Ar drothwy etholiadau’r Senedd yn 2026, rydym yn gofyn i bob ymgeisydd gefnogi plant drwy gytuno i’r addewid hwn:
“Rwy’n addo hyrwyddo polisïau sy’n gwneud plentyndod yn fwy diogel, yn hapusach, yn iachach ac yn fwy gobeithiol.”
Daw etholiadau’r Senedd yn 2026 ar adeg dyngedfennol i fabanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mae profiadau o blentyndod yng Nghymru wedi cael eu taro gan effeithiau parhaus y pandemig, tlodi cynyddol, costau byw uwch, a’r cynnydd mewn problemau iechyd meddwl ymysg plant. At hynny, mae’r twf anferthol mewn datblygiadau ar-lein - a’r holl gyfleoedd a risgiau a ddaw yn ei sgil. Mae hyn i gyd yn golygu bod tyfu i fyny heddiw y tu hwnt i’r hyn y gall llawer o oedolion ei ddychmygu hyd yn oed. Mae plant yn dweud wrthym eu bod am weld gwleidyddion yn cydnabod bod plant yn fwy na dim ond set o broblemau i'w datrys, bod ganddyn nhw fywydau cyffrous a bywiog, ac y dylai gwleidyddion eu cefnogi i wneud y bywydau hynny hyd yn oed yn well.
Mae plant yn haeddu gwybod bod y gwleidyddion sy’n eu cynrychioli yn teimlo mor angerddol am eu bywydau a’u cyfleoedd ag y maen nhw eu hunain. Dyna pam ein bod yn galw ar bob ymgeisydd yn yr etholiad hwn i gefnogi plant drwy wneud yr addewid hwn.
Os ydych chi’n ymgeisydd yn yr etholiad, a fyddech cystal â chadarnhau i ni eich bod yn barod i helpu i greu dyfodol gwell i bob plentyn yng Nghymru.
Gwneud yr addewid
“Mae’n rhaid iddyn nhw roi rhywbeth i ni fod yn obeithiol amdano.”
Dyma eiriau person ifanc a fu’n gweithio ar ein Maniffesto ar gyfer Etholiadau’r Senedd yn 2026. Mae’n crynhoi ein hymrwymiad i bobl ifanc; ar ein rhan ni fel Barnardo’s Cymru, ar ran yr ymgeiswyr, ac ar ran y gwleidyddion etholedig a llunwyr polisïau.

Ein gwaith yng Nghymru
Rydym ni eisiau bod yno i deuluoedd yng Nghymru sydd ein hangen ni. Gallai hynny fod drwy ein gwasanaethau sy’n cefnogi pobl sy’n wynebu her benodol, neu drwy gynnig arweiniad a chyngor.

“This place makes me feel positive about my future”
Nearly half (46%) of Welsh young people are struggling with their mental health. We’re working in partnership with Co-op to support positive futures for young people across Wales.