Addewid i weithredu dros blant: elusen blaenllaw i blant yn galw ar yr holl wleidyddion sy’n sefyll yn etholiad Senedd Cymru

Published on
01 October 2025
  • Mae Barnardo's yn dweud ei bod yn ‘hanfodol’ bod gwleidyddion yn ymrwymo i blant wrth i ni nesáu at oes newydd yng ngwleidyddiaeth Cymru.    

  • Mae’r elusen yn credu bod plant wedi cael eu hanwybyddu ac yn teimlo’n ddi-werth mewn penderfyniadau gwleidyddol ers gormod o amser.   

  • Mae canran syfrdanol o 31% o blant yng Nghymru yn cael eu magu ynghanol tlodi, ac mae Barnardo's yn annog y genhedlaeth nesaf o wleidyddion i roi terfyn ar dlodi plant.     

Bydd Barnardo's Cymru yn lansio ei faniffesto ei hun mewn digwyddiad yn y Senedd, gan gyflwyno ei alwadau ar Lywodraeth nesaf Cymru.  

Bydd tua 60 o blant a phobl ifanc sydd wedi cael eu cefnogi gan Barnardo’s ledled Cymru yn bresennol yn y Senedd ddydd Mercher 1 Hydref i gwrdd â gwleidyddion a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, a byddant yn rhannu eu barn am yr hyn sy’n bwysig i genedlaethau’r dyfodol ledled Cymru.  

Daw etholiad 2026 y Senedd ar adeg dyngedfennol i fabanod, plant a phobl ifanc yng Nghymru.   

Ar ôl wynebu llawer o heriau dros y blynyddoedd diwethaf, mae Barnardo's yn credu bod llawer o blant a'u teuluoedd yn dal yn gadarnhaol am eu dyfodol, ond maen nhw eisiau gweld llywodraeth sy'n gallu cyfateb i'w brwdfrydedd a'u hangerdd dros yr hyn y gallai eu bywydau fod.

Mae’n rhaid i wleidyddion wrando ar bobl ifanc pan fyddan nhw’n gwneud penderfyniadau am y dyfodol y byddwn ni’n ei etifeddu.  
  
Dylai llesiant ein cymdeithas fod yn ganolbwynt llwyr i'n ffocws wrth i ni symud ymlaen fel cenedl. Rydyn ni am i bobl fod eisiau newid er gwell a chael y meddylfryd sy’n eu galluogi i wynebu heriau’r dyfodol yn y ffordd fwyaf effeithlon ac sy’n diogelu at y dyfodol.

Hatti

sy'n 17 oed, wedi cael cefnogaeth gan Barnardo's

Mae plant a phobl ifanc yn dweud wrthym eu bod am weld y gwleidyddion sy'n eu cynrychioli yn cydnabod bod plant yn fwy na dim ond set o broblemau i'w datrys, ac y dylen nhw gael bywydau cyffrous a bywiog a chael eu cefnogi er mwyn gwneud eu bywydau hyd yn oed yn well.   
  
Gyda’r holl gyfleoedd a risgiau sy’n gysylltiedig ag effeithiau parhaol y pandemig, tlodi a chostau byw, cynnydd yn nifer y plant sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl a’r byd ar-lein sy’n newid yn gyflym, mae magwraeth yng Nghymru wedi newid y tu hwnt i’r hyn y gall llawer o oedolion ei ddychmygu.  
  
Mae hyn yn ei gwneud yn bwysicach fyth ein bod ni’n gwrando ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd wrth i ni symud i gyfnod newydd i Lywodraeth Cymru a fydd yn gwneud penderfyniadau gwleidyddol yng Nghymru. Mae plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru yn uchelgeisiol ar gyfer eu dyfodol ac eisiau llywodraeth sy'n cyfateb i hynny. Dyma gyfle i Lywodraeth nesaf Cymru adeiladu ar waith y Llywodraeth ddiwethaf a chreu Cymru lle gall plant dyfu a ffynnu.

Sarah Crawley

Cyfarwyddwr Barnardo’s Cymru

Mae Maniffesto Barnardo's Cymru yn amlinellu cyfres o ymrwymiadau sy’n annog pob plaid wleidyddol i'w mabwysiadu.   

Mae hyn yn cynnwys camau ymarferol sydd eu hangen i wneud y canlynol:   

  • Rhoi diwedd ar dlodi plant yng Nghymru.  

  • Cefnogi teuluoedd i roi’r cyfleoedd gorau posibl i’w plant mewn bywyd.   

  • Cadw plant yn ddiogel rhag niwed.   

  • Cefnogi iechyd meddwl a llesiant plant a phobl ifanc.   

  • Trawsnewid y cymorth a'r cyfleoedd i blant mewn gofal ac sy'n gadael gofal.   

  • Sicrhau bod cymorth, gwasanaethau ac amddiffyniad ar gael i bob plentyn sydd ar ei ben ei hun  

Rhai o’r uchafbwyntiau yw galw am gyflwyno Taliad Plant i Gymru. Mae ymchwil yn dangos y byddai'n cael dylanwad sylweddol ar dlodi plant yng Nghymru, ochr yn ochr â gwneud ymrwymiad cadarn i deuluoedd drwy fuddsoddi yn y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen.   

Mae Barnardo's Cymru hefyd yn galw am gyllid ar gyfer gwasanaethau cymorth cynhwysfawr i deuluoedd cyfan ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef cam-drin a chamfanteisio'n rhywiol ar blant, yn ogystal ag ymrwymiad i sicrhau bod yr holl blant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael cymorth amserol ar gyfer iechyd meddwl a llesiant emosiynol - gyda hawl statudol i gael cymorth iechyd meddwl gan eu hawdurdod lleol.  

Nid yw'n dderbyniol bod bron i draean o blant ledled Cymru yn byw mewn tlodi. Mae angen i ni wneud llawer mwy i fynd i'r afael â'r ffigurau hyn sydd wedi aros yn ystyfnig o uchel am ormod o amser o lawer. Y tu ôl i'r ystadegau hyn mae straeon torcalonnus am deuluoedd yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd.

Gobeithio y gall lansio maniffesto heddiw fod yn ddechrau sgwrs ddwyffordd ac ystyrlon rhwng pobl ifanc a'u cynrychiolwyr etholedig er mwyn i ni fod yn gallu mynd i'r afael â thlodi unwaith ac am byth.

John Griffiths AS

Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain Casnewydd

Byddwn i’n berson gwahanol iawn heb Barnardo’s. Fersiwn o Hatti na fyddwn i'n hoffi ei dychmygu. Rhywun heb unrhyw lwyddiant academaidd, heb unrhyw gymhelliant na phrofiad. Barnardo's sydd wedi rhoi’r cyfleoedd a’r ffrindiau gorau i mi. Yn syml, nid Hatti ydy Hatti heb Barnardo's.

Hatti

Clicking 'Quick exit' allows you to leave the site immediately. It will take you to the BBC weather page.