Gelwir y rhan hon o Pum Ffordd i Ffynnu yn “cwtsio” i fabanod a phlant ac “ymgysylltu” i bobl ifanc ac oedolion. Mae'n cynnwys cyswllt corfforol a chysylltiad emosiynol sy'n helpu babanod a phlant i deimlo'n ddiogel, eu bod yn cael eu caru a bod eu gofalwyr yn eu cysuro'n gorfforol.
Mae'r adegau hyn hefyd yn cefnogi datblygiad iach ymennydd eich plentyn, yn enwedig y rhannau sy'n ymwneud â rheoli emosiynau, ymddiriedaeth a pherthnasoedd.
Pan fydd eich plant yn teimlo cysylltiad â chi, mae eu hymennydd yn rhyddhau cemegau sy'n gwneud iddyn nhw deimlo'n dda (fel ocsitosin), sy'n lleihau straen ac yn cryfhau'r bond rhyngoch chi. Does dim rhaid i chi fod yn berffaith, dim ond bod yn bresennol. Gall rhoi sylw mewn ffordd gynnes ac ystyrlon am ychydig funudau bob dydd wneud gwahaniaeth mawr.
Dysgu am roi cwtsh neu ymgysylltu ar wahanol oedrannau
Babi
Cyffyrddiad yw synnwyr cyntaf eich babi i ddatblygu. Hyd yn oed cyn i fabi ddeall y byd o'i gwmpas, mae'n gallu ei deimlo. Mae cyffyrddiad ysgafn yn ffordd bwerus o gysuro, cysylltu a chreu perthynas agos â'ch babi. Mae cyswllt corfforol agos hefyd yn helpu i dawelu ei system nerfol ac yn cefnogi datblygiad iach yr ymennydd.
Gan fod croen eich babi mor newydd a thyner, mae angen cyffyrddiad diogel ac ysgafn arno. Mae cyswllt croen wrth groen gennych chi a phrif ofalwyr eich babi yn arbennig o fuddiol yn yr wythnosau cyntaf.
Dyma ffyrdd syml o gysylltu drwy gyffwrdd:
- Rhoi mwythau neu gyffwrdd eu cefn neu eu bol yn ysgafn.
- Anwesu eu dwylo neu eu traed yn ysgafn.
- Tylino.
- Eu dal a'u cofleidio'n agos.
- Eu siglo yn eich breichiau.
- Brwsio eu gwallt neu gyffwrdd eu hwyneb yn ysgafn.
- Gwneud cyswllt corfforol cynnes yn ystod trefn gofal a chwarae.
Cyn bo hir, bydd eich babi'n dechrau dangos i chi pa fath o gyffyrddiad mae'n ei fwynhau, gwyliwch sut mae'n ymateb a dilyn hynny.
Rhowch fwythau i’ch babi mor aml ag y dymunwch chi. Allwch chi ddim difetha babi drwy ddiwallu ei anghenion. Mae eich cyffyrddiad cariadus yn helpu babi i deimlo'n ddiogel ac mae’n adeiladu'r sylfaen ar gyfer llesiant emosiynol gydol oes.
Plant bach a phlant cyn oed ysgol
Efallai y bydd eich plentyn bach neu'ch plentyn cyn oed ysgol yn dal i fwynhau canu hwiangerddi gyda chi, ond gallwch hefyd geisio creu cornel glyd gyda chlustogau meddal a blanced. Mae'r lle arbennig hwn yn gadael i chi eistedd yn agos, darllen straeon, neu chwarae'n ddel gyda’ch gilydd.
Ydych chi eisiau hyd yn oed mwy o hwyl? Adeiladwch gaer neu babell o flancedi lle gallwch chi swatio, siarad neu chwarae gemau llawn dychymyg gyda'ch gilydd. Syniad arall yw chwarae rôl gemau trin gwallt, lle rydych chi'n cymryd eich tro i frwsio a steilio gwallt eich gilydd, sy'n berffaith ar gyfer cyffyrddiad ysgafn a chysylltiad.
Mae'r gweithgareddau syml a chariadus hyn yn helpu i feithrin diogelwch emosiynol eich plentyn ac yn cefnogi datblygiad ymennydd iach drwy gyffyrddiad ymatebol a gofalgar. Mae ymennydd eich plentyn yn gweithio orau pan fydd yn teimlo cysylltiad â chi. Un ffordd syml o gryfhau'r cysylltiad hwnnw yw drwy fwyta bwyd heb sgrin.
Mae eistedd gyda'ch gilydd heb bethau sy'n tynnu eich sylw, fel teledu neu ffôn, yn gyfle i chi siarad, gwrando a mwynhau bod gyda'ch gilydd.
Cefnogi eich plentyn bach neu eich plentyn cyn oed ysgol drwy emosiynau mawr
Weithiau gall eich plentyn bach neu eich plentyn cyn oed ysgol deimlo'n ofidus neu wedi'i lethu gan emosiynau cryf. Ar yr adegau hyn, mae angen eich cefnogaeth chi arno i ddechrau tawelu, cyn i chi siarad am ffiniau neu ymddygiad.
Efallai y bydd eisiau chi’n agos ato, eisiau cwtsh neu eistedd wrth eich ymyl chi, neu efallai y byddai'n well ganddo gael rhywfaint o lonydd. Dilynwch arweiniad eich plentyn a chynnig cysur yn y ffordd sy'n gweddu orau iddo.
Cynradd a hŷn
Wrth i'ch plentyn dyfu i oedran ysgol gynradd a thu hwnt, efallai y bydd ei angen am fwythau'n newid, ond bydd yr angen am gysylltiad yr un mor bwysig.
Mae mynd i lawr i'w lefel pan fyddwch chi'n siarad, penlinio neu eistedd fel eich bod chi wyneb-yn-wyneb, yn eich helpu i ddeall sut mae’n teimlo. Mae'r weithred syml hon yn dangos parch ac yn ei gwneud yn haws darllen arwyddion eich plentyn, gan gynnwys a yw eisiau cwtsh neu a fyddai'n well ganddo gael rhywfaint o lonydd.
Er y gall plant hŷn ofyn am fwythau'n llai aml, maen nhw’n dal i elwa'n fawr o'ch cynhesrwydd a'ch sylw. Mae ymgysylltu â nhw drwy weithgareddau ar y cyd, sgyrsiau, neu hyd yn oed gyswllt llygad syml yn helpu i feithrin ymddiriedaeth a diogelwch emosiynol.
Gyda phobl ifanc yn eu harddegau, mae cysylltiad yn aml yn cymryd mwy o ymdrech ond mae'r un mor hanfodol. Efallai y byddan nhw'n tynnu i ffwrdd yn gorfforol, ond mae angen eich cefnogaeth a'ch dealltwriaeth arnyn nhw o hyd. Ceisiwch ddod o hyd i weithgareddau maen nhw'n eu mwynhau, fel chwaraeon, cerddoriaeth neu hobïau, a defnyddio’r adegau hynny i ymgysylltu, gwrando a bod yn bresennol. Gall ystumiau bach, fel cyffyrddiad cysurlon ar yr ysgwydd neu eistedd gerllaw wrth wneud gwaith cartref, gyfleu eich gofal heb eu llethu.
Awgrymiadau ar gyfer cysylltu â phlant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau:
- Parchu eu hangen am annibyniaeth a bod ar gael iddyn nhw.
- Gofyn cwestiynau penagored sy’n annog sgyrsiau.
- Rhannu rhannau o'ch diwrnod eich hun neu eich teimladau i ddangos sut i fod yn agored.
- Creu trefn reolaidd i'r teulu (amser bwyd, mynd am dro, nosweithiau gemau).
- Annog cysylltiad dieiriau drwy brofiadau cyffredin (cerddoriaeth, celf, neu eistedd yn dawel gyda'ch gilydd yn darllen, gwylio teledu neu ffilm).
Cofiwch, mae cysylltiad yn datblygu wrth i'ch plentyn dyfu, ond mae'n parhau i gefnogi ei lesiant emosiynol a datblygiad ei ymennydd.
Rhestr wirio ddyddiol Cwtsio/Ymgysylltu
Mae treulio amser bob dydd yn cysylltu â'ch plentyn drwy fwythau, canmoliaeth a sylw ysgafn yn helpu i feithrin diogelwch emosiynol ac yn cefnogi datblygiad ymennydd iach. Mae'r adegau bach hyn yn dangos i'ch plant eich bod chi’n eu caru, eu deall a’u bod yn ddiogel.
Ydych chi wedi:
- Rhoi cwtsh i’ch plentyn drwy gydol y dydd, neu wedi cynnig cysur pan fo hynny'n briodol?
- Eu canmol neu eu hannog am eu hymdrechion a'u llwyddiannau?
- Stopio’r hyn oeddech chi'n ei wneud pan oedd eich plentyn eisiau cwtsh?
- Parchu a deall pan oedd angen llonydd ar eich plentyn neu pan nad oedd eisiau agosatrwydd corfforol?
- Defnyddio cyffyrddiad ysgafn i dawelu eich plentyn?
- Bod yn agos at eich plentyn yn gorfforol, a rhannu ei le i gynnig cymorth tawel heb fod angen cyffwrdd?
- Treulio amser yn gwrando'n astud ar eich plentyn hŷn neu'ch plentyn yn ei arddegau heb dorri ar ei draws?
Os gwnaethoch chi fethu rhai o'r rhain heddiw, mae hynny'n iawn, dydy magu plant ddim yn golygu perffeithrwydd. Mae pob eiliad rydych chi'n cysylltu yn cyfrif, ac mae yfory yn ddiwrnod newydd.
Dysgu am bum bloc Pum Ffordd i Ffynnu
Ymlacio
Mae dysgu sut i ddelio â sefyllfaoedd llawn straen sy'n achosi emosiynau mawr yn sgil hanfodol mewn bywyd.
Ymateb
Mae ymateb yn golygu sylwi ar anghenion eich plant a'u diwallu gyda gofal a dealltwriaeth. Dyma sylfaen y dull Pum Ffordd i Ffynnu.
Siarad
Mae cyfathrebu â'ch plant yn helpu i ddatblygu eu hiaith, eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth gymdeithasol.
Chwarae
Mae bod yn chwareus yn eich helpu i gael perthynas agos gyda'ch plentyn wrth i chi gael hwyl gyda'ch gilydd, a gall eu helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol.

Bwydo ar y Fron
Mae bwydo ar y fron yn cefnogi iechyd, datblygiad a llesiant emosiynol eich babi, ac yn eich helpu i feithrin perthynas gref. Ond rydyn ni’n gwybod nad yw wastad yn hawdd. Mae gennym ni gyngor i’ch helpu ar eich taith.

Bwydo eich babi â photel
Cariad, dysgu a bondio sy’n bwysig yn y dyddiau cynnar gyda'ch babi. P’un a ydych chi’n defnyddio fformiwla, llaeth wedi’i dynnu o’r fron, neu gymysgedd o’r ddau, mae gennym gyngor ar sut i fwydo eich babi â photel.

Gwarchod eich plentyn rhag damweiniau
Rydyn ni’n gwybod nad yw’n beth braf i feddwl amdano, ond mae damweiniau’n digwydd yn y cartref, ac maen nhw’n gallu bod yn dorcalonnus pan maen nhw’n digwydd. Drwy gymryd camau syml, gallwch leihau’r risgiau a chreu amgylchedd mwy diogel i’ch plentyn.
Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028. Cafodd y dudalen hon ei chynhyrchu ar y cyd â KCA.
