Published on
20 March 2019

Mae llawer o bobl ifanc sydd wedi bod drwy’i cyfnod cyntaf o seicosis yn cael cymorth drwy ‘Headroom’, partneriaeth arloesol rhwng Barnardo’s Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Mae gweithwyr cymorth yn y gymuned yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr iechyd proffesiynol yn helpu pobl ifanc 14 i 25 oed i ail adeiladu eu hyder a chymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, addysg a chyflogaeth, ac maent hefyd yn cynnig therapi gwybyddol ymddygiadol.

Yma, mae Tom, un o’r bobl ifanc cyntaf i fanteisio ar y gwasanaeth, yn rhannu’i stori bersonol ef.

Stori Tom

Roedd Tom newydd orffen ei flwyddyn gyntaf Safon Uwch ac roedd yn mwynhau gwyliau gyda’r teulu ym Menorca. Roedd wedi mynd ar grwydr ar ei ben ei hun pan ddechreuodd rith-weld.

Datblygodd obsesiwn â'r lliwiau coch a glas ac ni allai adnabod aelodau ei deulu. Nid oedd ganddo unrhyw syniad beth oedd yn realiti a beth oedd ddim yn real.

“Roedd fel hunllef nes imi sylweddoli nad oeddwn i’n dda. Rywsut, llwyddais i adnabod fy mrawd, ac aeth ef â mi at fy rhieni a dechreuais feichio wylo. Daeth fy seicosis i yn hollol ddirybudd, roedd yn arswydus,” dywedodd Tom.

O fewn ychydig oriau roedd wedi mynd o fod yn berson ifanc llawn hwyl yn gwirioni ar chwaraeon i fod yn ddyn ifanc ofnus tu hwnt. Byddai wedi bod yn ddigon dychrynllyd i unrhyw berson ifanc 17 oed a’i deulu ond roedd y ffaith eu bod ar eu gwyliau yn gwneud pethau’n waeth, ac fe arhoswn nhw yn eu stafell yn y gwesty am dridiau, ddim yn siŵr beth i’w wneud cyn hedfan adref.

“Fe ges i gymaint o ofn,” dywedodd Tom. “Roedd rhaid i mi ddibynnu ar y bobl o’m cwmpas i fynd â fi i le diogel. Hyd yn oed ar yr awyren doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd. Pan lanion ni, aeth fy rhieni â fi yn syth i’r ysbyty lle cafodd fy seicosis ei ddiagnosio a threuliais beth amser yn yr ysbyty lle ces fy nhrin yn dda a gwneud ffrindiau.”

Cafodd ei ryddhau i ofal nyrs seiciatrig gymunedol ac, ar ôl cyrraedd 18 oed, cafodd ei drosglwyddo i’r gwasanaethau oedolion. Ond daeth yn fwy ymosodol a byr ei dymer ar ôl i’w driniaeth cyffuriau gael ei newid. Roedd hefyd yn teimlo bod ei gwrs TG, nad oedd yn ei fwynhau, yn anodd, a fis Chwefror diwethaf cafodd gyfnod arall o seicosis a mynd o dan ofal y tîm argyfwng.

Cafodd gefnogaeth gan Headroom, rhan o’r GIG, sy’n darparu cymorth iechyd meddwl i bobl ifanc 14 i 25 oed ac yn gweithio mewn partneriaeth â Barnardo’s Cymru fel rhan o Wasanaeth Seicosis Cyfnod Cyntaf Ymddiriedolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Darparwyd therapi gwybyddol ymddygiadol wythnosol gan Emma Smith, seicolegydd clinigol gyda Headroom ac, er i Tom ei chael hi’n anodd siarad am ei deimladau ar y cychwyn, dechreuodd gydnabod manteision y strategaethau ymdopi y cafodd ei gyflwyno iddynt. Darparodd Barnardo's weithiwr cymorth, Amy, i’w helpu i ail adeiladu ei hyder a’i gael yn ôl i’r gymuned.

Roedd Emma yn helpu Tom i osod targedau wythnosol ac roedd Amy yn ei helpu i’w cyflawni. 

Dywedodd Neil, ei dad: “Fe wnaeth hi ei helpu i fynd allan o’r tŷ eto, mynd â'r ci am dro, dal bws, mynd i gaffi i wella’i sgiliau cymdeithasol a sicrhaodd le iddo ar gyrsiau oedd yn cael eu rhedeg gan Ymddiriedolaeth y Tywysog, a oedd yn dda iawn i’w hyder.”

Dywedodd Tom: “Doeddwn i ddim eisiau mynd ar y dechrau. Pan ydych chi yn y sefyllfa hon mae popeth yn niwlog ac mae angen amser arnoch i’w brosesu.  Ni roddodd Amy unrhyw bwysau arnaf ond rhoddodd amser imi ac yn y diwedd fe benderfynais y byddwn i’n mynd ar gwrs Ymddiriedolaeth y Tywysog, ac fe’i mwynheais yn fawr. Fe roddon nhw’r hyder imi i wybod mod i’n gallu ymdopi.

“Roedd fy ffrindiau’n dda iawn hefyd, yn empathig ac yn dda am fy nhynnu allan o’r tŷ. Roedd yn anodd pan aethon nhw i ffwrdd i’r brifysgol a finnau’n cael fy ngadael ar ôl  oherwydd fod y salwch yn golygu mod i wedi colli amser yn y coleg.”

Cyfarfu â phobl newydd drwy seiclo, dechreuodd wirfoddoli fel hyfforddwr pêl-droed a gwnaeth hyd yn oed sefydlu ei dîm pêl-droed ei hun. Newidiodd o’i gwrs TG am BTech mewn chwaraeon a Bagloriaeth Cymru a, gyda help tîm cefnogol yn y coleg, erbyn hyn mae’n gobeithio astudio rheoli chwaraeon yn y brifysgol.

“Fe ges i feddyginiaeth newydd a doeddwn i ddim yn teimlo’n bryderus nac yn isel fy ysbryd, ac yn teimlo y gallwn i fynd yn ôl i’r coleg,” dywedodd Tom, sy’n 20 erbyn hyn.

 “Roeddwn i’n teimlo bod y TG yn anodd, nid dyna’r cwrs i fi, ond fe wnes i ffeindio rhywbeth rwy’n ei fwynhau’n fawr iawn.

“I unrhyw un allan yna fel fi, mi fyswn i’n dweud fe wneith pethau wella, ond byddwch yn barod i dderbyn help a pheidiwch â bob â chywilydd cymryd meddyginiaeth os oes ei hangen arnoch. Gwrandewch ar bobl a gadewch iddynt eich helpu chi. Roedd yn anodd gadael y tŷ i ddechrau ond mae ymwneud mwy â chwaraeon wedi bod yn help mawr.”

Tom

Mae Headroom wedi bod yn rhedeg am ychydig dros flwyddyn gyda thîm o glinigwyr a gweithwyr prosiect Barnardo's. Mae gweithwyr Barnardo's yn canolbwyntio ar ailintegreiddio pobl ifanc i’r gymuned drwy eu cael i gymryd rhan mewn gweithgareddau gwerth chweil a’u helpu i ddychwelyd i addysg neu gyflogaeth.

Y bwriad yw gweithio gyda phobl ifanc am 12 wythnos, gan weithio tuag at nodau penodol. Yn ogystal â'r cymorth un-i-un hwn, maen nhw hefyd yn trefnu grwpiau cymdeithasol i rannu profiadau a datblygu sgiliau cymdeithasol, gan gyflwyno gweithgareddau newydd yr un pryd sy’n ddefnyddiol i fywyd bob dydd.

Dywedodd Neil, tad Tom: “Gwnaeth dycnwch tirion Barnardo's a’r amrywiaeth gweithgareddau y cyflwynwyd Tom iddynt fyd o wahaniaeth. Roedd yn wych gweld y gwahaniaeth ynddo.”