Bwrdd Cynghori Cenedlaethol Barnardo’s Cymru

Rôl y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol yw cefnogi’r Cyfarwyddwr a’r Cyfarwyddwyr Cynorthwyol yn Barnardo’s Cymru, mewn perthynas â’r Strategaeth Gorfforaethol a’u cynghori a’u herio ar y ddarpariaeth.

Mae aelodau’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol yn cael eu recriwtio am eu profiad / arbenigedd mewn meysydd fel:

  • Llywodraeth leol / ganolog – Gwasanaethau plant
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Codi arian / marchnata / cyfryngau
  • Busnes / cyllid / menter gymdeithasol

Yn ogystal, bydd aelodau’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol yn:

  • Cadw at bwrpas, sylfaen a gwerthoedd Barnardo’s
  • Cyfrannu at lunio strategaeth Barnardo’s y DU a chymeradwyo cynlluniau busnes Cymru
  • Bod yn llysgenhadon i Barnardo’s
  • Nodi cyfleoedd i Barnardo’s rwydweithio a dylanwadu
  • Darparu cefnogaeth strategol ac ymarferol i weithgareddau codi arian y wlad
  • Derbyn diweddariadau byr ar berfformiad y genedl er mwyn cyflawni eu rôl gynghori’n well (gan nodi nad yw’r NAB yn atebol am berfformiad)
  • Ymgyfarwyddo â gwasanaeth plant Cymru a gweithgareddau eraill drwy ymweliadau a mynychu digwyddiadau
  • Nodi materion o bwys er mwyn sicrhau bod ‘llais y gwledydd’ a’u safbwynt yn cael eu clywed gan Fwrdd yr Ymddiriedolwyr
  • Mynychu pedwar cyfarfod y flwyddyn, fel arfer ym mis Mawrth, Mehefin, Medi a Thachwedd.
  • Darparu un i ddwy awr y mis i’r elusen.
  • Rhwng cyfarfodydd, cynrychioli’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol i ganfod ac adeiladu partneriaethau/adnoddau neu herio’r cynlluniau y mae’r elusen yn eu dilyn – y prif weithgaredd yr ydym yn gweithio arno ar hyn o bryd yw darpariaeth i Bobl Ifanc sy’n Gadael Gofal ar ffurf rhaglen o’r enw Believe.

Mae gennym uchafswm o 8 aelod gan gynnwys y Cadeirydd. Maent fel arfer yn eistedd ar y Bwrdd am gyfnod o dair blynedd, gydag uchafswm o dri thymor llawn.

Aelodau’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol

Sarah Day – Cadeirydd y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol

Sarah Day headshot

Sarah Day yw Prif Weithredwr Practice Solutions, cwmni ymgynghori blaenllaw sy’n seiliedig ar werthoedd sy’n cefnogi timau, sefydliadau ac arweinwyr i fynd i’r afael â heriau darparu gofal a chymorth yn yr 21ain ganrif.

Mae Sarah yn frwd dros weithio mewn ffordd sy’n grymuso pobl i fod y fersiynau gorau ohonynt eu hunain bob dydd; mae hi’n arwain drwy esiampl, gan nodi arferion da a dysgu gan eraill yn eu penderfyniad i greu dyfodol gwell i bawb.

‘Fel arweinydd, y sgil rwy’n ei werthfawrogi fwyaf yw fy ngallu i weld, clywed a gwerthfawrogi cryfderau a chyfraniadau’r rheini rwy’n gweithio gyda nhw.’

Ken Dicks

Ken Dicks

Ken yw Rheolwr Rhaglen rhaglenni BA Eiriolaeth a BA Cymdeithaseg ar gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; ochr yn ochr â bod yn Gydlynydd Bugeiliol ar gyfer y rhaglenni hynny. Mae ei arbenigeddau’n cynnwys Ymgysylltu â’r Gymuned a Theuluoedd, Gweithio Aml-Asiantaeth a Chyflogadwyedd.

Mae ei gefndir yn cynnwys gweithio i Wasanaeth Ieuenctid Powys, Gyrfa Cymru, y Gwasanaeth Addysg a Gwella Ysgolion (ESIS), Consortiwm Addysg Canol De Cymru a Chanolfan Cymru ar gyfer Tegwch mewn Addysg.

Yn yr holl rolau hyn, mae wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag effaith anghydraddoldeb ar unigolion a chymunedau.

Lucy Cohen

Lucy Cohen headshot

Mae Lucy Cohen yn gyd-sylfaenydd Mazuma, cwmni cyfrifyddu ar-lein ar gyfer busnesau newydd, unig fasnachwyr, gweithwyr llawrydd a busnesau bach. Gyda dros 16 mlynedd ym Mazuma, a 20 mlynedd i gyd yn y diwydiant cyfrifyddiaeth, mae Lucy’n cael ei chydnabod yn eang fel arbenigwr yn y diwydiant a gelwir arni’n rheolaidd i gyfrannu at gyhoeddiadau masnach a thrafodaethau yn y diwydiant.

Ym mis Medi 2022 cyflwynwyd Gwobr Cyn Lywyddion i Lucy gan AAT – gwobr sy’n cydnabod cyfraniad eithriadol un aelod o’r corff cyfrifyddu. Cafodd ei hethol hefyd i Gyngor AAT.

Jess Sharma

Jess Sharma headshot

Mae Jess Sharma yn Rheolwr Prosiect a Chomisiynu Strategol ar gyfer Dechrau’n Deg, Cymorth Cynnar a Rhiantu ym Mhowys. Mae hi’n gweithio ar draws yr Awdurdodau Lleol a’r Trydydd Sector ers dros 15 mlynedd ac mae ganddi brofiad helaeth o Ddatblygu a Arwain Gwasanaethau Cymorth i Blant a Theuluoedd.

Yn gyn-weithiwr i Barnardo’s, sefydlodd Jess amrywiaeth o wasanaethau a ariennir gan Teuluoedd yn Gyntaf, yn ogystal â Divert, gwasanaeth i Blant sydd mewn perygl o gael eu hecsbloetio’n droseddol.

Mae Jess yn rhagori yn y gwaith o greu perthnasoedd adeiladol a chynaliadwy, er mwyn cydgynhyrchu gwasanaethau, datblygu modelau ymarfer ac arwain arloesedd a newid.

Owen Evans

Owen Evans

Mae Owen yn Rheolwr Gyfarwyddwr gydag Equal Education Partners , cwmni addysg sy’n gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol i ddarparu rhaglenni a phrosiectau o ansawdd uchel.

Mae Owen yn gyn-Brif Weithredwr Plant yng Nghymru – y sefydliad ymbarél sy’n cynrychioli sefydliadau a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a theuluoedd yng Nghymru. Mae Owen hefyd yn Ymddiriedolwr mewn elusen maethu fawr. Mae Owen, sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, yn frwd dros gyfiawnder cymdeithasol a thegwch.