Sut rydyn ni’n cefnogi pobl ifanc sy'n gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl yn eu teulu.
Nid yw rhai plant yn gallu mwynhau'r pethau syml y mae llawer o blant yn eu cymryd yn ganiataol, gan eu bod yn gofalu am rywun yn eu teulu sy'n sâl neu'n anabl.

Mae gofalwyr ifanc yn ysgwyddo llawer o gyfrifoldebau, gan gynnwys ymolchi a gwisgo'r unigolyn y maent yn gofalu amdano a gofalu am frodyr a chwiorydd iau – yn ogystal â thasgau domestig fel coginio, glanhau a siopa.
Mae hynny'n gofyn llawer gan blentyn.
Mae gofalwyr ifanc yn ysgwyddo cymaint o gyfrifoldebau oedolion, yn aml iawn, maen nhw’n colli cyfleoedd y mae plant eraill yn eu cael i chwarae a dysgu.
Mae nifer yn cael trafferth ym myd addysg ac yn aml iawn maen nhw’n cael eu bwlio am fod yn ‘wahanol’. Gallant gael eu hynysu, heb unrhyw seibiant rhag y pwysau gartref.
Ein nod yw helpu cynifer o ofalwyr ifanc ag y gallwn. Rydyn ni'n helpu i ofalu am eu hanwyliaid ac yn rhoi amser iddyn nhw fwynhau eu plentyndod.
Drwy ein gwasanaethau ledled y DU, rydyn ni'n:
- trefnu tripiau a gweithgareddau ar gyfer gofalwyr ifanc
- rhoi cyngor a chymorth emosiynol i ofalwyr ifanc drwy sesiynau cwnsela
- helpu'r teulu i gael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol
- siarad ag ysgol gofalwr ifanc, er mwyn i’r athrawon ddeall ei sefyllfa a gallu bod yn gefnogol
- cynnal canolfannau galw heibio lle gall gofalwyr ifanc gymryd seibiant, cael hwyl, bod yn blentyn - a chyfarfod gofalwyr ifanc eraill
Megan
Gofalwr ifanc