Os oes angen help arnoch nawr:
-
Os oes angen sylw ar unwaith ar iechyd corfforol neu feddyliol rhywun, neu os ydych chi'n poeni am eich diogelwch eich hun neu ddiogelwch rhywun arall, ffoniwch 999.
-
Os oes angen help arnoch ar frys ond nad yw’n argyfwng, ffoniwch 111.
Os oes angen cymorth arnoch, ond nad yw'n fater brys, cysylltwch â'ch meddyg a fydd yn gallu eich helpu i ddod o hyd i gymorth.
Mae'r rhan fwyaf o rieni a gofalwyr sy'n yfed alcohol neu'n defnyddio cyffuriau yn gwneud hynny'n ddiogel ac yn gymedrol.
Os bydd yfed neu ddefnyddio cyffuriau yn mynd yn broblem, gall ei gwneud yn anoddach rhoi gofal diogel i blant.
Mae'n bwysig bod rhieni a gofalwyr yn cael cymorth os ydyn nhw’n poeni am eu harferion yfed alcohol neu ddefnyddio cyffuriau.
Pryd mae defnyddio alcohol neu gyffuriau yn dod yn bryder?
Mae defnyddio alcohol a chyffuriau eraill yn dod yn bryder pan fydd yfed alcohol neu gymryd cyffuriau yn dod yn broblem, yn niweidiol, neu os bydd person yn datblygu dibyniaeth.
Ystyr 'problemus, niweidiol neu ddibyniaeth' yw pan fydd rhywun yn gwneud y canlynol:
- Rhoi eu hunain neu eraill mewn perygl.
- Parhau i yfed neu gymryd cyffuriau hyd yn oed os yw'n eu rhoi mewn perygl o salwch (seicolegol neu gorfforol).
- Angen alcohol neu gyffuriau eraill ac yn parhau i'w defnyddio er y gallai fod yn achosi problemau iechyd, cymdeithasol neu ariannol iddyn nhw.
Sut gall defnyddio alcohol a chyffuriau eraill effeithio ar blant?
Gall defnyddio sylweddau effeithio’n negyddol ar blant ar wahanol gyfnodau yn eu bywydau.
Yn ystod beichiogrwydd, gall yfed a defnyddio cyffuriau roi babanod mewn perygl o gael namau geni, genedigaeth gynamserol, cael eu geni dan bwysau a symptomau diddyfnu.
Yn nes ymlaen, gall defnyddio sylweddau roi plant mewn perygl o’r canlynol:
- Cam-drin neu esgeuluso corfforol ac emosiynol.
- Problemau ymddygiad neu emosiynol.
- Gorfod gofalu am eu rhieni neu eu brodyr a'u chwiorydd.
- Dod i gysylltiad â chyffuriau neu weithgarwch troseddol.
- Presenoldeb gwael yn yr ysgol.
Mae plant sy'n gweld sylweddau’n cael eu defnyddio yn fwy tebygol yn ystadegol o ddefnyddio sylweddau eu hunain (Iechyd Cyhoeddus Lloegr).
Arwyddion y gallai defnyddio cyffuriau neu alcohol droi’n broblem
Mae adnabod arwyddion defnyddio cyffuriau mewn ffordd broblemus yn gam pwysig at gael help. Mae arwyddion cyffredin yn cynnwys:
Arwyddion Corfforol:
- Colli neu fagu pwysau'n gyflym.
- Peidio â gofalu am hylendid personol neu ymddangosiad fel y byddai’n ei wneud fel arfer.
- Mynd yn sâl yn amlach.
- Newidiadau mewn patrymau cysgu - cael trafferth cysgu neu gysgu llawer mwy nag arfer.
Newidiadau ymddygiad:
- Bod yn fwy cyfrinachol. Mwy o gyfrinachau neu ddweud celwydd am bethau wrth ffrindiau a theulu.
- Colli diddordeb mewn diddordebau, astudio, gwaith neu arferion arferol.
- Newidiadau sydyn mewn hwyliau, teimlo'n bigog neu'n ymosodol.
- Gwneud penderfyniadau a allai eich rhoi chi neu rywun arall mewn perygl, fel rhyw anniogel neu yrru dan ddylanwad.
- Cael trafferth canolbwyntio neu gofio pethau.
Arwyddion cymdeithasol ac arwyddion bywyd bob dydd
- Tynnu'n ôl oddi wrth deulu a ffrindiau.
- Cael trafferth dal i fyny yn yr ysgol neu yn y gwaith.
- Pryderon ariannol gan gynnwys benthyca neu ddwyn arian.
- Treulio amser gyda ffrindiau newydd sy'n defnyddio alcohol/cyffuriau.
- Mynd i drwbwl gyda'r heddlu.
Arwyddion emosiynol
- Dechrau teimlo'n bryderus, yn isel neu'n amheus o bobl eraill.
- Angen sylweddau neu'n cael trafferth eu defnyddio’n llai aml neu stopio.
- Defnyddio sylweddau i ymdopi â straen neu deimladau anodd.
Arwyddion y gallai rhywun fod yn ddibynnol arnyn nhw
- Angen mwy o sylwedd i deimlo'r un effaith, gelwir hyn hefyd yn oddefgarwch.
- Teimlo'n sâl neu'n anghyfforddus pan nad yw'r sylwedd yn cael ei ddefnyddio.
Treulio llawer o amser yn cael, yn defnyddio neu’n gwella o sylweddau.
Llefydd i fynd i gael rhagor o wybodaeth a chymorth gyda chamddefnyddio alcohol a chyffuriau
Ni waeth beth yw eich oedran na'ch sefyllfa, mae cymorth ar gael i chi.
- Mae Addiction Family Support yn cefnogi pobl ledled y DU y mae defnydd niweidiol anwylyd o alcohol, cyffuriau neu gamblo yn effeithio arnyn nhw. Mae ganddyn nhw linell gymorth 03008883853 a gallwch hefyd gael gafael ar gymorth drwy e-bost ar wefan Addiction Family Support.
- Mae Adfam yn elusen yn Lloegr sy'n cefnogi pobl y mae yfed, defnyddio cyffuriau neu gamblo rhywun arall yn effeithio arnyn nhw. Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau Adfam ar eu gwefan.
- Mae ASCERT yn elusen sy'n darparu gwasanaethau ledled Gogledd Iwerddon gyda'r nod o leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau. Mae gwybodaeth, adnoddau a manylion gwasanaethau i bobl ifanc ac oedolion ar gael ar wefan ASCERT.
- Mae Crew yn elusen lleihau niwed ac allgymorth yn yr Alban. Gallwch siarad â nhw drwy neges destun ar 07860047501 neu fynd i wefan Crew.
- Mae DAN 24/7 yn llinell gymorth ddwyieithog am ddim dros y ffôn sy'n darparu un pwynt cyswllt ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sydd eisiau rhagor o wybodaeth a/neu gymorth yn ymwneud â chyffuriau a/neu alcohol. Mae gwybodaeth ddwyieithog ar eu gwefan a gall y llinell gymorth eich helpu i gael gafael ar wasanaethau y gallai fod eu hangen arnoch.
- Mae Drugs and Alcohol NI yn cael ei gefnogi gan yr Asiantaeth Iechyd Cyhoeddus (PHA). Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am alcohol a chyffuriau yn ogystal â manylion gwasanaethau yn eich ardal chi yng Ngogledd Iwerddon ar wefan Drugs and Alcohol NI.
- Mae FRANK yn wefan sy'n cynnwys gwybodaeth onest am gyffuriau, yn ogystal â manylion gwasanaethau lleol a chenedlaethol yn Lloegr, a ble i fynd os oes angen help arnoch. Cewch ragor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn ar wefan FRANK.
- Mae Know the Score yn ymgyrch gan Lywodraeth yr Alban sy'n ceisio darparu gwybodaeth gywir a ffeithiol am gyffuriau a chanlyniadau eu defnyddio. Mae gwefan Know the Score yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau lleol yn yr Alban. Maen nhw hefyd yn darparu cymorth cyfrinachol am ddim drwy linell gymorth 08005876879 a gwasanaeth sgwrsio ar y we sydd ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener 9am-9pm a dydd Sadwrn a dydd Sul 10am-4pm.
- Mae Nacoa yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i bawb y mae arferion yfed rhiant yn effeithio arnyn nhw, o blant i oedolion. Mae ganddyn nhw linell gymorth y gallwch chi ei ffonio am ddim ar 0800 358 3456 neu gallwch anfon e-bost at [email protected], sydd ar agor ddydd Llun i ddydd Sadwrn 10am i 7pm. Gallwch gysylltu â nhw o unrhyw le yn y DU.
- Mae WithYou yn elusen cyffuriau, alcohol ac iechyd meddwl sy’n rhedeg gwasanaethau yn Lloegr a’r Alban. Maen nhw'n darparu cymorth cyfrinachol am ddim i oedolion a phobl ifanc sy'n wynebu heriau gyda chyffuriau, alcohol ac iechyd meddwl. Mae ganddyn nhw dros 80 o wasanaethau a swyddogaeth sgwrsio ar-lein am ddim lle gallwch gael gafael ar gymorth. Cewch ragor o wybodaeth am y gwasanaethau hyn drwy fynd i wefan WithYou.
Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n poeni am blentyn?
If you are concerned that a child may be at imminent risk, always call 999 immediately.
If you are concerned that a young person could be at non-immediate risk, there are services you can contact for support:
-
The NSPCC have a dedicated helpline you can contact if you are worried about a child. You can contact the NSPCC Helpline by calling 0808 800 5000 or emailing [email protected].
-
Childline offers free, confidential advice and support to all children, whatever their worry. Contact Childline online or on their freephone on 0800 1111
-
If you think a child is at risk because of their parents or carers drug or alcohol use you can contact the social care team at their local council.
-
If you’re in England find out how to report concerns to a local council.
-
Find out about reporting a concern in Scotland.
If you are worried about a child, it is important that you share that concern. The information you have may help professionals to build a better picture about what might be happening.
Sut rydyn ni'n cefnogi teuluoedd yn Barnardo's
We support children, young people and their families with problems arising from alcohol and other drug use. There is also support available if you are a parent or career who is struggling.

Plant y mae cam-drin domestig wedi effeithio arnynt
Mae cam-drin domestig yn gallu cael effaith ddinistriol ar deuluoedd. Os ydych chi’n meddwl bod cam-drin domestig yn effeithio ar blentyn, mae camau y gallwch eu cymryd i’w helpu i deimlo’n ddiogel a’i fod yn cael ei gefnogi, ac mae gwasanaethau a all eich arwain drwy’r camau nesaf.

Meithrin perthnasoedd teuluol iachach
Mae gan bobl ffyrdd, safbwyntiau ac emosiynau gwahanol o ran delio â straen, felly mae’n naturiol bod anghytuno’n digwydd. Yr hyn sydd bwysicaf yw sut mae’r gwrthdrawiadau hyn yn cael eu rheoli. Mae’r dudalen hon yn egluro beth yw gwrthdaro rhwng rhieni, beth sy’n ei achosi, a sut i’w leihau yn eich teulu.

Hunan-niweidio: yr hyn y mae angen i rieni a gofalwyr ei wybod
Os yw eich plentyn yn hunan-niweidio, neu os ydych chi’n poeni y gallai fod yn hunan-niweidio, mae’n gwbl naturiol teimlo’n ofnus, yn ypset neu’n ansicr ynghylch beth i'w wneud. Mae gennym gyngor ar arwyddion rhybudd y dylech gadw llygad amdanynt, sut gallwch chi gefnogi rhywun, a ble i ddod o hyd i gymorth proffesiynol.
Cafodd yr holl wybodaeth ar y dudalen hon ei chreu gyda gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n ymarfer. Cafodd y dudalen hon ei hadolygu ym mis Rhagfyr 2025. Bydd y dudalen yn cael ei hadolygu nesaf yn 2028.