Mabwysiadu yng Nghymru

Meithrin teulu a newid bywyd

Os ydych chi’n byw yng Nghymru ac yn awyddus i fabwysiadu plentyn, gallwn ni helpu.

Yma yng Ngwasanaeth Mabwysiadu a Maethu Barnardo's Cymru, gallwn siarad â chi drwy'r broses fabwysiadu ac ateb eich holl gwestiynau.

Os byddwch yn mabwysiadu drwy ein gwasanaeth ni, byddwn yn rhoi'r holl gymorth emosiynol, ymarferol a chyfreithiol sydd ei angen arnoch i'ch helpu:

  • i ddod o hyd i'r plentyn cywir
  • i baratoi ar gyfer y broses fabwysiadu
  • i deimlo eich bod yn cael cefnogaeth drwy gydol y broses ac yn y blynyddoedd i ddod

Cysylltu â ni

Rhagor o wybodaeth 

 Am ragor o wybodaeth am fabwysiadu gyda Barnardo’s, ewch i’n tudalen Mabwysiadu plentyn.

Darllen pellach

Mae ein datganiad o ddiben (gweler isod) yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am Wasanaeth Mabwysiadu a Maethu Barnardo's Cymru, a sut rydym yn sicrhau canlyniadau da i'r plant sydd yn ein gofal.