Ni ddylai unrhyw blentyn gael ei gosbi oherwydd bod ei berthynas yn y carchar. Dyna pam rydyn ni'n cefnogi plant a'u teuluoedd sydd â pherthnasau yn y carchar.
Amcangyfrifir bod gan 200,000 o blant yng Nghymru a Lloegr riant yn y carchar (Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, 2024). Mae rhai arbenigwyr yn credu y gallai'r ffigur gwirioneddol fod yn llawer uwch gyda chymaint â 312,000 o blant yn cael eu heffeithio gan riant yn y carchar (Kincaid a Roberts, 2019). Yn 2010 yng Ngogledd Iwerddon, amcangyfrifwyd bod gan 1500 o blant rhiant yn y carchar (NIACRO, 2016). Yn yr Alban, amcangyfrifir bod rhwng 20,000 a 27,000 o rieni plant a phobl ifanc yn cael eu carcharu bob blwyddyn (Llywodraeth yr Alban, 2014).
Os ydych chi'n gofalu am blentyn sydd â pherthynas yn y carchar, rydyn ni eisiau i chi wybod nad ydych chi ar eich pen eich hun. Rydyn ni'n gwybod ei fod yn anodd iddyn nhw, ac i chi, ac rydyn ni eisiau helpu.
Sut mae cael rhiant neu berthynas yn y carchar yn effeithio ar blant?
Mae gwahanu plant oddi wrth eu hanwylyd yn boenus ac maen nhw’n aml yn profi cymysgedd cryf o deimladau fel tristwch, dicter, galar, dryswch a chael eu gwrthod.
Gall teimlo’n anoddach fyth i blant sydd â rhiant yn y carchar oherwydd efallai na fyddan nhw’n gwybod sut i siarad am eu teimladau neu efallai y byddan nhw eisiau ei gadw’n gyfrinach oherwydd cywilydd neu ofn cael eu beirniadu (Kincaid a Roberts, 2019).
I blant a phobl ifanc, gall cael perthynas yn y carchar arwain at:
- Heriau corfforol ac iechyd meddwl.
- Colli cefnogaeth allweddol - yn enwedig os mai'r perthynas yn y carchar oedd eu prif ofalwr.
- Gorbryder - oherwydd eu bod yn poeni am aelod o’u teulu, neu’r effaith ar aelodau eraill o’r teulu.
- Trawma - os ydyn nhw wedi bod yn dyst i weithgarwch troseddol, a/neu wedi gweld eu perthynas yn cael ei arestio.
- Teimladau o golled, cael eu gwrthod neu eu bod yn wahanol.
- Mecanweithiau ymdopi sydd ddim yn iach, fel camddefnyddio sylweddau.
- Cywilydd ac ofn cael eu beirniadu neu eu bwlio.
- Cyfrifoldebau gofal ychwanegol yn cael eu rhoi arnyn nhw.
- Heriau yn yr ysgol - efallai y bydd angen iddyn nhw golli'r ysgol i ymweld â rhiant ac wynebu dewisiadau anodd o ran dweud wrth athrawon. Gallai'r sefyllfa hefyd effeithio ar eu gallu i ganolbwyntio, eu dysgu a'u hymddygiad yn y dosbarth.
Os yw plant yn profi'r pethau hyn, gall ychydig o ofal a chymorth ychwanegol gan oedolion dibynadwy yn eu bywyd gael effaith enfawr arnyn nhw. Gallwch wneud gwahaniaeth mawr i'w helpu i deimlo'n ddiogel, yn wydn a theimlo bod pobl yn eu deall.
Sut gall oedolion gefnogi plant sy'n teimlo effaith carcharu?
Mae’n gwbl naturiol teimlo eich bod chi eisiau amddiffyn plant pan fydd rhywun maen nhw’n ei garu yn cael ei anfon i’r carchar. Weithiau, mae teuluoedd yn dweud bod rhiant yn gweithio i ffwrdd i osgoi sgyrsiau anodd. Ond mae hyd ynoed plant ifanc yn elwa o wybod y gwir. Os byddan nhw'n ei glywed gan rywun arall yn y gymuned, efallai y byddan nhw'n teimlo'n ddryslyd, wedi'u bradychu, neu hyd yn oed yn fwy ypset. Mae bod yn onest, mewn ffordd sy'n briodol i'w hoedran, yn helpu i feithrin ymddiriedaeth ac yn rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen ar blant i ymdopi.
O ran ymweliadau, dylid rhoi'r dewis i blant a ydyn nhw eisiau mynd i weld eu perthynas neu beidio, cymaint ag y bo modd. Gallai'r profiad o ymweld â'u perthynas wneud iddyn nhw deimlo llawer o emosiynau sy'n gwrthdaro â'i gilydd, o gysur i bryder neu ofid, felly meddyliwch sut gallwch chi gefnogi plentyn cyn ac ar ôl ymweliad.
Sut i siarad â phlant am garchar
Er bod hyn yn anodd, ceisiwch eu hannog i siarad â chi. Dangoswch iddyn nhw eich bod chi'n lle diogel, arweiniwch gyda pharch a chadw’r sgwrs yn rhydd rhag beirniadaeth.
Wrth siarad â phlant neu bobl ifanc am eu perthynas yn y carchar, cofiwch y canlynol:
- Rhowch amser a lle iddyn nhw deimlo eu hemosiynau. Dywedwch wrthyn nhw ei bod hi'n iawn teimlo'n flin, yn drist neu'n ddryslyd. Anogwch nhw i fynegi'r hyn maen nhw'n ei deimlo, gallai hyn fod drwy siarad, tynnu llun neu ysgrifennu.
- Byddwch yn onest. Defnyddiwch eiriau clir a charedig sy'n briodol i’w hoedran i egluro beth sydd wedi digwydd. Ceisiwch osgoi esboniadau camarweiniol neu eiriau gwahanol, sy’n gallu arwain at ddryswch.
- Rhowch dawelwch meddwl iddyn nhw nad eu bai nhw yw hyn gan fod plant yn aml yn beio eu hunain. Atgoffwch nhw nad ydyn nhw’n gyfrifol am yr hyn sydd wedi digwydd.
- Trafodwch eu hanghenion gyda nhw, canolbwyntio ar ba gymorth y gallai fod ei angen arnyn nhw a rhoi tawelwch meddwl iddyn nhw. Mae'n well canolbwyntio arnyn nhw yn hytrach na throsedd y perthynas.
- Gwrandewch heb feirniadu. Gwnewch yn siŵr eu bod nhw’n gwybod eu bod yn gallu ymddiried ynoch chi. Does dim angen yr holl atebion arnoch chi bob amser, dim ond bod yno sy'n bwysig.
- Trafodwch y cymorth sydd ar gael iddyn nhw ac ystyried cysylltu â sefydliadau sydd ag arbenigedd penodol. Rydyn ni wedi awgrymu sefydliadau y gallech chi siarad â nhw isod.
Sut mae Barnardo's yn cefnogi plant sydd â pherthnasau neu rieni yn y carchar?
Rydyn ni yma i wneud i blant a phobl ifanc ledled y DU deimlo’n fwy diogel, yn hapusach, yn iachach ac yn fwy gobeithiol. I'r rheini sydd ag anwyliaid yn y carchar, rydyn ni'n cynnig cymorth mewn sawl ffordd. Rydyn ni’n cynnal gwasanaethau hyfforddi ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn ogystal â rhedeg gwasanaethau mewn cymunedau ac mewn carchardai i helpu teuluoedd i gynnal eu perthynas.
Rydyn ni hefyd yn ymgyrchu i sicrhau bod lleisiau'r plant hyn yn cael eu clywed a bod eu hanghenion yn cael sylw, fel bod polisïau ac arferion y system gyfiawnder yn gweithio'n well iddyn nhw.
Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr yn y dosbarth. Roeddwn i'n cael trafferth gyda phethau ac mae siarad â [gweithiwr prosiect Barnardo's] wedi gwneud i mi deimlo fy mod i'n gallu gwneud unrhyw beth. Rydw i wedi gwella yn fy ngwersi oherwydd ei bod hi wedi dweud fy mod i'n dda am wneud pethau ac fy mod i’n gallu.
Daniel
Person ifanc
Angen mwy o help i gefnogi plentyn sydd â pherthynas yn y carchar?
-
Os ydych chi'n byw yng Nghymru neu Loegr, mae llinell gymorth Prisoners' Families yn cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol am ddim i deuluoedd sydd ag anwyliaid mewn cysylltiad â'r system cyfiawnder.
- Yng Ngogledd Iwerddon, mae NIACRO yn helpu pobl yn y carchar a’u teuluoedd i gynnal perthnasoedd a chael gafael ar wasanaethau cymorth.
- Yn yr Alban, mae Families Outside yn cefnogi teuluoedd y mae carcharu yn effeithio arnyn nhw.
- Mae gan Childline adnoddau i blant sydd a rhiant neu ofalwr yn y carchar.
- Mae Children Heard and Seen yn elusen sydd wedi ymrwymo i helpu plant, pobl ifanc a theuluoedd sydd â rhiant yn y carchar.

Plant y mae cam-drin domestig wedi effeithio arnynt
Mae cam-drin domestig yn gallu cael effaith ddinistriol ar deuluoedd. Os ydych chi’n meddwl bod cam-drin domestig yn effeithio ar blentyn, mae camau y gallwch eu cymryd i’w helpu i deimlo’n ddiogel a’i fod yn cael ei gefnogi, ac mae gwasanaethau a all eich arwain drwy’r camau nesaf.

Meithrin perthnasoedd teuluol iachach
Mae gan bobl ffyrdd, safbwyntiau ac emosiynau gwahanol o ran delio â straen, felly mae’n naturiol bod anghytuno’n digwydd. Yr hyn sydd bwysicaf yw sut mae’r gwrthdrawiadau hyn yn cael eu rheoli. Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw gwrthdaro rhwng rhieni, beth sy’n ei achosi, a sut i’w leihau yn eich teulu.

Ydych chi’n meddwl bod eich plentyn yn teimlo’n bryderus?
Mae’n anodd gweld eich plentyn yn cael trafferth. Os ydych chi'n meddwl tybed beth yw'r ffordd orau o helpu eich plentyn, mae gennym gyngor ar sut beth yw pryder ymysg plant a phobl ifanc, sut i'w cefnogi, a ble a phryd i droi am gymorth proffesiynol.
Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028.