Ymateb Barnardo’s Cymru i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru

Published on
20 December 2023

Rydyn ni’n poeni nad yw’r gyllideb ddrafft yn mynd yn ddigon pell i amddiffyn plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn wyneb angen na welwyd ei debyg o’r blaen. Bydd hyn yn golygu cost ddynol wirioneddol i’r teuluoedd mwyaf difreintiedig ledled Cymru.

Credwn fod y toriadau arfaethedig i waith ymyrryd ac atal cynnar yn annoeth, ac yn niweidiol, ac y byddant yn arwain at gostau uwch yn y pen draw.

Rydyn ni wedi galw dro ar ôl tro am gyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau cymorth i atal problemau rhag gwaethygu. Bydd ailflaenoriaethu cyllid yn creu ansicrwydd o ran cynaliadwyedd gwasanaethau hanfodol ledled Cymru. Heb gyllid cadarn, rydyn ni’n ofni na fydd yr uchelgeisiau ar gyfer plant a phobl ifanc, a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu, yn cael eu gwireddu.