Two girls running in a park

Barnardo’s Cymru manifesto ar gyfer etholiadau’r Senedd 2026

Type Parliamentary briefing

Published on
1 October 2025

“Mae’n rhaid iddyn nhw roi rhywbeth i ni fod yn obeithiol amdano.” 

Dyma eiriau person ifanc a fu’n gweithio ar y maniffesto hwn gyda ni. Mae’n crynhoi ein rhwymedigaethau i bobl ifanc; ein rhwymedigaethau ni fel Barnardo’s Cymru, a rhwymedigaethau ymgeiswyr, gwleidyddion etholedig a llunwyr polisïau.

Mae etholiad Senedd 2026 yn dod ar adeg hollbwysig i fabanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru. Ar ôl wynebu llawer o heriau dros y blynyddoedd diwethaf, mae plant a’u teuluoedd yn dal i deimlo’n gadarnhaol ynglŷn â’u dyfodol ac mae arnyn nhw eisiau gweld llywodraeth sy’n rhannu’r un brwdfrydedd ac angerdd ynglŷn â sut y gallai eu bywydau nhw fod. 

Rydym yn galw ar bob gwleidydd sy’n sefyll yn yr etholiad hwn i addo gwrando’n uniongyrchol ar fabanod, plant a phobl ifanc, ac i wneud pob penderfyniad fel pe bai plant yn yr ystafell gyda nhw. Ers llawer gormod o amser, mae plant wedi bod yn cael eu diystyru a’u tanbrisio wrth wneud penderfyniadau gwleidyddol, er eu bod yn cynrychioli dyfodol Cymru y mae pob un ohonom wedi ymrwymo i’w datblygu. 

Os byddwch yn darllen un peth yn y maniffesto hwn, edrychwch ar y llythyr ar y dudalen nesaf gan Hatti, merch 17 oed, sydd wedi’i gyfeirio at bob ymgeisydd sy’n sefyll yn yr etholiad hwn. Mae Hatti wedi ysgrifennu am y materion pwysicaf iddi hi, a’r newidiadau y byddai hi’n hoffi eu gweld. 

Mae gan bob plentyn yng Nghymru obeithion, breuddwydion ac uchelgeisiau fel y rhai a amlinellwyd gan Hatti. O ran Hatti, mae’r newid y byddai hi’n hoffi ei weld yn ymwneud â niwroamrywiaeth a’r gefnogaeth a ddylai fod ar gael iddi hi. Gallai blaenoriaethau plant eraill yng Nghymru fod yn wahanol. Dyma pam na allwn drin plant fel un grŵp lle mae pawb yr un fath – rhaid i ni ymgysylltu â nhw’n feddylgar yn eu holl amrywiaeth a’u gwahaniaethau. 

Mae llythyr Hatti yn dangos angerdd ac ymrwymiad plant a phobl ifanc yng Nghymru, a’u hawydd i weld newid yn eu cymunedau.  

Mae’n rhaid i wleidyddion wrando ar bobl ifanc pan fyddan nhw’n gwneud penderfyniadau am y dyfodol y byddwn ni’n ei etifeddu.  
  
Dylai llesiant ein cymdeithas fod yn ganolbwynt llwyr i'n ffocws wrth i ni symud ymlaen fel cenedl. Rydyn ni am i bobl fod eisiau newid er gwell a chael y meddylfryd sy’n eu galluogi i wynebu heriau’r dyfodol yn y ffordd fwyaf effeithlon ac sy’n diogelu at y dyfodol.

Hatti

sy'n 17 oed, wedi cael cefnogaeth gan Barnardo's

Ein gofynion allweddol i lywodraeth nesaf Cymru

Mae Maniffesto Barnardo's Cymru yn amlinellu cyfres o ymrwymiadau sy’n annog pob plaid wleidyddol i'w mabwysiadu.    

Mae hyn yn cynnwys camau ymarferol sydd eu hangen i wneud y canlynol:   

  • Rhoi diwedd ar dlodi plant yng Nghymru  

  • Cefnogi teuluoedd i roi’r cyfleoedd gorau posibl i’w plant mewn bywyd   

  • Cadw plant yn ddiogel rhag niwed   

  • Cefnogi iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc   

  • Trawsnewid y cymorth a'r cyfleoedd i blant mewn gofal ac sy'n gadael gofal   

  • Sicrhau bod cymorth, gwasanaethau ac amddiffyniad ar gael i bob plentyn sydd ar ei ben ei hun  

 Rhai o’r uchafbwyntiau yw galw am gyflwyno Taliad Plant i Gymru. Mae ymchwil yn dangos y byddai'n cael dylanwad sylweddol ar dlodi plant yng Nghymru, ochr yn ochr â gwneud ymrwymiad cadarn i deuluoedd drwy fuddsoddi yn y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen.    

Mae Barnardo's Cymru hefyd yn galw am gyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth cynhwysfawr i deuluoedd cyfan ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef cam-drin a chamfanteisio'n rhywiol ar blant, yn ogystal ag ymrwymiad i sicrhau bod yr holl blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael cymorth amserol ar gyfer iechyd meddwl a llesiant emosiynol - gyda hawl statudol i gael cymorth iechyd meddwl gan eu hawdurdod lleol.   

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.