Mae plentyn tua phedair oed yn gwisgo siwmper lwyd yn sefyll wrth ymyl clwstwr mawr o gennin Pedr melyn llachar mewn iard allanol. Mae’r cefndir yn cynnwys adeiladau lliwiau pastel gyda chaeadau ffenestri glaswyrdd a wal binc golau.

Cymorth i rieni neu ofalwyr sy’n byw yng Nghymru

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallwch ymuno â ni yn un o’n sesiynau am ddim i gael arweiniad ac awgrymiadau ar sut i wneud y gwaith o ofalu am eich teulu ychydig yn haws.

Mae gwybodaeth ac arweiniad i’ch helpu chi ar gael yn ein Gofod Teulu. Os ydych chi’n byw yng Nghymru, ac eisiau cymorth mwy cynhwysfawr, cymerwch olwg ar y cyrsiau a’r gweithdai rydym ni’n eu cynnig isod.

Hoffem ddiolch i Sefydliad Moondance am y cyllid sydd wedi ein galluogi i ddatblygu’r gwasanaeth digidol cwbl ddwyieithog hwn.

Byddwn yn cynnig sesiynau ar y canlynol:

  • Barod i Ddechrau, Barod i Ddysgu
  • Cyfathrebu Cynnar
  • Grymuso Tadau a Gofalwyr sy’n Ddynion
  • Cwsg
  • Afiechydon Plant a Sut i’w Hatal

Bydd modd archebu eich lle yn y sesiynau rhwng dechrau a chanol mis Ebrill 2026.

Cysylltwch â ni os hoffech i ni anfon e-bost atoch pan fydd modd archebu eich lle.

Rhowch yr wybodaeth ddiweddaraf i mi am lansiad cyrsiau Gofod Rhithiol Teulu yng Nghymru

Er gwybodaeth, byddwn ond yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost i roi gwybod i chi pan fydd modd archebu eich lle. Ni fyddwn yn anfon unrhyw beth arall atoch chi.

Mae dau dad yn gorwedd yn eu gwely gyda'u merch. Mae un tad sydd â gwallt melyn yn darllen llyfr Dr Seuss iddi tra bo'r tad arall sydd â gwallt tywyll yn gwenu ac yn edrych ar y llyfr. Mae eu merch yn gwenu, yn edrych i fyny ar ei thad sy'n darllen iddi. 

O blant bach i bobl ifanc yn eu harddegau: sut gallwch chi annog noson dda o gwsg

Mae cael digon o gwsg yn hanfodol i iechyd, hwyliau a datblygiad eich plentyn, p’un a yw’n blentyn bach neu’n berson ifanc yn ei arddegau. Mae pob plentyn yn wahanol, ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i helpu eich plentyn (a chithau!) i gysgu’n well.

Annog eich plentyn i fod yn agored am ei deimladau, ei ddiogelwch a’i lesiant 

Os ydych chi eisiau gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn, neu os oes gennych bryder mwy difrifol, mae gennym ni bum awgrym sy’n cael eu cefnogi gan arbenigwyr i’ch helpu i feithrin ymddiriedaeth, hyder a chysylltiad drwy sgyrsiau bob dydd.

Babi'n eistedd mewn cadair uchel gyda darnau o frocoli a bwyd arall ar yr hambwrdd, tra bod plentyn hŷn yn sefyll gerllaw yn diddanu’r babi. Mae'r olygfa'n dangos cyflwyno bwydydd solid mewn lleoliad chwareus a rhyngweithiol. 

Cefnogaeth a chyngor defnyddiol i fod y Tad gorau posibl 

P’un a yw eich plentyn yn eich galw chi’n Dad neu’n Dadi, dim beth mae’n eich galw chi sy’n bwysig, ond y berthynas rydych chi'n ei meithrin â’ch plentyn. Mae gennym gyngor i’ch arwain a’ch cefnogi i fod y tad gorau y gallwch fod. 

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.