Wedi’u hysbrydoli gan eu gyrfaoedd mewn proffesiynau gofalu, penderfynodd Brian a Helen fentro cymryd y cam i ddod yn ofalwyr maeth. Ers hynny, mae’r tadcu a’r fam-gu o Ben-y-bont ar Ogwr, De Cymru, wedi maethu nifer o blant a phobl ifanc yn eu harddegau, gan roi lle cariadus a sefydlog iddyn nhw ei alw’n gartref.
Sut mae profiad Brian a Helen wedi eu helpu i ddod yn ofalwyr maeth anhygoel
Cafodd Brian yrfa hir yn cefnogi plant ac oedolion mewn cartrefi preswyl, yn ogystal â gweithio gyda phobl ifanc sydd wedi camddefnyddio sylweddau ac alcohol. Mae Helen yn gweithio yn y sector meithrinfeydd ac yn ystod ei gyrfa mae wedi cefnogi plant bach y nodwyd eu bod mewn perygl o niwed sylweddol. Oherwydd eu profiad, maent wedi gallu maethu nifer o blant ag anghenion cymhleth ac er ei fod yn waith heriol, maent wedi’i gael yn werth chweil.
“Maen nhw’n gallu cyrraedd ar bigau’r drain ac efallai eu bod wedi diflannu i mewn iddyn nhw eu hunain. Efallai eu bod yn llawer iau yn emosiynol na’u gwir oed” meddai Brian. “Rydyn ni’n ceisio creu awyrgylch tawel a thros amser yn meithrin perthynas ac yn datblygu ymddiriedaeth. Mae terfynau’n cael eu gosod a’u profi, ac rydyn ni’n darparu modelau rôl o sut i ymddwyn.”
Dod yn ofalwyr maeth gyda Barnardo’s
Mae gan y cwpl ddau fab sy’n oedolion a dau o wyrion eu hunain ac fe wnaethant feddwl am fod yn ofalwyr maeth tymor byr i ddechrau (a elwid gynt yn ofal seibiant), ond fe wnaethom ni eu cefnogi i ystyried gofal maeth tymor hir ac nid ydynt wedi edrych yn ôl. Dysgwch fwy am sut y byddwn ni’n eich cefnogi chi os byddwch chi’n maethu gyda ni.
Ar ôl asesiad trylwyr, cawsant hyfforddiant ac maent yn dal i gael cefnogaeth barhaus gan staff Barnardo’s a rhieni maeth eraill yn eu rhwydwaith cefnogi.
“Mae Barnardo’s yn wych am baru’r plentyn iawn â’r teulu maeth iawn, wnân nhw ddim rhoi gormod o lwyth ar eich ysgwyddau. Maen nhw’n cyfateb yn gyfrifol ac rydych chi’n cael cefnogaeth anhygoel gan weithiwr cymdeithasol a rhieni maeth eraill,” meddai Brian. “Rydw i wedi cael cyfle i wneud llawer o hyfforddiant, popeth o lythrennedd emosiynol ac iaith a lleferydd i ddiogelu a chymorth cyntaf, ac mae’n sicr yn helpu.”
Pa sgiliau sydd eu hangen arnoch i fod yn ofalwr maeth?
Mae Brian a Helen yn pwysleisio’r angen i fod yn amyneddgar a deall yr hyn y gallai plentyn sy’n cael ei faethu, a’i deulu biolegol, fod wedi’i ddioddef. “Mae angen i chi beidio â barnu’r plentyn na’i deulu. Rydyn ni’n gweithio ar ddatblygu perthynas dda gyda’r teuluoedd sy’n aml yn teimlo’n euog iawn ar ôl colli plentyn i ofal.”
Ychwanega Helen, “Mae angen i chi fod yn amyneddgar ac yn wydn. Pan fydd plentyn yn ymateb oherwydd y trawma y mae wedi bod drwyddo, allwch chi ddim ei gymryd yn bersonol, mae’n rhaid i chi ddatgysylltu eich hun a deall bod ei ymddygiad yn ganlyniad i’r trawma hwnnw, allwch chi ddim ei farnu am hynny.”
Y boddhad o faethu
Roedd y cwpl eisiau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant a thrwy faethu maen nhw’n cael cyfle i weld plant a phobl ifanc yn ffynnu yn eu gofal.

Rydyn ni’n cael boddhad pan fyddwn ni’n gweld gwir bersonoliaeth plentyn yn dod i’r amlwg, pan fyddwn ni’n ei weld yn gwneud ffrindiau ac yn gweld y llawenydd mae’n ei ddarganfod ynddyn nhw. Pan fyddan nhw’n mynd i’r parc sglefrio am y tro cyntaf, pan fyddan nhw’n dysgu ymdopi pan nad ydyn nhw’n ennill mewn pêl-droed. Gallwn eu gweld yn magu hyder.
Brian
Ychwanega Helen, “Pan fydd plentyn yn dechrau datblygu hunan-barch, hyder a gwytnwch cadarn, mae ein hunan-barch ni ein hunain yn cynyddu hefyd. Mae gweld newid cadarnhaol yn eu gallu i ddelio â’u hemosiynau yn rhoi boddhad mawr. Credwn y gellir trawsnewid bywydau plant drwy roi cariad diamod iddynt.”
Os ydych chi’n meddwl y gallech chi newid bywyd plentyn drwy faethu, yn union fel mae Brian a Helen wedi’i wneud, byddem wrth ein bodd yn eich cefnogi chi. Cysylltwch â ni heddiw a threfnu sgwrs heb bwysau gydag aelod o’n tîm cyfeillgar.

Is this the right time for you to foster?
Thinking about fostering but not sure if now is the right time? You’re not alone. Many of our foster carers felt the same way at first. To help you decide, some of them are sharing their personal experiences and advice.

What’s it like being a short-break foster carer?
Jane L and Jane H are foster carers who specialise in providing short break foster care, which used to be known as respite care, for children with special educational needs (SEN).

Could you be a foster carer?
There are so many things about you and your personality that could make you a great foster carer, but there are a few practical things you need too.