Darran yn serennu ochr yn ochr â’r actor Lennie James

Published on
24 January 2024

Darran yn serennu ochr yn ochr â’r actor Lennie James

Mae Darran Thomas Roberts, sydd wedi gadael gofal yn Abertawe, wedi bod yn ffilmio gyda’r actor Hollywood, Lennie James, ac wedi darganfod cymaint sydd gan y ddau yn gyffredin.

Lennie James, Darran

Mae Darran, sy’n 21 oed wedi cael ei ffilmio ochr yn ochr â seren Walking Dead a Line of Duty, sydd bellach yn byw yn LA, ac mae eu cyd-gynhyrchiad newydd gael ei ryddhau mewn ymgais i annog mwy o bobl i ystyried maethu ar ran yr elusen plant Barnardo’s.

Cefnogir Darran gan wasanaeth Bloom Barnardo’s Abertawe sy’n helpu pobl ifanc i ddatblygu eu hannibyniaeth ar ôl gadael gofal. Roedd Lennie hefyd mewn gofal, ac roedd gan y ddau brofiadau mor gadarnhaol o deuluoedd maeth nes iddynt ddod at ei gilydd i gefnogi ymgyrch bresennol yr elusen i recriwtio rhieni maeth sydd eu hangen yn fawr.

Mae Lennie, a anwyd yn Nottingham, ym Mhrydain ar hyn o bryd yn cymryd seibiant o’i yrfa lwyddiannus yn Hollywood ac, fel llysgennad i Barnardo’s, cytunodd i arwain yr ymgyrch.

Cafodd Darran gyfle i deithio i Lundain i ffilmio gyda Lennie ar gyfer cyfres o fideos ymgyrchu ac roedd yn teimlo’n gartrefol ar unwaith gyda’r actor, gan ddarganfod cynifer o brofiadau plentyndod roeddent wedi’u rhannu.

Meddai: “Roedd Lennie yn cŵl iawn gyda’i draed ar y ddaear, ac roedd y sgwrs yn llifo’n naturiol. Dydy pobl sydd wedi bod mewn gofal ddim yn aml yn siarad am eu profiad, felly roedd hi’n braf gallu siarad yn rhydd â rhywun oedd wedi bod drwy’r un profiad â fi - symud o gartref gofal i deulu maeth a gweld y newid yn ofnus i ddechrau.”

Cafodd Lennie gryn effaith ar Darran, a aeth i ofal pan oedd yn naw oed ac a dreuliodd amser mewn cartref gofal cyn symud i fyw gyda theulu am bum mlynedd.

“Roedd clywed am sut roedd gan Lennie y dewrder i symud i LA, er nad oedd yn gwybod am ba hyd y byddai ei waith actio’n para, yn agoriad llygad. Gwnaeth i mi sylweddoli nad oes rhaid i fi edrych ar fy ngorffennol ac na ddylwn i ofni mentro rhoi tro ar bethau newydd mewn bywyd a chymryd risgiau,” meddai Darran.

Symudodd yr actor Lennie i gartref plant pan fu farw ei fam ac yna cafodd ei leoli gyda’i fam faeth, Pam. “Gyda hi, fe wnes i ddod o hyd i le sefydlog i’w alw’n gartref, rhywle lle gallwn i berthyn. Agorodd nid yn unig ei chartref ond ei chalon i blentyn a oedd wir ei angen,” meddai.

Roedd Darran hefyd yn gwerthfawrogi ei rieni maeth, Keith a Carol, a ddisgrifiodd fel pobl “anhygoel”. Dywedodd: “Fe wnaeth dod yn rhan o deulu maeth fy helpu’n fawr, er iddi gymryd cwpl o fisoedd i mi addasu, gan i mi wir fwynhau’r cartref gofal.

“Fe gyrhaeddais i’r teulu heb wybod sut i ymddwyn a bu’n rhaid i mi ddod i arfer â rheolau, ond roedd fy rhieni maeth yn fy nghynnwys i ym mhopeth; gwyliau’r teulu yn y garafán gyda phlant ac wyrion ym mhobman, ac yn yr holl ddathliadau.

“Yn anffodus, bu farw Keith dair blynedd a hanner ar ôl i mi gyrraedd ac roedd hynny’n anodd iawn. Fe wnes i gloi fy hun yn fy ystafell a doeddwn i ddim eisiau dod allan. Wedyn, cafodd y teulu gi bach, a fi oedd yn gyfrifol am ofalu amdano. Roedd yn gwneud i mi deimlo bod gen i rôl, fy mod i’n rhan o’r teulu. Byddwn i’n mynd ag ef am dro ac yn ei hyfforddi ac roedd yn gwneud i mi deimlo’n well ar adegau anodd.”

Mae Darran wedi bod yn awyddus i gefnogi ymgyrch bresennol Barnardo’s i recriwtio rhieni maeth newydd. Mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn datgelu bod dros 7,000* o blant mewn gofal yng Nghymru ym mis Mawrth 2022, nifer sydd wedi cynyddu bron i 23% yn ystod y degawd diwethaf. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae rhieni maeth presennol yr elusen wedi mynd yn hŷn, mae rhai wedi ymddeol, ac mae llai o bobl iau yn camu ymlaen i gymryd eu lle.

Mae’r elusen yn gobeithio chwalu rhai o’r mythau ynghylch maethu gan fod llawer o bobl yn meddwl eu bod yn rhy hen i wneud cais, er nad oes terfyn oedran uchaf**. Mae eraill yn meddwl na allent fforddio gwneud hynny, heb sylweddoli bod lwfansau maethu ar gael, ac mae rhai yn dweud na fyddent yn maethu oherwydd bod ganddynt eu plant eu hunain. Mae rhieni maeth presennol Barnardo’s yn dweud bod maethu’n brofiad cadarnhaol i’r teulu cyfan, gan gynnwys plant genedigol.

Dywedodd Darran: “Mae maethu’n heriol, a dwi’n credu bod angen cryfder arbennig arnoch chi i ymdopi â phlant a allai gyrraedd gyda phroblemau. Ond os gallwch chi ymdopi â’r cyfnodau anodd, gall fod yn werth chweil. Gallwch gael effaith gadarnhaol yn union fel y cafodd fy rhieni maeth arna i.

“I fi, roedd mor bwysig deffro bob dydd i’r un wynebau, yn hytrach na meddwl tybed pwy oedd ar ddyletswydd yn y cartref gofal y diwrnod hwnnw. Doedd dim rhaid i fi esbonio i blant yn yr ysgol pam bod gwahanol bobl yn aros amdana i wrth y giatiau bob dydd. Roedd hynny wedi bod yn anodd yn y gorffennol.”

Roedd Darran wedi mwynhau ei gyfnod yn y cartref gofal ac roedd yn poeni am symud, i ddechrau, ond ar ôl ychydig wythnosau gyda’i deulu maeth, wnaeth e ddim edrych yn ôl.

Dywedodd: “Pan oeddwn i gyda’r teulu, roedden ni bob amser yn gwneud pethau llawn hwyl. Byddem i gyd yn eistedd gyda’n gilydd wrth y bwrdd i fwyta bob dydd - doedd hynny ddim yn normal i fi yn y gorffennol.

“Yn y cartref gofal, byddwn i’n cael fy mhryd bwyd ac yn mynd ag ef yn ôl i fy ystafell i’w fwyta ar fy mhen fy hun. Ches i erioed gyfle i olchi fy nillad fy hun, mynd i siopa, neu gael rhywun yn treulio amser gyda fi un-i-un, yn dysgu pethau i fi, fel coginio. Mae’r pethau hynny’n rhan o fod yn deulu a dwi’n falch iawn fy mod wedi cael profiad o fywyd teuluol.

“Nawr bod gen i fy lle fy hun, dwi’n gwneud llawer gyda phrosiect Bloom Barnardo’s Abertawe ar gyfer pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal a dwi am wneud mwy i ddylanwadu ar newid yn y system ofal.”

I gael gwybod rhagor am faethu gyda Barnardo's, ewch i www.barnardos.org.uk/foster neu ffoniwch 0800 0277 280 o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm. Gwyliwch Darran a Lennie ar YouTube https://bit.ly/3O6aqNl.

Nodiadau i olygyddion  

*Dangosodd ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar gyfer 31 Mawrth 2022, fod 7,080 o blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru, o gymharu â 5,760 ar 31 Mawrth 2013, sy’n gynnydd o 22.9%.

**Dangosodd arolwg YouGov o 213 o bobl a gynhaliwyd ar ran Barnardo’s yng Nghymru fod 46% o’r rhai a holwyd nad ydynt wedi ystyried maethu o’r blaen yn credu eu bod yn rhy hen i ddod yn rhiant maeth, er nad oes terfyn oedran uchaf i wneud cais, mewn gwirionedd.

Dangosodd yr arolwg hefyd mai dim ond 2% o bobl nad ydynt yn rhieni maeth cymeradwy ar hyn o bryd fyddai’n ystyried maethu yn ystod y pum mlynedd nesaf. Dywedodd cyfanswm o 14% nad oeddent yn credu y gallent fforddio maethu neu eu bod yn credu nad oes digon o gymorth ariannol, heb wybod am y lwfansau gofalu a delir i rieni maeth.

Dywedodd 15% o’r bobl a holwyd yng Nghymru nad oeddent wedi ystyried maethu oherwydd bod ganddynt eu plant eu hunain neu byddent yn hoffi cael eu plant eu hunain.

Cafodd y gwaith maes ei gynnal rhwng 29 Tachwedd ac 1 Rhagfyr 2023. Cynhaliwyd yr arolwg ar-lein. Mae’r ffigurau wedi’u pwysoli ac maent yn cynrychioli holl oedolion y DU (18 oed+).