Mae tad yn pwyso dros fam sy’n gafael mewn babi ac yn eistedd wrth fwrdd. Mae'r fam yn edrych i fyny ar y tad gyda golwg flinedig ar ei hwyneb. 

Eich cefnogi chi er mwyn i chi allu eu cefnogi nhw

Helpu rhieni a gofalwyr fel chi i gefnogi eich plant 10-12 oed

Nid yw’n hawdd dychmygu sut beth yw bod yn 10, 11 neu 12 oed, yn enwedig pan mae’r byd wedi newid cymaint ers i chi fod yr oedran hwnnw. 

Mae llawer o heriau a newidiadau’n digwydd nad ydyn nhw bob amser yn hawdd ymdopi â nhw. 

Efallai eich bod yn meddwl, beth yw’r ffordd orau o ddechrau sgwrs gyda fy mhlentyn 10-12 oed i gael gwybod sut mae’n teimlo? Sut ydw i’n ei annog i fod yn agored? Pryd yw’r amser gorau? Beth yw’r pethau gorau i’w gofyn?  

Mae’r rhain i gyd yn gwestiynau da iawn, ac rydyn ni yma i’ch helpu chi i ddod o hyd i atebion.  

Rydyn ni’n teimlo bod y sgyrsiau gorau yn aml yn deillio o sgyrsiau anffurfiol, a pha ffordd well o gadw pethau’n naturiol ac yn hamddenol na gwylio rhywbeth gyda’ch gilydd. 

Mae ein cyfres o animeiddiadau byr yn sôn am rai o’r heriau mae plant 10 i 12 oed yn eu hwynebu, a’r ffyrdd gorau o helpu eich plentyn i ddelio â nhw – maen nhw’n wych i’w gwylio gyda’ch gilydd ac maen nhw’n gallu helpu i ddechrau sgwrs.

Animeiddiadau i ddechrau sgyrsiau

Delio â meddyliau negyddol

Gall meddyliau negyddol ymddangos unrhyw bryd, ond does dim rhaid i chi dreulio gormod o amser yn canolbwyntio arnyn nhw. Drwy ymarfer, gall meddwl yn gadarnhaol ddod yn bŵer i chi, a byddwn yn dangos i chi sut i wneud hynny. 

Mae’r animeiddiad hwn yn annog rhieni a phlant i drafod meddyliau negyddol a dod o hyd i atebion gyda’i gilydd. Cafodd ei greu ar y cyd â phobl ifanc, a’i nod yw grymuso plant i wynebu heriau bywyd yn hyderus. 

Bod yn ffrind gorau i mi fy hun

Mae angen ffrind ar bob un ohonom sy’n ein hannog ac sy’n gwneud i ni deimlo’n gadarnhaol...mae hynny’n cynnwys rhieni a phlant! Ac eto, mae ein meddyliau negyddol ein hunain yn gallu gwneud i ni deimlo nad ydyn ni’n ddigon da, dim ots pa mor hen ydyn ni. 

Bydd yr animeiddiad byr a hwyliog hwn yn eich helpu i ddechrau sgwrs gyda’ch plant. Mae’n dangos iddyn nhw sut gallan nhw fod yn garedig â nhw eu hunain, dathlu eu llwyddiannau bach, a theimlo’n falch o bwy ydyn nhw. 

Cyn bo hir, byddan nhw’n darganfod mai nhw eu hunain yw eu ‘ffrind gorau am byth’. 

Cefnogi eich ffrindiau 

P’un a ydyn ni’n oedolyn neu’n blentyn, pan fydd ffrind yn teimlo ar goll neu’n isel, y peth gorau y gallwn ni ei wneud yw gwrando. 

Mae’r animeiddiad hwn yn helpu rhieni a phlant i drafod gyda’i gilydd pa mor werthfawr yw rhoi eu sylw llawn i rywun. Gwyliwch gyda’ch gilydd a dechreuwch sgwrs am beth mae bod yn ffrind cefnogol yn ei olygu. 

Gweithio mewn partneriaeth

Mae dros draean o bobl ifanc yn dweud nad ydyn nhw’n gadarnhaol ynghylch eu dyfodol*. Mae Co-op a Barnardo’s yn gweithio gyda’i gilydd i godi £7 miliwn i gefnogi dyfodol cadarnhaol i 1 miliwn o bobl ifanc ledled y DU drwy gyngor a gwybodaeth ar-lein, yn ogystal â darparu cefnogaeth fanwl yn y cymunedau sydd ei hangen fwyaf. Ewch i wefan Co-op i gael gwybod mwy.  

*Barnardo’s a Co-op (2023), Youth Opportunities Tracker: Fairer Futures.

Ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr?

Gall bywyd teuluol fod yn llawn adegau sy'n gwneud i chi wenu, yn ogystal ag adegau sy'n profi eich amynedd neu sy’n gwneud i chi fod eisiau chwilio am atebion.

Cewch ddigonedd o wybodaeth ymarferol i’ch helpu chi a’ch teulu i ffynnu. Os oes angen rhagor o gymorth arnoch, gallwn eich cyfeirio at bobl a sefydliadau a all wneud bywyd teuluol ychydig yn haws i chi.

Illustration of a mother and child having a conversation in a supportive setting. The child is sitting on a chair wearing a light blue top and blue pants, while the mother sits on the floor wearing an orange top and green trousers. The background features abstract pink and white shapes, suggesting a warm and caring atmosphere

Keeping talking

Talking with your child regularly  is one of the best ways to support their emotional wellbeing and keep them safe. Whether you're catching up after school or facing a more worrying moment, we've got  five expert-backed tips to help you build trust, confidence, and connection.

Our partnership with Co-op

We are working with Co-op to raise £5m to support positive futures for 750,000 young people across the UK to access basic needs, manage their mental wellbeing, and connect with opportunities for their future. 

Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028. 

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.