Polisi a dylanwadu yng Nghymru

Mae gennym brofiad uniongyrchol o’r materion sy’n wynebu plant a phobl ifanc ledled Cymru. Rydym yn defnyddio’r profiad hwnnw i ymgyrchu dros newid ac i ddylanwadu ar y llywodraeth er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i fwy o blant.

Er mwyn newid bywydau, mae angen i ni newid cyfreithiau

Rydym yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r materion sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru ac rydym yn dylanwadu ar y llywodraeth gan ddefnyddio ein hymchwil ein hunain, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i sicrhau newid.

Ar hyn o bryd mae ein hymgyrchoedd a'r hyn rydym yn ceisio dylanwadu arno yn canolbwyntio ar y canlynol:

Ein gwaith dylanwadu diweddar yn y Senedd

  • Ym mis Mai, lansiodd Barnardo's Cymru ein hadroddiad ar effaith gynyddol tlodi a'r argyfwng costau byw ar blant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghymru. Yn yr adroddiad, fe wnaethom gynnig argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer mesurau tymor byr, tymor canolig a thymor hir a allai fynd i’r afael â thlodi a’r argyfwng costau byw.
  • Aethom ati i ymgyrchu dros ymchwiliad i ddiwygio radical ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a’u plant, a rhoi tystiolaeth iddo.
  • Fe wnaethom dynnu sylw at bwysigrwydd gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar, fel ein model Babi a Fi, yn ogystal â’r angen am gymorth iechyd meddwl therapiwtig ar gyfer yr holl bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.  

Ein prif lwyddiannau yn 2021-22

  • Cynhaliodd Barnardo’s Cymru grwpiau ffocws i ddylanwadu ar bolisïau ar iechyd meddwl.
  • Fe wnaethom roi tystiolaeth i ymchwiliad yn ymwneud â phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a’u plant a threfnu ymweliadau ar gyfer ASau ac ASau.
  • Fe wnaethom hefyd gefnogi lansiad yr ymgyrch #StopioCosbiCorfforol yng Nghymru.

Cysylltu â ni

I drefnu cyfarfod, i siarad â rhywun am ein gwaith, neu i drefnu ymweliad, cysylltwch ag Abigail Rees o Dîm Polisi Cymru ar [email protected]