Lito a Taye, y tad a’r mab sy’n ddylanwadwyr, yn eistedd ochr yn ochr â’i gilydd yn siarad

Cyngor Lito a Taye ar sut i ddechrau cael sgyrsiau gwell gyda’ch plant

Published on 19 June 2026

Gall cael sgyrsiau pwysig gyda’ch plant fod yn anodd – efallai eich bod chi ddim yn gwybod ble i ddechrau, beth i'w ddweud, neu ddim yn teimlo bod gennych chi’r holl atebion. Buom ni’n sgwrsio â’r crëwyr cynnwys Lito a Taye, tad a mab sy'n rhannu eu barn ar sut gallwch chi oresgyn y teimladau hynny a dechrau cael sgyrsiau gwell gyda'ch plant.

Safbwynt Lito

Does dim canllaw ar fagu plant. Does neb yn rhoi llawlyfr i chi ac yn dweud wrthych chi sut i wneud pethau'n iawn. Rydych chi'n dysgu wrth fynd. Rydych chi'n gwneud camgymeriadau. Rydych chi'n addasu. Un peth hollbwysig rydw i wedi'i ddysgu fel tad yw mai sgwrsio yw popeth. Nid sgyrsiau perffaith, nid rhai wedi'u hymarfer, ond rhai go iawn.

Y gwir amdani yw, mae’r rhan fwyaf o deuluoedd yn siarad ond ddim wastad yn cyfathrebu. Ac yn y byd sydd ohoni, mae’r bwlch hwnnw’n tyfu. Mae siarad yn bwysicach nag erioed oherwydd rydyn ni’n byw mewn byd lle mae pobl ifanc yn agored i bopeth, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, barn o bobman a phwysau i fod yn rhywbeth dydyn nhw ddim. Mae’r hyn sydd ar goll yn syml: lle i siarad yn iawn.

Nid lle i gael eich barnu. Nid lle i gael eich diystyru. Nid lle i bobl ddweud wrthych chi “byddwch chi’n deall pan fyddwch chi’n hŷn.” Dim ond…lle i gael eich clywed. Ac os nad yw’r lle hwnnw’n bodoli gartref, bydd eich plant yn dod o hyd iddo’n rhywle arall. Weithiau mae hynny’n gweithio. Weithiau dydy e ddim.

Does dim amser perffaith

Nid yw’r rhan fwyaf o rieni’n osgoi sgyrsiau am nad oes ots ganddyn nhw. Maen nhw'n eu hosgoi am nad ydyn nhw’n gwybod sut i ddechrau, dydyn nhw ddim eisiau dweud y peth anghywir, maen nhw'n poeni y bydd yn lletchwith, neu maen nhw'n meddwl "nid dyma'r amser iawn".

Ond y gwir amdani yw: does dim amser perffaith. A dydy tawelwch ddim yn amddiffyn eich plentyn. Y cwbl mae’n ei olygu yw y bydd rhywun arall yn eu dysgu yn lle.

Peidiwch â gorfeddwl

Does dim angen sgwrs fawr arnoch chi. Dechreuwch yn fach. Dechreuwch yn naturiol. Dechreuwch lle rydych chi: yn y car, wrth fwyta, yn gwylio rhywbeth gyda'ch gilydd. Gofynnwch y cwestiynau syml:

Collage o Lito a Taye yn edrych ar ei gilydd ac yn  ymateb yn ystod sgwrs

“Be’ ti’n feddwl am hynny?”

“Ydy pobl dy oedran di’n delio â hynny?”

“Bydd yn onest… be’ fysa ti’n gwneud?”

Dydych chi ddim yn ceisio pregethu. Ceisio agor drws ydych chi. Rhuthro i gywiro yw lle mae’r rhan fwyaf o sgyrsiau’n mynd i’r gwellt. Mae plentyn yn dweud rhywbeth ac mae’r rhiant yn neidio i mewn yn syth, ac fel ’na, mae’r drws yn cau. Yn lle hynny: gwrandewch, hyd yn oed os nad ydych chi’n cytuno. Oherwydd pan fydd person ifanc yn teimlo ei fod yn cael ei glywed, maen nhw’n fwy agored i’ch clywed chi.

Byddwch yn bresennol yn y sgwrs

Os ydych chi’n aros i’r ysgol neu’r we ddysgu eich plentyn am berthnasoedd, parch, ffiniau, cydsyniad neu bwysau... yna rydych chi'n ei adael i ffawd. Does dim angen i chi gael yr holl atebion. Ond mae angen i chi fod yn bresennol yn y sgwrs. ​​Hyd yn oed os yw'n teimlo'n anghyfforddus. Yn enwedig os yw'n teimlo'n anghyfforddus.

Gall pobl ifanc deimlo pan nad ydy rhywbeth yn ddiffuant. Felly peidiwch â cheisio bod yn berffaith. Byddwch yn onest. Os gwnaethoch chi bethau o'i le wrth dyfu i fyny… dywedwch hynny. Os dysgoch chi wersi'r ffordd galed… rhannwch hynny. Oherwydd dyna sy'n cysylltu. Nid perffeithrwydd, ond realiti.

Daw popeth rydw i wedi sôn amdano’n fan hyn o fywyd go iawn. Y sgyrsiau rydw i wedi’u cael gyda fy mab. Y camgymeriadau rydw i wedi’u gwneud. Y gwersi rydw i wedi gorfod eu dysgu'r ffordd galed. Does dim byd wedi'i sgriptio. Does dim byd yn berffaith. Dim ond eiliadau go iawn a sgyrsiau go iawn ydyn nhw.

Safbwynt Taye

O fy safbwynt i, i fod yn   onest… dydy llawer o bobl ifanc ddim yn siarad oherwydd dydyn nhw ddim yn teimlo eu bod nhw’n gallu. Weithiau mae'n teimlo fel eich bod chi'n mynd i gael eich barnu, eich bod chi'n mynd i gael eich barnu, neu na fyddwch chi'n cael eich deall. Felly, mae'n haws cadw pethau i chi'ch hun neu siarad â'ch ffrindiau.

Ond y gwir amdani yw, rydyn ni'n ceisio gwneud synnwyr o bethau hefyd. Dydyn ni ddim wastad yn gwybod beth rydyn ni'n ei wneud. Dydyn ni ddim wastad yn dweud hynny'n uchel. Mae sgyrsiau'n bwysig oherwydd maen nhw'n gwneud pethau'n gliriach, yn ysgafnu’r baich, ac yn eich helpu i ddeall pethau cyn i chi eu profi nhw. Ac weithiau, dydych chi ddim hyd yn oed yn sylweddoli bod angen y sgwrs arnoch chi nes i chi ei chael hi.

Does dim ots os nad oes gennych chi’r holl atebion

Fy neges i unrhyw bobl ifanc eraill sy’n darllen hwn yw: does dim ots os nad oes gennych chi’r holl atebion. Ond peidiwch â chadw popeth tu mewn. Siaradwch â rhywun.  Rhiant. Ffrind. Rhywun y gallwch ymddiried ynddo. Oherwydd drwy geisio gwneud synnwyr o bopeth ar eich pen eich hun…y gall pethau fynd o chwith.

Nid mater o fod yn rhiant perffaith yw hyn. Na bod yn blentyn perffaith. Mater o adeiladu rhywbeth syml yw e – lle mae sgwrs yn bodoli.
Oherwydd dyna lle mae ymddiriedaeth yn cael ei feithrin, dealltwriaeth yn tyfu, a chysylltiad go iawn yn digwydd.

Babi'n eistedd mewn cadair uchel gyda darnau o frocoli a bwyd arall ar yr hambwrdd, tra bod plentyn hŷn yn sefyll gerllaw yn diddanu’r babi. Mae'r olygfa'n dangos cyflwyno bwydydd solid mewn lleoliad chwareus a rhyngweithiol.

Cefnogaeth a chyngor defnyddiol i fod y Tad gorau posibl

P’un a yw eich plentyn yn eich galw chi’n Dad neu’n Dadi, dim beth mae’n eich galw chi sy’n bwysig, ond y berthynas rydych chi'n ei meithrin â’ch plentyn. Mae gennym gyngor i’ch arwain a’ch cefnogi i fod y tad gorau y gallwch fod. 

Grŵp o bobl ifanc yn sgwrsio ar soffas.

Dywedwch yn Blwmp ac yn Blaen

Dydy triniaeth gwael o fenywod a merched ddim yn rhywbeth newydd, ond mae’r ffordd y mae plant a phobl ifanc yn dod i gysylltiad ag e yn newydd.  Nid ‘dim ond sgwrs yn y stafell newid’ yw hyn, na ‘thynnu coes’ chwaith – mae’r agweddau ac ymddygiadau niweidiol hyn yn cael eu normaleiddio’n dawel, ac ni ddylai’r un plentyn fyth ddysgu i’w derbyn.
Mae angen i ni ddweud yn blwmp ac yn blaen beth yw'r problemau er mwyn dod o hyd i atebion go iawn sy'n gweithio.

Llun o fam a phlentyn yn cael sgwrs mewn lleoliad cefnogol. Mae’r plentyn yn eistedd ar gadair yn gwisgo top glas golau a thrywsus glas, ac mae’r fam yn eistedd ar y llawr yn gwisgo top oren gyda thrywsus gwyrdd.  Mae’r cefndir yn cynnwys siapiau pinc a gwyn haniaethol, sy’n creu awyrgylch cynnes a gofalgar

Sut mae dal ati i siarad: cyngor ar annog eich plentyn i fod yn agored am ei deimladau, ei ddiogelwch a'i lesiant

Os ydych chi eisiau gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn, neu os oes gennych bryder mwy difrifol, mae gennym ni bum awgrym sy’n cael eu cefnogi gan arbenigwyr i’ch helpu i feithrin ymddiriedaeth, hyder a chysylltiad drwy sgyrsiau bob dydd.

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.