Mae beichiogrwydd yn gyfnod cyffrous lle bydd eich corff yn mynd drwy lawer o newidiadau, gan gynnwys rhai a all effeithio ar eich dannedd a’ch deintgig. Una Monaghan BDS Msc. yw Ymgynghorydd Iechyd y Geg Barnardo’s, ac mae ganddi gyngor ar ofalu am eich dannedd yn ystod beichiogrwydd.
Mae gofalu am eich ceg yn ymwneud â mwy na dim ond eich gwên, mae hefyd yn bwysig i’ch iechyd cyffredinol ac i ddatblygiad eich babi. Y newyddion da yw bod y rhan fwyaf o bryderon iechyd y geg yn ystod beichiogrwydd yn rhai dros dro a bod modd eu rheoli, yn enwedig gyda’r gofal cywir. Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i ddeall sut mae beichiogrwydd yn effeithio ar iechyd y geg a beth allwch chi ei wneud i gadw eich dannedd a’ch deintgig yn iach tra byddwch chi’n feichiog.
Pam mae iechyd y geg yn bwysig yn ystod beichiogrwydd
Gall newidiadau hormonaidd yn ystod beichiogrwydd wneud eich deintgig yn fwy sensitif i blac, a all arwain at lid, chwydd a gwaedu. Os na chaiff ei drin, gall hyn ddatblygu’n glefyd mwy difrifol ar y deintgig, heintiau ar y deintgig, ac mewn achosion difrifol, dannedd rhydd neu ddannedd yn disgyn allan.
Gall beichiogrwydd arwain at newidiadau mewn deiet neu ba mor aml rydyn ni’n bwyta byrbrydau. Mae hyn yn arbennig o wir os ydych chi’n profi salwch bore. Gall newidiadau mewn deiet, sy’n cynnwys mwy o ddiodydd neu fyrbrydau melys, gynyddu’r risg o bydredd dannedd.
Mae’n bosibl bod cysylltiad rhwng clefyd y deintgig ac effeithiau negyddol eraill ar eich iechyd chi ac iechyd eich babi, gan gynnwys achosi:
-
genedigaethau cynamserol (Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Addysgu Leeds, 2025)
-
Cyneclampsia (GIG, 2021)
-
pwysau geni isel (Moore a Blaire, 2017).
Dyma pam mae gofalu am iechyd eich ceg yn ystod beichiogrwydd mor bwysig, ar gyfer eich llesiant chi a llesiant eich babi. Rydyn ni’n gwybod y bydd gennych chi lawer ar eich meddwl, ond ceisiwch gadw golwg ar eich iechyd deintyddol a chael triniaeth yn gynnar os bydd unrhyw beth yn teimlo’n anarferol.
Gofal deintyddol am ddim yn ystod beichiogrwydd
Os ydych chi’n feichiog, mae gennych hawl i gael triniaeth ddeintyddol y GIG am ddim yn ystod eich beichiogrwydd ac am hyd at 12 mis ar ôl i’ch babi gael ei eni. Bydd angen tystysgrif eithrio oherwydd mamolaeth arnoch chi i’w ddangos i’ch deintydd. Bydd y dystysgrif hefyd yn golygu y gallwch gael presgripsiynau GIG am ddim.
I gael eich tystysgrif, siaradwch â’ch bydwraig, eich meddyg neu’ch ymwelydd iechyd. Byddan nhw’n cwblhau’r cais ar eich rhan. Gallan nhw wneud hyn cyn gynted ag y byddan nhw’n cadarnhau eich bod yn feichiog.
Dod o hyd i ddeintydd
Os nad oes gennych chi ddeintydd GIG, a’ch bod yn byw:
-
yng Nghymru, mae gwefan 111 yn cynnwys rhestr o ddeintyddion.
-
yn Lloegr, gallwch chwilio ar wefan y GIG am ddeintydd. Fel arall, ffoniwch Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid NHS England ar 0300 311 2233. Bydd y rhif hwn yn eich arwain at ymholiadau cyffredinol, a fydd yn gallu eich helpu.
-
yng Ngogledd Iwerddon, mae’r wefan Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cynnwys rhestr o ddeintyddion.
-
yn yr Alban, gallwch chwilio ar dudalen NHS Inform Scotland am ddeintydd.
Problemau iechyd y geg sy’n gyffredin yn ystod beichiogrwydd
Clefyd y deintgig (llid y deintgig yn ystod beichiogrwydd)
Pan fyddwch chi’n feichiog, mae newid lefelau hormonau yn eich gwneud chi’n fwy agored i blac, sef ffilm o facteria clir a gludiog ar eich dannedd. Gall hyn arwain at llid y deintgig yn ystod beichiogrwydd, lle mae eich deintgig yn chwyddo ac yn gwaedu. Mae’n gyffredin ac mae modd ei drin, ond os nad yw’n cael ei drin, gall arwain at glefyd difrifol ar y deintgig (periodontitis) sy’n gallu achosi haint neu boen, ac o bosibl, colli esgyrn a cholli dannedd.
Arwyddion i gadw golwg amdanynt:
-
Deintgig yn gwaedu wrth frwsio, fflosio neu fwyta bwydydd caled.
-
Deitgig coch, chwyddedig neu boenus.
Mae’n bwysig iawn eich bod yn brwsio eich dannedd yn dda ddwywaith y dydd yn ystod beichiogrwydd. Ceisiwch sicrhau eich bod yn brwsio lle mae eich dannedd a’ch deintgig yn cwrdd. Mae deintgig sy’n gwaedu yn aml yn arwydd bod angen i chi eu brwsio nhw (a’ch dannedd).
Os byddwch chi’n sylwi ar unrhyw un o’r symptomau hyn, trefnwch apwyntiad deintyddol. Mae modd trin clefyd y deintgig yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd, fel mynd at eich hylenydd deintyddol i lanhau eich dannedd.
Pydredd dannedd
Gall blys ar gyfer bwydydd llawn siwgr gynyddu eich risg o bydredd dannedd. Ceisiwch beidio ag yfed diodydd llawn siwgr (fel diodydd pop neu de melys) a bwyta bwydydd llawn siwgr yn rhy aml, a cheisiwch eu cadw ar gyfer prydau o fwyd.
Gall chwydu oherwydd salwch bore wisgo’r enamel ar eich dannedd. Os byddwch yn chwydu, ceisiwch rinsio eich ceg â dŵr ar ôl i chi fod yn sâl. Mae’n debyg y byddwch chi eisiau brwsio eich dannedd yn syth ar ôl bod yn sal, ond ceisiwch aros awr cyn gwneud hynny. Y rheswm am hyn yw y bydd yr asid o’ch stumog wedi meddalu eich dannedd a gall eu brwsio nhw achosi niwed.
Awgrymiadau ar gyfer cadw eich dannedd yn iach yn ystod beichiogrwydd
-
Brwsiwch eich dannedd ddwywaith y dydd gyda phast dannedd fflworid gan sicrhau eich bod yn mynd ati i frwsio lle mae eich dannedd a’ch deintgig yn cwrdd.
-
Defnyddiwch fflos neu frwshys bach i lanhau rhwng eich dannedd bob dydd.
-
Ewch i weld eich deintydd yn rheolaidd – mae archwiliadau a thriniaeth am ddim ar y GIG.
-
I warchod eich dannedd rhag pydredd, peidiwch â bwyta gormod o fyrbrydau a diodydd llawn siwgr. Bwytewch ddiet cytbwys sy’n llawn ffrwythau a llysiau ffres. Bydd hyn o fudd i iechyd y geg ac i dwf eich babi.
-
Os byddwch yn dioddef o salwch bore, rinsiwch eich ceg â dŵr ac aros awr cyn brwsio eich dannedd.
-
Gall ysmygu a fepio waethygu iechyd y geg, felly mae rhoi’r gorau iddi yn ystod beichiogrwydd yn syniad da iawn.
Triniaeth ddeintyddol yn ystod beichiogrwydd
Mae’r rhan fwyaf o driniaethau deintyddol yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd, gan gynnwys glanhau a thriniaethau angenrheidiol ar gyfer clefyd y deintgig neu bydredd dannedd. Efallai y bydd deintyddion yn gohirio gwaith nad yw’n waith brys tan ar ôl i’ch babi gael ei eni, ond ni fydd gofal brys yn cael ei ohirio.
Mae pelydr-x deintyddol yn isel iawn mewn ymbelydredd, ac fel arfer mae’n cael ei osgoi yn ystod beichiogrwydd oni bai ei fod yn gwbl angenrheidiol. Dylech bob amser roi gwybod i’ch deintydd eich bod yn feichiog.
Beichiogrwydd ac iechyd dannedd a deintgig: beth i’w gofio
Gofalu am iechyd y geg yn ystod beichiogrwydd yw un o’r ffyrdd hawsaf o ddiogelu eich llesiant cyffredinol a chefnogi datblygiad eich babi.
Os ydych chi’n cael unrhyw broblemau gyda’ch dannedd neu’ch deintgig, neu hyd yn oed os mai dim ond archwiliad ydych chi ei eisiau, peidiwch ag aros. Trefnwch apwyntiad gyda’ch deintydd a rhowch wybod iddo eich bod yn feichiog er mwyn iddo allu darparu’r gofal mwyaf diogel i chi a’ch babi.

Helpu eich plentyn i setlo yn ei flwyddyn gyntaf
Yn ystod y misoedd cynnar, ac weithiau ar ôl hynny, gall faint mae eich babi'n cysgu deimlo fel y peth pwysicaf yn y byd. Mae ein harbenigwyr wedi rhannu adnodd, a gynhyrchwyd ar y cyd â The Lullaby Trust, sy’n rhoi rhywfaint o gyngor ar gwsg eich babi a'ch llesiant chi yn ystod y cyfnod hwn.

Gofalu am ddannedd cyntaf eich babi
Bydd gofalu am ddannedd eich babi o’r cychwyn cyntaf yn ei helpu i gael dannedd iach am byth. Mae gennym awgrymiadau ar sut i ofalu am ddannedd eich plentyn wrth iddo dyfu.

Cefnogaeth a chyngor defnyddiol i fod y Tad gorau posibl
P’un a yw eich plentyn yn eich galw chi’n Dad neu’n Dadi, dim beth mae’n eich galw chi sy’n bwysig, ond y berthynas rydych chi'n ei meithrin â’ch plentyn. Mae gennym gyngor i’ch arwain a’ch cefnogi i fod y tad gorau y gallwch fod.
Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028.