Pobl ifanc sy’n gadael gofal

Ni ddylai unrhyw blentyn droi'n oedolyn ar ei ben ei hun

Mae gadael cartref yn her i bawb, ond mae pobl ifanc sy'n gadael gofal yn aml yn gwneud hynny heb gefnogaeth teulu cariadus.

Young girl in white t-shirt in living room

Mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn dibynnu ar eu teulu ymhell ar ôl iddyn nhw fod yn 18 oed. Boed hynny er mwyn gofyn i rywun sut i newid ffiws, neu’r sicrwydd diogelwch o gael dychwelyd adref yn eu 20au a’u 30au.

Yn aml, nid yw hynny'n wir am bobl ifanc sy'n gadael gofal. Gallant fod bron yn gyfan gwbl ar eu pen eu hunain.

Dyna pam ein bod ni'n helpu pobl ifanc i bontio'r bwlch rhwng gofal preswyl neu ofal maeth a byw mewn byd oedolion.

Rydyn ni yma i'w cefnogi ar eu taith - a’u helpu i lwyddo.

Sut rydyn ni'n helpu’r rheini sy'n gadael gofal 

Rydyn ni'n cefnogi pobl ifanc sy'n gadael gofal:

  • i ddod o hyd i rywle i fyw
  • i reoli eu harian
  • i barhau â’u haddysg
  • i ddod o hyd i waith neu hyfforddiant

Ac ar ôl iddynt adael gofal, rydyn ni'n cynnig cymorth a chwnsela parhaus iddynt.

Mewn rhai ardaloedd, fel cam cyntaf, gallwn gynnig ystafell eu hunain i'r person ifanc mewn cartref teuluol diogel a chefnogol. Rydyn ni'n galw hyn yn llety â chymorth.