Artwork cover for 2 resources used to help young people who have been sexually abused

Adnoddau i helpu i ganfod ac ymgysylltu â phobl ifanc sydd mewn perygl o gam-drin rhywiol a chamfanteisio rhywiol

Rydym wedi bod yn datblygu offer ac adnoddau yng Nghymru i helpu i ganfod ac ymgysylltu â phobl ifanc sydd mewn perygl o ddioddef Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant a Cham-drin Plant yn Rhywiol.

Ein gwaith

Mae Dyfodol Gwell Cymru yn wasanaeth sy’n darparu gwasanaethau asesu ac ymyriadau therapiwtig hirdymor i blant a phobl ifanc sydd â hanes o rywioli, ledled Cymru. 

Gwyddom fod meithrin ymddiriedaeth a sefydlu perthynas gadarnhaol yn hanfodol ar gyfer unrhyw ymyriad llwyddiannus. Yn ôl ymchwil, mae pobl ifanc sy’n cael eu cam-drin, eu hecsbloetio, neu sy’n cymryd rhan mewn ymddygiadau rhywiol peryglus, yn aml yn teimlo euogrwydd a chywilydd. Efallai y byddan nhw’n teimlo eu bod yn cael eu diffinio gan eu hymddygiad, ac mae hynny’n effeithio ar ba mor agored a pharod ydyn nhw i ymgysylltu. 

Boy sitting on stairs

Rydym eisiau datblygu perthynas anfeirniadol a llawn ymddiriedaeth gyda’r person ifanc. O’r cychwyn, rydym yn canolbwyntio ar weithgareddau a thrafodaethau di-broblem er mwyn sefydlu cysylltiad ystyrlon lle bydd y cyfranogwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn gwneud cyfraniad at y berthynas. 

Mae canran uchel o’r plant yr ydym yn gweithio â nhw wedi profi trawma sylweddol. Gallai hynny fod drwy gam-drin rhywiol, cam-drin corfforol, cam-drin emosiynol, cam-drin domestig, neu esgeulustod. Mae ein gwaith yn ystyried y ffactorau hyn ac yn cynnwys dulliau a thechnegau therapiwtig i fynd i’r afael â'r materion a all ddigwydd yn sgil y profiadau hyn.

Drwy gefnogi pobl ifanc i brosesu’r trawma a gawsant yn y gorffennol, rydym yn gallu caniatáu iddynt ddatblygu perthnasoedd rhamantus a rhywiol iach yn y dyfodol.

Dadlwythiadau

Sgwrs Merched / Girls’ Talk

Cover image of the Girls' Talk worksheet

Mae Sgwrs Merched / Girls’ Talk yn adnodd ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda genethod a menywod ifanc sydd wedi cymryd rhan mewn ymddygiad rhywiol niweidiol. Mae’n gymorth i leihau’r risg ac mae’n caniatáu iddynt symud tuag at berthnasoedd iach fel oedolion.

Datblygwyd y llyfr gwaith fel rhan o Brosiect Ymchwil Genethod Barnardo’s, sef prosiect ymchwil tair blynedd o hyd a ariannwyd gan y Loteri Fawr.

Mae pum prif thema yn y llyfr gwaith:

  • Cyflwyno’r Cefndir
  • Fy Mhrofiadau Bywyd
  • Yr Hunan Positif
  • Perthnasoedd Iach
  • Hunanreoleiddio a Strategaethau Cadarnhaol

Caiff pob maes ei gefnogi gan esboniadau ymchwil clir i’w cynnwys yn y llyfr gwaith, ynghyd â chyfres o daflenni gwaith sydd ar gael i’w llwytho i lawr.

Llyfrau gwaith

Mae copiau caled, a gyriant flach USB sy’n cynnwys taflenau waith a chlip wedi’i animeiddio, ar gael i brynu yn uniongyrchol o’r wasanaeth am £50. I archeb copi, anfonwch ebost i [email protected] Neu chysylltwch a [email protected] i dderbyn copi electroneg am ddim.

​​​​​ Llyfr Gwaith Sgwrs Merched – Cymraeg (PDF

Taflenni gwaith

Boys 2

Cover image of the Boys 2 worksheet

Roedd Boys 2 yn brosiect ymchwil dros ddwy flynedd a ariannwyd ar y cyd rhwng y Swyddfa Gartref a Barnardo’s. Roedd yn cael ei reoli gan Ddyfodol Gwell Cymru Barnardo’s a Base Project Barnardo’s yn Ne Orllewin Lloegr.

Roedd canfyddiadau’r prosiect wedi arwain at ddatblygu Boys 2, sef adnodd llyfr gwaith a gafodd ei gynhyrchu ar y cyd â'r bechgyn a’r dynion ifanc a oedd wedi cymryd rhan yn yr ymchwil. Mae pob rhan o’r llyfr gwaith

Prif Ganfyddiadau

Llyfrau gwaith

Adroddiad llawn

Cysylltu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr adnoddau, neu am y prosiectau yn gyffredinol, cysylltwch â’r tîm drwy e-bost: [email protected]