Datganiad Barnardo’s Cymru ar ddileu’r cyfyngiad dau blentyn

Published on
04 December 2025

Dywedodd Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru Sarah Crawley:

"Mae'n anodd gorbwysleisio'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar blant a theuluoedd yng Nghymru. Mae gormod o blant wedi bod yn mynd i'r ysgol yn llwglyd, yn methu canolbwyntio, ac yn dod yn ôl i gartref oer ar ddiwedd y dydd. Ers gormod o amser, mae'r cyfyngiad dau blentyn a’r cap ar fudd-daliadau wedi bod yn ergyd i deuluoedd a oedd eisoes yn ei chael hi'n anodd.

"Mae Barnardo's, ochr yn ochr â llawer o bobl eraill, wedi bod yn ymgyrchu dros roi diwedd ar y mesurau hyn, ac felly rydyn ni wrth ein bodd gyda’r cyhoeddiad heddiw.

Fodd bynnag, bydd dod â'r polisi hwn i ben heb ddileu’r cap cyffredinol ar fudd-daliadau yn cyfyngu ar yr effaith gadarnhaol y gallai'r newid hwn ei chael ar dlodi plant. I lawer o deuluoedd, gallai unrhyw incwm ychwanegol a geir yn sgil dileu'r cyfyngiad dau blentyn gael ei golli oherwydd y cap cyffredinol ar gyfanswm y budd-daliadau. Rydym yn annog Llywodraeth y DU i ddileu’r cap cyffredinol ar fudd-daliadau yn y strategaeth tlodi plant sydd ganddi ar y gweill, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfle i gyflawni ei botensial.

Rydym hefyd yn pwyso ar Lywodraeth bresennol Cymru i ddefnyddio unrhyw gyllid ychwanegol sydd wedi’i neilltuo i liniaru effeithiau niweidiol y cyfyngiad dau blentyn, a’i roi tuag at ragor o fesurau gwrthdlodi yng Nghymru.

Gyda 31% o blant yng Nghymru yn cael eu magu mewn tlodi, mae llawer mwy i'w wneud o hyd.

Yn ystod tymor y Senedd hon, mae'n hollbwysig bod y Senedd yn pasio cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru i atal toriadau dinistriol i wasanaethau cyhoeddus sy'n darparu cymorth hanfodol i blant a theuluoedd sydd eisoes mewn tlodi.

Y tu hwnt i dymor y Senedd, rydym yn gobeithio y bydd rhoi terfyn ar dlodi plant yn flaenoriaeth i ba bynnag blaid sy'n arwain Llywodraeth Cymru. Ym maniffesto Barnardo’s Cymru ar gyfer Etholiad Senedd Cymru 2026, rydym yn erfyn ar Lywodraeth nesaf Cymru i wneud y canlynol:

  • Datblygu cynllun Taliadau Plant ar gyfer Cymru.
  • Cyflwyno Grant Babi Newydd i helpu teuluoedd ar incwm isel i fforddio nwyddau hanfodol.
  • Rhoi’r cynllun Bwndel Babi ar waith yn llawn ar gyfer y teuluoedd sydd fwyaf angen cymorth, gan weithio tuag at ei gynnig i bawb pan fydd amgylchiadau ariannol yn caniatáu hynny.
  • Ehangu’r cynllun prydau ysgol iach am ddim i ysgolion uwchradd.
  • Rhoi cludiant cyhoeddus am ddim i bob plentyn a pherson ifanc er mwyn chwalu'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael mynediad at addysg, hyfforddiant a gweithgareddau cymdeithasol.
Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.