plentyn wrth i chi gael hwyl gyda'ch gilydd, a gall eu helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol.
Cwtsio/ymgysylltu
Mae’r bloc yma’n ymwneud â chysylltu â'ch plant, gan roi gwybod eich bod chi yno iddyn nhw.

O blant bach i bobl ifanc yn eu harddegau: sut gallwch chi annog noson dda o gwsg
Mae cael digon o gwsg yn hanfodol i iechyd, hwyliau a datblygiad eich plentyn, p’un a yw’n blentyn bach neu’n berson ifanc yn ei arddegau. Mae pob plentyn yn wahanol, ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich plentyn (a chithau!) i gysgu’n well.

Ydych chi’n meddwl bod eich plentyn yn teimlo’n bryderus?
Mae’n anodd gweld eich plentyn yn cael trafferth. Os ydych chi'n meddwl tybed beth yw'r ffordd orau o helpu eich plentyn, mae gennym gyngor ar sut beth yw pryder ymysg plant a phobl ifanc, sut i'w cefnogi, a ble a phryd i droi am gymorth proffesiynol.

Helpu eich plant i ddysgu gofalu am eu dannedd
Rhwng plentyndod a’u harddegau, mae plant yn mynd drwy newidiadau mawr ac mae hynny’n cynnwys sut maen nhw’n bwyta, yn yfed ac yn gofalu am eu dannedd. Mae gennym gyngor ar sut i roi’r dechrau gorau iddyn nhw er mwyn iddyn nhw gael dannedd iach am oes.
Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028. Mae cynnwys y dudalen hon wedi cael ei gydgynhyrchu mewn partneriaeth â KCA.
