Mae plant yn mynd drwy newidiadau mawr rhwng eu plentyndod a’u harddegau, ac mae hynny’n cynnwys sut maen nhw’n bwyta, yn yfed ac yn gofalu am eu dannedd. Mae gennym gyngor gan Una Monaghan BDS MSc, Ymgynghorydd Iechyd y Geg Barnardo’s, ar sut i fynd i’r afael â rhai o’r heriau hyn.
Drwy gadw at arferion da, datblygu trefn dda i helpu i warchod eu dannedd, a rhoi hwb i’w hyder, gallwch roi’r cychwyn gorau iddyn nhw o ran cael dannedd iach.
Brwsio dannedd: O blant bach i bobl ifanc yn eu harddegau
Wrth i’ch plentyn dyfu, mae angen newid y broses o frwsio dannedd, ond mae un peth yn aros yr un fath – mae’n hanfodol ar gyfer iechyd y geg da.
-
Defnyddiwch bast dannedd fflworid:
-
3 - 6 oed: defnyddiwch swm maint pys o bast dannedd gyda 1,350-1,450ppm (rhannau fesul miliwn) o fflworid
-
7 oed a hŷn: gall plant ddefnyddio past dannedd fflworid arferol cryfder oedolion (1,450ppm)
-
-
Brwsiwch ddwywaith y dydd: Dylech bob amser frwsio cyn mynd i’r gwely ac un tro arall yn ystod y dydd, am tua dau funud bob tro.
-
Goruchwylio brwsio: Mae angen help ar blant hyd at saith oed i lanhau eu dannedd yn effeithiol.
-
Poeri, a pheidio â rinsio: Anogwch nhw i boeri past dannedd allan a pheidio â rinsio, er mwyn cadw’r fflworid amddiffynnol ar eu dannedd. Yn ddelfrydol, dylai’r pâst dannedd aros ar eu dannedd drwy’r nos ac felly mae’n well brwsio cyn iddyn nhw fynd i’r gwely a pheidio â bwyta nac yfed dim byd arall wedyn.
-
Defnyddio’r offer cywir: Dewiswch frwsh dannedd meddal â phen bach i blant.
-
Byddwch yn drylwyr: Gwnewch yn siŵr bod holl arwynebau’r dannedd yn cael eu brwsio – y tu blaen, y cefn a’r arwynebau cnoi.
-
Os oes angen help arnoch i annog eich plentyn i frwsio ei ddannedd, ma gan Cyw gân Brwsio Dannedd ac mae gan Cbeebies ganeuon Saesneg am frwsio dannedd.
-
Mae apiau ar gael hefyd y gallech roi cynnig arnyn nhw, fel Brush DJ neu Pokémon Smile.
-
Gall siartiau sêr a gwobrau helpu i gymell eich plentyn. Mae’r siart brwsio dannedd hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
-
Gellir defnyddio hylif golchi ceg ar ôl i blant droi’n wyth oed, ond ni ddylen nhw ei ddefnyddio ar ôl brwsio oherwydd rydych chi eisiau i’r past dannedd fflworid aros ar eu dannedd. Os ydyn nhw am ei ddefnyddio, gallan nhw wneud hynny rhwng prydau neu pan fyddan nhw’n dod adref o’r ysgol.
Angen mwy o gyngor ar gyfer plant iau? Ewch i’n tudalen Dannedd a gofalu am ddannedd: gofalu am ddannedd cyntaf eich babi.
Annog plant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau i frwsio eu dannedd
Wrth i blant dyfu, maen nhw’n hoffi cael mwy o annibyniaeth, a gall hyn weithiau arwain at ddadleuon ynghylch brwsio eu dannedd. Dyma sut gallwch eu helpu nhw:
-
Sicrhau bod brwsio’r dannedd yn rhan o’r drefn bob dydd, hyd yn oed pan fydd bywyd yn brysur.
-
Rhoi rhywfaint o reolaeth iddyn nhw: Gadewch iddyn nhw ddewis eu brwsh eu hunain a blas y past dannedd, defnyddio apiau, amseryddion neu osod nodiadau atgoffa dros y ffôn, a’u hannog i gadw llygad ar eu cynnydd.
-
Esboniwch y rhesymau “pam”: Gall deall sut mae hylendid y geg gwael yn arwain at arogl drwg ar yr anadl, y ddannoedd, a phydredd gweladwy, eu hysgogi nhw i frwsio eu dannedd, yn enwedig i bobl ifanc yn eu harddegau sy’n ymwybodol iawn o’u hedrychiad.
-
Helpwch nhw i gysylltu brwsio dannedd gyda hyder: Gall dannedd glân, anadl ffres a gwên iach wneud gwahaniaeth mawr i sut maen nhw’n teimlo mewn sefyllfaoedd cymdeithasol.
Cymorth brwsio dannedd i blant ag awtistiaeth neu anghenion addysgol arbennig (AAAA)
Gall gofalu am ddannedd eich plentyn fod yn fwy heriol os oes ganddo awtistiaeth neu anghenion ychwanegol, yn enwedig os yw’n profi sensitifrwydd synhwyraidd neu’n ei chael yn anodd newid ei drefn ddyddiol. Mae brwsio’r dannedd ac ymweld â’r deintydd yn gallu herio’r synhwyrau. Mae ffyrdd o wneud i ofal deintyddol weithio i’ch plentyn mewn ffordd y mae modd ei reoli ac sy’n teimlo’n ddiogel – fel addasu eich trefn ddyddiol, dod o hyd i’r offer iawn, neu siarad â deintydd cefnogol.
Mae Cymdeithas Deintyddiaeth Bediatrig Prydain yn arbenigwyr ar ofalu am iechyd y geg mewn plant. Maent wedi cyhoeddi cyngor ar iechyd y geg i rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc awtistig. Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth am gefnogi plant ag anghenion addysgol arbennig (AAA).
Mae gan y GIG wybodaeth hefyd am strategaethau i helpu plant i ymdopi â’r heriau synhwyraidd sy’n gysylltiedig â brwsio’r dannedd.
Fframiau dannedd (bresys) a chynhalwyr
Os yw eich plentyn yn gwisgo fframiau dannedd (bresys) neu gynhalwyr:
-
Helpu eich plentyn i lanhau o amgylch bracedi a gwifrau’n drylwyr.
-
Defnyddio brwshys bach i lanhau rhwng y dannedd neu ffyn fflosio sydd wedi’u dylunio ar gyfer fframiau dannedd.
-
Annog eich plentyn i frwsio ei ddannedd yn rheolaidd ar ôl bwyta.
Yfed a bwyta’n iach ar gyfer dannedd cryf
Wrth i blant dyfu, maen nhw’n dechrau gwneud mwy o ddewisiadau am yr hyn maen nhw’n ei fwyta a’i yfed gartref, yn yr ysgol a gyda ffrindiau. Bydd eu dysgu nhw sut mae bwyd a diod yn effeithio ar eu dannedd yn gallu eu helpu i wneud penderfyniadau gwell.
Gall bwyta gormod o siwgr arwain at bydredd dannedd, gan ei fod yn bwydo'r bacteria yn y geg sy'n cynhyrchu asidau sy'n ymosod ar enamel y dannedd ac yn ei wanhau. Gallwch annog eich plant i aros i gael bwyd a diodydd â siwgr gyda prydau o fwyd, gan fod bwyta siwgr yn rheolaidd yn fwy tebygol o niweidio’r dannedd.
Gallwch eu hannog i yfed dŵr rhwng prydau ac osgoi neu gyfyngu ar faint o ddiodydd melys, pop, diodydd egni, a sudd ffrwythau maen nhw’n ei yfed. Mae llaeth â blas ac ysgytlaeth yn gallu cynnwys mwy o siwgr na bar o siocled.
Ni ddylen nhw fwyta gormod o fyrbrydau llawn siwgr, yn enwedig rhwng prydau o fwyd neu cyn mynd i’r gwely. Yn hytrach, gallwch gynnig byrbrydau iddyn nhw sy’n well i’r dannedd, fel:
-
Ffrwythau a llysiau ffres.
-
Caws.
-
Popgorn neu gacennau reis plaen.
-
Hwmws gyda ffyn bara.
Dylech osgoi ffrwythau wedi’u sychu, fel cyrens, a byrbrydau fel ‘winders’ ffrwythau oherwydd maen nhw’n gallu achosi pydredd dannedd.
Cofiwch: Nid dim ond faint o siwgr maen nhw'n ei fwyta sy’n bwysig, ond pa mor aml. Mae bwyta byrbrydau’n aml yn cynyddu’r risg o bydredd dannedd.
Ymweld â’r deintydd
Mae mynd at y deintydd i gael archwiliad yn rheolaidd yn hanfodol. Mae plant dan 18 oed (neu dan 19 oed os ydyn nhw mewn addysg amser llawn) yn cael gofal deintyddol am ddim gan y GIG.
Os nad oes deintydd GIG gyda chi, a’ch bod yn byw:
-
Yng Nghymru, mae gwefan 111 yn cynnwys rhestr o ddeintyddion.
-
Yn Lloegr, gallwch chwilio ar wefan y GIG am ddeintydd. Fel arall, ffoniwch Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid NHS England ar 0300 311 2233. Bydd y rhif hwn yn eich arwain at ymholiadau cyffredinol, a fydd yn gallu eich helpu.
-
Yng Ngogledd Iwerddon, mae’r wefan Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys rhestr o ddeintyddion.
-
Yn yr Alban, gallwch chwilio ar dudalen NHS Inform Scotland am ddeintydd.

Datblygu ymennydd iach
P’un a yw eich plentyn yn fabi neu yn ei arddegau, gallwch helpu ei ymennydd i ddatblygu a gweithredu ar ei orau. Rydyn ni wedi ymuno â KCA, arbenigwyr niwrowyddoniaeth, i rannu dull syml ac effeithiol y gallwch ddechrau ei ddefnyddio heddiw.

Gofalu am ddannedd cyntaf eich babi
Bydd gofalu am ddannedd eich babi o’r cychwyn cyntaf yn ei helpu i gael dannedd iach am byth. Mae gennym awgrymiadau ar sut i ofalu am ddannedd eich plentyn wrth iddo dyfu.

O blant bach i bobl ifanc yn eu harddegau: sut gallwch chi annog noson dda o gwsg
Mae cael digon o gwsg yn hanfodol i iechyd, hwyliau a datblygiad eich plentyn, p’un a yw’n blentyn bach neu’n berson ifanc yn ei arddegau. Mae pob plentyn yn wahanol, ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich plentyn (a chithau!) i gysgu’n well.
Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028.