Pan ymosododd grŵp o blant ar Jodie, sy’n 11 oed, cafodd drawma mawr. Ond nid hi oedd yr unig un a gafodd gymorth gan Barnardo’s. Roedd ei chwaer yn dyst i’r ymosodiad, felly cafodd hi gymorth, yn ogystal â’i mam.
Mae’r ‘dull teulu cyfan’ yn allweddol i waith Gwasanaeth Lles Teuluoedd Caerdydd sy’n darparu ystod eang o gymorth iechyd meddwl a lles, yn cynnwys therapi chwarae i blant a gweithdai i rieni.
Roedd Heather, eu mam, wedi sylwi bod newid mawr yn ymddygiad ei phlant ar ôl yr ymosodiad. Pan oedd Jodie a’i chwaer fach allan yn y gymuned a draw oddi wrth diogelwch eu cartref, roedd y ddwy yn ymddangos fel eu bod yn gwylltio, ond dyma eu ffordd nhw o ddangos eu bod yn bryderus ac wedi dychryn.
Mae Ffion wedi bod yn dioddef o bryder yn y gorffennol. Gwaethygodd hyn dros amser, a bu’n hunan-niweidio yn fwy rheolaidd wrth iddi boeni am ddiogelwch ei hun a’i chwaer. Roedd y teulu wedi cael eu cyfeirio at Barnardo’s, a cafodd y merched therapi chwarae i’w helpu i archwilio eu teimladau. Roedd eu mam wedi ymuno â gweithdai er mwyn iddi ddysgu sgiliau i’w helpu i wella pryder ei merch yn y tymor hir.
Mae Barnardo’s wedi bod o gymorth mawr i’r teulu cyfan. Mae fy merched yn llawer hapusach, ac rydw i wedi dysgu sgiliau a fydd yn fy helpu i’w cefnogi am weddill eu plentyndod.
Os oedden ni’n mynd i’r parc neu’n mynd am bryd o fwyd ar ôl yr ymosodiad, roedd y ddwy yn barod i ymateb yn fyrbwyll i ddiogelu eu hunain. Roedd y therapi chwarae wedi rhoi amser iddyn nhw i feddwl am eu teimladau ac i’w prosesu. Maen nhw wedi newid cymaint, ac rydw i wedi dysgu technegau i’w helpu nhw unrhyw bryd y bydd rhywbeth yn eu gwneud nhw’n bryderus.
Heather
Mam o Jodie a Ffion
Mae Kirsty yn therapydd chwarae sy’n gweithio gyda Gwasanaeth Lles Teuluoedd Caerdydd. Mae hi’n cefnogi plant sydd wedi dioddef ystod eang o drawma gan gynnwys profedigaeth, esgeulustod, cam-drin domestig a cham-drin rhywiol, yn ogystal â phryder cyffredinol a phroblemau emosiynol.
Dywedodd: “Efallai nad oes gan blentyn sydd wedi dioddef trawma yr iaith i gyfleu ei brofiadau a’i emosiynau mewn geiriau, ond gall gyfleu ei deimladau yn naturiol drwy chwarae. Mae therapi chwarae dan arweiniad y plentyn, a gall ei helpu i archwilio’r hyn mae wedi’i ddioddef mewn ffordd sy’n gyfforddus iddo. Mae’n gallu dysgu sut i ddatrys problemau ac i ddatblygu eu strategaethau ymdopi."
Mae gweld newidiadau mewn plentyn a oedd wedi bod yn ei chael hi’n anodd iawn ymdopi yn fy ngwneud yn hapus iawn, yn ogystal â gwybod bod Barnardo’s wedi gwneud gwahaniaeth yn eu bywydau
Kirsty
Therapydd chwarae, Gwasanaeth Lles Teuluoedd Caerdydd.