Maethu yng Nghymru

Helpwch i drawsnewid bywyd

Rydyn ni'n credu y gallwch chi faethu

Os ydych chi’n byw yng Nghymru ac yn awyddus i faethu plentyn, gallwn ni helpu.

Yma yng Ngwasanaeth Mabwysiadu a Maethu Barnardo's Cymru, bydd ein tîm o weithwyr cymdeithasol ymroddedig yn eich cefnogi drwy gydol eich taith maethu.

Mae'r gwobrau'n enfawr. Mae gwybod eich bod wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd plentyn sy'n agored i niwed yn rhywbeth y byddwch chi’n ei gofio am byth.

Cysylltu â ni

Gallwn siarad â chi am y broses faethu ac ateb eich holl gwestiynau.

Rhagor o wybodaeth 

Am ragor o wybodaeth am faethu gyda Barnardo’s, ewch i’n tudalen Maethu plentyn.

Darllen pellach

Mae ein datganiad o ddiben (gweler isod) yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am Wasanaeth Mabwysiadu a Maethu Barnardo's Cymru, a sut rydym yn sicrhau canlyniadau da i'r plant sydd yn ein gofal.