Siarad â'ch plentyn yn rheolaidd, nid dim ond pan fydd rhywbeth o'i le, yw un o'r ffyrdd gorau o gefnogi ei lesiant emosiynol a'i gadw'n ddiogel. Pan fydd plant yn gwybod eu bod nhw'n gallu ymddiried ynoch chi gyda'r pethau bach, maen nhw'n fwy tebygol o ddod atoch chi gyda'r pethau mawr hefyd.
Os ydych chi’n dal i fyny ar ôl yr ysgol neu os oes gennych chi bryder mwy difrifol, dyma bum awgrym sy’n cael eu cefnogi gan arbenigwyr i’ch helpu i feithrin ymddiriedaeth, hyder a chysylltiad drwy sgyrsiau bob dydd.
1. Dangos diddordeb gwirioneddol yn eu bywydau
“Beth wnest ti yn yr ysgol heddiw?”
“Dwi ddim yn cofio.”
Rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n gallu bod yn rhwystredig iawn pan nad yw plant eisiau dweud wrthych chi beth sy'n eu poeni. Ond drwy ddangos diddordeb rheolaidd yn eu diwrnod, gofyn iddyn nhw am eu bywyd a beth sy'n digwydd ynddo, gallwch ddangos iddyn nhw bod hyn yn bwysig i chi. Mae plant sy'n teimlo eu bod yn cael eu clywed a'u gwerthfawrogi yn fwy tebygol o ddweud pan fydd rhywbeth o'i le.
Os ydyn nhw'n ymddangos yn betrusgar, ceisiwch rannu eich profiadau a'ch teimladau eich hun mewn ffordd sy'n briodol i'w hoedran. Mae hyn yn dangos iddyn nhw ei bod yn beth da siarad, labelu emosiynau a bod yn agored. Ond cofiwch na fydd o reidrwydd yn golygu y byddan nhw eisiau, neu'n gallu, ei wneud yn ôl i chi. Efallai nad ydyn nhw wedi cyrraedd y cam datblygu lle maen nhw’n gallu gwneud hyn eto, neu efallai y byddai'n well ganddyn nhw rannu'r hyn maen nhw'n ei brofi mewn ffordd wahanol.
Awgrym: Gwnewch sgwrsio am deimladau yn rhan reolaidd o fywyd bob dydd, boed hynny dros swper, yn y car, neu amser gwely. Mae hyn yn meithrin ymddiriedaeth ac yn eich helpu i sylwi ar newidiadau mewn hwyliau neu ymddygiad a allai fod angen eich sylw.
Pan fydd eich plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei weld a bod rhywun yn gwrando arno, mae'n fwy tebygol o ofyn am help os oes rhywbeth yn ei boeni – boed hynny'n trafferthion gyda ffrindiau neu'n rhywbeth mwy difrifol.
2. Siarad am deimladau a diogelwch – bob dydd, nid dim ond mewn argyfwng
Does dim rhaid i sgyrsiau emosiynol fod yn achlysuron mawr a dramatig. Mewn gwirionedd, gorau po fwyaf achlysurol a chyson y gallwch eu gwneud. Rhannwch sut rydych chi'n teimlo, hyd yn oed y pethau anodd fel tristwch, rhwystredigaeth neu orbryder. Os gallwch wneud hyn mewn ffordd dawel sy'n briodol i oedran yr unigolyn, rydych yn dangos iddo sut i fynegi emosiynau anodd.
Yn seiliedig ar yr hyn sy'n gweithio i'ch plentyn, gallech ofyn sut mae'n teimlo yn y bore neu cyn mynd i'r gwely, a gwneud lle i atebion gonest. Os yw eich plentyn yn ymateb yn negyddol i rywun yn gofyn iddo am ei deimladau, neu os nad yw'r dull hwn yn gweithio, gallwch ei newid. Os ydych chi'n gofalu am fwy nag un plentyn, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio dau ddull gwahanol iawn.
Yn dibynnu ar oedran a cham datblygiadol y plentyn, gallech roi cynnig ar y canlynol:
- Gofyn iddo roi bawd i fyny/bawd i lawr i ddangos sut mae’n teimlo.
- Os yw'n gallu rhoi sgôr allan o 10 i'w diwrnod.
- Beth oedd moment orau a gwaethaf ei ddiwrnod.
- Gofyn iddo a oedd rhywbeth wedi gwneud iddo chwerthin y diwrnod hwnnw.
Eich plentyn yw'r arbenigwr ar ei fywyd, felly os nad ydych chi'n siŵr sut i ofyn, gofynnwch am ei gyngor! Eglurwch eich bod chi eisiau gwybod am ei fywyd a pham mae hyn yn bwysig i chi, ond nad ydych chi'n hollol siŵr sut i ofyn mewn ffordd sy'n gweithio iddo.
Byddwch yn greadigol a meddwl am syniadau posibl sy'n unigryw i chi a'ch perthynas, ni waeth pa mor wirion maen nhw’n ymddangos. Mae'n well gan rai plant dynnu llun, neu wneud sŵn, neu hyd yn oed wneud rhywbeth i gyfleu rhywbeth nad oes modd siarad amdano. Peidiwch â thanbrisio pŵer chwarae a hiwmor i gyrraedd y pethau pwysig!
Os ydych chi'n cael sgyrsiau rheolaidd, byddwch chi'n deall emosiynau eich plentyn yn well, ac efallai y bydd hi'n haws i chi sylwi pan fydd rhywbeth wedi codi.
Mae plant yn aml yn dweud wrthyn ni eu bod nhw eisiau cyfleoedd mwy diogel ac anffurfiol i siarad am bethau anodd. Gall y sesiynau rheolaidd hyn wneud byd o wahaniaeth.
Gallwch hefyd ddefnyddio ffilmiau, gemau neu lyfrau i sbarduno sgyrsiau, er enghraifft mae rhai o'n hymarferwyr yn hoffi'r ffilm Inside Out i annog plant iau i siarad am eu teimladau. Fodd bynnag, gallwch wneud hyn gydag unrhyw gyfryngau rydych chi'n eu mwynhau gyda'ch gilydd.
Dyma gwestiynau y gallech eu gofyn:
- “Sut wyt ti’n meddwl roedd y cymeriad hwnnw’n teimlo?”
- "Beth fyddet ti'n ei wneud pe bai hynny'n digwydd i ti?"
- “Oes unrhyw beth wedi gwneud i ti boeni'n ddiweddar?”
- “Gyda phwy allet ti siarad os oes rhywbeth yn dy ddrysu neu’n codi ofn arnat ti?”
3. Dewiswch eich amser a rhoi lle iddyn nhw
Mae plant yn fwy tebygol o fod yn agored pan fyddan nhw’n teimlo'n ddiogel, ddim yn cael eu brysio ac yn rhydd rhag beirniadaeth.
- Dewiswch foment dawel, breifat pan maen nhw'n ymddangos yn dawel.
- Dylech osgoi croesholi neu dorri ar draws, a gwrando mwy nag yr ydych yn siarad.
- Gadewch iddyn nhw rannu ar eu cyflymder eu hunain, a pheidiwch â rhuthro i ddatrys neu ddiystyru eu pryderon.
Os bydd eich plentyn yn dweud rhywbeth wrthych a'ch bod yn meddwl bod angen i chi ei rannu â rhywun arall, er enghraifft oherwydd ei fod yn gysylltiedig â'i ddiogelwch, rhowch wybod i'ch plentyn am hyn a dweud wrtho beth yw eich rhesymau. Gall rhannu heb ganiatâd chwalu ymddiriedaeth a'i gwneud yn llawer llai tebygol y bydd eich plentyn yn siarad â chi eto yn y dyfodol.
Os yw eich plentyn yn cael trafferth bod yn agored, mae hynny'n iawn. Mae rhai plant yn mynegi eu hunain yn well drwy dynnu lluniau, adrodd straeon neu chwarae. Dylech gwrdd â nhw lle maen nhw.
Rhowch gynnig ar yr ymarfer hwn: Cymerwch eich tro i siarad am 60 eiliad. Gall fod am rywbeth a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw neu bwnc sydd o ddiddordeb i chi ond dylech gynnwys manylion am eich teimladau. Mae'r person arall yn ailadrodd yr hyn mae wedi'i glywed. Yna, cyfnewidiwch rolau. Gall hyn eich helpu chi a'ch plentyn i fynegi teimladau'n well, gan wrando a deall beth mae pobl eraill yn ei brofi.
4. Byddwch yn onest am eich pryderon, ond peidiwch â chynhyrfu, a byddwch yn gefnogol
Os yw rhywbeth yn eich poeni chi, newid mewn ymddygiad, teimlad greddfol neu rywbeth mwy diriaethol, mae'n iawn ei godi gyda'ch plentyn.
Byddwch yn ymwybodol y gallai eich plentyn fod yn teimlo embaras neu gywilydd, felly ceisiwch drafod eich pryderon heb farnu a dweud eich bod chi bob amser ar gael i siarad.
Treuliwch ychydig o amser yn cynllunio ble a phryd i gael y sgwrs hon. Ystyriwch sut y gallech chi a'ch plentyn fod yn teimlo a bod eich plentyn yn rhywle lle mae'n teimlo'n ddiogel.
- Siaradwch yn bwyllog ac yn glir am yr hyn rydych chi wedi sylwi arno.
- Rhowch sicrwydd iddo nad yw mewn trwbl, ac mai'r cyfan rydych chi eisiau ei wneud yw deall a helpu.
- Efallai mai eich greddf fydd ymateb gyda dicter neu ofn ond ceisiwch beidio oherwydd gallai hyn wneud iddo gau i lawr neu deimlo cywilydd. Hyd yn oed os ydych chi'n teimlo'n emosiynol, cymerwch anadl cyn ymateb. Atgoffwch eich plentyn ei fod yn ddiogel, eich bod chi yma, a'i fod wedi gwneud y peth iawn drwy siarad â chi.
Rydyn ni'n deall pan fyddwch chi'n clywed bod rhywbeth yn digwydd i'ch plentyn, efallai mai eich ymateb cyntaf fydd dicter, ond gallai hyn wneud i'ch plentyn feddwl ei fod wedi gwneud rhywbeth o'i le. Dydy hi byth yn fai ar y plentyn, ac mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn gwybod hynny.
5. Peidiwch â gwneud popeth ar eich pen eich hun – gofynnwch am gymorth
Does gan yr un rhiant na gofalwr yr atebion i gyd, ac mae hynny'n iawn.
Os ydych chi'n poeni, siaradwch ag oedolyn arall y mae eich plentyn yn ymddiried ynddo. Gallai fod yn athro, yn weithiwr ieuenctid, yn berthynas neu'n ffrind i'r teulu.
Os bydd eich plentyn yn datgelu rhywbeth difrifol, gallwch gysylltu â'r gwasanaethau cymorth proffesiynol, gan gynnwys gofal cymdeithasol neu'r heddlu. Maen nhw yno i helpu i amddiffyn plant a chefnogi teuluoedd. Rhowch wybod i'ch plentyn os ydych chi'n bwriadu gwneud hyn fel nad ydych chi'n torri ei ymddiriedaeth.
Cofiwch, does dim rhaid i chi aros nes bydd rhywbeth drwg yn digwydd i ofyn am help. Mae llawer o lefydd i gael help ar-lein ac all-lein.
Negeseuon atgoffa cyflym i annog sgyrsiau bob dydd
- Bod yn gyson: sgwrsio yn rheolaidd, nid dim ond pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le.
- Bod yn agored: rhannu eich emosiynau eich hun fel eu bod yn teimlo'n ddiogel i wneud yr un peth.
- Bod yn amyneddgar: mae rhai plant yn cymryd amser i fod yn agored ac mae hynny'n iawn.
- Bod yn ddiogel: rhoi gwybod iddyn nhw y byddwch chi bob amser yn gwrando heb farnu.
- Cael cymorth: os nad ydych chi'n siŵr, siaradwch â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo neu ofyn am help.
Cofiwch, rydych chi'n gwneud yn well nag yr ydych chi'n ei feddwl. Dydy bod yn rhiant neu'n ofalwr ddim yn golygu cael yr holl atebion, mae'n golygu rhoi cynnig arni, parhau i fod yn chwilfrydig, a bod yno pan fydd yn cyfrif. Drwy neilltuo amser i siarad, gwrando'n astud, ac ymateb yn gynnes ac yn onest, rydych chi'n helpu eich plentyn i deimlo'n ddiogel, i gael ei glywed ac i deimlo ei fod yn cael ei garu, a dyna sydd bwysicaf.
Llefydd i fynd os oes angen mwy o gymorth arnoch
- O redeg gwasanaethau ledled y wlad i ddarparu arweiniad a chymorth defnyddiol ar-lein, rydyn ni yma i geisio gwneud eich rôl fel rhiant neu ofalwr ychydig yn haws. Gweld pa gymorth rydyn ni’n ei gynnig i rieni a gofalwyr.
- Eich meddyg: Os ydych chi'n poeni am iechyd meddwl neu ymddygiad eich plentyn, siaradwch â'ch meddyg teulu. Gall asesu anghenion eich plentyn, rhoi cyngor, a'ch cyfeirio at wasanaethau arbenigol fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) os oes angen.
- Ysgol eich plentyn: Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn hapus i chi gysylltu â’r ysgol yn gyntaf. Mae gan lawer o ysgolion dimau gofal bugeiliol, arweinwyr diogelu neu gwnselwyr ysgol. Gallan nhw gefnogi sgyrsiau am ymddygiad, diogelwch neu lesiant, ac efallai y byddan nhw’n gallu cyfeirio at ragor o gymorth.
- Mae gan yr elusen NSPCC gyngor ar eu gwefan ar siarad â phlant am wahanol bynciau.

Cadw plant yn ddiogel ar-lein
Fel rhiant neu ofalwr, mae’n hawdd teimlo eich bod yn cael eich llethu gan yr holl apiau, deallusrwydd artiffisial, gemau a chyfryngau cymdeithasol sy’n newid o hyd. Os yw eich plentyn chi’n chwarae gemau, yn sgwrsio, yn postio neu’n ffrydio, rydyn ni yma i'ch cefnogi chi gyda chyngor ymarferol a chanllawiau gan arbenigwyr i helpu i gadw plant yn ddiogel ac yn hapus ar-lein.

Cefnogi eich plentyn 10-12 oed
Nid yw'n hawdd dychmygu sut beth yw bod yn 10, 11 neu 12 oed, yn enwedig pan mae’r byd wedi newid cymaint ers i chi fod yr oedran hwnnw. Mae ein hanimeiddiadau byr yn sôn am rai o’r heriau maen nhw’n eu hwynebu a sut gallwch chi helpu eich plentyn i ddelio â nhw.

O blant bach i bobl ifanc yn eu harddegau: sut gallwch chi annog noson dda o gwsg
Mae cael digon o gwsg yn hanfodol i iechyd, hwyliau a datblygiad eich plentyn, p’un a yw’n blentyn bach neu’n berson ifanc yn ei arddegau. Mae pob plentyn yn wahanol, ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich plentyn (a chithau!) i gysgu’n well.
Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028.