Mae mam gyda'i gwallt wedi'i thynnu i fyny yn gafael yn ei babi sy'n gwisgo crys porffor ac sy'n chwarae gyda chylch cnoi lliwgar.  

Pum Ffordd i Ffynnu: Chwarae

Yn y dull Pum Ffordd i Ffynnu, mae chwarae yn golygu mwy na dim ond cael hwyl, mae'n rhan bwysig o ddatblygiad ymennydd iach eich plant.

Pan fyddwch chi'n chwarae gyda'ch plant, rydych chi'n helpu eu hymennydd i ddatblygu cysylltiadau cryf. Drwy chwarae, mae plant yn dysgu sut i archwilio'r byd, mynegi eu hunain, datrys problemau, a meithrin perthnasoedd. Mae'n cefnogi eu datblygiad corfforol, emosiynol, cymdeithasol a datblygiad yr ymennydd i gyd ar yr un pryd.

Does dim rhaid i chwarae fod yn strwythuredig nac yn gymhleth. Efallai eich bod chi’n meddwl bod eich plant yn rhy ifanc neu'n rhy hen i chwarae gyda chi, ond gall adegau syml bob dydd wneud gwahaniaeth. Boed hynny'n chwarae pi-po, peintio, ymuno â Parkrun neu ymarfer dawns Tik Tok, gall chwarae gyda'ch gilydd wneud i chi deimlo'n hapus a chefnogi datblygiad ymennydd iach eich plant.

Jump to:

Dysgu am chwarae gyda phlant ar gyfer gwahanol oedrannau 

Chwarae gyda'ch babi

Mae eich babi'n dechrau deall y byd drwy chwarae a chi yw ei hoff ffrind. Mae hyd yn oed chwarae syml yn helpu ymennydd eich babi i dyfu ac yn cefnogi ei ddatblygiad emosiynol.

  • Defnyddio’r wyneb: Gwenwch, gwnewch wynebau doniol, neu wthio eich tafod allan. Dydy babanod newydd-anedig ddim yn gallu gweld yn bell iawn, ac maen nhw wrth eu bodd yn edrych arnoch chi, felly bydd hyn yn arbennig o dda iddyn nhw.  
  • Pi-po: Gêm glasurol sy'n helpu eich babi i ddysgu am ryngweithio a sylw. 
  • Amser ar y bol: Mae'n cryfhau’r gwddf, y cefn a'r ysgwyddau yn ogystal â chynnig golwg gwbl newydd ar y byd. Rhowch ddrych sy’n ddiogel i blant neu degan o'i flaen tra bydd yn gorwedd ar ei fol. Dylech oruchwylio’ch babi bob amser. Dechreuwch gyda sesiynau byr a chynyddu'r amser. 
  • Basgedi trysor: Llenwch focs gydag eitemau cartref diogel yn seiliedig ar wahanol themâu fel ffabrigau meddal, gwrthrychau sgleiniog, llwyau pren, pethau o'r un lliw neu frwshys. Gwnewch yn siŵr eu bod yn lân ac yn ddiogel i'ch plentyn chwarae â nhw. Gadewch i'ch babi archwilio gyda'i synhwyrau. 
  • Chwarae blêr: Mae chwarae gyda dŵr glân, neu fwyd diogel fel iogwrt ar ôl i chi ddechrau diddyfnu, yn dda i ddysgu gwneud marciau, sgil cyn ysgrifennu. 
  • Swigod: Mae'n hwyl gwylio, popio, a hyd yn oed ceisio chwythu swigod. Mae’n dda ar gyfer cydsymudiad a rhyngweithio rhwng y llaw a'r llygad. 
  • Mae caneuon actol yn chwareus ac yn helpu eich babi i wrando ar rythm, iaith a symudiad. Rhowch gynnig ar ganeuon fel Wind the Bobbin Up, The Grand Old Duke of York, Dingle Dangle Scarecrow. Ychwanegwch symudiadau ysgafn neu ddefnyddio dwylo eich babi i ddilyn y symudiadau. Os nad ydych chi’n gyfarwydd â’r caneuon hyn, gallwch eu gwylio nhw ynghyd â llawer o hwiangerddi eraill ar wefan CBeebies.  
  • Cuddio a chwilio: Cuddiwch eitemau o dan gwpanau neu ddarnau o ddefnydd i ddysgu eich babi bod pethau'n dal i fodoli hyd yn oed pan nad yw'n gallu eu gweld, sgil i feithrin yr ymennydd yn gynnar o'r enw parhad gwrthrych. 

Dylech bob amser oruchwylio eich babi wrth chwarae mewn dŵr neu chwarae blêr, a pheidiwch byth â'i adael heb oruchwyliaeth wrth ymyl dŵr. Mae babanod yn gallu boddi mewn ychydig gentimetrau.

Deall patrymau chwarae

Wrth i'ch babi dyfu, efallai y byddwch chi'n sylwi ei fod yn cael ei ddenu at rai mathau o chwarae fel olwynion troelli, taflu pethau, neu daro tyrau i lawr. Mae’r rhain yn cael eu galw’n sgemâu a dyma sut mae babanod yn archwilio ac yn dysgu'n naturiol.

Dyma sgemâu cyffredin: 

  • Cylchdroi: Troi olwynion neu wrthrychau. Er enghraifft, efallai y byddan nhw’n dechrau troi ceir tegan ben ei waered a throi'r olwynion. Rhowch gogiau, olwynion, tapiau ac allweddi iddyn nhw eu troi i helpu i gynnal eu diddordeb.
  • Llwybr: Gollwng neu daflu pethau. Os bydd eich plentyn yn gollwng pethau o'i gadair uchel, efallai ei fod mewn sgema llwybr taflu. Bydd rhoi pêl i’ch plentyn ei chicio neu ei thaflu yn helpu i gefnogi'r diddordeb hwnnw.
  • Cysylltu/datgysylltu: Gall cysylltu olygu adeiladu traciau trên, pentyrru brics, edafu neu wneud posau jig-so. Mae datgysylltu’n golygu taro pethau i lawr, rhwygo, neu dynnu pethau’n ddarnau. Felly, os ydyn nhw’n taro’r tŵr i lawr bob tro rydych chi'n ei adeiladu, efallai ei fod mewn sgema datgysylltu.

Mae sylwi ar yr hyn sydd o ddiddordeb i'ch babi yn eich helpu i gynnig cyfleoedd chwarae sy'n cefnogi ei ddatblygiad a'r hyn a fydd o ddiddordeb iddo.  

Cofiwch nad oes rhaid i chwarae gynnwys llawer o deganau drud. Mae eich babi'n dysgu orau drwy ryngweithio â chi. Mae eiliadau bach llawen gyda'ch gilydd yn helpu i adeiladu ymennydd eich babi a chryfhau eich cysylltiad.  

Chwarae gyda phlant bach neu blant dan yr oedran ysgol

Mae plant bach a phlant cyn oed ysgol yn dysgu orau drwy chwarae. Dyma sut maen nhw'n archwilio'r byd, yn deall eu hemosiynau, yn meithrin perthnasoedd, ac yn datblygu'r sgiliau y bydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer yr ysgol a bywyd.

Dydy’r gweithgareddau chwarae gorau ddim yn dilyn strwythur nac yn ddrud, maen nhw’n gyfle i'ch plentyn arwain, archwilio, creu a chysylltu â chi.

Gadewch i'ch plentyn gymryd yr awenau wrth chwarae ac ymunwch â'u syniadau pan allwch chi. Gall gadael iddyn nhw arwain y chwarae adeiladu eu chwilfrydedd, eu hannibyniaeth a'u sgiliau meddwl, sydd i gyd yn sylfeini pwysig i'r ysgol a bywyd.

Mae chwarae hefyd yn helpu i roi hwb i'w sgiliau lleferydd ac iaith a datblygu sgiliau cymdeithasol pwysig fel cymryd tro a rheoli emosiynau.

Dyma ffyrdd o gefnogi dysgu eich plentyn bach neu'ch plentyn cyn oed ysgol drwy chwarae:

  • Darllen gyda'ch gilydd: Ychwanegu propiau, llyfrau synhwyraidd, neu leisiau gwirion i ddod â straeon yn fyw.
  • Chwarae creadigol: peintio, tynnu lluniau, neu chwarae blêr fel cymysgu lliwiau neu ddefnyddio iogwrt neu ewyn eillio. Gadewch iddyn nhw fwynhau'r broses, yn lle poeni am y canlyniad.
  • Chwarae dychmygol: Mae gwisgo i fyny a chwarae rôl yn helpu plant i fynegi syniadau ac emosiynau - Pwy fyddan nhw? I ble fyddan nhw’n mynd? Beth fydd yn digwydd?
  • Chwarae yn yr awyr agored: Rhedwch, neidiwch, archwiliwch natur. Rhowch gynnig ar wylio’r cymylau, casglu dail, neu chwarae gemau syml fel “dod o hyd i bluen” neu “faint o gamau at y goeden?”
  • Symud yn egnïol: Dawnsiwch gyda'ch gilydd neu adeiladu cwrs rhwystrau dan do.
  • Gwneud tasgau bob dydd yn chwareus: Chwiliwch am rifau ar ddrysau neu gyfrif faint o gŵn rydych chi'n eu gweld wrth fynd am dro. Yn yr archfarchnad, gofynnwch iddyn nhw bwyntio at bethau ar eich rhestr siopa neu gael ras tacluso.

Dilynwch eu diddordebau nhw pan allwch chi. Os yw eich plentyn wrth ei fodd yn adeiladu pethau, taro pethau i lawr neu droi pethau, efallai ei fod yn archwilio patrwm chwarae neu sgema. Mae'r rhain yn ffyrdd naturiol i blant ddysgu felly ceisiwch sylwi arnyn nhw ac adeiladu ar yr hyn maen nhw’n ei fwynhau.

Chwarae gyda phlant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau

Wrth i blant fynd yn hŷn, mae'r ffordd maen nhw'n chwarae a sut gallwch chi gefnogi eu chwarae a'u llesiant yn newid. I blant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau, yn aml mae chwarae yn dod yn weithgaredd mwy annibynnol neu'n weithgaredd sy’n canolbwyntio mwy ar eu ffrindiau. Mae'n bwysig rhoi'r rhyddid iddyn nhw ddyfeisio eu gemau eu hunain a mwynhau amser yn chwarae ar eu pen eu hunain. Mae'r annibyniaeth hon yn annog creadigrwydd, datrys problemau a chysylltiad cymdeithasol.

Wedi dweud hynny, mae eich cyfraniad yn dal i wneud gwahaniaeth. Mae llawer o blant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau yn gwerthfawrogi pan fydd oedolion yn weithgar gyda nhw, nid i gymryd yr awenau, ond i rannu'r profiad. P'un a ydych chi'n ymuno â nhw ar daith feicio hamddenol, yn cicio pêl, neu'n archwilio byd natur, mae'r adegau hyn yn gyfleoedd i fondio a dangos eich cefnogaeth heb fod yn ymwthiol.

Syniadau ar gyfer chwarae gyda phlant hŷn a phobl ifanc yn eu harddegau

  • Dod o hyd i’ch Parkrun lleol: Digwyddiad cymunedol am ddim sy'n cael ei gynnal bob wythnos ledled y DU ac sy'n gwahodd pobl o bob oed i gerdded, loncian neu redeg ar eu cyflymder eu hunain. Mae Parkrun yn cynnig llwybr 5km i bob oed, ac mae'r Junior Parkrun yn llwybr 2km sydd wedi'i gynllunio ar gyfer plant 4-14 oed. Mae'n gyfle gwych i deuluoedd gadw’n heini gyda'i gilydd.
  • Chwaraeon a gemau: Rhowch gynnig ar chwarae tennis, sglefr fyrddio, pêl-fasged, criced neu nofio gyda'ch gilydd. Mae llawer o bobl ifanc yn eu harddegau yn mwynhau gemau cystadleuol neu gemau hamddenol gyda ffrindiau neu deulu.
  • Anturiaethau yn yr awyr agored: Ewch i heicio, geogelcio, neu roi cynnig ar gwrs rhwystrau. Gall teithiau gwersylla neu deithiau natur fod yn dda i'ch iechyd corfforol a meddyliol ac maen nhw’n gyfle i ddysgu am yr amgylchedd.
  • Chwarae creadigol: Anogwch sesiynau cerddoriaeth, cystadlaethau dawnsio, gweithgareddau drama, neu brosiectau celf cydweithredol sy'n gadael i bobl ifanc yn eu harddegau fynegi eu hunain a chysylltu ag eraill.
  • Gemau bwrdd a gemau strategaeth: Mae llawer o blant hŷn yn mwynhau gemau bwrdd cymhleth, gemau cardiau, neu gemau fideo strategaethol sy'n herio eu ffordd o feddwl ac yn meithrin rhyngweithio cymdeithasol.
  • Rhannu cerddoriaeth: Cymerwch eich tro i chwarae caneuon rydych chi'n eu mwynhau i’ch gilydd. Mae'n ffordd syml a hwyliog o gysylltu, sbarduno sgwrs, a dysgu mwy am chwaeth eich gilydd.
  • Gwirfoddoli neu brosiectau cymunedol: Cymerwch ran gyda'ch gilydd mewn diwrnodau glanhau lleol, rasys elusennol, neu ddigwyddiadau cymunedol eraill sy'n rhoi pwrpas i chwarae.
  • Symud mewn ffordd ystyriol: Gall gweithgareddau fel ioga, crefftau ymladd, neu tai chi helpu pobl ifanc yn eu harddegau i feithrin gwytnwch corfforol ac emosiynol wrth gael hwyl.
  • Chwarae wedi'i alluogi gan dechnoleg: Chwaraewch gemau fideo gyda'ch gilydd sy'n eich annog i symud, datrys problemau neu i fod yn greadigol.

Awgrymiadau ar gyfer llwyddo: 

  • Parchu eu diddordebau a'u dewisiadau: Os ydyn nhw'n frwd dros chwaraeon, gêm neu hobi penodol, dangoswch ddiddordeb ac ymuno o bryd i'w gilydd, ond peidiwch â rhoi pwysau arnyn nhw. 
  • Annog chwarae cymdeithasol: Mae cyfeillgarwch yn bwysig iawn yn y cam hwn. Cefnogwch eu cynlluniau i gwrdd neu chwarae gemau ar-lein gyda ffrindiau, sy'n helpu i feithrin sgiliau cymdeithasol ac ymdeimlad o berthyn. 
  • Defnyddio chwarae fel ffordd o siarad: Gall chwarae sy’n cynnwys gweithgaredd corfforol agor drysau i sgyrsiau ystyrlon. Mae cerdded neu feicio ochr yn ochr yn aml yn ei gwneud yn haws i bobl ifanc yn eu harddegau fod yn agored.
  • Cydbwyso amser o flaen sgrin â chwarae sy’n cynnwys gweithgaredd corfforol: Er bod gemau digidol a chyfryngau cymdeithasol yn rhan fawr o'u byd, mae annog seibiant i wneud rhywbeth corfforol neu weithgareddau yn yr awyr agored yn cefnogi eu hiechyd meddyliol a chorfforol.

Drwy barhau i ymgysylltu mewn ffyrdd sy'n parchu annibyniaeth gynyddol eich plant hŷn neu blant yn eu harddegau, rydych chi'n eu helpu i ddatblygu gwytnwch, llesiant emosiynol ac arferion iach a fydd yn para am oes.

Cael trafferth chwarae? Dydych chi ddim ar eich pen eich hun

Weithiau, mae oedolion yn cael trafferth chwarae gyda phlant, ac mae hynny'n gwbl normal.

Gall deimlo'n lletchwith, yn ddiflas neu hyd yn oed yn rhwystredig. Efallai fod y rheolau'n newid o hyd, neu efallai nad yw rhywbeth sy’n hwyl i’ch plentyn yn gwneud llawer o synnwyr. Efallai y byddwch chi'n teimlo'n ansicr am yr hyn rydych chi i fod i'w wneud, neu'n cael trafferth aros yn bresennol pan fydd eich meddwl yn brysur gyda phethau eraill. Ond y newyddion da yw nad yw eich plant yn disgwyl i chi fod yn berffaith, dim ond i chi fod yno iddyn nhw.

Os gallwch chi chwarae am 15 munud bob dydd ac ymgysylltu'n llawn yn y cyfnod hwnnw, hyd yn oed os yw'n wirion, yn ailadroddus, neu os nad yw'n gwneud synnwyr i chi, gall wneud gwahaniaeth mawr i ddatblygiad a llesiant emosiynol eich plentyn.

Os nad ydych chi’n siŵr ble i ddechrau:

  • Gadewch iddyn nhw gymryd yr awenau, does dim angen i chi ddyfeisio'r gêm dim ond ymuno.
  • Dywedwch beth sy'n digwydd: Mae dweud beth maen nhw'n ei wneud ("Rwyt ti’n pentyrru'r blociau mor uchel!") yn eu helpu i deimlo eich bod chi'n ymgysylltu ac yn meithrin sgiliau iaith mewn plant iau.
  • Dechreuwch yn fach: Mae ychydig funudau yma ac acw’n ddigon. Dilynwch egni eich plentyn a gadael i chi'ch hun stopio pan fydd angen i chi wneud hynny.

Does dim rhaid i chwarae ddod yn naturiol i chi iddo fod yn werthfawr. Mae gwneud ymdrech yn dangos eich bod yn poeni ac mae’n gyfle i'ch plant ddysgu sgiliau gwerthfawr ac yn helpu i gefnogi datblygiad eu hymennydd.

Rhestr wirio ddyddiol chwarae

Does dim rhaid i chwarae fod yn ddigwyddiad mawr sydd wedi'i gynllunio bob amser, mae modd ei blethu i mewn i gyfnodau yn ystod y dydd. Mae cymryd camau bach bob dydd i gysylltu drwy chwarae yn helpu i feithrin cysylltiadau cryf ac yn cefnogi datblygiad eich plentyn.

Ydych chi wedi:

  • Canmol eich plentyn am ei ymdrechion neu am fod yn greadigol?
  • Rhoi amser i'ch plentyn ymateb yn ei ffordd ei hun, heb ruthro?
  • Rhoi'r gorau i'r hyn roeddech chi'n ei wneud i ymuno a chwarae gyda'ch plentyn?
  • Cael hwyl gyda'ch gilydd, hyd yn oed dros rywbeth syml neu wirion?
  • Troi tasg yn y tŷ yn gêm neu'n her hwyliog?
  • Cynllunio gweithgaredd y gall y ddau ohonoch ei fwynhau gyda'ch gilydd?

Cofiwch, mae chwarae yn edrych yn wahanol i bob teulu a phob dydd. Gall hyd yn oed pum munud o sylw penodol wrth i chi chwarae wneud gwahaniaeth.

Dysgu am bum bloc Pum Ffordd i Ffynnu 

Ymlacio  


Mae dysgu sut i ddelio â sefyllfaoedd llawn straen sy'n achosi emosiynau mawr yn sgil hanfodol mewn bywyd.

Ymateb 

Mae ymateb yn golygu sylwi ar anghenion eich plant a'u diwallu gyda gofal a dealltwriaeth. Dyma sylfaen y dull Pum Ffordd i Ffynnu. 

Cwtsio/ymgysylltu 

Mae’r bloc yma’n ymwneud â chysylltu â'ch plant, gan roi gwybod eich bod chi yno iddyn nhw. 

Siarad 

Mae cyfathrebu â'ch plant yn helpu i ddatblygu eu hiaith, eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth gymdeithasol. 

Mae dau berson yn gwisgo sgarffiau pen wrth ddesg yn defnyddio cyfrifiadur mawr. Mae merch yn ei harddegau cynnar yn eistedd ac yn teipio tra bo'r llall yn pwyntio ar y sgrin yn dangos canlyniadau chwilio. Mae'r olygfa'n awgrymu arweiniad ar ddefnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel a helpu plentyn i gadw'n ddiogel ar-lein.  

Cadw plant yn ddiogel ar-lein

Fel rhiant neu ofalwr, mae’n hawdd teimlo eich bod yn cael eich llethu gan yr holl apiau, deallusrwydd artiffisial, gemau a chyfryngau cymdeithasol sy’n newid o hyd. Os yw eich plentyn chi’n chwarae gemau, yn sgwrsio, yn postio neu’n ffrydio, rydyn ni yma i'ch cefnogi chi gyda chyngor ymarferol a chanllawiau gan arbenigwyr i helpu i gadw plant yn ddiogel ac yn hapus ar-lein.

Mae tad yn pwyso dros fam sy’n gafael mewn babi ac yn eistedd wrth fwrdd. Mae'r fam yn edrych i fyny ar y tad gyda golwg flinedig ar ei hwyneb. 

Cefnogi eich plentyn 10-12 oed

Nid yw'n hawdd dychmygu sut beth yw bod yn 10, 11 neu 12 oed, yn enwedig pan mae’r byd wedi newid cymaint ers i chi fod yr oedran hwnnw. Mae ein hanimeiddiadau byr yn sôn am rai o’r heriau maen nhw’n eu hwynebu a sut gallwch chi helpu eich plentyn i ddelio â nhw.

Babi'n eistedd mewn cadair uchel gyda darnau o frocoli a bwyd arall ar yr hambwrdd, tra bod plentyn hŷn yn sefyll gerllaw yn diddanu’r babi. Mae'r olygfa'n dangos cyflwyno bwydydd solid mewn lleoliad chwareus a rhyngweithiol. 

Cefnogaeth a chyngor defnyddiol i fod y Tad gorau posibl

P’un a yw eich plentyn yn eich galw chi’n Dad neu’n Dadi, dim beth mae’n eich galw chi sy’n bwysig, ond y berthynas rydych chi'n ei meithrin â’ch plentyn. Mae gennym gyngor i’ch arwain a’ch cefnogi i fod y tad gorau y gallwch fod. 

Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028. Mae cynnwys y dudalen hon wedi cael ei gydgynhyrchu mewn partneriaeth â KCA.

  KCA logo

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.